Lle roedd y staciau’n gôr
A’r bryn gan fwg yn ddu,
Prin ôl sy ger y môr
O’r chwalfa fawr a fu;
Ond gwerin strydoedd straen
Sy’n dal i fyw’n y cwm
Lle bu y rhai o’u blaen
Yn gaeth, yn ffraeth, yn llwm.
—
Gan ddynion ar y dôl
A’u gwragedd wrth eu gwaith
Nid oes ond rheg ar ôl,
Ac acen, o’u hen iaith;
Ar hyd yr hewlydd hyn
Mae her i’n pryder hen,
Ond pwy na wêl yn syn
Y gwg yn troi yn wên?
—
Fel cyffro’r deffro gwyrdd
A guddia oes y graith
Daw bloedd a chwerthin myrdd
O blant i harddu’r iaith;
Yn gusan cornel stryd,
Yn flagur coed dan wlith,
Yn fab a merch ynghyd,
Daw’r iaith yn ôl i’n plith.