Beth a wnei di ar dy ddiwrnod ola?

Dyna gwestiwn y cylchgronau.

Etyb rhai am bethau gwych i’w cyflawni,

mynd allan gyda sbloet.

Ond hyn wnaf i:

fe af i’r siopau

yn bennaf er mwyn cerdded a chael awyr iach

a chael cip ar y môr.

Bydd robin goch ac ambell dderyn arall yn hercian o gwmpas,

a’r aderyn du’n chwibanu ar frig y goeden.

Fe welaf y magnolia’n agor yn syfrdanol

a blodau’r coed ceirios yn drwch.

Yna bydd y caserol gen i’n barod

a phwdin reis

ac eisteddaf a darllen ychydig

gan edmygu’r bobl ifanc

sydd mewn ffordd wahanol i ni’n bwrw ymlaen gyda’u doniau

a hynny yn Gymraeg.

Gwgaf yn feddyliol wrth ddarllen am wleidyddion

sy’n tynnu sylw atyn nhw’u hunain

gan lesteirio meddwl call am ddyfodol i’n hiaith.

ond dyna ni,

darllenaf eto

gan weld y coed ar ochrau’r ardd yn dechrau deilio,

a blodau coch y camelia’n disgyn.

Rhof hadau i’r adar (a’r gwiwerod)

a chymryd saib i gyfeiliant Brahms

nes y bydd rhywrai hoff yn galw.

Yna byddaf barod, os bydd angen,

i gymryd fy rhan dragwyddol

yn llychyn o’r sêr.