Ymrwymiad a Gweithredu

Ac os yw’r diwreiddiedig

A’r uchelgeisiol griw

Yn dal mai dirmygedig

Yw ple’r cymrodyr gwiw,

Deued a ddêl, rhaid imi mwy

Sefyll neu syrthio gyda hwy.

Mae un gwirionedd cwbl sylfaenol am weithredu dros y Gymraeg, ac un gwleidyddol yw hwnnw.  Tan 1997, roedd ymgyrchwyr a gwirfoddolwyr yn gweithredu yng nghyd-destun llywodraeth estron. Roedd Cymru wedi bod heb ei llywodraeth ei hun ers 1400. Er bod rhai deddfau wedi bod a effeithiodd ar y Gymraeg – Deddfau Uno 1536 ac 1543 yn gwahardd y Gymraeg o faes y gyfraith, ac yna Ddeddf 1563 yn gorchymyn cyfieithu’r Llyfr Gweddi Cyffredin a’r Beibl i’r Gymraeg – roedd hynt y Gymraeg yn nwylo pobl heb eu llywodraeth eu hun.

Meddylier am Loegr.  Doedd dim angen mudiad arnyn nhw i gael eu senedd yn Llundain.  Mae’n wir bod Harri’r VIII wedi pasio deddf i gael y Saesneg yn iaith yr eglwys, yn lle Lladin, ond gweithred y Brenin oedd hyn, nid canlyniad ymgyrchoedd torfol. Doedd dim angen mudiad arnyn nhw i gael ysgolion Saesneg.  Doedd dim angen mudiad arnyn nhw i gael arwyddion ffordd Saesneg, na sianeli teledu Saesneg maes o law. Yn y sector preifat y mae pob gweithgaredd yn weithgaredd Saesneg o’i hanfod.

Y gwahaniaeth gwleidyddol hwn  dros chwe chanrif sy’n golygu bod y Gymraeg wedi dibynnu ar weithgaredd ysgogwyr a gweithredwyr, boed yn ddiwylliannol, llenyddol, crefyddol, addysgiadol neu wleidyddol.  Cafodd y Gymraeg ei hybu gan feirdd a llenorion, y capeli anghydffurfiol, yr ysgolion Sul, ysgolion cylchynol Griffith Jones, Cymdeithasau diwylliannol Cymraeg, a rhai a aeth ati i sefydlu eisteddfodau lleol a chenedlaethol ymysg eraill.

Yng nghysgod ein cymydog iaithlofruddiol, bu’r Gymraeg fyw, mewn cyfnod pan oedd bywyd economaidd y wlad yn golygu bod y gymdeithas yng Nghymru’n  gymharol sefydlog.

Deilliodd y bygythiad i’r Gymraeg yn sgil datblygiadau diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Er bod rhai’n honni bod datblygiad pyllau glo yn ne Cymru a llechi yn y gogledd wedi rhoi bod i gymdeithas ddiwydiannol Gymraeg, roedd y Saesneg yn aros fel teigr llechwraidd, yn barod i neidio.  Daeth mewnfudo mawr i effeithio ar gymdeithasau Cymraeg, cafodd y Gymraeg ei gwahardd o’r system addysg orfodol yn 1870, ac yn raddol daeth y Gymraeg yn fwy diamddiffyn nag erioed.

Cafwyd rhai mudiadau gwirfoddol tua diwedd y 19eg ganrif, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (fersiwn un) oedd a’i bryd ar ddod â’r Gymraeg i mewn i’r system addysg, a Mudiad Cymru Fydd, a oedd am weld Cymru’n ennill mesur o Ymreolaeth.  Dyma’r cyfnod a welodd ymgyrchoedd i ddadwladoli’r Eglwys yng Nghymru, a sefydlu Prifysgol, Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol, gan osod sylfeini ar gyfer parhad Cymru fel uned genedlaethol. Ond roedd y Gymraeg yn dal heb amddiffyniad llywodraeth ganol.

I ni, yr hyn sy’n arwyddocaol yw bod yr unigolion hyn wedi mynd ati i drefnu mudiadau, a’r mudiadau hyn dros y ganrif ddiwethaf sydd wedi cynnig llwybrau i’r Gymraeg nad oedd y Llywodraeth am eu cynnig.

Wedi dweud hynny, mae modd rhannu’r gweithredu ieithyddol gan ymgyrchwyr yn ddau ddosbarth, er bod y rhain yn gorgyffwrdd weithiau.

Y cyntaf yw’r gweithredu cynhaliol, y gweithredu creadigol a chadarnhaol, lle mae ysgogwyr wedi ceisio creu sefydliadau sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.  Dyna fyddai’r rhan fwyaf o’r mudiadau diwylliannol ac addysgiadol a chrefyddol a gafwyd tan y 19eg ganrif.

Sleid 2

Mudiad o’r fath yw Urdd Gobaith Cymru, a sefydlwyd yn 1922, gyda’r nod o greu bywyd Cymraeg i blant a phobl ifanc y wlad. Roedd ei sefydlydd, Ifan ab Owen Edwards, wedi cymryd ei ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a phenderfynu, yn ôl gweledigaeth ei addysgwr o dad, O.M. Edwards, bod angen cynnig bywyd Cymraeg i bobl ifanc Cymru.  Aeth ati i drefnu gwersylloedd, eisteddfodau, cyhoeddi cylchgronau a chynnal aelwydydd, a thyfodd yr Urdd yn fudiad â 60,000 o aelodau.   Ers hynny mae ugeiniau o fudiadau eraill yn cynnal bywyd Cymraeg ledled y wlad, yn trefnu eisteddfodau, yn hyrwyddo dawnsio gwerin, barddoniaeth, yn cynnal corau, ac yn cynhyrchu papurau Cymraeg lleol, a hefyd rhwydwaith helaeth o gymdeithasau i ferched a chlybiau cinio i ddynion.

Sleid 3

Y ail fath yw mudiadau sydd am greu system wleidyddol newydd, neu sydd am ddylanwadu ar y rhai sy’n llywodraethu.  Mudiad o’r fath yw  Plaid Cymru, a gafodd ei sefydlu yn 1925, gyda’r nod o ddiogelu’r Gymraeg.  Bu dau o leiaf o’i sylfaenwyr, Saunders Lewis, y llenor a’r dramodydd, a’r Parch Lewis Valentine hefyd yn y rhyfel byd cyntaf a dod yn ôl wedi’u dadrithio, ac ymroi i weld trefn a fyddai’n diogelu Cymru a’i hiaith.

Araf fu twf y Blaid ond daeth tro ar fyd yn dilyn boddi Cwm Tryweryn yn 1965.  Yn raddol enillodd dir yn rhannau mwy Cymraeg Cymru, a daeth y Gymraeg i’w defnyddio fwyfwy mewn llywodraeth leol, yn enwedig yng Ngwynedd, lle y Gymraeg yw’r brif iaith weinyddu. 

Enillodd Gwynfor Evans sedd gyntaf y Blaid yn Llundain yn 1966.  Yn ystod brwydr chwyrn i gael sianel deledu Gymraeg, bygythiodd ymprydio hyd at farw, a chafwyd y sianel honno, S4C, yn 1982.  Y cyflawniad mwyaf, hyd yn hyn, fu sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1997 ar ôl ennill pleidlais o drwch blewyn, roddodd i Gymru fesur o annibyniaeth am y tro cyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr ddechrau’r bymthegfed ganrif. Mae’r Cynulliad hwn ers hynny, yn tyfu yn ei grymoedd.

Yr hyn sy’n amlwg yw mai ysgogwyr oedd y rhain – pobl am ysgwyd y gymdeithas, gweithredwyr iaith.  Aethon nhw ati cyn bod neb wedi dechrau sôn yn academia am egwyddorion cynllunio ieithyddol.  Roedd digon wedi’i ysgrifennu gan athronwyr yng Nghymru ac ar y cyfandir am berthynas iaith â hunaniaeth, ond roedd egwyddorion cynllunio ieithyddol heb eu trafod na’u derbyn.

Sleid 4

Daeth mudiadau eraill cwbl allweddol, eto i gyd wedi’u sefydlu gan wirfoddolwyr.  Er bod ysgolion Cymraeg cyhoeddus wedi cychwyn yn 1947 mewn rhai ardaloedd, prin iawn oedd yr ysgolion hyn, ac yn 1952 sefydlodd rhieni Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, y newidiodd ei enw wedyn yn Rhieni dros Addysg Gymraeg. Ei nod oedd ymgyrchu i sefydlu ysgolion Cymraeg ym mhob rhan o’r wlad, yn hytrach na’u sefydlu ei hun.

Yn dilyn Deddf Addysg 1944 cafodd rhieni beth hawl i benderfynu ar natur addysg eu plant.  Manteisiwyd ar hyn gan rieni Cymraeg, ac erbyn 1956 roedd 30 o ysgolion Cymraeg wedi’u sefydlu ledled Cymru, yn bennaf yn dilyn ymgyrchu gan rieni.  I ddod â’r rhieni at ei gilydd cafodd yr Undeb Rhieni ei sefydlu, o dan arweiniad Gwyn Daniel a oedd hefyd yn allweddol wrth sefydlu Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.

Tyfodd nifer yr ysgolion Cymraeg, a nifer y disgyblion ynddyn nhw.  Roedd tua 4,500 o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd Cymraeg yn 1956.  Erbyn heddiw mae’r nifer wedi codi i tua 65,000. Bu llawer o’r twf hwn yn siroedd mwy Seisnigedig Cymru wrth i rieni bwyso ar awdurdodau lleol gynnig addysg Gymraeg.

Yn sgil y twf yma cafodd 33 o ysgolion uwchradd Cymraeg eu sefydlu, a 10 ysgol ddwy ffrwd arall. Arweiniodd hyn at y galw am addysg uwch Gymraeg, a chafodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei sefydlu yn 2011 gan y Llywodraeth, yn dilyn ymgyrchu am rai blynyddoedd.

Yma yn Abertawe buon ni’n ymgyrchu am flynyddoedd lawer yn erbyn awdurdod lleol oedd yn gwbl wrthwynebus i dwf addysg Gymraeg. Roedd y Blaid Lafur yn tybio bod sefydlu ysgolion Cymraeg yn mynd i fod o fantais i Blaid Cymru, mae’n debyg.  Nid Lloegr oedd y gelyn erbyn hyn, ond ein cynghorwyr ni’n hunain, Cymry yn eu gwlad eu hunain. 

Dyfalbarhad sydd wedi ennill y dydd.  Daeth cyfarwyddwyr addysg, ac aethon nhw.  Wrth i rieni ar adegau fynd mewn miloedd i neuadd y sir, ac wedi i ni orymdeithio trwy’r dref pan oedd angen, daeth cyfnod pan oedd y swyddogion addysg yn fodlon trafod â ni, a thrwy drafod rydyn ni bellach yn ennill ein hymgyrchoedd.

Roedden ni wedi dod i weld bod angen 7 mlynedd o ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg. Ar hyd y blynyddoedd ers i mi ddod yn rhan o’r ymgyrchu, tyfodd nifer y disgyblion mewn addysg Gymraeg yn Abertawe o ryw 500 i fwy na 4000.

Sleid 5

Gyda thwf yn y galw am addysg Gymraeg, cafodd Mudiad Ysgolion Meithrin ei sefydlu yn 1971, gan fod cylchoedd meithrin Cymraeg yn brin iawn y pryd hwnnw. Roedd cylchoedd chwarae wedi cael eu cynnal mewn sawl rhan o Gymru cyn hyn, ond wrth i Lywodraeth Llundain roi mwy o statws ar gylchoedd chwarae, cafodd Mudiad Ysgolion Meithrin ei sefydlu yn 1971.  Manteisiodd ar awydd y llywodraeth i weld twf cylchoedd chwarae, a chafodd grant o £5,500 yn fuan tuag at gyflogi. Darparu cylchoedd oedd bwriad y mudiad, yn hytrach nag ymgyrchu.  Tyfodd ei ddylanwad ar hyd y blynyddoedd, ac mae heddiw yn derbyn grant blynyddol o £2 filiwn gan y llywodraeth a hefyd £1 filiwn arall eleni a’r flwyddyn nesaf ar gyfer prosiectau penodol.

Erbyn eleni mae tua 22,000 o blant yn mynychu ei gylchoedd, ac ers ei sefydlu, mae canran plant 3-4 oed sy’n siarad y Gymraeg wedi dyblu, o 11% i 23%.  Mae tua 2000 o staff yn y cylchoedd, a 220 o staff yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Mudiad.

Sleid 6

Yn y cyfamser, yn 1962, aeth pobl ifanc (yn bennaf), wedi’u dylanwadu gan Saunders Lewis,  ati i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn wyneb diffyg statws y Gymraeg ym mywyd cyfreithiol, gwleidyddol a chyhoeddus y wlad.

Tyfodd Cymdeithas yr Iaith yn gyflym, yn bennaf ymysg myfyrwyr.  Defnyddiodd ddulliau tor-cyfraith i dynnu sylw at ddiffyg statws y Gymraeg, a thrwy ei dylanwad cafwyd cynnydd yng nghydnabyddiaeth y llywodraeth o’r iaith:

1965: Caniatáu arwyddion dwyieithog; 1972 adroddiad Pwyllgor Bowen yn argymell arwyddion dwyieithog ledled Cymru.

1967 Deddf yr Iaith yn rhoi hawl i siaradwyr Cymraeg ei defnyddio mewn trafodion cyfreithiol gan ddileu gwaharddiadau Deddfau 1535-1542, ac yn rhoi hawl i Weinidogion ddarparu ffurflenni Cymraeg.

1993: Deddf yr Iaith i sefydlu Bwrdd yr Iaith, gyda’r nod o gael cyrff cyhoeddus a chyfiawnder yng Nghymru i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb

2011: Mesur y Gymraeg yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg, yn sefydlu rôl Comisiynydd Iaith, yn derbyn yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg gan gyrff cyhoeddus. Crëwyd Safonau Iaith.

Sleid 7

Bu dylanwad y mudiadau hyn ar y Gymraeg yn aruthrol.  Mae modd dadlau bod parhad y Gymraeg yn ddyledus i ysgogwyr a gweithredwyr yn fwy na dim arall.  Mae’n wir bod rhai unigolion amlwg wedi gweithredu ar eu liwt eu hunain, ond y mudiadau hyn sydd wedi tynnu’r Gymraeg i gael ei chydnabod bellach gan y system addysg, y cyfryngau torfol, llywodraeth leol a chanol, a mwyfwy gan y sector preifat.

O safbwynt ymgyrchu, fodd bynnag, ni chafwyd newydd meddylfryd digonol ers sefydlu Cynlluniad Cenedlaethol Cymru yn 1999.

Cyn hyn, roedd protestio yn erbyn y llywodraeth estron yn weithred genedlaethol ac atyniadol.  Roedd modd cyfiawnhau hyn yn foesol.  Ond roedd hyn hefyd yn gallu esgor ar feddylfryd o ddibyniaeth:  roedd anghyfiawnder, ac roedd angen i’r grym allanol weithredu i wneud iawn am yr anghyfiawnder.  Doedd dim modd i ni gymryd camau, felly doedd dim cyfrifoldeb arnon ni.

Yn 1997, fodd bynnag, daeth Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am addysg, y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, cynllunio, datblygiad economaidd, y gwasanaethau cymdeithasol, diwylliant, amaethyddiaeth a’r iaith.

Bellach doedd dim diben protestio yn erbyn Llundain.  Ond bu mudiadau’n hir yn deall hyn.  Bu Cymdeithas yr Iaith, yn arbennig, yn parhau yn y modd protestio, gan brotestio yn erbyn Llywodraeth Cymru, weithiau’n bersonol yn erbyn gweinidogion.

Mae’n siom gweld, e.e. yn Y Cymro y mis hwn (Medi 2018) fod Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn ymhyfrydu bod aelodau’r Gymdeithas wedi ‘gweithredu yn erbyn swyddfa Alun Davies’, gweinidog y Gymraeg, ac wedi ‘achosi difrod i stondin Llywodraeth Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol’.  Mae hyn yn symptom o weithredu’r Gymdeithas ar hyd y blynyddoedd diwethaf.

Mae prif frwydrau Cymdeithas yr Iaith o ran statws, sianel Gymraeg, arwyddion Cymraeg, i gyd wedi’u hennill i raddau helaeth.  Wrth beidio ag addasu i’r sefyllfa wleidyddol newydd, gan ddefnyddio dulliau protestio amrwd i ennill brwydrau mwy cymhleth, mae Cymdeithas yr Iaith mewn perygl o fynd yn amherthnasol.

Sleid 8

Gweld yr angen am newid y dull o ymgyrchu o blaid yr iaith oedd diben sefydlu Dyfodol i’r Iaith yn 2012. Doedd dim mudiad lobio gan yr iaith a hynny 15 mlynedd ar ôl sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.  Ers sefydlu’r Cynulliad roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi sawl Strategaeth Iaith, ond cafodd Bwrdd yr Iaith, y corff cenedlaethol oedd yn hyrwyddo’r Gymraeg, ei ddileu. Gosodwyd y pwyslais, trwy Ddeddf Iaith 2011, ar hawliau siaradwyr yn hytrach nag ar hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae modd dadlau bod y brwydrau ‘lefel uchel’, fel y’u disgrifir gan Joshua Fishman, wedi eu hennill.  Erbyn hyn mae angen cymryd camau mewn meysydd mwy sylfaenol yn ieithyddol.  Mae angen mynd i’r afael â hyfywedd bröydd Cymraeg, y defnydd o’r Gymraeg yn y cartref a’r gymuned, polisïau cynllunio tai a’r economi.

Nod Dyfodol i’r Iaith yw tynnu’r gweithredu ieithyddol gan y Llywodraeth a chan awdurdodau lleol tuag at egwyddorion cynllunio ieithyddol, ac at arferion da sydd bellach wedi’u gweld mewn rhannau eraill o Ewrop a’r Byd.

Mae’r mudiad wedi sefydlu perthynas dda gyda gwleidyddion o bob plaid wleidyddol, a gyda gweinidogion y Llywodraeth a gweision sifil. Mae rhai llwyddiannau cyflym wedi bod, a gobaith Dyfodol yr Iaith yn awr yw y bydd Mesur Iaith nesaf y Llywodraeth yn creu Comisiwn Iaith a fydd ar y naill law’n datblygu arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol ac ar y llall yn meddu ar ddigon o awdurdod i beri bod yr iaith yn dod yn flaenoriaeth ym mhob adran o’r llywodraeth.  Yn y pen draw bydd ei effeithiolrwydd yn dibynnu ar yr adnoddau y mae’r Llywodraeth yn fodlon eu rhoi i’r Gymraeg.

Sleid 9

Sut felly mae’r unigolyn yn mynd ati i gymryd rhan mewn gweithgareddau iaith?  Mae gan bawb ddwy rôl, gallwn feddwl, a bydd y cydbwysedd rhwng y ddwy’n amrywio.  Rôl gynhaliol yw’r naill, sef cymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, cyfrannu i’r bywyd diwylliannol, helpu dysgwyr neu ysgolion Cymraeg, ac ati. Un cyfraniad rwy’n falch iawn ohono oedd cymryd rhan yn yr ymdrech i sefydlu Canolfan Gymraeg yn Abertawe, a agorodd yn 1987, ymhell cyn i’r syniad ddod yn boblogaidd yng Nghymru.

Rôl ymgyrchol yw’r llall, ac mae’n debygol mai lleiafrif fydd yn cymryd rhan yn hyn.  Ymgyrchu dros ysgolion Cymraeg yn Abertawe, ac yng Nghymru, fu fy mhrif ddiddordeb i ar hyd y blynyddoedd. Yn ddiweddar cefais fy mherswadio i gymryd rhan amlwg ym mudiad Dyfodol i’r iaith, i ddylanwadu ar wleidyddion llywodraeth ganol a lleol. Mae’r rhagolygon yn addawol.

Y gwir amdani yw bod materion Cymraeg yn dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yr ysgogwr.  Fel mae rhai’n chwarae golff, ac eraill yn tyfu tomatos, mae’r ysgogwr hefyd wrth ei fodd yn ei waith, ac mae’r boddhad yn ei lwyddiant, gan wybod ei fod yn cyfrannu at barhad ei draddodiad a’i iaith, a’i fod felly’n cyfrannu at fywyd gwâr mewn un cornel o’r byd, ac at yr amrywiaeth sy’n cyfoethogi’r ddynolryw.