Fe ddônt yn ôl

Fe ddônt yn ôl i’w gwâl,

Y rhai anniddig,

All angau ddim mo’u dal

Ond am ychydig

—

I gwblhau eu taith

Ni chawsant gyfle;

Gadawsant dwrn o waith,

Mil dyletswydde.

—

Nid pan fo’r haul yn dân

Y dônt i’n ceisio,

Na phan fo’n wyll achlân

Na phryd noswylio.

—

Ond dônt pan fo hi’n nos

A’r byd yn cysgu,

Heb nef mewn tref na rhos

Yn gallu’u tarfu.

—

Pan fydd meddyliau’r llawr

Yn rhydd i deithio,

Pan fydd tywyllwch mawr

Fe gânt gymuno.

—

Fe’u gwelais lawer gwaith

A hwythau weithiau

Yn diodde’r boen a’r graith

A’u rhoes i angau.

—

Bryd arall buont lon

A chawsom sgwrsio

Heb arwydd o un don

Yn dod i’w suddo.

—

Ond buan daw y dydd

A’i oriau meithion

Ac yna ffônt yn rhydd

O fyd y caethion.