Cyngor Ewrop a’r Gymraeg

CYNGOR EWROP YN MYNNU CLYWED LLEISIAU CYMRAEG

Heini Gruffudd

Ar Fawrth 27, 2001, cadarnhaodd Swyddfa Dramor Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn derbyn Siarter Cyngor Ewrop ar Ieithoedd bach.   Mae’r Siarter yma’n un pellgyrhaeddol, ac yn rhoi dyletswydd ar y Cynulliad i weithredu’n gryf o blaid y Gymraeg mewn sawl maes.  

Mae’r Siarter yn nodi’r angen i “weithredu’n bendant i hyrwyddo’r Gymraeg er mwyn ei diogelu”, ac yn derbyn na fyddai mesurau penodol o blaid y Gymraeg yn golygu gwahaniaethu yn erbyn y Saesneg. Nodir bod angen ymateb i sefyllfa’r Gymraeg yn ôl ei hanghenion.  Mae’r Siarter yn manylu wedyn ar feysydd arbennig fel addysg, y gyfraith, gweinyddiaeth a’r gwasanaethau cyhoeddus, y cyfryngau a gweithgareddau diwylliannol, ac yna, efallai’n bwysicach na dim, bywyd cymdeithasol ac economaidd.

Ddiwedd Ionawr eleni daeth pwyllgor o bump o arbenigwyr o wahanol wledydd Ewrop i Gaerdydd i glywed tystiolaeth ar y modd y mae’r Deyrnas Unedig wedi gweithredu ar sail y Siarter.  Clywsant dystiolaeth gan nifer o gyrff cyhoeddus a hefyd gan fudiadau gwirfoddol yng Nghymru sy’n ymwneud â’r Gymraeg. 

Un o ddyletswyddau’r Cynulliad, sy’n gyfrifol am weithredu’r Siarter yng Nghymru, yw ystyried anghenion a dymuniadau grwpiau a mudiadau sy’n defnyddio’r Gymraeg.  Gwaetha’r modd, ni ddigwyddodd hyn.  Meddai ymateb y Cynulliad i’r Pwyllgor, ‘The Welsh Language Board has been consulted by the Welsh Assembly Government in the compilation of this response.’ Ac roedd Bwrdd yr Iaith, ar ran y Cynulliad, wedi ymgynghori â rhai dethol iawn o blith ei ‘bartneriaid’ – cyrff heddlu, iechyd ac ati – cyrff cyhoeddus na fyddai dyn ar y cyfan yn disgwyl iddynt fod yn flaengar eu sylwadau. Yn y cyfarfod yng Nghaerdydd roedd cynrychiolwyr Cefn, Rhag, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Chymuned, a daeth yn glir nad oedd y Cynulliad wedi ymgynghori ag un o’r mudiadau hyn nac ag unrhyw gorff gwirfoddol arall chwaith.  Gwelwyd yn fuan fod Cyngor Ewrop yn rhoi mwy o bwys nag a wna’r Cynulliad ar grwpiau iaith yng Nghymru.

Bwrdd yr Iaith oedd wedi bod yn gyfrifol i raddau helaeth am sylwadau’r Cynulliad i’r Pwyllgor Ewropeaidd.  Ond mewn cynhadledd a drefnwyd gan y Pwyllgor a fynychais yn Strasbourg fis Rhagfyr ar ran Rhag, roedd Bwrdd yr Iaith hefyd wedi ei gynrychioli, fel pe bai ar ran mudiadau Cymraeg.   Roedd perthynas y Bwrdd â’r Siarter Ewropeaidd yn dechrau ymddangos yn un llosgachol.  Y canlyniad yw fod gwybodaeth am brosesau’r Siarter wedi eu cuddio i raddau helaeth rhag  pobl Cymru, a charedigion yr iaith.  Yr unig sylw cyhoeddus a gafodd y Siarter yng Nghymru, mae’n debyg, oedd, ‘The Minister for Culture, Jenny Randerson issued a press notice in March 2001 welcoming the ratification of the Charter.’

Mae angen i’r Bwrdd gael gwared â’r agwedd fod popeth-yn-iawn-tra-bo’-ni-wrth-y-llyw, am nad yw agwedd o’r fath ond yn rhwystro hawliau siaradwyr Cymraeg, trwy fudiadau Cymraeg, i gael llais. Wedi’r cyfan, heb y mudiadau hyn gellid mentro na fyddai gymaint ag un ysgol Gymraeg yn ardaloedd Seisnigedig Cymru, dim deddfau iaith, dim S4C na Bwrdd i’n cynrychioli.

Roedd ymweliad cynrychiolwyr y Pwyllgor Arbenigwyr yn amserol iawn, yn sgil cyhoeddi Iaith Pawb, sef strategaeth iaith y Cynulliad Cenedlaethol. Diolch hefyd fod  Pwyllgor Arbenigwyr yn ddigon craff.  Eu sylw cyntaf ar y Iaith Pawb oedd eu bod yn synnu nad oedd unrhyw sôn am addysg statudol.

Roedd hyn yn groes i ymrwymiad y D.U. i’r angen am  ‘for resolute action to promote regional or minority languages in order to safeguard them’. Ymateb y Cynulliad i’r angen am ‘resolute action’ yw ‘The Welsh Language Board undertakes a programme of language promotion designed to raise the profile of the language across all sectors. The Welsh Language Board grant aids numerous organisations whose remit includes the promotion of the language.’ Mae’r methiant i gynnwys addysg yn Iaith Pawb yn esgeulustod difrifol. 

Yn ôl ymrwymiadau’r Siarter, dylai llywodraethau lofnodi cymalau ohono ‘according to the situation of each language’.  Mae’r D.U. fel pe bai wedi llofnodi yn unig gymalau a fyddai’n cyfiawnhau’r status quo, ac mae  esgeulustod wedi bod o ran monitro sut yr oedd y D.U. wedi cyflawni y cymalau hynny, hyd yn oed. Gwyddom oll nad monitro cynlluniau iaith yw cryfder Bwrdd yr Iaith.

Wrth astudio ymateb y Cynulliad i gymalau manwl y Siarter, daw’n glir yn fuan bod yma ymgais i guddio mil o bechodau, a’r cyfan yn ymylu ar dwyll neu hunan-dwyll.  

Enghraifft o hyn yw’r ymateb i’r angen i gydweithredu â grwpiau iaith tebyg eu sefyllfa. ‘The Welsh Language Board regularly replies to requests for information regarding the Welsh language from Welsh speakers living in England and maintains a list of Welsh tutors outside Wales,’ meddir.  Nodir hefyd fod y Bwrdd yn rhoi arian i gynnal Ysgol Gymraeg Llundain.  Y gwir, wrth gwrs, yw nad oes gan y Gymraeg unrhyw statws yn Lloegr – nid fel sydd gan ieithoedd mewnfudwyr eraill yn Lloegr. Mae’r diffyg yma yn amhariad amlwg ar hawliau sifil siaradwyr Cymraeg yn Lloegr.

Ym maes addysg statudol meddir bod addysg gyn-ysgol, addysg gynradd ac uwchradd ar gael i bawb.  Nid oes yma sôn bod 50% o bobl Cymru’n dymuno addysg feithrin Gymraeg, ac nad yw ar gael ond i ryw 20%. Nid oes sôn am fethiant awdurdodau fel Merthyr, y Rhondda a Chastell-nedd Port Talbot i sefydlu ysgolion Cymraeg pan fo’r galw’n amlwg.  Nid oes sôn eto am y 50% o blant cynradd iaith gyntaf sy’n troi at ail iaith yn y sector uwchradd mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg, gan dwyllo’r system.

Mae’r sefyllfa ym maes addysg alwedigaethol ac addysg uwch yn fwy truenus.  Llofnodwyd cytundeb gwan yn honni sicrhau  bod hyn ar gael i’r sawl a’i dymuna.  Nid yw hyn ond yn cyfiawnhau’r drychineb bresennol, lle nad oes ond rhyw 2% o fyfyrwyr yn cael addysg Gymraeg yn y sector yma. Go brin, hefyd fod yr honiad yma’n wir yn achos addysg uwch, yn ôl tystiolaeth sawl un o brifysgolion Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, mewn sawl pwnc.  Mae derbyn y status quo yma’n gywilydd sy’n effeithio ar addysg uwchradd.

Mewn ymateb i gymal ar gynnig cyrsiau Cymraeg i oedolion meddir, ‘Welsh for Adults courses are available throughout Wales at several levels of learning’.  Go brin bod hyn yn ymateb i anghenion y Gymraeg heddiw, fel y dylid gwneud.  Mae angen sefydlu corff canolog i gydlynu’r gwaith, gydag arian sylweddol i gynnig cyrsiau digon hir, ac i ryddhau pobl o’u gwaith.

Un o’r datganiadau taflu-llwch-i-lygaid yw’r un sy’n ymateb i’r angen am fwrw golwg dros ddatblygiadau addysg.  Meddir, ‘The Welsh Language Board oversees the development of Welsh Language Schemes under the Welsh Language Act 1993’.  Gwyddom nad oes dim monitro’n digwydd, dim cosbi os na chedwir at gynlluniau iaith, a bod cynlluniau tair blynedd yn aml yn cael eu cyhoeddi flwyddyn neu ddwy yn hwyr.

Mae’r siarter yn nodi hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg mewn llysoedd barn.  Nid oes awgrym yn ymateb y Cynulliad am yr anawsterau niferus sy’n wynebu unrhyw un sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg (e.e. rhoi rhybudd, peidio â chael ynadon/barnwr/rheithgor Cymraeg). Mae’r un peth yn wir yn achos hawliau’r Gymraeg mewn llysoedd gweinyddol: cydnabyddir ‘if costs are incurred as a result of insufficient notice, a costs order may be made’.  Yn achos cyrff gweinyddol meddir bod y cyfan eto yng ngofal y Bwrdd Iaith, heb grybwyll ei bod yn aml yn anodd iawn i bobl sy’n ffonio yn Gymraeg barhau yn Gymraeg wedi’r ‘bore da’ cychwynnol. 

Gellir pentyrru enghreifftiau eraill. Honnir bod cynlluniau iaith yn caniatáu i’r cyhoedd cysylltu ag awdurdodau cyhoeddus yn Gymraeg, ond nid oes awgrym bod angen aros wythnosau lawer am ateb, yn enwedig yn achos gweinidogion y Cynulliad, e.e.  Jane Davidson, nad yw eto wedi ateb llythyr a ysgrifennais ati ryw ddeg wythnos yn ôl. Mewn cymal arall meddir y dylai’r Cynulliad annog a chreu o leiaf un papur newydd Cymraeg. Sonnir am Y Cymro, Golwg, a 61 papur bro.  Ond papur newydd Cymraeg?

Mewn ymateb i gymal sy’n sôn am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, cydnabyddir fod yna ddiffygion, er gwaethaf cynlluniau iaith awdurdodau iechyd.  Nid oes rheolaeth ar gartrefi preifat.  Mae hyn yn gyfaddefiad nad yw Deddf Iaith 1993 yn rhoi digon o rym i’r Bwrdd weithredu, ond nid oes yma gydnabyddiaeth o hyn, nac o’r modd y caiff siaradwyr Cymraeg eu sarhau yn y sector yma..

Efallai mai yn y maes economaidd y mae’r ymatebion gwannaf.  Cydnabyddir nad oes grym yn erbyn gwahardd y Gymraeg mewn cytundebau cyflogaeth.  Mewn ymateb i gymal ar wrthwynebu arferion sy’n peidio ag annog y Gymraeg yn y byd busnes meddir bod gan y WDA gynllun iaith.  Wrth ymateb i anogaeth i hybu’r iaith mewn sectorau economaidd a chymdeithasol, meddir bod y Bwrdd Croeso ar waith, a bod gan y Bwrdd gynllun arwyddion dwyieithog.  Mae ymatebion o’r math yma’n  arwydd o wrthod cydnabod yr her economaidd a chymdeithasol wirioneddol sy’n wynebu’r Gymraeg yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg.  Mae’r anwybyddu yma wrth wraidd y methiant i wynebu problem mewnfudo ac allfudo sy’n tanseilio’r Gymraeg yn economaidd a chymdeithasol. O dderbyn yr ymatebion yma’n gyfan, maent yn arwydd o wadu hawliau cymunedol siaradwyr Cymraeg.

Mae’r hanner gwirioneddau sydd mor amlwg yn y rhan fwyaf o ymatebion y Cynulliad i’r Siarter yn bradychu lleng o arferion gwael sy’n cynnwys diffyg monitro, diffyg arweiniad, ac efallai’n fwy na dim fethiant i wynebu gwir anghenion y Gymraeg a’i siaradwyr mewn cyd-destun economaidd a chymdeithasol.

Y mae’n amlwg fod y Gymraeg, mewn sawl ffordd, ymhell ar y blaen i ieithoedd bach eraill y D.U. o ran hawliau a chydnabyddiaeth, a bod Bwrdd yr Iaith yn gorff y byddai siaradwyr Gaeleg neu Gernyweg yn falch iawn o’i gael.  Nid yw hyn yn rheswm i’r Cynulliad geisio taflu llwch i lygaid Pwyllgor Ewrop ar Ieithoedd Bach mewn ymdrech i gael llonydd ganddo.

Gall cael cydnabyddiaeth o anghenion y Gymraeg o fewn fframwaith Ewropeaidd fod yn gam pwysig tuag at dderbyn anghenion y Gymraeg yn gymunedol ac o dderbyn o ddifrif anghenion siaradwyr Cymraeg fel unigolion.  Mae’r Pwyllgor Ewropeaidd yn croesawu tystiolaeth fanwl am y modd y caiff y Gymraeg ei thrin, a byddai’n dda i rywrai fynd ati i wneud y gwaith monitro manwl na chaiff ei wneud ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni gamu heibio i’r Cynulliad os teimlwn nad yw’r corff hwnnw’n hybu’r Gymraeg fel y dylai. 

Mae ymweliad y Pwyllgor Ewropeaidd â Chymru wedi rhoi cyfle, o’r diwedd, i fudiadau Cymraeg Cymru gyflwyno eu sylwadau, a chael eu hystyried o ddifrif, ar lefel ryngwladol. Gellir disgwyl yn awr yw y bydd Pwyllgor Ewrop yn cynnig awgrymiadau cadarnhaol i’r Cynulliad ar ffyrdd o weithredu’n unol ag ysbryd y Siarter, boed mewn meysydd sydd eisoes o dan arolygiaeth Bwrdd yr Iaith neu mewn meysydd ehangach. Yn wyneb ymrwymiad y Cynulliad i weithredu’n unol â’r Siarter, a chan wynebu’r awdurdod moesol sydd gan gorff rhyngwladol fel Cyngor Ewrop, tybed a yw’n ormod disgwyl y bydd y Cynulliad wedyn yn rhoi blaenoriaeth i weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg mewn meysydd canolog?  Gwaith mudiadau gwirfoddol Cymru, mae’n debyg, yw sicrhau hynny..