Yr Ymadawiad Mawr

Yn null America

Sut bydd y ffarwél ola?

A fydd munudyn seremoni?

Wedi oes o wres,

                O fyw ar drydan nerfau,

                A chyffro cyrff,

                A geir un gusan laith

                Neu anwes glyd,

                Neu a gaf olwg ohonot o bellter clwyfus?

Ynteu a gerddi i’r lifft i’r seithfed llawr

                Heb wybod fod y foment fawr ar fod?

                (Neu ai i’w osgoi,

                I wylo dros ynfydrwydd byw;

                Neu ai’n ddifater ei?

                Er poeni,

                Ni allaf boeni mwy)

Y pryd hwnnw,

                Os caf,

                Fe gaf i ganu’n iach i’r lleill,

                Rhai’n anwyliaid oes,

                Codi llaw ar hwn a’r llall,

                Ysgwyd llawn,

                 A choflaid.

Yna camaf tua’r limo gwyn

                A ddaeth i’m cludo o’r tir newydd hwn

                I’r hen hen fyd,

                I’r lle y tarddodd amser, celf a llên

                (a’r awch i ladd).

A’r pryd hwnnw,

                Fel diwedd breuddwyd braf,

                Fe ddoi i blith y lleill

                Ac estyn llaw i mi i’w dal yn dynn.

Un olwg olaf wedyn, codi llaw

A dyna ni,

                A minnau nawr

                                Yng nghlydwch soffa lledr du y limo hir,

                                Yng nghwmni gyrrwr boldew mud,

                                A bar wrth law,

                                A theithwyr byd yn bwrw golwg syfrdan,

                Yn cyrchu tua Hartsfield

                I gael esgyn fry i’r nen.