Mae’r Galon wrth y Llyw

Torri i mewn i draddodiad

MAE’R GALON WRTH Y LLYW, Kate Bosse-Griffiths

Honno, 240tt, £10.99, 2016

Cyhoeddwyd yn O’r Pedwar Gwynt

Roedd yn bleser digymysg i ni fel teulu fod gwasg Honno wedi penderfynu ailgyhoeddi Mae’r Galon wrth y Llyw. Er i Kate Bosse-Griffiths ysgrifennu storïau byrion yn dilyn cyhoeddi’r nofel hon yn 1957, ynghyd â llyfrau taith am yr Almaen, Rwsia a’r Aifft a llyfr am y dyn hysbys, prif waith chwarter olaf ei hoes oedd sefydlu’r amgueddfa Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganfod tarddiad a chatalogio rhyw ddwy fil o eitemau o’r hen Aifft. Y nofel hon felly oedd uchafbwynt ei gyrfa lenyddol.

Gyrfa lenyddol Gymraeg fyddai’r peth olaf ar restr ei dyheadau pan gafodd Kate ei chodi yn Wittenberg, y dref y bu Martin Luther yn ddiwyd ynddi. Meddai Kate yn Saesneg yn ei dyddiadur, ym mis Tachwedd 1942, ‘Welsh people sometimes ask me: What did you know about our country before you came to Wales. And I blush and admit, until six years ago I knew almost nothing … In German the word Welsh means anything Romanic, especially French and Italian. [[1] It] means something foreign and hostile … Little did I dream then how much the Welsh nation should once mean to me.’

Erbyn 1957 roedd Kate wedi byw yng Nghymru am ddeunaw mlynedd, gan dreulio blynyddoedd yn y Rhondda, y Bala ac Abertawe. Yn ystod y cyfnodau hyn roedd hi wedi dod i adnabod sawl agwedd ar y wlad yn dda, yn enwedig y cylchoedd llenyddol ac academaidd, a darllenodd gynnyrch llenyddol Cymraeg yn helaeth. Roedd ganddi farn gymysg am beth o’r cynnyrch. Ystyriai bod O Law i Law T Rowland Hughes ychydig bach yn chwerthinllyd, wrth i’r cymeriadau gael eu symleiddio ganddo. Gwelai Monica Saunders Lewis yn ymgais i fod yn stroclyd, ‘fel bachgen sy’n ynganu’r holl eiriau sydd wedi’u gwahardd’. Ar y llaw arall, gwelai fod Traed Mewn Cyffion Kate Roberts a Rhys Lewis Daniel Owen yn cyfleu math o wrthryfel yn erbyn anghyfiawnderau y gallai hi gydymdeimlo ag ef.

Wnaeth Kate ddim mentro i fyd y nofel yng Nghymru heb deimlo peth anesmwythyd. Roedd hi am feirniadu trefn batriarchaidd cymdeithas yng Nghymru a rwystrai wragedd rhag byw’n unol â’u cyneddfau. Roedd ei hymrwymiad wrth y gymdeithas honno, fodd bynnag, yn amod iddi cyn mentro. Yn ei dyddiadur, ym mis Mai 1954, dywed fel hyn: ‘Fel rhywun sy’n dod i mewn i draddodiad newydd o’r tu allan, rwy’n llai clwm wrth y traddodiad ac felly mae’n haws i mi chwalu delwau … [Gallaf wneud hynny] [2]  yn unig os ydw i’n uniaethu â Chymru.’ Roedd am astudio’r byd, yn ysbryd Siôn Cent, a gwneud hynny ‘mewn ysbryd o wrthryfel yn hytrach nag er mwyn difyrru’.

Drwy gydol ei bywyd, meddai Kate ar ysfa ddigon eofn i amau pawb a phob dim. Mae hi’n cydnabod hyn yn nyddiadur 1953/54 hefyd: ‘A oes gen i hawl i dorri i mewn i’r traddodiad hunanfoddhaus hwn [traddodiad y nofel yng Nghymru] gyda fy De omnibus dubitandum?’

Yn yr Almaen y cychwynnodd ei gwrthryfel yn erbyn trefn cymdeithas ac awdurdod gwlad ac eglwys. Bu’n un o’r ychydig iawn o ferched a fynychai’r ysgol ramadeg yn Wittenberg, ac yno cafodd ei hysbrydoli gan ei hathro clasuron, Dr Kaulbach, i ymddiddori yn y syniad o humanitas, gyda’r pwyslais ar feithrin gwarineb y bod dynol a’i allu i greu amgylchfyd moesol iddo’i hun. Tua’r un adeg, ymddiddorai’n fawr yng ngweithiau Nietzsche, a osodai ddatblygiad y bod dynol uchaf yn ei flaenoriaethau. ‘Nid Cymru a’m rhwygodd am y tro cyntaf allan o sicrwydd fy nhraddodiad fy hun,’ meddai’n ddiweddarach. ‘Efallai mai Nietzsche wnaeth hyn … Ond hefyd amheuaeth am ddwyfoldeb y Gristionogaeth gul.’

Cafodd Kate ei derbyn i’r Eglwys Lutheraidd yn Wittenberg pan oedd yn 14 oed, a’r pryd hwnnw gwrthododd yn chwyrn gyngor ei hewythr mai ei dyletswydd hi fel merch oedd cymryd lle eilradd i ddynion o hynny ymlaen. Aeth Kate ymlaen i astudio Eifftoleg yn Munich, Bonn a Berlin a chael swydd wedi hyn yn yr Amgueddfa Eifftaidd yn Berlin. Bu’n caru â  Nikolaus von Mossolow, cydfyfyriwr Eifftoleg, mab i gadfridog Rwsiaidd, a chomiwnydd, ac fe fydden nhw’n rhannu syniadau am ddelfrydau’r Comiwnyddion. Gwn fod Kate yn edmygydd mawr o Karl Liebknecht a Rosa Luxemburg, dau o gomiwnyddion Berlin a wrthwynebodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a lofruddiwyd gan grwpiau parafilwrol gwrth-gomiwnyddol y Freikorps yn fuan ar ôl y rhyfel.

Nid y lleiaf o’r ysgogiadau yng nghefndir Kate oedd y modd y collodd ei swydd yn yr amgueddfa Eifftaidd yn Berlin cyn llwyddo i ffoi i’r Alban. Roedd twf Hitleriaeth, a dioddefaint ei theulu yn sgil hynny – lladdwyd ei mam mewn gwersyll-garchar – wedi arwain Kate i gondemnio pob cyfundrefn awdurdodol, boed honno’n drefn wladwriaethol, gymdeithasol neu grefyddol.

Er bod Kate yn cadw dyddiadur o’i blynyddoedd cynnar, ac yn gohebu’n gyson â’i rhieni a Niki cyn yr ail ryfel byd, mae’n amheus a fyddai hi wedi cael y rhyddid i ddatblygu’n llenor pe bai wedi aros yn yr Almaen. Ymysg ei phapurau mae dogfen helaeth am daith i’r Eidal, a dogfen arall, ‘This Country’, yn cofnodi ei hargraffiadau cynnar o fywyd yn Lloegr. Y trobwynt mawr llenyddol oedd cwrdd â’i darpar ŵr, Gwyn Griffiths, yn Rhydychen, y ddau ohonynt yn Eifftolegwyr ac yn heddychwyr. Wedi carwriaeth gyflym priododd y ddau a symud i’r Rhondda, lle y blodeuodd y berthynas rhyngddi hi a darpar awduron eraill – Pennar Davies a Rhydwen Williams yn bennaf yn eu mysg.

Yn sgil ei lletygarwch, cynhelid nosweithiau a sesiynau hwy yn eu cartref, Cadwgan, St Stephen’s Avenue, y Pentre, gyda thrafodaethau bywiog ar grefydd, athroniaeth a llenyddiaeth rhwng y cyw lenorion hyn a ymhyfrydai yn eu safbwyntiau agored a gwrthryfelgar. Byddent yn cyflwyno i’w gilydd syniadau gwahanol grefyddau ac athronwyr, ac yn trafod eu gwaith ei gilydd. Dechreuodd y grŵp gyhoeddi erthyglau yn Heddiw a Seren Cymru. Ysgrifennodd Kate am Ernst Toller, Madame Curie, Henri Bergson a Lenin, ac hefyd ysgrif ‘Nietzsche a’r Natsïaid’, lle y dadleuodd i Nietzsche gael ei gamddehongli a’i gamddefnyddio gan y giwed honno. Ysgrifennodd bamffled hefyd, ‘Mudiadau Heddwch yn yr Almaen’ yng nghyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru, pan oedd y rhyfel yn ei anterth.

Kate oedd y gyntaf o [3] Gylch Cadwgan i ennill clod am ei gwaith. O’r cychwyn roedd pwyslais gweithiau Kate ar le’r ferch mewn cymdeithas. Medd Megan, prif gymeriad Anesmwyth Hoen, nofel fer a enillodd gystadleuaeth Llyfrau’r Dryw yn 1941, ‘Hoffwn i ferched gael eu haddysgu yn y fath fodd a’u gwn֗âi’n alluog i feddwl drostynt eu hunain, fel yn amser matriarchaeth’. Yn y nofel honno, mae Megan yn canfod ei dyheadau emosiynol wrth adael y Gymru draddodiadol a mentro i gymdeithas wahanol yn Llundain a Munich. Mae modd gweld yn y nofel brofiadau Kate ei hun, gyda Chymru yn y nofel yn cymryd lle Wittenberg.

Mewn storïau byrion eraill mae’r syniad am fam-dduw’n codi. Yn ‘Y Bennod Olaf’, a fu’n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1942, mae Mair, sy’n condemnio creulondeb Du[HG4] [5] w wrth iddi wynebu marwolaeth, yn galw ar ‘Dduw, Dad-a-Mam’. Caiff y syniad ei ddatblygu yn ‘Fy Chwaer Efa’ (1944), lle mae pedair chwaer sydd ag enwau bwriadol Feiblaidd, Efa, Martha, Mair a Magdalen, yn rhoi bri ar y syniad o Dd[6] uw’r fam, a allai waredu merched, am na allai Iesu, ‘fel dyn dibriod, ddeall gwragedd yn iawn’. Mae’r rhain yn trafod natur serch merched, sut y mae’n wahanol i serch dynion, a sut y mae syniadau am briodas yn gallu bod yn groes i’w dyheadau a hwythau’n rhan o gyfundrefn foesol cymdeithas batriarchaidd sy’n gallu llesteirio hunangyflawniad merched.

Mae Mae’r Galon wrth y Llyw yn plethu syniadau tebyg i’r rhain at ei gilydd. Mae Kate yn parhau â’r drafodaeth Nietzschaidd am yr hyn yw da a drwg, gan amau a oes y fath beth â moesoldeb absoliwt. Dywed un cymeriad ‘nad oedd dim ffasiwn beth â phechod mewn gwirionedd, nad oedd yr un athronydd wedi profi bod moesoldeb yn ffaith’. Gwelir bod pobl yn byw ar sail twyll, a hunan-dwyll, a’i bod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhwng crefydd ac ofergoel.

Mae deall beth yw cariad i fenywod ac i ddynion yn llinyn trwy gydol y nofel. Mae cariad i ddynion yn feddiannol, meddir, a’r wraig yn gallu dod yn eiddo, yn yr un modd â thŷ a chrefydd. Mae menywod, ar y llaw arall, am roddi, ac yn y rhoi hunanaberthol hwn mae yna gyfyng-gyngor: gall eu cariad fod mor anhunanol fel nad oes ganddynt hunan ar wahân i’w gwŷr.

Trafodaeth gyson yw’r un am geisio’r profiad mawr mewn carwriaeth, a gafael ar hwnnw, er gwell neu er gwaeth, beth bynnag fo’r amgylchiadau. [7]  Mae Doris, y prif gymeriad, yn ymserchu’n llwyr yn  Arthur er bod hwnnw’n briod. Geilw’r profiad yn ‘Gyfle Mawr’, profiad nad oes ond ychydig yn ei gael, ac mae’r profiad hwn, sy’n ddibynnol ar reddf yn hytrach na rheswm,  yn drech na moesoldeb cymdeithasol. Medd Doris, “Dw i ddim yn mofyn gŵr i’m cynnal; dim yn mofyn parchusrwydd a diogelwch.  Dwi’n mofyn dim byd ond tithau – tithau a phlentyn i berthyn i’r ddau ohonon ni.” Gwelir Arthur yn ymdrechu i ddygymod â’i berthynas â dwy wraig, wedi’i ddal gan awydd hunanaberthol y ddwy.  Gŵyr am y caru ifanc y soniodd ei fam amdano fel cyfnod gorau bywyd, ond yna cafodd brofiad o weld caru’n colli ei ystyr. Apelia Doris iddo am beidio ag aberthu eu ‘Serch Mawr’ er mwyn merch na all gynnig hynny iddo. A yw perthynas gonfensiwynol Arthur â’i wraig Siân yn hunan-dwyll, neu a yw’r Cyfle Mawr ei hun yn dwyll? Cynigir gwrthbwynt gan Gwenda, chwaer Doris, sy’n dadlau nad oes undod perffaith rhwng dau yn bod, gan fod rhaid i bawb ddatblygu yn sgil eu gwahanol brofiadau. Mae hapusrwydd i’w gael ym mherthynas dau berson annibynnol, heb angen credu mai dim ond gydag un person y mae modd dod o hyd i hynny.

Gwelodd llawer y nofel hon yn nofel ffeministaidd Gymraeg arloesol. Mae hyn yn wir yn yr ystyr bod yma ymdriniaeth â’r hyn yw serch a hunangyflawniad i fenywod, ac yn y lle blaenllaw a rydd y nofel i ddyheadau menywod. Ond nid ennill hawliau cyfartal i fenywod yw’r peth pwysicaf, yn hytrach yr angen i chwyldroi cymdeithas batriarchaidd fel bod menywod yn gallu byw’n unol â’u cyneddfau.

Trwy gydol y nofel, ceir ergydion i sawl cyfeiriad, gyda chondemniad o Fohametaniaid sy’n gwadu cydraddoldeb i fenywod mewn priodas, y grefydd Gristnogol a’i hatebion di-fudd i ddioddefwyr, a’r moesoldeb a’r confensiynau arwynebol a diystyr sy’n rhan o fywyd Cymru. Seiliodd Kate ei sylwadau ar brofiadau real, sydd i’w canfod yn ei dyddiaduron. Roedd Mohsen Bakir yn gyfaill i Gwyn a Kate ers dyddiau Rhydychen, ac fe adroddodd ei helyntion priodasol wrthynt. Echrydu a wnaeth Kate at ddiffyg cydraddoldeb ei wraig yn eu perthynas. Yn y Rhondda, y Bala ac Abertawe, cafodd Kate ddigon o flas ar yr hyn a welai’n fywyd traddodiadol Cymru i ganfod ei wendidau.

O ran cefndir daearyddol y nofel, rwy’n tybio mai’r Rhondda ac Abertawe, a’r bobl a ddeuai i’r aelwyd, sy’n cael eu portreadu. Mae yma sôn am ogofâu ger y môr: ogofau Bacon Hole a Minchin Hole ger Southgate, Gŵyr, yw’r rhain. Ysgrifennodd Kate bedair erthygl am Ogof Minchin i’r South Wales Evening Post, ymysg ugeiniau o rai eraill ar hanes lleol, yn sgil ei gwaith fel curadur yn Sefydliad Brenhinol De Cymru (Amgueddfa Abertawe) yn ystod y cyfnod hwn. Mae yna olygfa darllen drama yn y nofel – gellir dychmygu hon yn digwydd ar yr aelwyd yn Abertawe, pan oedd Dr Roy Lewis a hithau yn llunio dramâu. 

Er mai nofel syniadau yw Mae’r Galon wrth y Llyw, mae’r llinyn storïol yn gryf hefyd. Mae Arthur wedi dyweddïo â Siân, sy’n bygwth hunanladdiad pan deimla ei fod e’n ymbellhau oddi wrthi. Ar ôl iddynt briodi, mae Arthur yn cynnal perthynas eto â’i gyn gariad, Doris, y prif gymeriad, a’i gwelai ef yn gariad mawr ei bywyd. Erbyn hyn mae hi’n anhapus yn ei phriodas ac mae ganddi blant gan ei gŵr, a chaiff Arthur a Doris eu plant eu hunain. Mae diwedd y nofel yn ymdrin â’r argyfyngau a ddaw yn sgil hyn.

Cafodd Kate we’r stori ym mywyd ei chwaer a fu mewn sefyllfa debyg. Mae nifer helaeth o fanylion, fel diabetes un o’r plant, ac un arall sy’n marw ar ôl damwain â chyllell, yn rhai gwir. Ar un wedd, felly, gellir edrych ar y nofel fel ymgais i ddeall ei chwaer. Digwyddodd y cyfan ynghanol yr Ail Ryfel Byd, pan oedd ei bywyd ei hun o dan fygythiad, a gwareiddiad Ewrop yn cael ei chwalu. Sut oedd modd dod o hyd i fodlonrwydd personol yn y gyflafan? Meddir yn y nofel am Doris, ‘Hwyrach iddi dderbyn ysgogiad arbennig gan y ffaith fod Rhyfel Byd arall yn cael ei fygwth. Ymddangosai yn wir fod diwedd y byd yn bosibl, neu o leiaf ddiwedd gwareiddiad.’

Mentrodd chwaer Kate fyw yn groes i reolau cymdeithas, a chrefydd, er mwyn profi’r serch mawr a allai roi’r bodlonrwydd hwnnw iddi. Ond er bod diwedd y nofel yn awgrymu mai ofer – a dinistriol hyd yn oed – yw gosod y ‘galon wrth y llyw’, nid oes yma gondemniad. Medd Gwenda, chwaer Doris, yn y nofel, a hynny’n unol o bosib â barn Kate, nad yw’n credu mewn undod perffaith rhwng gŵr a gwraig. Dadlenna Gwenda, er pryder i’w chwaer, fod ynddi ‘straen bolygamaidd’. Ond yna medd Gwenda wrth ei chwaer, er bod honno wedi torri bron y cyfan o’r deg gorchymyn, ‘Rwyt ti’n un arbennig a rhyfedd iawn, Doris. Cefaist dy lunio o’r un clai ag y bydd Duw yn ei gymryd i wneud Sant.’