Pen draw Cymreictod

Roedd Budweiser a Red Wolf yn llifo, a chwmni eitha hynod yn dechrau ymgasglu ar ddechrau wythnos o ddysgu Cymraeg.  Roedd hi’n rhy boeth y tu mewn, a beth bynnag dim ond sðn teledu a lle i chwarae pŵl oedd yn y dafarn hon.  Doedd dim llawer o dafarnau yn Decatur (dicèity, fel y des i i’w hynganu yn null y trigolion), Atlanta.  Llechai un dafarn eitha garw mewn rhyw dwnnel o le ger y rheilffordd, tra ymffrostiai un arall yn ei llu goleuadau neon o gwmpas ei muriau mewnol ac allanol.      Ar y to roedden ni, felly, yn chwysu fin nos,  a llenni pabell uwch ein pennau i’n diogelu rhag tanbeidrwydd haul yr hwyrddydd.

            Edrychais o gwmpas ar yr wynebau.  Roedd rhyw ddeg ar hugain wedi cyrraedd yn barod.   Un henwr boliog moel, llanc ifanc esgyrnog, du ei wallt, dwy fenyw dew yn glynu wrth ei gilydd ac un â golwg dipyn mwy gwrywaidd arni na gðr byr ag wyneb baban yn eu hymyl. “Wonderful to see you again, love” a’r yngangiad araf yn rowlio’r llafariaid o rywle yng nghefn ac ochr y geg.  “I can’t miss the cwrs Cuhmraheeg, it’s the only time I feel I can be myself,” meddai’r fenyw wrywaidd.   O dipyn i beth des i gredu bod y cyfan yn haid o grancod.  Beth mewn Cymreictod sy’n denu crancod?  Mae digon yn Abertawe, ond fan hyn roedd y cyfan ohonyn nhw’n grancod.  Ces i’r syniad mai dyma ben draw rhesymegol Cymreictod.  Yr ymdaith Geltaidd i’r gorllewin heb aros yng Nghymru, a dyma ni, olion olaf y Celtiaid, yn yfed Red Wolf fel yr yfai gwþr y Gododdin eu medd.  Ces i bwl cwbl ddi-reolaeth o chwerthin. “Hey, Heini, you’re all red. I think he’s going to have a heart attack. How can we cool him down?”            

Ces i wybod tipyn mwy am y mynychwyr.  Un ohonyn nhw’n dysgu Hen Almaeneg mewn prifysgol yn Efrog Newydd, a chanddo ddosbarth Cymraeg yno. Yr henwr boliog wedi bod yn llawfeddyg.  Y llanc ifanc am ddysgu Cymraeg am iddo glywed ei fam-gu’n adrodd gweddi’r Arglwydd – y Gymraeg olaf a lefarwyd gan y teulu hwn o ymfudwyr o Gymru.  Un fenyw ganol oed smart wedi bod yn briod ag Iddew cyfoethog, cyn dechrau busnes yn hebrwng Siapaneaid o gwmpas casinos Atlanta, ac arni hiraeth am Geredigion a Townhill.  Ac wrth gwrs, fydd dim modd anghofio’r frenhines brydferthwch o Puerto Rico.  Cafodd pawb gerdyn ganddi a’i llun arno. Ac fe ddysges iddi sut i wneud sbin yn y twmpath.

Bu gen i erioed res o ragfarnau yn erbyn America.  Ro’n i bob tro wedi ochri â’r Indiaid cochion yn y ffilmiau ac rwy’n ffieiddio’r trais yn y ffilmiau diweddar.  Dyw’r delweddau o geir heddlu gwibiog, strydoedd di-goed a gynnau dihirod yn denu dim.  Yn fwy na hyn oll, mae America yn berygl i’r byd.  Ni fu gen i erioed ffydd na fyddai America’n defnyddio’i harfau byd-ddinistriol.  Yn rhyfel Fiet-nam gwelwyd America’n imperialaidd, frwnt. Yn Cuba bu bron i Kennedy ddechrau’r trydydd rhyfel byd.  Ac yn fwy diweddar fe welwyd bomiau America’n glawio ar y dwyrain canol. Yn ddiwylliannol hefyd mae America’n dadwreiddio ac yn anfoesoli.  Nid y lleiaf oedd fy rhagfarn yn erbyn y Cymry ar wasgar, y rhai a fethodd gefnogi Gwynfor pan aeth ar daith i geisio cyfraniadau i’r Blaid.

Ces i ’mherswadio, beth bynnag, i ddysgu ar un o gyrsiau iaith Cymdeithas Madog, a hynny’n gyfle i gael cipolwg ar gyfandir na fyddwn i’n debyg o fod wedi ymweld ag ef fel arall.  Doeddwn i ddim yn gwbl barod am yr hyn oedd o’m blaen.  Swynion natur ambell ranbarth o America a lwyddodd i’m denu gyntaf. Blodau magnolia, adar ac anifeiliaid anarferol, lliwgar, a haul tanbaid.  Rwy’n synnu dim i’r Cymry ymfudol gael eu denu yn yr un modd, ac anfarwoli’r chwiparwîl.   Ces i aros rai dyddiau gyda Hefina, merch Edgar ap Lewys, y cenedlaetholwr o Gwmgïedd, a’i gwr Bill o Ystradgynlais.  Palas o dŷ yn un o faestrefi moethus Atlanta.   Awn yn gynnar yn y bore – ar ôl naw y bore byddai’r haul yn rhy boeth i fod allan – gyda Bill i redeg ar lannau afon Chattahoochee.  Mae ysbryd yr Indiaid yn yr enw, fel yn llu o enwau eraill yr ardal. Byddai’r tes yn drwm dros yr afon wrth i’r haul godi, y dðr i’w glywed yn rhaeadru dros greigiau gwastad a gweau gwawn yn hongian o frigau’r coed.  Wrth i’r haul gryfhau byddai ei lewyrch yn y dwr a’r tes yn codi’n gymylau melyn ac oren ac i’r golwg dôi adar hiryddfog ar greigiau yn yr afon yn twtio’u plu, a gwyddau gwyllt yn hedfan trwy’r niwlen.

Gorllewin Fflorida wedyn.  Ar yr arfordir ger St Petersburg, pwy na all gael ei swyno gan fachlud haul y tu ôl i’r coed palmwydd a’i ôl yn hir ar y môr, a phelicanod pendrwm yn hofran yn drwsgl dros wyneb y dwr?  Fues i ddim eto i weld y Môr Tawel, ond yn wahanol i’r bardd o Eryri a ddywedodd “Mae dwywaith yn ddigon i’th weled di”, fe fyddwn i’n ddigon bodlon mynd i’r fan hon eto.  Wrth gerdded i’r dwr bas, mae pysgod yn tasgu o gylch eich traed, a chewch lond eich dwylo o gregyn hardd heb chwilio’n hir.

Dyna fynydd Stone Mountain, eto ger Atlanta, un o greigiau sanctaidd yr Indiaid, sydd bellach wedi ei lygru gan gerfiadau o arweinwyr y Rhyfel Cartref.  Er gwaethaf hynny, mae’r domen enfawr hon o wenithfaen moel a chrwm yn dal yn rhyfeddod.   Un prynhawn roeddwn i a rhai cyfeillion yn rhwyfo mewn canð metel ar y llyn sy’n ymnadreddu o gwmpas y mynydd.  Tywyllodd yr awyr, a dechreuodd y mellt saethu.  Roedd rhaid penderfynu rhwng aros yn y canð metel ar y dðr a chysgodi ar ynys goediog.  Daeth rhyw ddiymadferthedd aruthr drosom.  Diymadferthedd o fath arall fyddai eiddo’r duon, yr ailgodwyd rhai o’u cartrefi yn ymyl tai’r meistri yn yr amgueddfa werin wrth droed y mynydd.

Neu ynys Cape Cod, mangre wyliau’r arlywyddion crwydrol eu moesau.  Nid yw’n debyg i Fro Gwyr o ran harddwch naturiol.  Mae’n wastad, ac yn dywodlyd, a’r maes glanio’n llai nag un Fairwood ond daw ei swyn yn ei niwloedd.  Cafodd ei goleudai eu peintio gan artistiaid medrus ac o’r ynys hon y daw’r rhan fwyaf o’n cryglus (cranberries).  Dyma hefyd fan glanio’r tadau pererin, a man darllediad cyntaf Marconi dros y Môr Iwerydd.  Ar ben eithaf yr ynys mae tref sy’n ganolfan wyliau i wrywgydwyr America, ac yno y buom ni am wythnos, yn agor ein llygaid.  Dynion ifanc cyhyrog mewn trowsusau cwta’n ymddiddori mwy ynof fi nag yn fy ngwraig.  Parau o ddynion yn magu plant bach, a llanciau tal colurog yn gwisgo sgertiau.  Beth yw’r natur ddynol, d’wedwch?  Ond doedd un bar yno ddim am gael ei drafferthu gan y cymhlethdodau: “No tall, ugly blondes allowed.”  Pe bai’r tadau pererin wedi bod yn dyst i’r gybolfa yma, byddent wedi troi’n ôl ar eu hunion.  O’m rhan i, nid wyf am wneud datganiad cyhoeddus am fy rhywioldeb.  Yr hyn am denodd i oedd y morfilod mynyddig sy’n plymio’r môr yn osgeiddig gan agor eu safnau’n llydan fygythiol i ddal y pysgod mân.

A doeddwn i ddim chwaith wedi fy mharatoi fy hun ar gyfer y trefi.  Y nengrafwyr mawr yw eglwysi heddiw.  Y rhain sy’n datgan pwy biau’r nerth a’r gogoniant.  Wrth edrych i fyny i’w copa, fe gewch chi bendro, ac wrth edrych i lawr ar bigau’r tyrau o ben Canolfan Masnach y Byd, rydych chi’n dduw, neu o leiaf “Ond ychydig is na’r angylion, yn wir” yn ôl tystiolaeth T.H.P-W., a phobl yn forgrug.  Weithiau’n wydr, gan adlewyrchu lliwiau’r nef, bryd arall yn batrymog, mae’r adeiladau’n cystadlu â phyramidiau’r Aifft ac ag eglwys Cwlen a thðr Eiffel am le ymysg rhyfeddodau’r byd.  Mae’r olygfa’n wahanol eto wrth edrych draw ar fforest goncrit a gwydr Efrog Newydd o Ynys Ellis.  Mae caledwch yr adeiladau’n ymdoddi’n lledrithiol, a’r cymylau gwyn uwch eu pennau’n eu bendithio, ac wrth i’r haul dywynnu arnynt, fe gollant eu gwedd ddaearol wrth iddynt adlewyrchu’r ehangder o’u cwmpas.  Welwch chi mo dywyllwch y strydoedd na chlywed seiniau’r cerbydau argyfwng o Ynys Ellis.

A dyna Ynys Ellis, llain cwbl ddi-nod o dir gwastad, ond un yn llawn arwyddocâd i ran helaeth o boblogaeth America heddiw.  Nid agorwyd y ganolfan fewnfudo yno tan 1892, wedi’r ymfudo mawr o Gymru, ond bernir bod 40% o boblogaeth America heddiw’n ddisgynyddion i’r deuddeg miliwn o ymfudwyr a laniodd yno yn y cyfnod hyd at 1954.   Fe gofir yr ymfudwyr yn yr amgueddfa yno.  Cewch chi glywed hanes glöwr o Gymro, a gweld llun llond trol o Gymry ar drip ysgol Sul capel Caersalem, rywle yn Wisconsin.  Yma hefyd mae ystadegau’r mewnfudo, a Chymru’n cael ei chyfrif yn wlad ar wahân.  Cydnabu America hunaniaeth wleidyddol Cymru’n gan mlynedd cyn i ni’n hunain wneud hyn.  Ni allwch lai na meddwl, serch hynny, mai ymgais fwriadol i greu eu hanes eu hunain sydd yn Ynys Ellis, a’r rhan fwyaf o’r hanes hwnnw heb fod yn gant oed.  Mae hanes yma’n ifanc, a’r genedl yn dal heb ei chreu.  Efallai fod hynny’n esbonio’r parch i’r faner yn hytrach nag i bobl, y sentiment sy’n disodli synnwyr, a’r rhyddid sy’n gyfystyr ag ymelwa.

Mae Iwan Llwyd wedi dal arwyddocâd Ynys Ellis i’r mewnfudwyr ac i ymwelwyr heddiw yn ei gerddi, gan gynnwys y cyferbyniad rhwng natur agored, braf yr haul tanbaid, croesawgar yno – “mae o’n noeth a hardd fel rhyddid” –  a haul ymguddgar y ddinas – “dim ond wincio’n slei ar yr hwrod a’r gyrwyr tacsis’. Yn y ddinas rydych chi yn nheyrnas cysgodion, a seiniau a bwrlwm ynfyd yn teyrnasu.  Does dim diben mentro i rai ardaloedd fin nos, a gwyliwch eich poced a’ch bag liw dydd hefyd.  Mae’r isfyd yn fyw ac yn iach, a rhyw ddraig danddaearol yn anadlu cymylau ager  trwy ddraeniau’r strydoedd.  Ar ffin yr isfyd, cewch chwarae bingo trwy’r nos mewn tafarnau, trwy deledu dienaid.  Ar y llaw arall, Manhattan yw caer cyfalafiaeth.  Dyw e’n ddim mwy nag yn gilcyn o ddaear, yn ynys bum milltir o hyd, a rentiwyd i’r gwynion gan yr Indiaid am geiniog a dimai.  Wydden nhw ddim, druain, fod gan y dyn gwyn syniadau go wahanol i’w rhai nhw am feddu eiddo.  Os na allwch chi fforddio dim yn siopau Fifth Avenue, o leia fe allwch chi gael cipolwg ar y manion materol sy’n llygad-dynnu trigolion America. A chewch fwynhau pryd yn llacharedd tŵr Trump, neu o dan gerflun euraid ym muarth cefn Rockerfeller.

Yma mae’r miliynau’n ymforgruga.  Ond a oes esboniad i’r hyn ddigwyddodd i mi felly?  Yn ystod y Pasg bûm am wythnos gyfareddol ym mhentref bychan Sindelova, Gwlad Tsiec heddiw, ond y Sudetenland gynt, yn ymweld â chyfaill mynwesol, Werner Daniel.  Rwy’n ei enwi am ei fod yn dipyn o artist, a phan ddaw’n enwog, bydd arnaf ychydig o lewyrch ei fri. Gwyddwn am ei fwriad i ymweld ag Efrog Newydd ddiwedd yr haf i drefnu arddangosfa, ac roeddwn yn flin fy mod innau yno ryw fis o’i flaen ac yn colli cyfle i’w gyfarfod.  Gallwch ddychmygu gweddill y stori fach hon.  Fe es un bore i weld adeilad Gwladwriaeth yr Ymerodraeth.  Roeddwn dipyn yn rhy gynnar, ac i ladd amser dyma grwydro o gwmpas y bloc, ac i mewn i siop fach i brynu cardiau post.  Yno, yn y siop, ar yr un neges yn union, roedd Werner.  Fe drefnon ni gwrdd y noson honno.  Ond yna, am bedwar y prynhawn, pan oeddwn yn chwilio am fynediad i ganolfan Rockerfeller, trewais ar ei draws eto. Dau gyd-ddigwyddiad? 

Mae Werner yn rhyfeddu at y cyfoeth artistig sydd yn Efrog Newydd.  Dyma ganol byd celf heddiw, gyda chyfoeth prif artistiaid Ewrop yn llanw’r Amgueddfa Gelf Fodern, a hefyd y Metropolitan. Os nad yw cyfoeth yr amgueddfeydd wedi ei brynu, mae wedi ei ddwyn.  Yn y Metropolitan mae un o demlau’r Aifft wedi ei ailgodi’n gyfan.   Ond nid celf y gorffennol yn unig sydd yma.  Mae ugeiniau o orielau bychain lle caiff artistiaid cyfoes gyfle i ddod i sylw’r byd.  Ac mae hyn yn arwain dyn at gyfoeth diwylliannol Efrog Newydd ac America.  Mae’r croesbeillio diwylliannol sydd wedi digwydd yno, ac sy’n dal i ddigwydd, yn esgor ar egni creadigol mawr yn yr holl gelfyddydau, a’r cyfan yn rhan o broses na chawn fod yn dyst iddi’n aml, sef gweld geni cenedl newydd.  Bu gan y Cymry, er gwell neu er gwaeth, eu rhan fach yn y broses hon.

O’ch  cwmpas mae delweddau cyfarwydd byd y ffilmiau, yr adeiladau a’r parc a ddaeth yn rhan o’n hetifeddiaeth weledol.  Mae storïau a ffantasïau Efrog Newydd, yn siop Macey, yn 34th Street, neu yn Central Park yn cadw’n  chwedloniaeth ni oddi ar ein sgriniau.  Am resymau felly rydym yn mawrygu mannau y bu gan Gymry ryw gysylltiad â nhw yn y byd arall hwn, boed yn far lle yr yfodd Dylan Thomas ei ddeunaw chwisgi, y gwesty lle y bu farw, yn oriel sbeiralaidd Guggenheim a gynlluniwyd gan Frank Lloyd Wright, neu’n dŷ opera lle y canodd Bryn Terfel.

Ni all Cymry hefyd lai na chydymdeimlo ag eraill o dan ormes, a dyna pam rydym yn debyg o geisio gweld ochr arall y trefi hyn a’r wlad hon.  Mae rhaid i ni ochri gyda’r Indiaid a’r duon. Welwch chi fawr o’r Indiaid, serch hynny.  Stondinau’n gwerthu eu cynnyrch ar y stryd, tipyn o lyfrau’n olrhain hanes eu cwymp, ac amgueddfa, lle mae modd ymdeimlo â’u trueni.  Dim ond eu henwau sy’n dal.    Erbyn y ganrif ddiwethaf, dim ond tair miliwn ohonyn nhw oedd ar ôl, ar draws y cyfan o America. 

Mae’r duon, wrth gwrs, yn fwy gweladwy mewn dinasoedd fel Efrog Newydd sy’n frith o genhedloedd.  Mae gan yr Eidalwyr a’r Tseineaid eu maestrefi eu hunain, ac yn y tai bwyta – y delis persawrus – mae sawl arlwy danteithion sawl tras yn eich denu, a chithau’n talu fesul owns.  Daw hyn ag elw sylweddol, mae’n siðr, gan fod y llygad yn fwy na’r bol. Nid yw’r Cymry’n llwyr o’r golwg, ond byddai angen bod yn dditectif i ddod o hyd i’r Eglwys Gymraeg ac i swyddfa’r Bwrdd Croeso. 

Ar un wedd mae’r duon yn cymysgu’n gyfartal ar y stryd, ond fe welwch chi’n fuan pwy sydd â’r swyddi distadlaf.  Mae’r duon hefyd yn llanw parc Washington, un o ganolfannau’r fasnach gyffuriau. Yn siopau moethus Atlanta, eithriad yw’r dyn du, er mai duon yw dau draean y boblogaeth.  Y tu allan i stadiwm y gêm bêl-fas yno, duon fyddai’n gwerthu tocynnau, sgarffiau a bwydach, ond y tu mewn, bron yn llwyr, pobl wyn oedd y cyfan. 

Chwarter awr o gerdded yw hi – a chynghorir chi i beidio â cherdded – o ganolfan siopa’r gwynion yn Atlanta i gartref cyntaf Martin Luther King, ond mae chwarter mileniwm o brofiadau yn y camau.   Roedd cartref yr arweinydd yn un eitha breintiedig, ac mewn ardal led lewyrchus ar y pryd.  I’w gyrraedd, fe ewch drwy ardal ddigon tlodaidd, a heibio i sefydliad gwreiddiau Affricanaidd y duon, a siopau lled-chwyldroadol sy’n gwerthu crysau T deniadol.  Ar dde’r stryd mae canolfan y papur newydd cyntaf i’r duon,  ar y chwith dŷ Masonig y duon, a chwarter awr chwyslyd ymhellach mae eglwys Ebenezer ac amgueddfa Martin Luther King, lle mae ei fedd gostyngedig ger llain o ddŵr. Ychydig ymhellach mae ei gartref.

Ar y ffordd oddi yno, daeth gŵr go amheus atom.  Fe geision ni gael gwared ag ef, ond glynodd yn gyfeillgar, ludiog atom.  Roedd yn ddigon deallus, yn gwybod ei hanes, ac wedi bod yn y carchar sawl gwaith am fân droseddau.  Cawsom wybod nad yw’r brwydrau wedi eu hennill eto. Er bod rhai dynion du wedi llwyddo i ymgyfoethogi, er bod iawnderau wedi eu hennill, nid yw’r gymdeithas wedi ei haildrefnu.  Fe’n tywysodd yn ddiogel yn ôl i barthau gwyn y ddinas, a ninnau’n falch o gael ein hamddifadu o ryw ugain doler yn unig.

Cawsom dacsi i Ebenezer y Sul nesaf.  Gyrrwr du o Buerto Rico.  “Welsh?” holodd.  “Well, it’s about time you decided who you are – if you want to be English, just do so, but if you want to be Welsh, you’ve got to act as if you’re Welsh. I don’t mind which you are, but you’ve got to decide.”  Roedd yntau wedi bod yn gweithio i’r Cenhedloedd Unedig yn Affrica, a chywilydd ar wleidyddion Llafur a Thorïaidd Cymru ei fod e’n gwybod mwy am wreiddiau a hunaniaeth na hwythau.  Yn y capel  roedd pianydd yn tynnu jazz o’r bysedd gwyn a du, a chôr o ferched duon lond eu croen yn bloeddio’r emynau.  Hanner dawnsiai’r pregethwr wrth fynd i hwyl Gymreig.  Roedd ei bwyslais ar achubiaeth, ond roedd yn ddigon di-flewyn-ar-dafod wrth drafod helbulon gwleidyddol y dydd. “Un cam ymlaen a phump yn ôl” meddai gan gondemnio agwedd llywodraeth heddiw at y duon. Tri ohonom, yn wynion o Gymru, yn unig yn y deml ddu.  Pa hawl oedd gennym i fod yno?

Mae gan y rhyfel cartref le canolog yn hanes diweddar America.  Gwnaed yn fawr o hwn yn Atlanta, a chwalwyd gan y rhyfel.  Mae ei hamgueddfa’n cofnodi rhai o’r digwyddiadau, ac mewn amgueddfa arall olrheinir ymdaith Sherman tua’r môr, ond mae brwydr rhyddhad y duon, ac erchyllter y rhyfel, wedi ei ddisodli gan ramant y nofel a’r ffilm.  Mwy diddorol i mi oedd clywed wedyn gan Rob Roser, cenedlaetholwr a ddysgodd Gymraeg yn llwyddiannus,   am ran glowyr de Cymru’n tyllu o dan wersyll y gelyn, a gwybod am y cannoedd enwau Cymreig a oedd ymhlith y milwyr.  A darllen wedyn farn Cymry’r cyfnod am gaethfasnach, “Gall Yankee ymffrostio mewn llawer o bethau a dybia efe yn rhagori ar drefniadaeth wladol Brydain, megis bod heb frenin, a chael y fraint o bleidleisio bob ychydig flynyddau yn etholiad prif yna, &c., ond y mae slavery, slavery, yn disgyn ar ein clustiau fel taranau, er maint yr ymffrost” meddai ysgrif yn y Traethodydd yn 1859.

Mae amgueddfeydd eraill, un Tupperware yn Fflorida a Coca-cola yn Atlanta.  Beth ond diffyg amgyffred o hanes sy’n gyfrifol am greu’r fath sefydliadau?  Mae imperialaeth America – sy’n estyniad o imperialaeth gwladwriaethau Ewrop y bedwaredd ganrif ar bymtheg – wedi ei chymhwyso erbyn hyn i goncro’r byd trwy ddiod felys-chwerw.  Mae lluniau aflednais yng nghanolfan Coca-cola yn dangos pobl anialwch y Sahara’n yfed o’r poteli brown, yn hytrach na dðr pur, rhad eu ffynhonnau eu hunain.  Concro byd trwy gôcs a byrgers. Pwy gredai’r fath beth gan mlynedd yn ôl?  Mae’r cyfan yn wallgo, a’r unig gysur, o bosib, yw bod hyn yn rhoi llai o reidrwydd i ddefnyddio bomiau i ehangu’r ymerodraeth, er bod bomiau’n llechu y tu ôl i’r poteli a’r cig, fel yr oedd drylliau’n cuddio tu ôl i Feiblau ein cenhadon ni.

Ond yn ôl at y casgliad o ddysgwyr a ddaeth ynghyd ar do’r dafarn.  Beth oedd yn ysgogi rhai mor bell o Gymru i dalu’n ddigon hallt i ddysgu’r iaith?  Mae’r ateb yn amrywiol, a phob un â’i resymau ei hun.  Ond wrth roi cefndir a rheswm pob un at ei gilydd, a chlymu hynny at hanesion teulu, fe ddaw’r darlun yn fwy amlwg.  Mae’r rhan fwyaf yn  ddisgynyddion i Gymry ymfudol yr ugeinfed ganrif a’r ganrif o’i blaen, ac mae ailafael mewn iaith yn rhan o’r ysfa i ddod o hyd i wreiddiau.  Iaith a gadwodd y gwareiddiad Celtaidd yn fyw yng Nghymru, yn wahanol efallai i Iwerddon a’r Alban.  Fel yn achos yr Iddewon a Gwlad y Basgiaid, gwelwyd bod i’r iaith berthynas annatod ag enaid, neu ag ysbryd, y genedl.  Dychwelyd at iaith a wna’r rhain felly.  Y tu ôl iddynt mae profiadau dirdynnol ac arwrol eu cyndeidiau.

Mae dilyn ôl eu traed yn faes diddorol i’r ymwelydd o Gymro. Mae rhai o’n haneswyr wedi rhoi sylw teilwng i gamp y rhain eisoes.  Cynigiodd Marion Eames ddarlun byw o’r gwrthdaro a fu wrth i’r  Crynwyr Cymraeg obeithio cael cymuned Gymraeg ac annibynnol yn Pennsylvania.  Adroddwyd gan amryw ymdrechion gwahanol genedlaethau i sefydlu gwladfeydd Cymreig ac yn ddiweddar daeth eisteddfod fawr y Cymry yn Chicago yn 1893 yn wybodaeth hysbys trwy waith Hywel Teifi Edwards.  Un o’r astudiaethau mwyaf trylwyr wedyn yw un William D. Jones sydd wedi gwneud gwaith twrio manwl yn Scranton. 

Wrth ddechrau crwydro fe ddewch yn fuan  ar draws cloddfa gyfoethog sy’n datgelu’r gorffennol.  Mae tipyn mwy o Gymraeg yn rhai o fynwentydd Vermont nag sydd yn Abertawe, a’r cerrig beddau a’u henglynion a’u penillion yn dyst i freuddwyd coll.  Fe welwch chi fedd sylweddol â JONES wedi ei gerfio ar ei draws.  Nabod y teulu’n iawn.  Bedd â ‘Taid’ a ‘Nain’ arno, bedd arall â baner Draig Goch yn ei ymyl. Yna fe welwch englynion, fel un Ioan Eryri i David G. Morris, a feddai’r elw barddol Dewi Glan Dulas, sy’n dyst i ddiddordeb llenyddol y Cymry,

“Gwladwr hyglod Eisteddfodydd – a bardd

Oedd yn ben Englynydd.

Ac eneidlawn gain awdlydd

Ydoedd ef ar hyd ei ddydd.”

            Ym mhentref Poultney yr oeddwn, am dro ryw fore, a dod ar draws stondin y tu allan i gapel, lle y gwerthid m­ân nwyddau.  Gwelais ddol Gymreig ar werth yno.  Gweld wedyn bod y capel yn dal yn “Welsh Presbyterian”.  Bachais ar y cyfle a llwyddo i drefnu Cymanfa Ganu i’r cwrs Cymraeg a gynhaliwyd yno’r wythnos honno.  Gwelais wedyn dŷ â’r enw ‘Tŷ Hen’ yn chwifio baner y ddraig goch, cerbyd ag arno’r rhif cofrestru ‘Cymro’, gwesty yn chwifio’r ddraig, a ches siarad yn Gymraeg â rhai o’r hen drigolion. 

Rydyn ni yng Nghymru’n dal i fawrygu’r ymdrech i sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.  Nid bychanu’r ymdrech a’r weledigaeth honno yw dweud mai yng ngogledd America y bu’r ymdrechion mwyaf o beth tipyn. A yw ein cywilydd o’r modd y collwyd y Gymraeg yng ngogledd America wedi peri inni fethu â chydnabod arwriaeth yr ymfudwyr a champ y can mlynedd o Gymreictod a gafwyd yno?  America, nid Patagonia, oedd y Gymru newydd. Yn Karlshamn yn Sweden mae cofgolofn i’r Swediaid a ymfudodd i America.  Ble mae ein cofgolofnau ni?

Gallwn fychanu’r hyn a gyflawnodd y Cymry ymfudol, os dechreuwn bwyso a mesur yr hyn o’u Cymreictod sydd wedi para tan heddiw. Ond nid ar chwarae bach mae bychanu ymdrechion niferus y Cymry i sefydlu gwladfa, yn gyntaf yng ngogledd America cyn troi golygon at gyfandir y de.  Gallwn farnu’r modd yr ildiodd y Gymraeg i’r Saesneg yn America, ond rhaid barnu’r un math o newid iaith yng Nghymru ac ym Mhatagonia. 

Pam na lwyddodd y Cymry i gadw’n gymuned ar wahân fel y llwyddodd yr Iddewon a chenhedloedd eraill?  Yn niferoedd yr ymfudwyr o wledydd eraill roedd tranc y cymunedau Cymraeg.  Nid oedd y Cymry’n fwyafrif mewn un dref.  Nid yw’r diffyg niferoedd yn esbonio’r cyfan, serch hynny, ond mae hyn yn rhan bwysig o’r ateb.  Mae tuedd mewn grwpiau sy’n ffurfio lleiafrif ieithyddol, neu rai sydd wedi colli hyder yn eu hiaith frodorol yn sgil ymosodiadau’r iaith fwyafrifol, i gymathu’n gynt, a dod yn gynt yn rhan o’r gymuned fwyafrifol nag y mae angen iddynt wneud, ac mae tystiolaeth bod y Cymry wedi llwyddo’n gyffredinol i ddod yn ddinasyddion Americanaidd yn gynt nag aelodau o genhedloedd eraill.  Mae’r newid  iaith yn rhan o batrwm gwrthdaro ieithyddol sy’n digwydd ledled y byd, ac nid yw ymddygiad y Cymry’n wahanol iawn i ymddygiad y rhan fwyaf o bobloedd sydd yn wynebu sefyllfa debyg.  Symleiddio pethau yw gosod y bai yn dwt, fel y gwna amryw, ar Frad y Llyfrau Gleision 1847.  Roedd ysgolion dyddiol Cymru eisoes yn rhai uniaith Saesneg ar y cyfan, a’r Gymraeg eisoes yn dioddef o dan bwysau economaidd-wleidyddol  cynyddol.  Serch hynny, yn America, fel ym Mhatagonia, fel y gwelodd Michael D. Jones, ac fel y dangosodd R. Bryn Williams yn glir yn Cariad Creulon ac yn Y Rebel, roedd hunaniaeth genedlaethol yn broblem i’r ail a’r drydedd genhedlaeth.  Doedd hi ddim yn broblem o gwbl i’r genhedlaeth gyntaf.

Ledled America sefydlwyd cannoedd o gapeli Cymraeg, a chynhaliodd cyfres o genedlaethau cyntaf o Gymry eu bywyd Cymraeg yn ei holl gyfoeth.  Mae William D. Jones yn nodi’r cymdeithasau diwylliannol, llenyddol, cerddorol ac athronyddol a oedd yn eu grym am flynyddoedd lawer yn Scranton.  Byddai’r Cymry wrthi hefyd yn cyhoeddi llyfrau, papurau a chylchgronau, ac yn cynnal cryn dipyn o’u busnesau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn lowyr a chrefftwyr, yn chwarelwyr a dynion dur a chopor, yn amaethwyr ac yn bregethwyr, aeth y Cymry i America gyda’u diwylliant yn gyfan.

Ni roesom sylw digonol yn ein dehongliad o’n hanes i gamp y cenhadon o Gymru a aeth i bedwar ban byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Roedd ynddynt ysbryd arloesol ac anturus, a dangosent gryn fedr wrth roi ieithoedd brodorol ar glawr.  Ysbryd o antur ac ymroddiad tebyg oedd yn perthyn i’r rhes o weinidogion llengar a aeth i America. Ysgrifennwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn America gan Ellis Pugh, Crynwr a ymfudodd yn ddeg ar hugain oed i Bennsylvania yn 1686.  Cyhoeddwyd ei lawysgrif, Annerch i’r Cymru yn 1721, dair blynedd ar ôl ei farwolaeth, a chyfieithwyd hi wedyn gan Rowland Ellis.  Roedd gan Abel Morgan frawd eisoes yn weinidog yn Delaware pan ymfudodd yntau o Flaenau Gwent yn 1711, 38 oed.  Bu farw ei fab ar y fordaith.  Cofir ef fel awdur y Gyd-gordiad Egwyddorawl o’r Scrythurau (Philadelphia, 1730), yr ail lyfr Cymraeg a gyhoeddwyd yn America, a’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Dilynwyd y rhain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan lu o weinidogion, a’r rhain yn bennaf a gynhaliodd y bywyd llengar yn America.  Mae’n werth nodi i lawer iawn ohonynt ymfudo a hwythau’n dal yn ifanc, gan roi wedyn oes o wasanaeth i fywyd Cymraeg y byd newydd.  Dôi Frederick Evans, Ednyfed, o Landybie, ac wedi gorffen ei addysg yn academi Brynmawr ac yng Ngholeg Pont-y-pðl ymfudodd yn 1866 yn 26 oed a dod yn weinidog yn Scranton, Efrog Newydd, Franklin, Philadelphia a Milwaukee. Daeth yn amlwg fel beirniad ac arweinydd eisteddfodau. Gweinidog arall oedd Joseph E. Davies, o Lanarthneu, sir Gaerfyrddin.  Ymfudodd yn 1842 yn 30 oed a dod yn weinidog yn Danville, ac yna Hyde Park, ac ysgrifennodd yn helaeth ar destunau crefyddol. 

O Landŵr, Abertawe, y dôi Thomas Edwards, Cynonfardd, cyn symud i Gwmbach, Aberdâr. Ymfudodd yn 1870  yn 22 oed a dod yn weinidog yn Mineral Ridge, Ohio, a Wilkes-barre a mannau eraill.  Daeth yn archdderwydd yn America a bu’n  arwain nifer o eisteddfodau yng Nghymru.  Cyhoeddodd gerddi a deunydd arall, a defnyddiwyd nifer o’i gyfansoddiadau gan Joseph Parry. Ger Machynlleth y ganed Morgan Albert Ellis, a ymfudodd yn 1853 yn 21 oed  a byw yn Pennsylvania, Utica ac Efrog Newydd.  Golygodd Y Gwyliedydd a’r Drych a’r Gwyliedydd, Y Cyfaill, Baner America a Blodau yr Oes a’r Ysgol.  Llannerch-y-medd oedd cartref gwreiddiol William Roberts, a ymfudodd yn 1855 yn 46 oed, ar ôl cychwyn eglwys Gymraeg yn Nulyn.  Yn Efrog Newydd goruchwyliodd argraffu’r Beibl Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Beiblau yn yr Unol Daleithiau.  Bu’n olygydd Y Cyfaill, y Traethodydd yn America a chyhoeddi deunydd arall hefyd.

Nid oedd pob llenor yn weinidog, serch hynny. Ganed Aneurin Jones, Aneurin Fardd, a oedd yn athro ac yn gyfaill i Islwyn, ym Medwas, a daeth yn beiriannydd sifil ac yna dilynodd ei dad yn felinydd.  Daeth yn amlwg fel beirniad mewn eisteddfodau, ac ymfudodd i Scranton yn 42 oed yn 1864. Oddi yno aeth i Efrog Newydd, lle roedd yn arolygydd gerddi a pharciau. Cyfansoddai yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Bu farw yn Los Angeles yn 1904.

Mae môr o ddeunydd yn aros i ddarpar ymchwilwyr yng ngwaith y rhain oll. Fe welir, ryw ddydd, ailgyhoeddi casgliadau o’u gwaith, mae’n siŵr, a sylw arbennig i’r Drych ac i’r dehongliad o Gymreictod a geir ynddo, wrth i ni fynd ati o ddifri i gymryd rhan yn y broses greadigol o drosglwyddo i’r dyfodol yr hyn a farnwn sydd o werth yn ein gorffennol.

Un o brif gyfraniadau diwylliannol cymoedd de Cymru i’r cyfandir newydd oedd y bywyd cerddorol cyfoethog.  Dau o’r cerddorion amlycaf oedd  Joseph Parry a Daniel Prothero.  Olrheiniodd Dulais Rhys hanes helbulus y cyntaf, a ymfudodd o Ferthyr i Danville, Pennsylvania pan oedd yn dair ar ddeg oed yn 1854.  Un o fethiannau arwrol Cymru oedd ei ymgais i gychwyn coleg cerdd cenedlaethol yn Abertawe wedi iddo ddychwelyd i Gymru.  Ymfudodd yr olaf o Ystradgynlais i Scranton yn 19 oed yn 1885, ar ôl cael addysg gerddorol gan Joseph Parry yn Abertawe,  a graddio wedyn mewn cerddoriaeth yn Nhoronto.  Symudodd i Milwaukee a Chicago, gan arwain corau niferus a chyfansoddi’n helaeth.

Roedd cymunedau Cymraeg America’n ddrych o gymdeithasau yng Nghymru, ac yn hyn o beth yn adlewyrchiad o fywyd Cymraeg diwydiannol Cymru.  Ond dengys yr ymfudo hefyd gelwydd Brad y Llyfrau Gleision. Nid oedd y Cymry wedi eu tynghedu i fod yn ddi-nod yn y gweithle fel yr honnai’r arolygwyr.  Roedd Cymry ymhlith dyfeiswyr peiriannol mwyaf blaengar y cyfnod, ac yn amlwg hefyd ym myd busnes yn America.  Fe gawson nhw’r cyfle yno na chawson nhw yma yng Nghymru.  Mae hyn yn amlwg yn hanes yr amaethwyr a’r chwarelwyr a ddaeth i berchenogi eu tiroedd eu hunain yn America, a rhai’n dod yn arweinwyr y fasnach chwareli, fel yn achos Hugh G. Hughes, “brenin y chwarelau” fel y’i disgrifir gan William D. Davies. Mae beddrod Hugh Hughes yn un o’r mwyaf ym mynwent Elmwood,  Vermont.  Mae cerflun maint llawn ohono wedi ei osod ar bedestal, ryw chwe throedfedd o uchder, ac uwch ei ben, yn codi ryw bum troedfedd ar hugain, mae cerflun merch yn pwyntio tua’r cymylau.

Mae angen deall yr ymfudo yn erbyn cefndir tlodi Cymru, yr erlid gwleidyddol, a gormes yr eglwys a’r landlordiaid.  Roedd hysbyseb Gymraeg talaith Wisconsin, er enghraifft,  yn denu Cymry i fannau lle “gellir cael y tiroedd gorau am o 20 i 30 swllt y cyfer” ac o ymsefydlu fwy na deg milltir i ffwrdd o reilffordd, dim ond “5 swllt y cyfer” a “100 cyfer o hono am ddim”.  Roedd rheilffordd Chicago, Rock Island a Pacific yn cynnig cysylltiad “â phob llinell o reilffordd rhwng glanau yr Atlantic a’r Mor Tawelog”, gyda’r posibilrwydd o brynu tir yn Iowa, Minessota, Dakota a Manitoba gyda’u “gwenith-feusydd auraidd”.  Y “tiroedd amaethu rhagorol” yn y taleithiau hyn oedd y “moddion sicraf i ddyfod yn gyfoethog”.  

Rhaid cofio yr un pryd nad aeth ond cyfran fach o’r Cymry i America – mae un amcangyfrif yn nodi 100,000 o ymfudwyr erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac un arall yn tybio bod yno ryw 400,000 o dras Gymreig erbyn y pryd hwnnw.  Aeth rhyw bedair miliwn, meddir o Iwerddon,  a miliynau lawer o’r Alban, Sweden a’r Almaen, yr Eidal a gweddill Ewrop.  Roedd y chwyldro diwydiannol wedi cadw’r Cymry, ar y cyfan, yn eu gwlad eu hunain. 

Ceir gwers hanes fyw ar y gormes a fu ar Gymry’r cyfnod ym mharodi Dafydd Williams o Aberystwyth ar y deg gorchymyn, parodi a gyfansoddodd ar fwrdd y Mimosa yn 1865, ac a gofnodwyd wedyn gan Bryn Williams:

“Na fydded i ti lywodraethwr arall ond myfi.

Na wna i ti Wladfa Gymreig mewn un llanerch sydd dan y nefoedd uchod… Na ddysga iaith dy fam, ac na chefnoga lenyddiaeth dy wlad.  Canys myfi y Sais wyf ddyn eiddigus, yn troi y Tenantiaid o’u ffermydd am genhedlaethau…

Na chwyna fod y Saeson wedi goresgyn dy wlad…

Cofia Eglwys Loegr i’w sancteiddio hi.  Chwe’ diwrnod y gweithi nes sychu mêr dy esgyrn; eithr ar y seithfed yr ai di i’r Eglwys Sefydliedig… canys am chwe diwrnod y gweithi i gael modd i dalu rhent, a’r degwm, a’r dreth Eglwys…

Anrhydedda y Saisaddolwyr yn mhob man…”

Mae ganddo barodi arall ar weddi’r Arglwydd sy’n arwydd fod gwreiddiau cenedlaetholdeb yr ugeinfed ganrif yn nhlodi a gormes y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Dengys hefyd sut roedd yr ymwybyddiaeth genedlaethol wedi deffro yng Nghymru pan oedd “ovn gwg arlwyddi tiriog vel hunlle dawedog dros y wlad” chwedl Lewis Jones, y llenor a oedd eisoes wedi danfon adroddiadau gorganmolus o dir Patagonia i Gymru (gweler Hanes y Wladva Gymreig, Lewis Jones, 1898).  Meddai yntau bod adfywiad llenyddol a chrefyddol ar gerdded trwy Gymru, ac ysbryd anturiaeth a masnach wedi ei ddeffro yn y wlad, a bod y rhyfel cartref yn yr Unol Daleithiau wedi “llwyr ddefroi ‘y gydwybod Ymneillduol’ Gymreig i’w seiliau” a hyn yn dir ffrwythlon i’r deffro cenedlaethol.  Dyma’r barodi:

“Sais mawr, yr hwn wyt yn byw yn Llundain, mae arnaf ofn dy enw; mewn dyled mae’th deyrnas: bydded dy ewyllys yn Nghymru fel y mae yn Lloegr.  Dyro i ni ddigon o lafur a lludded: a maddeu i ni oherwydd lleied ein cyflogau ein bod yn methu talu ein dyledion: nac arwain ni i annibyniaeth, eithr gwared ni rhag y Gwladfawyr: canys eiddo ti yw Prydain, a’i gallu, a’i chyfoeth, a’i gogoniant yn oesoesoedd.  Amen.”

Ond druan â Dafydd Williams. Mae ei hanes yn haeddu ffilm neu nofel.  Mae sôn amdano yn Hanes y Wladfa Gymreig, (1894), gan y Parch Abraham Matthews, un o sefydlwyr y Wladfa.  Wedi disgrifio’r fordaith i Ariannin yn fyw iawn, rhydd hanes Dafydd Williams y prynhawn y glaniwyd ym Mhorth Madryn.  Mae’n amlwg iddo, mewn brwdfrydedd i weld y wlad newydd, ddringo’r bryn ger y môr, “er mwyn edrych beth a welai, ond ni ddychwelodd byth yn ôl.  Y tebygolrwydd ydyw iddo fyned dros y bryn, a cholli ei olwg ar y mor, a dyrysu, a cholli ei gyfeiriad, a theithio nes myned yn rhy wan, a marw o newyn.  Cafwyd gweddillion o’i esgyrn, a rhanau o’i ddillad, yn nghyda darnau o bapyrau heb fod yn mhell o ddyffryn y Gamwy yn mhen llawer o flynyddau…”

Mater arall diddorol yw’r gwahaniaethau yn hanes sefydlu’r Wladfa a geir yn llyfrau’r ddau Abraham Matthews a Lewis Jones, a’r anghydweld difrifol a fu rhyngddynt.

Beth yw’r gwaddol a adawyd i’r genhedlaeth hon o Gymry ac o Americaniaid Cymreig?  Y dyheadau a’r breuddwydion a’r chwalu gobeithion, o bosib.  Rhan o’r gwaddol yw’r cynnyrch ysgrifenedig.  Mae rhai o’r llyfrau a ysgrifennwyd gan y Cymry ymfudol yn hynod o ran y manylion a geir am fywyd y Cymry a’u hamgylchiadau, o ran cefndir y cyfnod yn gyffredinol, ond hefyd o ran iaith.  Maent yn haeddu mwy na phwt o sylw ar ddiwedd ysgrif.  

Un llyfr o’r math hwn yw America a Gweledigaethau Bywyd, gan William D. Davies, 1894.  Roedd yntau wedi treulio deuddeng mlynedd yn crwydro’r cyfandir, o’r naill fôr i’r llall, yn gynrychiolydd y Drych ac mae rhan gyntaf ei lyfr yn llawn danteithion.  Â o’r naill dref i’r llall gan nodi’n fanwl nifer y capeli Cymraeg a’u henwadau, a sôn am y Cymry amlwg.   Cawn ddarlun o fwrlwm y bywyd Cymraeg, er ei fod eisoes yn dechrau edwino erbyn hyn.  Disgrifia’r modd y cynigiodd yn wylaidd ei waith barddol ei hun i Aneurin Jones gael golwg arnynt, “cefais y llew mawr fel oen, ac yn siriol a chroesawus” a phan gynigiodd iddo’i lyfr atebodd hwnnw, “O, mi a brynaf dy lyfr am ei fod yn llyfr Cymraeg, pe na byddai dim teilyngdod ynddo.”  Edmygai William Davies awdurdod rheolwr parciau Efrog Newydd dros ei weithwyr, “dywed Mr Jones wrth Pat, ‘Dos,’ ac efe a ä; ac wrth Martin, ‘Gwna hyn,’ ac efe a’i gwna.” Disgrifia wedyn gyflwr alcoholig rhai o Gymry ardal Granville, “Trueni oedd gweled llawer o blant y breintiau mawr, yn grefyddwyr, beirdd, lenorion, &c., yn gaethion gwirfoddol ac yn rhwym wrth gadwyni eu blys, o gwmpas temlau yr High License.” 

Mae ei ddisgrifiadau o’r wlad a’r trefi hefyd yn ennill gwerth wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, yn enwedig ei sylw i Chicago, a oedd er yn ifanc “yn ganolbwynt i 76,865 o gledrffyrdd, a 37 o wahanol ffyrdd haiarn mawrion”.  Caiff y ddinas sylw manwl am ei bod yn gartref i Ffair y Byd, 1893, a chawn fanylion yr eisteddfod fawr a gynhaliwyd yno, y pwyllgorau a’r cystadlu, y paratoi a’r dadleuon ariannol ganddo’n hwyliog.  Dyma uchafbwynt bywyd Cymraeg America ar un wedd.  Dyma hefyd oedd ei gân ffarwel.

            Un o’r llyfrau gorau yw Dros Gyfanfor a Chyfandir: sef Hanes Taith o Gymru at lanau y mor tawelog ac yn ôl gan William Davies Evans (1883).  Hyd y gwn i, dyma’r llyfr taith cyntaf yn y Gymraeg, ac un o’r goreuon hefyd.  Cafodd ei gyhoeddi ryw bum mlynedd cyn llyfrau taith O.M. Edwards. Ceir ganddo hanes ei daith ei hun, gan ddechrau gyda nifer o Wyddelod yn chwydu  ar fwrdd y llong, “pob un yn y fan y dygwyddai fod yn taflu allan gyda ffyrnigrwydd yr hyn ychydig yn flaenorol a gymerwyd i fewn gyda phleser”.  Gwelir dolffiniaid yn y môr, “Creaduriaid teneu-lydain, penfain, cynffon-fain, llwyd-felynion” ac yna cyrhaeddir Long Island a cheir disgrifiad manwl o Efrog Newydd, lle mae’r heolydd “yn rhedeg yn gydbellochrog, ac eraill yn eu croesi yn gyfonglog”.  Mae “rheilffyrdd dyrchafedig” y ddinas yn tynnu ei sylw, cyn iddo ddal y gerbydres a theithio ar hyd afon Hudson, sy’n dal yn daith drên hynod ddymunol, gyda llaw.  Disgrifia wedyn nifer o’r trefi lle ceid nifer sylweddol o Gymry, a sôn am Utica fel Athen Cymry America, am mai yno y cyhoeddid Y Drych, Y Cyfaill, cylchgrawn y Methodistiaid, a’r Wawr, cylchgrawn y Bedyddwyr.  Manylir ar y diwydiannau lle gweithiai’r Cymry, a noda bod Cymry ardal Danville mor hyddysg yn yr Almaeneg a’r Saesneg am fod yno gynifer o ymfudwyr Almaenig. 

            Mae’r awdur yn cael blas ar gynnig disgrifiadau swynol o’r wlad, a hwnt ac yma ddehongliadau digon doniol o enwau Indiaidd, er profi eu bod yn disgyn o hil Madog. 

            Un o’r darnau mwyaf cyffrous ganddo yw ei atgofion am daith drên yn ystod y Rhyfel Cartref.  A’r wlad yn ulw, ymosodid ar y trenau, ond dihangodd yntau o drwch blewyn mewn trên cynnar gyda chwmni o filwyr, a hwythau’n dwyn bwydydd oddi wrth Negroaid, yn lle’u prynu.  Un noson disgwylid y Cadfridog Sherman, ac yntau wedi mynd a’i holl filwyr i Atlanta… wel, stori arall yw honno, ond mae’n amheuthun cael yn y Gymraeg olwg llygad-dyst o’r rhyfel hwn.

            Mae’n teithio wedyn i Missouri, ac yn y pen draw cyrhaedda Santa Fe, a ddisgrifir ganddo’n fywiog.  Yn y rhan hon o’r wlad honna eto bod geirfa’r Indiaid yn adlewyrchu’r Gymraeg.  Pwy all wadu nad Llan-copa yw Tlacopan a Llan-bellaf yw Tlapallan?  Cyrhaedda Califfornia ar ben pella’r cyfandir, cyn dychwelyd i Philadelphia.  Yn goron ar y cyfan mae engrafiadau hardd o’r wlad, ac un o’r awdur ei hun yn eistedd yn fyfyrgar wrth fedd ei deulu.

            Dyma gau clawr ar Gymry’r gorffennol.  Er na chafodd breuddwydion y Cymry eu gwireddu, fe dâl i ni gofio’r ymdrech, a deall yr un pryd sut mae eu profiadau nhw’n rhan o’n hanes ninnau.  Nid yw hi chwaith yn rhy hwyr i ddeffro Cymreictod y genhedlaeth hon o Americaniaid Cymreig a rhoi iddynt rôl ym mharhad ein Cymreictod bregus ni.  Mewn cerdd i Gymry Philadelphia mae Iwan Llwyd yn honni mai ofer bellach yw hiraethu am y gorffennol coll;  ni allwn ni ond ymateb i America heddiw, yn wych, yn wael.  Y gofid pennaf yw gweld y newidiadau diwylliannol a ieithyddol sydd ar waith yng Nghymru, a gweld Cymru’n Americaneiddio’n ddi-ben-draw.  Hunllef  fyddai hynny. Pwy a ŵyr ai’r iaith fydd prif symbol a sail ein cenedligrwydd yn y dyfodol?  Am y tro, boed hanes yn rhybudd hefyd.

Heini Gruffudd