Cofio’r Shoah

SUT DYLEN NI GOFIO’R SHOAH?

(Ysgrif i Golwg360, 27 Ionawr 2022)

Llofruddiodd yr Almaen chwe mil o Iddewon, a miliynau eraill, gan greu uffern ar y ddaear, dim ond ryw dair cenhedlaeth yn ôl. 

Wrth gwrs, i’r Prydeiniwr hunangyfiawn, y nhw wnaeth hyn, yr Almaenwyr atgas.  Ond os crafwch y Prydeiniwr, a welwch wrth-Iddewiaeth yn agos at y croen? Crafwch y Cristion, a welwch yr un modd?  I ni sy’n canu’n soniarus mewn gwasanaethau Plygain, cyn cael ein swper, fe ganwn mai’r  Iddew laddodd Crist.  Dyna’n gosod yn yr un man â’r Natsïaid, a Martin Luther hefyd, a ddywedodd mai’r bedydd gorau i’r Iddew oedd un yn afon Elbe â charreg am ei wddf.

PROFIADAU’R TEULU

I’r rhai ohonom o dras rhannol Iddewig, mae’r cofio ar lefel bersonol.  Bu farw Käthe fy mam-gu yng ngwersyll Ravensbrück, i’r gogledd o Berlin, ryw gant ag ugain milltir o Wittenberg, lle y bu’r teulu, a Luther, yn byw.  Bernir bod hyd at 90,000 o fenywod a phlant wedi marw yno, yn y gwersyll a gychwynnwyd gan Heinrich Himmler, ac yr elwodd Siemens o waith ei garcharorion. 

Bues i yno ryw dair neu bedair gwaith, a thorcalon yw’r unig adwaith posib. Mae’r cabanau gwaith yn dal yno, a rhai tryciau trên a fyddai’n dod â’r Iddewon ac eraill i Ravensbrück.  Ar un felly, mae’n siŵr, y cludwyd fy mam-gu o Leipzig ar y 1af o Dachwedd 1944. Bu farw yno ar yr 16eg o Ragfyr.

Meddwl wedyn am fy mam yn dygymod â gwladwriaeth a laddodd ei mam hithau. Y system yn lladd ei phobl ei hun, yn chwalu teuluoedd ac yn difa bywyd gwâr. Ar y pryd roedd dau frawd fy mam, Günther a Fritz, hefyd mewn gwersyll, yn Zöschen, a’u chwaer Dorothee wedi’i rhyddhau, trwy drugaredd, a hefyd fy nhad-cu, Paul.

FFOI I GYMRU

Trwy golli ei gwaith yn amgueddfa Eifftaidd Berlin, achubwyd fy mam, Kate, wrth iddi orfod ffoi.  Llwyddodd i gael lloches yn yr Alban, cyn symud i Brighton, Llundain, Rhydychen ac yna Gymru. Ychydig iawn y soniodd hi wrthon ni blant am y chwalfa yn ei byd; prin y siaradodd am greulondeb y rhyfel, fwy nag y gallai Iddewon y gwersylloedd siarad am eu profiadau, am ryw hanner can mlynedd.

Ffawd fy mam oedd cwrdd â ’nhad yn Rhydychen, priodi’n sydyn ar gychwyn y rhyfel a symud i’r Rhondda, lle y cafodd groeso Cymreig y cwm a’r capel, a dysgu’r Gymraeg.  Ymdaflodd i’r gymdeithas, ac agorodd ei haelwyd i deulu clos fy nhad, Gwyn, a’i gyfeillion mynwesol e, Pennar Davies a Rhydwen Williams, a chael modd i fyw o’r newydd.

DYSGU AM Y GORFFENNOL

Dim ond wrth i ni dyfu y daethon ni’n fwyfwy ymwybodol o fanylion ein cefndir. Erbyn hynny roedd dau frawd fy mam wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus.  Daeth Günther yn feddyg yn ne Sweden, a Fritz yn ddyfeisiwr peiriannau amaethyddol yn ngogledd yr Almaen, ar ôl ffoi o ddwyrain y wlad.

Tynhaodd eu profiadau gwlwm y teulu, ond daeth trobwynt i’m gwybodaeth pan gefais gais gan Günther, brawd fy mam, i fynd ato yn Sweden.  Treuliodd sawl noson yn sôn am ei brofiadau e a Fritz, digwyddiadau’r rhyfel ac amgylchiadau ei deulu.  Kristallnacht, pan ymosodwyd ar gartref ei ewythr, Hans, a’i garcharu ef  yn Buchenwald, cyn iddo yntau ffoi a threulio cyfnod y rhyfel yn Shanghai. Tristwch ei chwaer yntau, Eva, a’i lladdodd ei hun, a hithau’n briod â chadfridog, Willibald Borowietz (Googlwch e), er mwyn arbed ei phlant rhag y Natsïaid.

Rhoddodd Günther imi lu o lythyrau’r teulu, a dogfennau’n cofnodi profiadau’r cyfnod, a daeth y rhain yn sail i’r llyfr Yr Erlid.  Daeth yn ddyletswydd cofnodi hanes y teulu, hanes yr erlid ar y naill law, ac yna sut roedd gan y goroeswyr yr ewyllys i fyw ar ôl  trychinebau. Yn ddigon rhyfeddol, daeth fy mam yn nofelydd Cymraeg ac yn sylfaenydd amgueddfa Eifftaidd yn Abertawe.

Mae cofio’r Shoah i ni fel teulu’n gofio personol. Ond sut dylai rhai heb gefndir tebyg gofio?

GWLAD YN TROI’N ANWAR

Mae un peth yn amlwg: mae angen i bawb yn Ewrop gofio hil-laddiad yr Iddewon, a sut y llofruddiwyd y gwan, y Sipsiwn, Comiwnyddion a lleiafrifoedd eraill. Mae angen gwybod a chofio hyn er mwyn deall pa mor hawdd y mae gwlad wâr yn gallu troi’n gwbl anwar.  Does dim un wlad yn Ewrop yn fwy cyfoethog na’r Almaen o ran cerddoriaeth, llenyddiaeth, athroniaeth a dyfeisgarwch.  Ond tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd efelychu arferion imperialaidd  gwledydd pwerus Ewrop. Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, rhyfel rhwng y gwledydd imperialaidd a theuluoedd brenhinol Ewrop, cafodd yr Almaen ei chosbi’n llym yn economaidd, a daeth chwyddiant, tlodi a diweithdra’n dir ffrwythlon i wleidyddiaeth boblogaidd ac eithafol. Buan y daeth Hitler yn bennaeth trwy gynnig gwaith, a thrwy gasineb hiliol.

EIN MASNACH ARFAU

Beth amdanon ni yng ngwledydd Prydain heddiw? Ydyn ni mor rhydd â hynny o gasineb hiliol? Ydy’n gwleidyddion wedi ceisio poblogrwydd trwy ddulliau rhyfel? Beth oedd ein rhan yn rhyfel Irác, pan laddwyd rhyw 100,000 o ddinasyddion, wedi i Blair ddilyn celwyddau’r Americaniaid?  Yna Libya?  Ac Affganistán? Bernir bod rhyw 150,000 o ddinasyddion wedi marw yno.   

Yn y deng mlynedd diwetha mae Prydain wedi gwerthu gwerth tua £17 biliwn o arfau i wledydd sy’n torri hawliau dynol sylfaenol, gan gynnwys Bahrain, Qatar, Saudi Arabia a Thwrci.  Mae arfau Prydain wedi’u defnyddio gan Saudi Arabia yn Yemen.   

Prydain yw’r allforwr arfau ail fwyaf yn y byd.  Ers 2010 enillodd Prydain werth £100 biliwn o gontractau arfau, a’r llywodraeth yn brolio ein bod wedi ennill y blaen ar Rwsia a Ffrainc fel gwerthwyr arfau.

EIN HYMATEB NI

Oes unrhyw un ohonon ni’n codi bys bach yn erbyn hyn, fwy nag y gwnaeth y rhan fwyaf o boblogaeth yr Almaen yn erbyn y Natsïaid?  Cau ein llygaid, a byw’n gysurus, dyna wnawn ni.

Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ein beirniadu ni’n hallt am adael i hyn ddigwydd, am adael i’n heconomi flodeuo trwy fasnach lofruddio, yn union fel yr ydyn ni’n awr yn beirniadu’r rhai a ymgyfoethogodd trwy’r fasnach gaethweision.  Pa ddiben dymchwel cerfluniau cyfoethogion y fasnach honno, os ydyn ni’n fud am y fasnach arfau uffernol?

Beth yw effaith y rhyfeloedd sy’n cael eu hymladd gyda’n harfau ni? Nid lladd yn unig, ond creu miliynau’n ddigartref, a pheri bod miliynau ar ffo. A dyma ni wedyn yn rhan o wladwriaeth sydd am ddefnyddio llongau arfog i gadw trueiniaid o ffoaduriaid mewn cychod rwber bregus i ffwrdd o’n glannau. Gwae ni.

Rydyn ni i gyd yn awr yn rhan o gyfundrefn sy’n creu uffern ar y ddaear.  Ond onid ar y ddaear mae creu teyrnas nefoedd?  Gallwn gychwyn creu honno trwy gofio’r Shoah, cofio sut roedd gwlad wedi troi ei phobl yn llofruddion, dod wyneb yn wyneb â dioddefaint, deall gwersi caled, a deffro yr un pryd i’r gyfundrefn rydyn ni’n rhan ohoni.

Heini Gruffudd

27 Ionawr 2022, diwrnod cofio’r Shoah