Dealltwriaeth o iaith ac oed darllen

Dealltwriaeth o iaith  ac oed darllen

Cyflwyniad

                Y nod yn y sylwadau hyn yw rhoi sylw i rai agweddau ar gyfathrebu’n ddealladwy.  Mae dau anhawster yn wynebu rhai sy’n cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, anawsterau nad ydyn nhw mor amlwg, efallai mewn ieithoedd eraill.  Amrywiaeth helaeth ffurfiau’r Gymraeg yw’r naill anhawster, ac amrywiaeth helaeth yn nealltwriaeth y ddarpar gynulleidfa o’r iaith yw’r llall.

                Byddwn yn nodi’r angen am ddefnyddio ffurfiau ar gystrawen, gramadeg a geirfa’r  iaith lafar yn ei hamrywiol agweddau, gan fod gramadeg Cymraeg safonol yn fwy gwahanol i’r iaith lafar na’r sefyllfa gyfatebol yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd. Fe sylwn sut mae gramadeg y Gymraeg, fel ieithoedd eraill, yn ramadeg llenyddol yn hytrach nag yn ramadeg llafar.

                Wedi dweud hyn, gwelir bod y gynulleidfa Gymraeg yn dra amrywiol o ran ei  dealltwriaeth o’r Gymraeg, ac mae hyn yn dibynnu ar y llu o ffactorau ieithyddol-gymdeithasol sydd ar waith yng Nghymru.  Yna gwelir sut mae’r meysydd a drafodir yn amrywio’n fawr o ran yr iaith a gysylltir â nhw.  Mae hyn oll yn effeithio ar wahanol agweddau ar ddealltwriaeth o iaith.

                Yn olaf cynigir rhai sylwadau ar addasrwydd yr iaith a ddefnyddir, a chynigir rhai fformwlâu cyfleus o sicrhau bod y deunydd a gyfathrebir yn anelu at gynulleidfa briodol.

Iaith safonol?

                Y pwynt cyntaf y mae’n rhaid ei gydnabod yw bod Cymraeg safonol, neu Gymraeg llenyddol, fel y’i gelwir hi weithiau, yn un ffurf yn unig ar y Gymraeg.  Nid yw hi ond yn ddisgrifiad o un dull o ddefnyddio’r Gymraeg, sef y dull ysgrifenedig.

                Mae cymdeithasegwyr iaith ers tro wedi derbyn y syniad bod gan iaith sawl ffurf, sy’n cynnwys ffurf lafar, ffurfiau tafodieithol, a newidiadau iaith yn ôl cywair.  Diolch i Robert Owen Jones am roi inni yn y Gymraeg, o’r diwedd, drafodaeth ar y maes hynod ddiddorol hwn.[1]

                Mae modd llunio tabl syml i nodi rhai o wahanol agweddau’r Gymraeg:

                                                 Cymraeg

               safonol     cymdeithasol/rhanbarthol

ysgrifenedig llafar llafar

geirfa/gramadeg geirfa/gramadeg geirfa/gramadeg

system ysgrifennu             cynaniad (acen)        cynaniad (acen)

sillafu, atalnodi                                                          rhanbarthol

                                        CC       rhanbarthol                                                               

(Yn y tabl hwn, dynoda CC y Cynaniad Caffaeledig, sef y cynaniad a dderbynnir fel un diranbarth mwyaf cyffredin, er nad yw hyn, chwaith yn ddiacen.)[2]

                I ddarlunio’r gwahaniaeth rhwng cystrawen safonol ysgrifenedig a lled safonol, cystrawen lafar safonol, led safonol, a thafodieithol, ystyrier un enghraifft, sef person cyntaf presennol negyddol ‘gwybod’:

                Nid wyf yn gwybod

                Ni wn

                Wn i ddim

                Dydw i ddim yn gwybod

                Dw i ddim yn gwybod

                Dw i ddim yn gwbod

                Wi ddim yn gwbod

                Fi ddim yn gwbod

                Sai’n gwbod

                S’mo fi’n gwbod

                Mbo

                Gellir ymhelaethu.

                Y gwir amdani, wrth gwrs, yw ei bod hi bron yn amhosibl, hyd yn oed i rai â gradd yn y Gymraeg, ysgrifennu’n gwbl gywir yn ôl safonau’r gramadegau. O ran iaith lafar safonol, mae’n amheus iawn a ydym erioed wedi creu’r fath beth.  Dyw hyn ddim yn beth anarferol.  Medd Francesc Vallverdú mewn trafodaeth ar Gatalaneg ar y teledu nad oes y fath beth yn bod â Chatalaneg safonol.[3]  Mae dyddiau Cymraeg safonol y pulpud (a oedd beth bynnag ond yn un cywair  o Gymraeg safonol) wedi hen fynd heibio.  Derbyniwyd yn lled gyffredin mai rhyw ffurf safonol heb fod ymhell o’r iaith ysgrifenedig yw’r ffurf safonol y dylai pob siaradwr anelu ati.  Canlyniad hyn yw peri i siaradwyr Cymraeg naturiol ledled Cymru gredu bod eu hiaith yn israddol, ac mae teimlad o israddoldeb iaith wedi bod yn gyffredin, yn enwedig yn y de.[4]  Mae rhai rhaglenni teledu, fel Heno wedi ceisio ymateb i’r diffyg hyder yma, ac mae’n rhaid canmol yr ymdrech.  Gwaetha’r modd, penderfynodd Heno ddefnyddio Cymraeg llafar carbwl, heb sylweddoli bod hyn ynddo’i hun yn debyg o bwysleisio natur fratiog iaith lafar, ac o gynyddu’r diffyg hyder ieithyddol.  Mae’n amlwg ei bod hi bellach yn hen bryd derbyn bod angen safonau llafar ar ein cyfryngau torfol.

                Nid yw hyn yn gyfystyr â gwadu cyfraniad John Morris-Jones a gramadegwyr a phwyllgorau orgraff ar ei ôl at y broses o greu Cymraeg safonol yn ffurf a dderbynnir ledled y wlad.           Mae hi’r un mor deg sylweddoli, fodd bynnag, fod yr iaith safonol sydd gennym yn lled bell oddi wrth yr iaith a arferir gan bobl ar lafar.  Roedd O.M. Edwards yn ymwybodol o hyn yn ei gyfnod ei hun, gan ymosod ar “arddull chwyddedig, afrosgo, anaturiol yr oes” o’i chymharu ag “arddull fyw, eglur y Mabinogion”. Rhydd y bai ar “y beirdd a phobl y papurau newyddion”. [5]  Roedd John Morris-Jones yn cydnabod hyn.  Meddai ar ddechrau ei Welsh Grammar,

                “Late Modern Welsh is more artificial, and in some respects further removed from the spoken language, than Early Modern Welsh, owing largely to the influence of false etymological theories”.[6]  Ei nod wrth lunio gramadeg i’r Gymraeg oedd ceisio pennu ffurfiau traddodiadol yr iaith lenyddol ar sail gweithiau Dr John Davies (1621), Zeuss (1853) a Strachan (1909).  Mae ymgeisiadau i sefydlu Cymraeg Byw fel gramadeg cychwynnol i ddysgwyr, a’r modd y gwrthodwyd Cymraeg Byw gan lunwyr cyrsiau Wlpan, a’i disodli gan ffurfiau mwy llafar, yn brawf o gymhlethdod ac o amrywiaeth y Gymraeg.

                Y mae’n ffaith anffodus bod Cymraeg llafar yn  dra gwahanol i Gymraeg y gramadegau llenyddol.  Barn Pilch yw bod y gwahaniaethau cystrawennol rhwng Cymraeg llafar a Chymraeg llenyddol yn ei gwneud yn arbennig yn Ewrop.[7]  Mae John Edwards,[8] y cymdeithasegydd iaith, yn nodi bod gwahaniaeth cynyddol rhwng yr iaith safonol a’r iaith lafar yn un o arwyddion gwanhad iaith leiafrifol ac mae sylw Pilch, felly, yn destun pryder i rai sy’n ymwneud â brwydr parhad y Gymraeg. 

                Ers yr ail ryfel byd, cafwyd nifer helaeth o ymdrechion i ailddiffinio gramadeg y Gymraeg, ac mae ymdrechion diweddar yn rhoi pwyslais cynyddol ar agweddau o’r iaith lafar. Roedd Elfennau Gramadeg Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1959) yn waith safonol am flynyddoedd lawer, ond mae gramadegwyr diweddar, gan gynnwys Peter Thomas a David Thorne yn rhoi sylw mwy manwl o lawer i’r iaith lafar.[9] 

                Wrth geisio deall pa fath o Gymraeg y dylid ei defnyddio er mwyn iddi gael ei deall gan wylwyr a gwrandawyr, mae angen gofyn eto rai cwestiynau sydd eisoes wedi cael eu hwynebu gan lunwyr Cymraeg Byw ar eraill:

                1)            Pa wahaniaethau cystrawen a geirfa sylfaenol sydd rhwng Cymraeg llafar safonol (beth bynnag yw honno)  a Chymraeg llenyddol?

                2)            Pa wahaniaethau sydd rhwng cystrawen a geirfa Cymraeg llafar safonol a thafodieithoedd? 

                3)            Pa gystrawennau yw’r mwyaf dealladwy/cyffredin?

                4)            Pryd dylid defnyddio’r gwahanol ffurfiau ar y Gymraeg: y ffurfiau llenyddol, llafar safonol, ‘Byw’, a thafodieithol?

Dealltwriaeth y gynulleidfa

                Yr ail anhawster yw dealltwriaeth y gynulleidfa o’r iaith.  Mae astudiaethau o siaradwyr Cymraeg yn nodi’n gyson bod gwahaniaeth rhwng nifer y siaradwyr Cymraeg a nifer y darllenwyr,[10] ac mae hyn yn awgrymu gwahaniaethau mawr mewn lefelau llythrennedd a lefelau dealltwriaeth yn sgil hynny.  Mae nifer y Cymry llythrennog dipyn yn llai na’r hanner miliwn sy’n honni eu bod yn isarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad.

                Ar y llaw arall, ymddengys bod y nifer sy’n gallu siarad ychydig o Gymraeg, ac o’r herwydd yn gallu deall tipyn o’r iaith, mor uchel â 930,200.[11]  Gellir tybio, yr un modd, bod cryn wahaniaeth rhwng gallu siaradwyr a dysgwyr i ddeall gwahanol lefelau o ddefnyddio iaith.  Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor, a’r rhain yn cynnwys cefndir iaith y cartref a’r gymuned, y peuoedd y defnyddir y Gymraeg, a lefel addysg yn y Gymraeg.

                Mae hi’n brofiad digon cyffredin i siarad yn Gymraeg ag athro coleg, dyweder, ac i ddarganfod mai Cymraeg plentyn wyth oed sydd ganddo. Byddai Cymraeg y person hwnnw wedi gorffen datblygu pan fyddai wedi cychwyn ar addysg Saesneg amser llawn.

                Yn yr un modd mae Cymraeg llawer o siaradwyr yn gorffen pan fônt yn un ar ddeg oed.  Mae astudiaeth sydd ar waith gennym ar hyn o bryd yn rhoi tystiolaeth ddigon dychrynllyd o sut y gall hyn ddigwydd.  Yn nyffryn Aman, dim ond rhyw ddeg y cant o’r plant sy’n derbyn rhyw gymaint o’u haddysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg, er bod mwy na 50% ohonynt yn gallu siarad Cymraeg.  Yn y dyfodol bydd eu Cymraeg hwy’n dal yn Gymraeg plant un ar ddeg oed, neu waeth.

                Gall yr un math o ddiffyg datblygu ddigwydd i ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion dwyieithog.  Os yw’r ysgol ddwyieithog a fynychant yn dysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Saesneg, mae’n bosibl ddigon i ddisgybl dderbyn y rhan fwyaf o’i addysg trwy gyfrwng y Saesneg, a dyna ddiwedd eto ar ddatblygiad ei allu yn y Gymraeg.  Roedd hyn yn ffenomen amlwg pan oeddwn yn athro yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.  Cosbid disgyblion yno am geisio dilyn cyrsiau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai hi’n brofiad cyffredin i ddisgybl astudio pob pwnc heblaw am y Gymraeg trwy gyfrwng y Saesneg hyd at 16 oed a phob pwnc trwy gyfrwng y Saesneg wedi hynny.

                Mae’r diffyg datblygu’n parhau wrth i ddisgyblion adael yr ysgol.  Mewn byd lle mae’r Saesneg wedi dod yn brif iaith, ac yn unig iaith, y rhan fwyaf o beuoedd, ni chaiff y Gymraeg ei datblygu’n iaith y peuoedd hynny.

                Mae hyn yn sicr wedi bod yn wir ym mheuoedd masnach a busnes, addysg uwch, gweinyddiaeth, gwleidyddiaeth a llywodraeth.

                Pan fo siaradwr Cymraeg wedi cyfyngu’r defnydd o’i iaith i’w gartref, y mae’n debyg y bydd dipyn yn fwy cyfarwydd â ffurfiau tafodieithol, ac yn anwybodus o gystrawennau ac o eirfa ‘safonol’. 

                Gellir nodi’r canlynol fel ffactorau sy’n effeithio ar allu ieithyddol unigolyn: rhyw, oed, lleoliad daearyddol, dosbarth cymdeithasol, diddordeb diwylliannol, rhwydweithiau cymdeithasol, cysylltiadau â byd crefydd, gwaith ac addysg. Gellir hefyd ychwanegu yr hyn a elwir yn ideolect, sef patrwm iaith yr unigolyn ei hun.  Mae hwn yn amrywiol ac unigryw.

                Mewn astudiaeth a wnaed yn Adran Addysg Oedolion Prifysgol Cymru Abertawe, ymhlith pobl ifanc 16-17 oed,[12] dyma oedd y ffactorau mwyaf perthnasol wrth bennu eu dewis iaith:

Hyder / diffyg hyder mewn llythrennedd ieithyddol          (pwysau o 48.1%)

Defnyddio’r Gymraeg / Saesneg â ffrindiau                                           (pwysau o 41.5%)

Rhieni’n siarad Cymraeg/Saesneg â’u plant                                           (pwysau o 41%)

Gallu / anallu academaidd yn y Gymraeg                                     (pwysau o 31.1%)

Mynychu addysg 16+ Gymraeg/Saesneg                                (pwysau o 18.7%)

Byw mewn ardal Gymraeg/Saesneg                                    (pwysau o 17.4%)

Gallu / anallu academaidd cyffredinol                                     (pwysau o 16.2%)

Merched / bechgyn                 (pwysau o 8.3%)

Dosbarth canol / gweithiol   (pwysau o 6.6%)

                (Mae hi’n galonogol nad yw perthyn i ddosbarth cymdeithasol yn ddylanwadol iawn, ond gwelir yma’n gryf bwysigrwydd cartref Cymraeg, a rhwydwaith cyfeillion Cymraeg ac addysg Gymraeg.)

Meysydd defnyddio iaith

                Yn yr un modd ceir meysydd trafod sy’n amrywio o ran eu cysylltiad â’r iaith.  Y duedd yn aml mewn ieithoedd bach yw bod meysydd y cyweiriau is yn gysylltiedig â’r iaith leiafrifol, sef sgyrsio rhwng cyfeillion a’r teulu, tra bo meysydd cyweiriau uwch yn gysylltiedig â’r iaith ormesol.[13]  Gallai’r meysydd hyn gynnwys masnach a busnes, gwleidyddiaeth, materion y dydd, trafod ffilmiau a’r teledu ac yn y blaen.

                Yn yr astudiaeth uchod gwelwyd y cysylltiad rhwng gwahanol feysydd â iaith wrth i’r atebwyr nodi pa iaith oedd orau ganddynt wrth eu trin.  Nodir  yma’r canrannau’r atebwyr a ffafriai’r Gymraeg neu’r Saenseg, wrth drin gwahanol feysydd.  Rhai yr un mor gartrefol yn y ddwy iaith sydd yn y golofn ganol:

Maes` Gwell yn Gymraeg :Dim gwahaniaeth :Gwell yn Saesneg

Cerddoriaeth roc     4.9                          20.7                        74.4 Rhyw                          4.3                          31.9                        63.8

Cellwair                      6.1                          33.4                        60.4

Gwaith ymarferol – bechgyn   3.3        36.2                        60.2

Teledu a ffilm      5.2                          35.6                        59.1

 Caru                 8.2                          37.7                        54.1

 Trafod bywyd        10                           38.3                        51.4

Swyddi a busnes     10.3                        42.6                        46.8 Llenyddiaeth            16                           41.3                        42

Materion y dydd    11.9                        48.6                        39.3 Gwaith ymarferol – merched 3.1     8.6                        37.9

Chwaraeon             8.5                          61.4                        30.1

Gwaith coleg         22.2                        48.3                        29.5

Crefydd                 28.9                        42.2                        28.9 Cyfarch                   19.5                        53.8                        26.3

                Mae hi’n glir, yn ôl y rhestr hon, bod gwaith mawr i’w wneud i Gymreigio nifer o’r meysydd mwyaf pwysig i bobl ifanc, a meysydd sy’n gysylltiedig â chanolfannau rhwydweithio a rhyngbersonol allweddol, sy’n sail i’r broses o drosglwyddo iaith mewn cartrefi.

                Byddai cwestiynau sy’n codi o astudio dealltwriaeth pobl o’r Gymraeg yn cynnwys y canlynol:

                1)            Beth yw cefndir iaith eu cartref?

                2)            Beth yw lefel eu haddysg yn y Gymraeg?

                3)            Pa beuoedd y maent yn gyfarwydd â hwy yn y Gymraeg?

                4)            Pa feysydd a drafodir ganddynt yn y Gymraeg?

                5)            Beth yw eu diddordebau diwylliannol a chrefyddol?

                6)            Beth yw eu dosbarth cymdeithasol?

                7)            Beth yw eu cysylltiad â’r iaith yn y gymdeithas?

                8)            Pa ddylanwadau eraill sydd ar yr unigolyn, e.e. rhieni (yn drwm

                                fel arfer hyd 4 oed), cyfoedion (yn ddylanwadol hyd 14 oed),

                                ac oedolion, neu’r gymdeithas (yn ddylanwadol wedi 14 oed).

Addasrwydd iaith

Mae Robert Owen Jones yn nodi’r cysylltiad cymhleth rhwng cyfathrebu ar lafar a chyfathrebu’n ysgrifenedig, gan nodi’r gwahaniaethau rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig, rhwng y naturiol a’r gofalus ar lafar, a’r gwahanol gyweiriau wrth ysgrifennu.

                 Mae’n amlwg bod angen defnyddio iaith addas ar gyfer y sefyllfaoedd gwahanol, yn ôl y maes a drafodir a’r cywair addas.

                Wrth benderfynu ar y dewis gorau o gystrawen ar gyfer cyfathrebu llafar, gellir dadlau bod y ffurfiau canlynol wedi marw ar lafar fel ffurfiau cynhyrchiol, er enghraifft:

i)             Ffurfiau amhersonol y ferf

ii)            Ffurfiau 3ydd unigol presennol y ferf gryno

iii)           Ffurfiau cryno presennol yn gyffredinol

iv)           Y modd dibynnol

v)            Ffurfiau cryno’r gorberffaith

vi)           Ffurfiau cymaredig y rhan fwyaf o ansoddeiriau

vii)          Ffurfiau benywaidd ansoddeiriau

viii)         Ffurfiau lluosog ansoddeiriau

ix)           Cymalau enwol gorffennol

x)            Terfyniadau llenyddol berfau ac arddodiaid

xi)           Ffurfiau negyddol cryno’r ferf

                Cychwyn yn unig yw hyn.

                Dylid nodi hefyd, wrth gyfathrebu yn y Gymraeg, bod cyfieithu slafaidd o’r Saesneg yn aml yn rhwystr i ddealltwriaeth.  Nodaf rai gwahaniaethau gramadegol  fel enghreifftiau:

i)             Cymraeg: berfenw – Saesneg: enw haniaethol

                                (penodi staff – the appointment of staff)

ii)            Cymraeg: is-gymal – Saesneg: rhangymeriad berfol

                                (y bunt sy’n colli gwerth – the falling pound)

iii)           Cymraeg: brawddegau byr – Saesneg: brawddegau amlgymalog

iv)           ymadroddion ar sail berfau neu ansoddeiriau – ymadroddion ar sail enwau

                                (wrth ymateb i – in response to)

                Mae angen llunio llawlyfr ar  wahaniaethau iaith, a fyddai hefyd yn cynnwys rhestr waharddedig o ymadroddion a glywir heddiw’n aml ar y newyddion, e.e. “mewn gwrthdrawiad â”.

                Rhan angenrheidiol o’r broses o ddefnyddio iaith ddealladwy yw sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wedi ei seilio ar deithi’r Gymraeg ei hun.

Pennu oedran deall

                Mae Dewi Llwyd ac Urien Wiliam wedi dadlau dros ddefnyddio iaith lafar naturiol.[14]  A derbyn bod modd diffinio honno, mae rhai strategaethau eraill yn bod sy’n gallu hyrwyddo deall.

                Mae’r system addysg yn hen gyfarwydd ag asesu, ac mae’r syniad o bennu safon oedran ar gyfer unrhyw fedr yn rhan annatod o gynnydd disgyblion yng nghyfundrefn y cwricwlwm cenedlaethol. Caiff rhai cannoedd o brofion sy’n asesu darllen eu cofnodi gan Peter D. Pumfrey, yn Reading: test and assessment techniques.[15]  Oed medr disgybl yw “the average scores made by children of given ages.”[16]  Datblygwyd prawf o’r fath gan SCYA yn 1959,[17] ac mae SCYA a chyrff eraill wedi paratoi cryn ddeunydd ers hynny.[18]

                Syniad digon cyffredin yw pennu oed darllen plentyn. Wrth edrych ar hyn o safbwynt y deunydd yn hytrach na’r sawl sy’n cael ei brofi, mae modd wedyn nodi’n fras oed darllen y deunydd.   Mae cannoedd o fformwlâu ar gael sy’n rhoi modd o broffwydo pa mor anodd yw darn darllen,  ac mae Colin Harrison yn nodi nifer ohonynt.[19] 

                Cyn manylu ar y rhain, digon yw nodi canlyniad oed darllen peth o’r deunydd sydd ar gael yn y  cyfryngau Cymraeg a Saesneg.  Sampl bychan o ddeunydd a gymerais. Byddai angen arolwg tipyn yn fwy manwl i gael gwybodaeth fwy sicr, ond roedd y sampl bychan yn ddigon dadlennol:[20]

                                                            Oed

Sgyrsiau Post Prynhawn                14

Chwaraeon Post Prynhawn             15

Y Times                                                 17

Penawdau Post Prynhawn              17

Taflen Bwrdd yr Iaith i ieuenctid 18

Newyddion Post Prynhawn            18

Aled Gwyn yn holi                           20

Y Cymro (prif stori)                           20

Ysgrif gen i yn Barn                          19

Ail ysgrif gen i yn Barn                    13

                Prawf McLaughlin (SMOG) a ddefnyddiais i fesur yr uchod, am mai hwn oedd y symlaf, ond mewn cymhariaeth â phrofion eraill, gwelwyd bod tuedd ganddo i ychwanegu hyd at ddwy flynedd at y canlyniad disgwyliedig.  O’i gymharu ag wyth o brofion eraill, serch hynny, y prawf hwn yw’r symlaf i’w weinyddu, er mai cymedrol yw ei gywirdeb.

                Sail y rhan fwyaf o brofion yw cyfrif y nifer o eiriau unsill, deusill a lluosill, cyfrif nifer y brawddegau, a chyfrif nifer sillafau.  Ychydig o’r profion sy’n mesur elfennau ieithyddol, e.e pa mor gyfarwydd yw geiriau.  

                Yr hyn a wna fformwla SMOG (‘simple measure of gobbledegook’) McLaughlin (1969) yw cyfrif y nifer o eiriau lluosill (3 neu ragor o sillafau) mewn 30 o frawddegau.  Nid yw’r fformwla’n ymwneud yn benodol â hyd brawddegau, a nifer cymalau, ond byddai’r nifer o eiriau lluosill yn debyg o gynyddu po hwyaf yw’r brawddegau.

                Wedi cyfrif y nifer o eiriau lluosill (49, dyweder), cyfrifir ail isradd y rhif hwn (7 yn yr achos hwn), ac ychwanegu 3 i gael gradd Americanaidd, ac 8 i gael oed darllen yn Lloegr. 

                Ei fformwla, felly, yw:

                                8 + ail isradd P

(P = sgwâr perffaith agosaf y nifer o eiriau lluosill)

                Prawf syml, mwy amrwd, arall yw fformwla FORCAST (Sticht, 1973).  Mantais ac anfantais y fformwla yma yw nad yw’n cyfrif nifer y brawddegau.  Y cyfan a wna yw cyfrif y nifer o eiriau unsill mewn darn 150 gair.  Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth fesur darllenadwyedd hysbysebion neu ffurflenni.

                Dyma’r fformwla:

                Gradd Americanaidd = 20 – (NGU -:- 10)

(NGU = nifer geiriau unsill)

                Un o’r fformwlâu symlaf yw fformwla FOG Gunning (1952).  Yn fformwla FOG, (‘frequency of gobbledegook’) cyfrifir y nifer o eiriau lluosill mewn 100 o eiriau, fel hyn:

                Gradd Americanaidd = 0.4 x (GEIR/BRAW + % GLLS)

(GEIR/BRAW = nifer cyfartalog o eiriau y frawddeg

% GLLS = canran o eiriau lluosill)

                Oed darllen Lloegr = gradd Americanaidd + 5.

                Un o’r fformwlâu mwyaf adnabyddus yw un FLESCH (1948).  Rhoi sgôr o 100 oedd ei fwriad, yn hytrach na phennu oed darllen.  Byddai darn anodd yn rhoi sgôr llai na 50, ac un hawdd yn agosáu at 100.  Dyma’r fformwla:

Sgôr rhwyddineb darllen               = 206.835

                                                               – (0.846 x SILL/100G)

                                                               – (1.015 x GEIR/BRAW)

(SILL/100G = sillafau mewn 100 gair

GEIR/BRAW = nifer cyfartalog o eiriau y frawddeg)

                Defnyddia fformwla Dale-Chall (1948) restr o eiriau yn sail i broffwydo anawsterau geirfa.  Cafwyd rhestr o 3,000 o eiriau mwyaf cyffredin, a bu’n brawf dibynadwy iawn.

                Dyma’r fformwla:

                Gradd Americanaidd       = (0.1579 x canrad GEIRANGH)

                                                            + (0.0496 x GEIR/BRAW)

                                                            + 3.6365

(GEIRANGH = geiriau anghyfarwydd

GEIR/BRAW = nifer cyfartalog o eiriau y frawddeg)

                Oed darllen Lloegr = 5 + gradd Americanaidd

                Erys dwy fformwla arall sydd ychydig yn rhy gymhleth i fanylu arnynt yma. Mae Siart Mugford (1970) yn gynnrych blynyddoedd o ymchwil a phrofion dosbarth.  Y dull yw gosod y nifer o eiriau lluosill mewn un golofn, y geiriau unsill a deusill mewn colofn arall, a geiriau chwe llythyren a phum llythyren nad ydynt yn lluosill mewn dwy golofn arall.  Cyfrif wedyn y cyfansymiau perthnasol i ddarn o ysgrifennu, a’r nifer o frawddegau.  Mae siart Mugford wedyn yn trosi’r nifer sgôr y geiriau yn ôl nifer y brawddegau i indecs anhawster, o 7 i 20.

                Gyda Graff Fry (1977) mae angen defnyddio graff cromlin sy’n nodi nifer cyfartalog y brawddegau am bob 100 o eiriau ar un echelin a nifer cyfartalog y sillafau am bob 100 o eiriau ar echelin arall.  Rhydd y graff lefel gradd Americanaidd.  Rhaid, felly, gyfrif nifer brawddegau mewn darn 100 o eiriau, a nifer y sillafau mewn darn 100 o eiriau. Wrth roi dot ar y graff lle mae’r ddwy linell yn croestorri, gwelir y radd Americanaidd.  Unwaith eto, ychwanegir 5 i gael oed darllen Lloegr.

                Ar gyfer yr iaith Saesneg y paratowyd y profion hyn.  Mae anawsterau’n codi wrth drosi’r profion hyn i’r Gymraeg.  Cymerer, er enghraifft, y lluosog ‘-au’.  Er bod hyn yn ychwanegu at nifer y sillafau, nid yw, ar y cyfan, yn ychwanegu at yr anhawster deall.  Yn yr un modd, mae ffurfiau cryno Cymraeg yn gostwng nifer y sillafau, ond yn debyg o ychwanegu at lefel yr anhawster. Mae ‘saif’ yn debyg o fod yn anos ei ddeall na ‘sefyll’. 

                Mae ychydig o waith wedi ei wneud ar brofion yn y Gymraeg gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SCYA) sy’n paratoi profion asesu’r Gymraeg mewn ysgolion, ond nid yw profion o’r math wedi cael eu datblygu’n helaeth yn yr iaith.

                Mae Asiantaeth Pasg, sy’n gysylltiedig â’r Coleg Normal ym Mangor, yn defnyddio rhaglen gyfrifiadurol er mwyn mesur darllenadwyedd yn y Gymraeg ar gyfer profi disgyblion Cyfnod Allweddol 2, ac mae’r rhaglen hon wedi ei seilio ar Mugford.  Maent yn defnyddio’r rhaglen hon o ganlyniad i waith a wnaed gan Gareth Williams, prifathro ym Mhenmaenmawr, ar brofion Saesneg, i weld pa un fyddai fwyaf addas ar gyfer y Gymraeg, a phrawf Mugford oedd yr un gorau.[21]

                Mae’n amlwg bod angen ymchwil bellach  i ddatblygu dulliau o fesur darllenadwyedd a dealltwriaeth glywedol yn y Gymraeg.

                Mae angen i’r gwaith a wneir roi sylw i elfennau mesuradwy amlwg, sef hyd geiriau, nifer sillafau a nifer brawddegau, fel a wneir yn y profion Saesneg, ond mae angen hefyd ystyried ffactorau ieithyddol sy’n unigryw i’r Gymraeg, rhai nad ydynt yn cydymffurfio â mesuriadau syml o’r fath.

                Am y tro, serch hynny, byddai rhoi cynnig ar fesur amrwd SMOG o leiaf yn codi tipyn o’r niwl sydd ar hyn o bryd yn drwch dros fwletinau newyddion Cymraeg.

Heini Gruffudd

Prifysgol Cymru Abertawe

Ebrill 1997

Cyfeiriadau

Cylchlythyr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, rhif 7 a rhif 8.

Edwards, John yn Williams, Colin (gol.), Linguistic minorities: society and territory, Multilingual Matters, Clevedon, 1991.

Edwards, O.M., Tro yn Llydaw, Hughes a’i Fab, Wrecsam, 1921. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1888.

Evans, G.J., Prawf darllen brawddegau, SCYA, 1959.

Gruffudd, Heini, ‘Symleiddio: nid Seisnigo’, Barn, 401, Mehefin 1996, 22-3.

Gruffudd, Heini, Y Gymraeg a phobl ifanc, Prifysgol Cymru Abertawe, 1996.

Harrison, Colin, Readability in the classroom, Cambridge University Press, Caergrawnt, 1980.

Jones, Robert Owen, Hir oes i’r iaith, Gomer, Llandysul, 1997.

Morris-Jones, John, A Welsh Grammar, Oxford University Press, Rhydychen, 1913.

Perera, K., ‘Understanding language’, yn Neil Mercer (gol.), Language and literacy from an educational perspective, Vol. II, Open University Press, Milton Keynes, 1988, 99-122.

Pilch, H., ‘The syntactic study of colloquial Welsh’, Studia Celtica, 6, 1971, 138-157.

Pumfrey, Peter D., Measuring reading abilities, Hodder and Stoughton, Llundain 1977.

Pumfrey, Peter D., Reading: test and assessment techniques, Hodder and Stoughton, Llundain, 1985.

Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg…, Gwasg Taf, Caerdydd, 1989.

Thomas, Peter Wynn, Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996.

Thorne, David, Gramadeg Cymraeg, Gomer, Llandysul, 1996.

Vallerdú, Francesc, ‘The Catalan used on television’, Mercator Media Forum, Volume 1, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995, 65-76.

Williams, Colin, ‘The development of bilingual Wales’ yn Jons, B.M. a Chuman, P.A.S. (gol.) Bilingualism, education and identity, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995, 47-78.

Williams, Gareth, traethawd M.Add. Prifysgol Cymru Bangor.      

Williams, Stephen J., Elfennau Gramadeg Cymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1959.


[1] Hir oes i’r iaith, Gomer, Llandysul, 1997.

[2] Ar ôl K. Perera, ‘Understanding language’, yn Neil Mercer (gol.), Language and literacy from an educational perspective, Vol. II, Open University Press, Milton Keynes, 1988, 99-122.

[3] “it is questioned whether or not a standard oral Catalan really exists.” ‘The Catalan used on television’, Mercator Media Forum, Volume 1, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995, 65-76.

[4] Gweler trafodaeth Beth Thomas a Peter Wynn Thomas yn Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg…, Gwasg Taf, Caerdydd, 1989, 5-8.

[5] Tro yn Llydaw, Hughes a’i Fab, Wrecsam, 1921, 56.  Cyhoeddwyd gyntaf yn 1888.

[6] A Welsh Grammar, Oxford University Press, Rhydychen, 1913, iii.

[7] H. Pilch, ‘The syntactic study of colloquial Welsh’, Studia Celtica, 6, 1971, 138-157.

[8] Gweler Colin Williams (gol.), Linguistic Minorities: Society and Territory, Multilingual Matters,            Clevedon, 1991.

[9] Stephen J. Williams, Elfennau Gramadeg Cymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1959; Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996; David Thorne, Gramadeg Cymraeg, Gomer, Llandysul, 1996.

[10] Gweler, er enghraifft, Colin Williams, ‘The development of bilingual Wales’, yn Jones, B.M. a Ghuman, P.A.S. (gol.), Bilingualism, education and identity, Gwasg Prifsygol Cymru, Caerdydd, 1995, 47-78.

[11] Ibid, 57, ar sail Arolwg Cymdeithasol 1992, Y Swyddfa Gymreig, 1993.

[12] Heini Gruffudd, Y Gymraeg a phobl ifanc, Prifysgol Cymru Abertawe, 1996.

[13] Gweler crynodeb Robert Owen Jones, 66-73.

[14] Gweler Cylchlythyr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, rhif 7 ac 8.

[15] Hodder and Stoughton, Llundain, 1985.

[16] Peter D. Pumfrey, Measuring reading abilities, Hodder and Stoughton, Llundain, 1977, 107.

[17] G.J.Evans, Prawf darllen brawddegau, SCYA, 1959.

[18] E.e.Eurwen Price et al., Arolwg darllen ac ysgrifennu Cymraeg, 1988, ymhlith disgyblion 13+ oed, Y Swyddfa Gymreig, 1989.

[19] Readability in the classroom, Cambridge University Press, 1980.

[20] Nodais y rhain mewn ysgrif yn Barn, ‘Symleiddio: nid Seisnigo’, Barn, 401, Mehefin 1996, 22-3.

[21] Gareth Williams, traethawd M.Addysg, Prifysgol Cymru Bangor.