Ar y tu fas

Bu gen i ryw uchelgais

Man a man cyfaddef

Cael gweithio o’r tu fewn.

Rhannu fy mhrofiadau y tu mewn i’r system

A chael fy nhalu –

Pum cant y mis am fod yn un o wybodusion Bwrdd yr Iaith.

Gwrthodwyd fi’r tro cynta

Ond ces i winc gan un neu ddau,

Gwna gais y tro hwn.

Rhyw bobol saff PC ddewiswyd y tro dwetha.

Bydd yn wahanol y tro hwn.

Ond nid felly fu.

Yr esgus?

Mae d’eisiau di y tu fas

I brocio,

Mae angen rhywun effeithiol y tu fas i’r system.

Gan ddweud ‘mae d’eisiau’

Y ces fy ngwrthod

I fod wastad ar y tu fas

I fod yn gacynen Socrates

I ddal i boeni

Feddyliodd neb, efallai,

Fod cacwn yn blino.