Nid NGO

Mewn cyfarfod i NGOau yr ieithoedd bach.

Nid NGO wyf i

Ond un ar dân,

Ymgyrchwr

Credwr yn rhyddid Cymru

Un y mae’r Gymraeg yn ei ddiffinio,

Dyna pwy wyf i

Nid hynny’n unig chwaith.

Rwy’n hanner Almaenwr

Sy’n gallu diosg ei ddiffiniad

O bryd i’w gilydd

I ymgolli ym moeth a normalrwydd iaith arall.

Ond rhaid dychwelyd

I berswadio awdurdodau

I lythyrau â chwangos

I gwyno os na chaf ateb

I drefnu digwyddiadau

I geisio cadw llun ar drefn ar weithwyr brwd

I ysgrifennu wedyn hyd y gallaf

I sgrifennu’r papur bro

I annerch hwnt ac yma.

A wyddant hwy?

Mae ganddyn nhw drefn i ieithoedd bach yn Conseil d’Europe.

A’n Teyrnas Unedig ryddfrydig –

Ni wnaeth Ffrainc hynny –

Wedi llofnodi pum deg tri o gymalau

Yng nghytundeb yr ieithoedd bach.

Ac yn awr mae trefnwyr y cytundeb

Am gael sylwadau gan NGO.

Bydd rhaid imi felly

Esgus bod yn NGO ar ôl dychwelyd.

Wn i ddim a wna i enjoio

Bod yn En-Ji-o.