Yr angen am gorff iaith hyd braich

Yn dilyn sylwadau Ieuan Wyn Jones yn ei lyfr ar ei yrfa wleidyddol, mae  Dyfodol i’r Iaith yn galw eto am sefydlu Corff Hyd Braich i gynllunio dyfodol y Gymraeg.

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith mae meysydd helaeth yn galw am sylw brys.  Mae’r Llywodraeth fel pe bai’n fwyfwy ymwybodol o’r angen am weithredu ym maes tai a’r economi, yr angen i ddatblygu cymunedau lleol, ond mae’r gweithredu’n ddiffygiol

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae diffyg cynllunio cyfannol yn eglur.  Mae’r targedau addysg Gymraeg yn dod yn fwyfwy annigonol, mae diffyg cyllid amlwg i ddatblygu dysgu’r Gymraeg i oedolion ac yn y gweithle.  Mae’r rhaglen i ddysgu’r Gymraeg i athrawon yn brin, a sôn am gyflwyno cyrsiau 60 awr, lle mae angen rhai 600 awr.

“Mae’n hen bryd sefydlu corff hyd braich, gyda staff arbenigol parhaol, a fydd yn gallu creu rhaglen barhaus gyflawn, i’w derbyn gan wahanol adrannau’r Llywodraeth. Byddai corff o’r fath yn gallu rhoi cyfeiriad creadigol i gynllunio ieithyddol yng Nghymru, gyda phwyslais ar deuluoedd a’r gymuned.  Bydd yn gallu hyrwyddo’n effeithiol a dirwystr, a chreu cynlluniau dros dymor hir. Gyda rheoleiddio deallus, a chydweithio gydag Adran Gymraeg y Llywodraeth, bydd modd creu amodau cadarn ar gyfer ffyniant y Gymraeg.

”Rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod hyn gyda’r Llywodraeth, sydd, er pob ewyllys da, yn araf wrth yrru pethau ymlaen.”

Hydref 2021