Angen brasgamu brysiog

‘Eu Hiaith a Gadwant?’ Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif

gol.: Geraint H. Jenkins a Mari A. Williams, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2000, pris:

Dyma’r chweched gyfrol yng nghyfres uchelgeisiol Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar hanes cymdeithasol y Gymraeg.  Yn y Saesneg y cafwyd y swm helaethaf o drafodion ar gyflwr y Gymraeg, a’r astudiaethau hyn ar brydiau’n ymelwa’n gigfreinaidd ar gorff dirywiedig yr iaith. Mae’r gyfrol swmpus hon i’w chroesawu’n fawr felly. Dylai hi a chyfrolau eraill y gyfres fod yn sail gadarn i ddatblygu cyrsiau cynllunio iaith yn ein prifysgolion, pwnc a ddylai fod yn brif ddiddordeb mewn canrif a fydd yn pennu tynged yr iaith, ond pwnc hefyd a gafodd ei esgeuluso’n enbyd gan ein hadrannau Cymraeg.

            Mae’r gyfrol, fel y lleill yn y gyfres, yn fwynglawdd o wybodaeth, a chyfres o benodau manwl ynddi gan arbenigwyr ac ymchwilwyr.   Mae’r rhagymadrodd yn  crynhoi deuoliaeth bennaf yr ugeinfed ganrif: dyma’r ganrif a welodd ostyngiad enbyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ond a welodd adfywiad o ran defnyddio’r Gymraeg yn swyddogol. 

            O edrych ar yr ymdrechion o blaid y Gymraeg yn ystod y ganrif, bu’r prif bwyslais, o ddyddiau cynnar y Blaid Genedlaethol (y ceir trafodaeth oleuedig arni hi a phleidiau eraill gan J. Graham Jones, sy’n datguddio gelyniaeth y Blaid Lafur gynnar at y Gymraeg) hyd at gyfnod aur Cymdeithas yr Iaith (y crynhoir ei hanes yn ddeheuig gan Dylan Phillips), ar ennill statws a bri i’r Gymraeg ar lefel llywodraeth.  Pennod Gwilym Prys Davies yw un o’r rhai mwyaf dadlennol yn y llyfr yn y cyswllt hwn, gan fanylu ar y modd y cafwyd y Deddfau Iaith, ac ar eu telerau. Ni ddylid bychanu’r ymdrechion hyn o gofio’r diffyg statws cynt, a’r modd y dibrisir iaith gan ei siaradwyr ei hun yn wyneb diffyg statws economaidd a chymdeithasol.  Byddai’n fuddiol, serch hynny, fod wedi gweld sylwadau beirniadol ar nodau cyrff gwleidyddol a lled-wleidyddol yr ugeinfed ganrif, o safbwynt cymdeithaseg iaith, a hynny yn sgil y perygl, yn ôl  Joshua Fishman, o ennill y brwydrau hawdd lefel uchel ar draul cryfhau’r iaith ar yr aelwyd ac yn y gymuned leol.

Er mai hanes cymdeithasol y Gymraeg yw testun y gyfrol, mae nifer o’r penodau’n ymdrin â meysydd na ellid honni eu bod yng nghanol y maes trafod, e.e. llenyddiaeth oddi ar 1914 (sy’n bennod grynodol arbennig gan y diweddar Gerallt Jones, er gwaetha’i honiad cyfeiliornus mai ‘cefn gwlad yn bennaf oedd Cymru ym 1914’) a llenyddiaeth eingl-Gymreig (lle y trafodir yn ddiddorol yr elyniaeth gynnar rhwng yr Eingl-Gymry a Saunders Lewis ac eraill  gan John Harris), a golwg ar agweddau papurau newyddion (lle y noda Robert Smith y trafodion ieithyddol a fu yn y Cymro, yr Herald Gymraeg a’r Western Mail, a oedd yn dilyn yn hytrach nag yn arwain tueddiadau’r cyfnod). 

Ymhlith y penodau sy’n darlunio’r iaith mewn cefndir cymdeithasol mae un  Marion Löffler sy’n rhoi darlun eang o’r bwrlwm o weithgareddau a gafwyd yn hanner cyntaf y ganrif i ddiogelu’r iaith, a hithau yw un o’r ychydig sy’n cynnig canlyniadau gwaith maes, a hynny ar agweddau disgyblion Aberaeron at yr iaith, mewn pennod arall ganddi.  (Byddai gwaith ansoddol o’r math hwn o bosib wedi gweddu’n well i’w hastudiaeth o fudiadau merched, yn hytrach na defnyddio holiaduron.)  Byddai cynnwys yn y gyfrol astudiaethau ansoddol ehangach (a gellid bod wedi cyf-weld â rhai  a welodd y ganrif bron o’i chychwyn) wedi cynnig golwg mwy treiddgar ar hynt y Gymraeg ar lefel unigolion a chymdeithas.  Byddai galw am roi sylw i rwydweithiau cymdeithasol, ac i berthynas annatod y drefn economaidd-wleidyddol â chymdeithas ac iaith. 

Ceir  ymdriniaeth werthfawr iawn gan Garth Hughes, Peter Midmore ac Anne-Marie Sherwood ar y Gymraeg mewn cymunedau amaethyddol, lle y nodir yn glir y berthynas agos rhwng iaith ac amaethu, ac ysgrif ddadlennol a rhybuddiol gan Dylan Phillips ar effaith twristiaeth ar y gymdeithas Gymraeg.  Mewn pennod arall mae Delyth Morris yn ymdrin â chysylltiad iaith â threfn economaidd-wleidyddol, gan drafod yn ddeheuig y berthynas rhwng yr iaith a chynllunio yng Ngwynedd.  Mae’r penodau hyn yn nes at ganol y maes nag amryw.

Ceir pennod ddadlennol gan y diweddar W. Gareth Evans, ar gysylltiad y wladwriaeth Brydeinig a’r Gymraeg, sy’n dangos mor gyndyn y bu awdurdodau addysg yng Nghymru i fanteisio ar anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg. Byddai’n dda pe bai pennod ar wahân yn y gyfrol i sôn am y llu o gyrff rhieni a fu’n brwydro’n ddygn yn lleol dros ddatblygiad addysg Gymraeg, y sonia W. Gareth Evans amdanynt.  Daeth yn bryd cofnodi’r ymdrechion hyn yn fanwl, ac mae cyfrol ar y gweill gan Rieni dros Addysg Gymraeg i dynnu sylw at waith diflino’r rhain yn y frwydr i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg. 

Byddai’n dda pe bai’r gyfrol yn gyffredinol, fodd bynnag, wedi dewis trafod hanes cymdeithasol y Gymraeg yng nghyd-destun damcaniaethau yn ymwneud ag iaith a chymdeithas.  Yn niffyg trafodaeth o’r fath ceir gorbwysleisio ffigurau moel y gwyddom yn dda amdanynt, fel pe bai ffigurau ar eu pen eu hunain yn ddigon i nodi hynt yr iaith trwy’r ganrif.  Byddai angen rhoi sylw i ddamcaniaethau ar farwolaeth iaith (gweler gwaith Nancy Dorian, Jean Aitchison ac eraill); rhennir hyn yn ddau fath: hunanladdiad, lle y mae iaith (fel arfer yn iaith debyg i’r iaith ormesol) yn benthyg geiriau a chystrawen nes ymdebygu iddi’n llwyr; a llofruddiaeth iaith, lle y caiff iaith leiafrifol ei gwthio o’r neilltu gan yr iaith fwyafrifol.  Dyma gamau clasurol y broses:

  1. cwymp yn nifer y siaradwyr (fel arfer mewn cymunedau gwledig)
  2. dwyieithrwydd yn hanfodol i oroesi’n economaidd-gymdeithasol
  3. yr ail genhedlaeth ddwyieithog yn llai rhugl yn yr iaith leiafrifol
  4. diffyg cyfle i ymarfer yr iaith leiafrifol i’r to iau
  5. ni cheir ond rhai lled-siaradwyr o’r iaith leiafrifol.

Mae camau’r ddwy broses o farwolaeth iaith i’w gweld yng Nghymru, a byddai angen ymchwil wreiddiol ar lefel unigolion a chymunedau i lunio casgliadau a fyddai’n ymwneud ag ansawdd iaith, peuoedd, dewis iaith, niferoedd, daearyddiaeth, rhwydweithiau cymdeithasol a dosbarth cymdeithasol.  Anghenion cymdeithasol a dylanwadau economaidd-wleidyddol sy’n gyrru’r newidiadau hyn, a amlygir yn gymdeithasol. Byddai gwersi amlwg i’w dysgu o gymhwyso polisïau iaith at y prosesau hyn. 

Damcaniaeth arall y dylid bod wedi rhoi sylw iddi yw wyth cam gwrth‑droi newid ieithyddol o eiddo Joshua Fishman, sydd wedi eu derbyn yn eang bellach. Ar yr wyth cam yma, sy’n cynyddu o drosglwyddo’r iaith yn y cartref fel sail trosglwyddiad iaith hyd at ddefnyddio’r iaith ar lefelau uchaf addysg, ym myd llywodraeth ac yn y cyfryngau, gwelir sut mae’r Gymraeg wedi ennill nifer helaeth o frwydrau’r lefel uchaf, ond eto heb ddatrys y dirywiad mewn trosglwyddo’r iaith yn y cartref.  6% yn unig o blant Cymru heddiw sy’n derbyn eu gwybodaeth o’r Gymraeg ar yr aelwyd.

Prin hefyd yw’r trafod ar faterion eraill sy’n ganolog i gymdeithasegwyr iaith, gan gynnwys ymyrraeth iaith, dewis, cymysgu, newid a chyfnewid côd, a phatrymau hynod gymhleth dewis iaith ym mywydau unigolion.  Nid oes fawr drafodaeth ar natur ac arwyddocâd dwyieithrwydd unigolion a deuglosia cymdeithasol nac ar arwyddocâd y defnydd o’r Gymraeg; crybwyllir yn barhaus ffigurau’r cyfrifiad am niferoedd siaradwyr Cymraeg, heb nodi bod tri chwarter miliwn yn siarad rhyw gymaint o Gymraeg a thraean o filiwn yn gwbl rugl.  Mae astudiaethau yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnia yn rhoi pwys ar y defnydd o’u hieithoedd yn brif iaith gan y boblogaeth: dyna yn y pen draw sy’n mesur llwyddiant ar lefel cartref a chymuned.  Eilbeth llai perthnasol i lwyddiant iaith yw sicrhau dwyieithrwydd unigolion tra bo’r peuoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r iaith honno’n crebachu.

Mae’r gyfrol, fel yr awgrymais, yn un a ysgrifennwyd o safbwynt haneswyr, daearyddwyr ac ymchwilwyr hanes yn bennaf, ac yn canolbwyntio yn bennaf ar yr ochr ‘swyddogol’ i gymdeithas.  Mae hyn ynddo’i hun yn symtomatig o’r modd y methwyd â diogelu’r iaith mewn gweithgareddau llai swyddogol, ond gweithgareddau hanfodol i’r Gymraeg: ni cheir fawr sôn am y Gymraeg mewn clybiau chwaraeon, dawnsfeydd ac mewn tafarnau.  Mae angen rhagor o ystyriaeth ar y modd y cafwyd rhyw gymaint o gynllunio iaith ad hoc yng Nghymru, ac ar y newidiadau a fu er sefydlu Bwrdd yr Iaith, gan gynnwys y nawdd a roddir i wahanol gyrff, a’r modd yr ariannir gwahanol ymdrechion, gan gynnwys cyhoeddi, y teledu, a Mentrau Iaith.  Pam, er enghraifft na noddir gemau, chwaraeon, casetiau, cylchgronau i ferched, na phapur dyddiol, tra rhoddir nawdd i gylchgronau llenyddol?  Mae’n bosibl honni bod hyfywedd y Gymraeg ymhlith dosbarthiadau cymdeithasol mwy difreintiedig ac mewn is-ddiwylliant mor hanfodol â dim o ran ei dyfodol. Os bydd i Gylch yr Iaith ffrwyno mynegiant a diddordebau’r siaradwyr Cymraeg llai cywir, byddant yn euog o orfodi elitaeth farwol ar y Gymraeg.  Mae awgrym (t. 23) fod y golygyddion yn arddel y daliadau elitaidd hyn.

I ba raddau mae’r gyfrol yn llwyddo felly, i esbonio’r ddeuoliaeth sylfaenol a nodwyd ar y cychwyn?  Ni ellir amau nad yw’r penodau unigol yn gyfraniadau gwerthfawr ac amrywiol, a rhai’n astudiaethau safonol yn eu priod feysydd. Serch hynny, mae’r gyfrol yn osgoi rhai o feysydd canolog astudiaethau hanes cymdeithasol iaith.  Nid yw rhai gosodiadau idiosyncratig hwnt ac yma, megis yr un sy’n honni bod dulliau dysgu a ddefnyddir mewn dosbarthiadau i oedolion yn rhai “ffug a chyfeiliornus” yn amharu ar y prif gyflwyniad, er y dylid nodi mai prinder adnoddau, cyfleusterau ac oriau dysgu  yw’r ffactorau sylfaenol  sy’n cyfyngu’r maes hwn (cymharer â Gwlad y Basgiaid, lle y mae’r corff sy’n gyfrifol am ddysgu’r iaith i oedolion yn gwario £28 miliwn yn flynyddol).  Trueni, yn y cyswllt hwn, nad oes sôn am ymdrechion chwyldroadol Chris Rees yn mabwysiadu yng Nghymru ddulliau Israel o ddysgu iaith. 

Yn wir, cydnebydd John Aitchison a Harold Carter bod angen astudiaethau ar raddfa unigol mewn cyd-destunau cymdeithasol i ganfod yr ‘allwedd i’r broblem’, ac ni cheir yr allwedd hon yn y gyfrol.  Wedi dweud hyn, y cyfraniad pwysicaf yw’r bennod gyntaf gan y ddau hyn, sy’n cynnig dadansoddiad ieithyddol-ddaearyddol eang a chynhwysfawr.  Ategir eu gwaith hwy gan drafodaeth Pyrs Gruffudd ar ddelwedd y siaradwyr Cymraeg o’u gwlad eu hunain, a chan nifer o ysgrifau myfyrgar eraill, megis un Mari Williams ar le’r ferch a’r Gymraeg yn y cymoedd diwydiannol, ac ysgrif Beth Thomas ar dafodieithoedd, sy’n nodi cyfoeth tafodieithoedd de-ddwyrain Cymru. Ceir ysgrif gynhwysfawr hefyd ar y Gymraeg a chrefydd gan Densil Morgan, er  y byddwn yn amau ei osodiad moel mai ‘gwledig oedd y Gymru Gymraeg’ erbyn 1961, pan fyddai trwch y siaradwyr Cymraeg yn dal mewn ardaloedd diwydiannol. Nid yw’r drafodaeth ddiwinyddol chwaith wedi dod i ben mor derfynol ag yr awgryma pan ddywed mai ‘methiant, yn y pen draw’ fu’r ymgais i asio dyneiddiaeth a ffydd.  Gwn am ormod o siaradwyr Cymraeg sy’n arddel ‘gwirioneddau canolog Cristnogaeth hanesyddol’ sy’n mynychu eglwysi Saesneg.

 Diweddir gyda thair pennod sy’n rhoi golwg gymharol a rhyw gymaint o orolwg ar sefyllfa’r Gymraeg.  Mae Glanville Price yn nodi gyda thystiolaeth fanwl sefyllfa’r ieithoedd Celtaidd eraill, a buan y gwelir yn sgil hynt y rhain fod y Gymraeg yn meddu ar ddigon o egni creadigol, ac ar ddigon o siaradwyr, i sicrhau adfywiad.  Dadansoddir dylanwad gwleidyddiaeth ar ieithoedd lleiafrifol Ewrop, yn enwedig yn nwyrain Ewrop gan Robin Okey, sy’n nodi’n ddiddorol bod ymdrech O.M. Edwards i ddyrchafu’r Gymraeg fel ‘iaith y werin’ yn rhoi i’r Gymraeg  yr un ysbryd ag a berthynai i fudiadau iaith yn nwyrain Ewrop.  Sonia hefyd am ymdrechion rhyfeddol Gwlad y Basgiaid, a gellir bellach ddiweddaru rhai o ffeithiau’r ysgrif, gan nodi llwyddiant rhyfeddol ymdrechion i ddiogelu iaith unigryw y Basgiaid.

Ceir pennod glo gan Colin Williams sy’n dadlau bod mudiadau iaith yr ugeinfed ganrif wedi brwydro yn erbyn canrifoedd o elyniaeth wladwriaethol estron. Noda bum pwynt y newidiadau agwedd a gweithredu yng Nghymru, y gellir eu cymharu â sefyllfaoedd gwledydd eraill: delfrydiaeth, protest, cyfreithloni, sefydliadoli a normaleiddio.  Trwy weledigaeth cenedlaetholwyr cynnar, cydymdrechu a threfnu a gwrthdystio gwelwyd ymhen amser ddechrau’r broses o dderbyn yr iaith yn un gyfreithlon ac addas i’w derbyn ar lefelau swyddogol, a hyn yn bennaf yn y byd addysg, yn ‘un o fân wyrthiau Ewrop yr ugeinfed ganrif’.  Gwelwyd sefydliadoli’r Gymraeg trwy’r Deddfau Iaith a’r Bwrdd Iaith, a’r gwaith mawr bellach yw normaleiddio’r defnydd ohoni.  Awgryma Colin Williams sefydlu Canolfan Gynllunio Iaith genedlaethol, a sefydlu Ombwdsmon Iaith. 

Bydd angen trafodaeth ar y cynigion hyn.  Mae’n sicr y bydd angen yn fuan i’r llywodraeth Gymreig ofyn rhai cwestiynau sylfaenol  am ei hawydd i hybu’r iaith a’r modd mwyaf effeithiol o wneud hynny.  O dderbyn model Gwlad y Basgiaid neu Gatalwnia, mae’n amlwg bod angen sefydlu adrannau llywodraeth pwerus a fydd yn meddu ar arian a dylanwad digonol i drawsnewid y camau pwrpasol ond petrus a gymerir ar hyn o bryd gan Fwrdd yr Iaith yn frasgamu brysiog.

Heini Gruffudd

Abertawe, 2000