Y Llen, Dyfnallt Morgan

Diwedd Perfformans?

Bu Merthyr Tudful am gan mlynedd yn un o gadarnleoedd y Gymru Gymraeg ddiwydiannol.  Mae’n wir iddi newid o fod yn dref gwbl Gymraeg i fod yn un ddwyieithog yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg,[1] ond eto yn 1891 roedd yno 75,000 o siaradwyr Cymraeg,  a rhyw 35,000 o siaradwyr di-Gymraeg[2].  Roedd rhyw 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, canran tebyg i Wynedd heddiw.  Dyma un o’r broydd Cymraeg mwyaf poblog a byrlymus yng Nghymru ar y pryd.

            Byddai canran y siaradwyr Cymraeg yn Nowlais beth yn is.  Tua hanner y boblogaeth a allai siarad yr iaith y pryd hwnnw, i raddau oherwydd dylanwad mewnfudwyr o Iwerddon a ddaethai i osgoi’r newyn, a’r mil a mwy ohonynt ddwywaith yn fwy na’r nifer o fewnfudwyr o Loegr.  Roedd dylanwadau mewnfudo, felly, a rhai sosio-economaidd eraill eisoes ar waith, a’r Gymraeg yn ildio tir mewn amryw beuoedd i’r Saesneg, a fyddai eisoes wedi dod yn iaith y mwyafrif yn y rhan fwyaf o’r cymoedd glofaol tua’r dwyrain. O’r herwydd profodd Dowlais effeithiau’r frwydr ieithyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ychydig yn gynt na Merthyr.  Fe’i collodd, wrth gwrs, a bellach, wrth i’r ffin ieithyddol symud ar hyd yr ugeinfed ganrif tua’r gorllewin,  mae’r frwydr yn prysur gael ei cholli yn nyffryn Aman.

            I’r gymdeithas ddiwydiannol, werinol hon, a hithau eisoes yn dechrau edwino, y ganwyd tri a gyfrannodd yn helaeth i’n dealltwriaeth o lenyddiaeth a hanes Cymru.  Yn 1917 ganwyd Dyfnallt Morgan; Glanmor Williams yn 1920 a Gwyn Alf Williams yn 1925.    Mae modd priodoli eu diddordeb creadigol yn hanes a llenyddiaeth eu gwlad i’r pair cyfoethog o gefndir a oedd ganddynt, a hwythau’n ymwybodol iddynt fod yn dystion i ddiwedd un o’r cyfnodau hanes mwyaf cyffrous a welodd y de diwydiannol. 

            Mae Dyfnallt Morgan, serch hynny, yn tynnu gwahaniaeth rhwng ei fagwraeth ef ym Mhenydarren, a magwraeth Gwyn Alf yn Nowlais.  Roedd yr wyth mlynedd a oedd yn eu gwahanu’n ddigon i beri bod y naill wedi ei fagu, er gwaetha’r rhyfel, mewn cyfnod mwy Cymraeg a llewyrchus, a’r llall wedi ei fagu yng nghyni’r dirwasgiad, “Nid yr un rywsut mo’i Ddowlais ef a’m Dowlais innau.  Mae Gwyn ryw wyth mlynedd yn iau na mi ac efallai iddo brofi i raddau helaethach na mi y newid mawr a ddaeth dros y fro wedi imi fynd oddicartref yn ddeunaw oed.”[3]

            Roedd dylanwad y capeli Cymraeg yn drymach ar Dyfnallt Morgan.  Ac yntau’n  tynnu at ei drigain a deg ac yn bwrw golwg yn ôl dros ei lencyndod, medd fod y  gweinidogion, gan gynnwys Daniel Adams, John Charles Jones, a phregethwyr fel Joseph Jones Aberhonddu a J. Morgan Jones Bangor wedi rhoi iddo “ymwybyddiaeth o’m Cymreictod ac o le fy nghenedl ym mhatrwm hanes Ewrop Gristionogol”.[4]

            Tad-cu Dyfnallt Morgan a symudodd i’r de diwydiannol er mwyn osgoi caledi’r wlad yng Ngheredigion, o dan drefn gaeth y landlord a’r sgweier,

            “O’r bryniau a fugeiliwyd ers cyn co’

            Gan ei gyndadau, daeth i’r talcen glo;

            Ac yn y baw a’r merddwr cafodd ef

            Ymboenus annibyniaeth bywyd tref.”[5]

            Fel Gwenallt a fwynhaodd ei gysylltiad â bro ei rieni yn Sir Gaerfyrddin, byddai Dyfnallt Morgan yn cael gwyliau’n rheolaidd yng Ngheredigion pan oedd yn ddisgybl yn ysgol Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful,  ac mae’n siŵr y gwnâi hyn iddo fod yn dra ymwybodol o’r gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol rhwng y wlad a’r dref y pryd hwnnw.[6]

            Yn y gymdogaeth drefol gymysg ei hiaith, roedd yr ieithoedd eisoes wedi eu rhannu i wahanol beuoedd.  Noda Glanmor Williams ei bod yn “Gymraeg o ran ei diwylliant, ond â’i chyfundrefn addysg heb dalu’r nesaf peth i ddim sylw i’w hetifeddiaeth gynhenid.”[7]  Byddai rhyw dri ar ddeg o gapeli Cymraeg yn cystadlu â thair eglwys Saesneg, ac un gyda’r Catholigion. Roedd y bywyd diwylliannol Cymraeg a oedd yn gysylltiedig â’r capeli, a’r bywyd hwnnw’n gyfoethog o ran cerddoriaeth, eisteddfota a dramâu, yn rhan annatod o fagwraeth Dyfnallt Morgan.  Meddai nad oedd ei rieni’n caniatáu gair o Saesneg gartref, a chofia blant yn dod i gael gwersi canu ac adrodd gan ei dad, a oedd ar y naill law yn amserwr a phwyswr yng ngwaith Guest, Keen & Nettlefolds, ond ar y llall yn arolygydd ysgol Sul ac yn ddirprwy organydd yng nghapel y Gwernllwyn, “yr oedd y lle y pryd hwnnw yn llawn o solffawyr medrus ac o gyfansoddwyr tonau da a argreffid yn flynyddol yn rhaglenni’r Gymanfa Ganu”.[8]

            Yn y capel byddai Dyfnallt Morgan wedi mwynhau bywyd diwylliannol prysur, gan gynnwys “cyngherddau, darlithoedd ac eisteddfodau”, a hefyd dramâu, a rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu gan aelodau’r capel.  Brinley Jones oedd awdur rhai ohonynt, gan gynnwys rhai i blant a phobl ifanc, a Dyfnallt yn ennill fel aelod o gwmni a berfformiodd ‘Ysbryd Arthur’ yn Eisteddfod Llanelli, 1930.  Roedd ewythr i Gwyn Alf, Leyshon Williams, yn ddramodydd lleol o bwys hefyd, a Dyfnallt yn cael perfformio mewn un ddrama ran llanc ifanc “a demtiwyd i droi’n lleidr dan bwysau cyni’r dirwasgiad” mewn Gŵyl Ddrama yn Llandybïe yn 1934, ac wedi hynny’n cael cymryd rhan mewn darllediad o’r ddrama gan y BBC.  Mae Dyfnallt hefyd yn cofio Glanmor Williams yn grwt wyth oed yn adrodd am awr a hanner mewn noson yng nghapel Calfaria, Top Dowlais.

            Doedd dim modd i bobl ifanc cyfnod Dyfnallt Morgan ond bod yn ymwybodol iawn o’r defnydd a wnaed o’r ddwy iaith yn y gymdogaeth.  Ac yntau wedi ei fagu ar aelwyd Gymraeg, a’r bywyd Cymraeg yn y capel yn mynd â’i fryd, roedd yn glir iddo bod y Gymraeg y pryd hwnnw wedi ei chyfyngu i raddau helaeth i beuoedd penodol, a fyddai’n crebachu gyda threigl y blynyddoedd. Roedd Saesneg eisoes yn dal gafael gref ar y system addysg, fel y nodwyd uchod, ac yn sgil hyn, “hi oedd cyfrwng cyfathrebu â ffrindiau ysgol, yn Wyddelod, Eidalwyr, Sbaenwyr, Iddewon a Chymry di-Gymraeg”.[9]  Roedd bwlch ieithyddol clir wedi datblygu rhwng y cenedlaethau, a hyn yn un o arwyddion amlwg enciliad iaith, a’r bwlch hwnnw’n ymwneud hefyd â gwahaniaethau diwylliannol a diddordebau.

            Mae Glanmor Williams yn ategu’r newid hwn.  Yn ei brofiad ef  roedd rhai ardaloedd, fel Caeharris neu bentref Heolgerrig yn Gymraeg iawn, ond roedd Dowlais “at ei gilydd wedi Seisnigeiddio o ran iaith i raddau helaeth iawn”[10] wedi’r rhyfel byd cyntaf a chanlyniad y cymysgu rhwng plant o wahanol gefndir oedd mai “Saesneg oedd yr iaith feunyddiol arferol.  Yn Saesneg y chwaraeai’r plant…”. Mae yntau’n cydnabod ei fod yn dueddol o gysylltu’r iaith â chenhedlaeth ei rieni, ac yn gryfach fyth â chenhedlaeth ei rieni-cu.  Roedd yr iaith eisoes yn iaith hen bobl a’r capel yng ngolwg yr ieuenctid.  Hyd yn oed yn Aelwyd yr Urdd, byddai siarad Cymraeg yn “rhywbeth artiffisial, mursennaidd o’r bron”.[11]

            Byddai modd astudio’r Gymraeg yn yr ysgol, ond ymylol oedd y gweithgareddau Cymraeg yn ysgol Cyfarthfa, yn ôl tystiolaeth Glanmor Williams, er bod paratoi prysur ar gyfer eisteddfodau’r Urdd ac Eisteddfod Gŵyl Ddewi.  Bychan hefyd oedd y sylw i Gymru’n gyffredinol.  Mewn saith mlynedd o wersi hanes, edrydd Dyfnallt Morgan na chawsai gymaint ag un wers ar hanes Merthyr, a’r dref honno wedi bod mor ganolog o ran datblygiadau diwydiannol a gwleidyddol.

            I ganol y gymdeithas ddiwylliedig, grefyddol, gosmopolitaidd a lliwgar hon disgynnodd y dirwasgiad a’i effeithiau enbyd. Anodd heddiw amgyffred y tlodi a’r dioddef a achoswyd ganddo.  Parodd y dirwasgiad anawsterau mawr i deulu Dyfnallt Morgan.  Collodd ei dad ei waith, ond gwrthodai’n deg â derbyn unrhyw gardod.  Meddai Dyfnallt Morgan yn ei gerdd iddo,

            “A thrwy flynyddoedd llwm y cyni caeth

            Ymbesgodd ar ysbrydol fêl a llaeth.

            ‘Nac ofna wg y byd, na’i wanc na’i wae,

            “Can’s teyrnas nefoedd o dy fewn y mae”.’ ”[12]

Gwisgai’r plant ddillad eu tadau, ac ni ellid fforddio mynd ar drip yr Ysgol Sul i’r Barri. Medd Glanmor Williams nad oedd effeithiau’r streic gyffredinol yn 1926 ac anawsterau eraill yr ugeiniau’n ddim o’i gymharu â’r hyn a ddigwyddodd wedi 1929.  Dyma gyfnod y cau gweithfeydd yn gyffredinol, a’r allfudo fesul cannoedd. “Disgynnodd cwmwl marwaidd o dristwch a digalondid dros y gymdogaeth a honnid mai hi a Jarrow oedd y ddau le yn y Deyrnas Unedig a effeithiwyd yn fwyaf torcalonnus gan y slymp echrydus..”[13]

            Parodd y dirwasgiad anfadwaith economaidd. Cyrhaeddodd diweithdra Merthyr Tudful 69.1%, a diweithdra Dowlais yn uwch eto, yn 73.4%.  Cafwyd un cynllun i symud yr holl boblogaeth i lannau afon Wysg.[14]   Ymfudodd hanner miliwn o Gymru, yn bennaf o’r de. Ac ar ben y cyfan wedyn daeth yr ail ryfel byd. Ond roedd effaith y dirwasgiad hefyd yn un ddiwylliannol ac ieithyddol.  A Dyfnallt Morgan eisoes wedi gweld y Gymraeg yn colli tir yn ei gymdogaeth,   daeth y dirwasgiad i chwalu’r gymdeithas a fu’n nawdd iddo,

            “Nid peth ymylol oedd y Gymraeg i mi’n bersonol, ond fy mhrif gyfrwng mynegiant a’m ffenestr ar y byd mawr a’i bethau.  Ond bu’r dirwasgiad a’r rhyfel yn angheuol i hyn oll.”[15]

            Yn ystod y rhyfel bu Dyfnallt Morgan yn wrthwynebydd cydwybodol.  Cychwynnodd weithio yn 1940 fel labrwr gyda’r Comisiwn Coedwigo, ond yna cafodd weithio mewn ysbyty yn Edgbaston, Birmingham,[16] cyn mynd yn 1941 gydag uned ambiwlans y Crynwyr i’r Eidal, Awstria, Singapore ac yna Tsieina.  Ac yntau’n gweithio tan 1951 gyda ffoaduriaid,  a chael profiad uniongyrchol o effeithiau diwreiddio, erbyn iddo ddychwelyd gwelodd ei fod ef ei hun bellach wedi dioddef yr un ffawd yn ei wlad ei hun.  Dyna, meddai, a’i hysgogodd i ysgrifennu’r bryddest ‘Y Llen’, a gymeradwywyd gan Saunders Lewis i ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, 1953.

            Cyn ysgrifennu’r gerdd, roedd Dyfnallt Morgan eisoes wedi dechrau trafod dyfodol y Gymraeg a hynny pan oedd ar staff y Gyfadran Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn astudio dwyieithrwydd yn y system addysg. Gwelai yr union hyn y mae cymdeithasegwyr iaith wedi ei ddadlau mewn blynyddoedd mwy diweddar, sef nad oes gan y Gymraeg yng Nghymru nifer ddigonol o beuoedd i’w chynnal, a bod y dwyieithrwydd a welir yn gam yn y broses o droi Cymru’n wlad Saesneg,  “On the face of it, we appear, as a nation, to be more than halfway through a period of transition from being totally Welsh-speaking to being totally English-speaking.”[17]  Gwêl obaith, serch hynny, yn y modd yr oedd rhai rhieni wedi mynd ati i sefydlu ysgolion Cymraeg, a dadleua’n gryf dros estyn addysg Gymraeg i’r sector uwchradd ac i’r brifysgol, a thros ddysgu’r gwyddorau a phynciau perthnasol i’r byd modern yn y Gymraeg.  Oes unrhyw beth wedi newid, dywedwch? 

Darlunio’r newid byd diwydiannol  ac ieithyddol y mae Dyfnallt Morgan yn ei wneud yn ‘Y Llen’, a’r newid hwnnw’n nodi diwedd y Gymru yr oedd ef am weld ei pharhad.  Ymateb bardd sydd yma i’r sefyllfa a ddisgrifiodd ef fel cymdeithasegydd iaith.  Yn hyn o beth yr oedd yn perthyn i genhedlaeth o lenorion Cymraeg a di-Gymraeg a oedd wedi ymateb, o’r diwedd, i brofiadau ysgytwol cymoedd y de.

            Roedd Idris Davies eisoes wedi mynegi dicter am y modd y cafodd cymoedd a threfi’r de, a Merthyr a Dowlais yn eu plith, eu difwyno a’u chwalu gan drais economaidd yn Gwalia Deserta.[18] Dychwelodd eto yn 1951 i Dop Dowlais i weld y llanast a grëwyd,

            “So bleak and grim, a waste of stone, rough grass, and weed and slag,

            And shabby Dowlais down below, where live the sage and wag…”[19]

Er iddo weld rhyw obaith am well byd i ddod, nid yw’n tynnu oddi wrth y syniad o chwalfa a welwyd yno. 

            Yn y Gymraeg, Y Dilyw,  cerdd heriol Saunders Lewis sy’n dod i gof, gyda’i disgrifiad apocalyptig o’r wlad rhwng Dowlais a Merthyr,

“Mae’r tramwe’n dringo o Ferthyr i Ddowlais,

Llysnafedd malwoden ar domen slag;

Yma bu unwaith Gymru, ac yn awr

Adfeilion sinemâu a glaw ar dipiau di-dwf….”

Gwêl y bobl hwythau’n ysglyfaeth economaidd, ddiwylliannol a moesol i effeithiau  ymelwa’r cyfalafwyr,

            “A’r frau werinos, y demos dimai,

            Epil drel milieist a’r pool pêl-droed,

            Llanwodd ei bol â lluniau budrogion

            Ac â phwdr usion y radio a’r wasg.”[20]

Dyma’r gerdd a enynnodd ddicter Gwyn Alf Williams, a oedd ar y pryd yn filwr yn y fyddin, 

            “ces i ‘nghythruddo gan ei gerdd ‘Y Dilyw’.  Gallwn i fod wedi’i dagu e… y dre lle ces i ‘ngeni a’m magu, y dre lle ro’n ni’n gwpod taw Cymry o’n ni o hyd, hyd yn oed yng nghanol y dirwasgiad mwyaf uffernol…

            “… rwy’n cofio’r demos ’na, y ddemocratiaeth ’na mae e’n ei galw’n ‘ddime’.  Fy nheulu, ffrindiau, fy mhobol i…  rwy i’n cofio un o’r brwydrau mwyaf arwrol, a mwyaf ysbrydoledig yn ein hanes…”[21]

Nid yw’n syndod bod Saunders Lewis wedi ysgrifennu fel y gwnaeth.  Mewn llythyr at Kate Roberts yn 1927, meddai Saunders Lewis iddo fod yn darlithio ar y nofel Gymraeg ym Mlaendulais.  A hithau wedi dweud bod “Cymrodorion [Aberdâr] yn gulach na neb y gwn i amdanynt”, medd yntau bod Blaendulais yn dipyn gwaeth lle, ac na “welais erioed y fath gynnulleidfa o anwariaid syml.  Petawn yno ddiwrnod mi’m lladdwn fy hun, ‘rwy’n sicr bron.”[22]

Wedi dweud hyn, Saunders Lewis welodd fod gan Dyfnallt Morgan neges i’w chyfleu yn ei gerdd a hynny am ei fod ef ei hun wedi ymateb i’r un dinistr. Mae ganddo feirniadaeth gyda’r fyrraf, mae’n siŵr, yn holl hanes cystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Dyma hi:

“Deallaf fod fy nghyd-feirniaid wedi cytuno fod pryddest Hebog yn deilwng o goron yr Eisteddfod ac mai hi yw’r orau yn y gystadleuaeth.  I mi, darn o areithio hwyliog yw cerdd Hebog.

Doedd y gystadleuaeth ddim yn un gref.  Anfonwyd atom un bryddest yn nhafodiaith Deau-ddwyrain Morgannwg (ac ynddi nid ychydig o eiriau Saesneg) ar destun “Y Llen” gan Gwrandawr.  Stori fer mewn vers libres oedd hi; disgrifiai derfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a’r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a’r bywyd di-Gymraeg sy’n ei ddisodli.  Roedd gan y bardd hwn, i’m tyb i, weledigaeth a rhywbeth i’w ddweud; iddo ef, er gwaethaf pob mefl, y buaswn i yn dyfarnu’r goron.”[23]

Fe welwn yn y man fod Saunders Lewis yn dra beirniadol o chwaeth ei  ddau gyd-feirniad. Roedd barn y rhain dipyn yn fwy amwys ond y ddau’n gwrthod yn deg â gosod y bryddest ymysg y goreuon.  Mae T.H. Parry-Williams yn cydnabod bod cynnig ‘Gwrandawr’ yn “arbennig o ddiddorol a deheuig”, ac yn gweld bod yr ymgeisydd yn gwrthgyferbynnu dwy genhedlaeth.  Ond noda ei fod yn defnyddio “ymadroddion llafariaith ben-stryd sathredig a macaronig” yn gymysg â thafodiaith, a thybia nad oes “awen bardd” yn y gerdd.  Cytuna J.M. Edwards fod y gerdd yn un “fedrus dos ben, diddorol a diddan hefyd”.  Ond barna na fyddai modd gwerthfawrogi’r gerdd heb ei chlywed ar lafar, a barddoniaeth yn ei dyb ef wedi dod “yn beth i’r llygad” er bod y gerdd yn cynnwys “ergydion sicr ac amserol”. Mae’n anodd deall yn iawn beth yw’r arwyddocâd i’r llygad, gan nad yw’r gerdd hon, na’r gerdd fuddugol yn y gystadleuaeth o ran hynny, yn honni bod yn gerddi darluniadol. Wedi dweud hynny, barn J.M. Edwards yw bod y gerdd  yn un “ddiddorol yn ei byd ac yn ei harddull ei hun”, ond mai “dawn storïwr sydd gan ei hawdur ac nid dawn bardd”,  

Fe wobrwywyd cerdd Dilys Cadwaladr.  Cafodd amlygrwydd wedyn am mai hi oedd y ferch gyntaf i ennill y goron. Cerdd yn ceisio chwilio hanfod bywyd y tu hwnt i len y gweladwy sydd ganddi a chred J.M. Edwards bod rhuthmau, sain, lliw a thôn y gerdd yn boddhau, er ei bod yn hawdd deall pam na fyddai’n apelio at Saunders Lewis.  Mae defnydd barddonllyd o ansoddeiriau, e.e. “anweledig betheuach”, “a chyniweirus ymlusgiaid”, “hyfryd ymrywiogi”, ac ymagweddu Islwynaidd bryd arall, e.e.

“Eiriolaeth poen! Ba sadydd gwawdus

A fwyn awgrymodd wrth feibion dynion

Mai poen yw meichiau bywyd…”

yn cyfrannu at ei methiant i basio prawf amser.

            Sut, felly, mae cloriannu ‘Llen’ Dyfnallt Morgan?  Roedd un beirniad yn galw’r awdur yn fardd, a dau yn amau hynny.  Gellir honni’n sicr bod y gerdd wedi magu arwyddocâd gyda threigl amser.  Ar y pryd, roedd hi’n ymdrech arloesol i fynegi profiad dirdynnol diwedd cyfnod o wareiddiad Cymru wrth i genhedlaeth gael ei chodi yn amddifad o iaith, diwylliant a chrefydd.  Dyma’r union thema yr oedd Saunders Lewis eisoes wedi ymdrin â hi mewn modd gwahanol, a Kitchener Davies hefyd yn yr un cyfnod, a Rhydwen Williams yn ddiweddarach mewn modd gwahanol eto.  Cydnabuwyd ei gwerth gan y BBC trwy ei darlledu ym mis Awst yr un flwyddyn, a chyhoeddwyd hi ddeufis wedyn gan Wasg Aberystwyth.[24]

            Mae’r gerdd yn cofnodi ymson hen ŵr wrth iddo fynd yn ôl i’w ardal enedigol i fynychu angladd cyfaill iddo.  Mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu mewn iaith lafar, ac ar adegau mae’r iaith lafar yn troi’n fratiaith.  Doedd hyn ddim wrth fodd J.M.Edwards a nododd fod y gerdd yn cynnwys bratiaith fel “stwff useful”, “i brogrammes Cwmr’eg y wireless” a “rai o’r youngsters” a noda gyda dirmyg nad yw’n syn bod y genhedlaeth newydd wedi troi cefn ar y fath iaith.  Mae T.H. Parry-Williams yn gweld bod yr iaith hon yn adlewyrchu’r iaith lafar yng Nghymru, ond nid yw’n gweld fawr pellach na hynny.

Roedd eu hagweddau hwy’n debyg i rai Cymry selog heddiw sy’n difrïo’r math o iaith a glywir ar Pam fi Duw.  Eu methiant yw peidio â sylweddoli bod yr iaith a ddefnyddir ynddi ei hun yn bortread o’r hyn y bwriedir ei fynegi.  Heddiw dangos sut mae’r iaith yn dod yn ôl ar wefusau ieuenctid cymoedd y de a wneir, a hynny’n ddigon clogyrnaidd ar adegau, ond wedi dweud hynny, Cymraeg ydyw er gwaethaf y llu brychau.  Mae cymdeithasegwyr iaith yn hen gyfarwydd â’r  ffenomen yma o gymysgu iaith.  Lle bynnag y mae dwy iaith yn gorgyffwrdd â’i gilydd, mae’n beth cwbl normal gweld dylanwad y naill ar y llall, ac yn enwedig ddylanwad yr iaith gryfaf ar yr iaith wannaf.[25]  Gall hyn fod yn gyflwr gweddol barhaol lle mae’r ieithoedd yn sefydlog, gan arwain at ddatblygu cod iaith penodol ymhlith y siaradwyr, ond lle mae’r iaith wannaf yn ansefydlog, gellir dehongli’r cymysgu cod hwn yn arwydd o ddirywiad, a’r dirywiad hwnnw’n debyg o waethygu nes cyrhaeddir pwynt pan na ellir gwahaniaethu’r naill iaith oddi wrth y llall.  Gellir gweld hyn naill ai’n llofruddiaeth iaith, a chofio am sylwadau Elfed a ddywedodd fod Lloegr yn “un o’r cenhedloedd mwyaf iaith-lofruddiog” a welodd y byd,[26] neu’n hunanladdiad iaith, lle y mae’r duedd i newid teithi’r iaith yn eiddo’r siaradwyr yn hytrach na bod yn ddylanwad gormesol.

Y gwahaniaeth rhwng Pam fi Duw a’r ‘Llen’ yw bod y naill yn arwydd o adferiad iaith a’r llall yn bortread o’i dirywiad a’r iaith yn y ddau waith yn adlewyrchu adferiad neu ddirywiad cymdeithasol.   Yn y ddau mae’r iaith ei hun yn ymgorfforiad o’r neges a fynegir, ac yn rhan annatod felly o’r greadigaeth.  Nid lle’r beirniad yw gresynu at yr iaith: byddai hynny fel gresynu at ddefnydd T. Gwynn Jones o’r gynghanedd.  Gwelodd Tecwyn Lloyd arwyddocâd hyn yn ei sylwadau ar farddoniaeth Dyfnallt Morgan, “Ond yn gymysg â hyn [tafodiaith] mae’r fratiaith, ac fe ddefnyddir honno’n dra chelfydd i oleuo ac eiliwio’r dafodiaith Gymraeg sy’n darfod amdani.”[27]

            Cydnabu Saunders Lewis y cysylltiad annatod rhwng iaith lafar a bratiaith y gerdd â’r neges waelodol ynddi, a hynny mewn adolygiad o’r gerdd wedi iddi gael ei chyhoeddi.  Trueni na fyddai wedi ymhelaethu yn ei feirniadaeth yn y Cyfansoddiadau, ond efallai na fyddai hynny wedi bod wrth fodd ei gyd-feirniaid na swyddogion yr eisteddfod.  Eglura hynny, o bosibl, grynoder ei feirniadaeth wreiddiol.  Dywed yn awr fod y bardd yn cynnig gweledigaeth “o bethau cain yn darfod, diwedd gwareiddiad”.[28] Cydnebydd nad yw’r iaith yn farddonol, ond ei bod “yn rhan o’r weledigaeth drychinebus; a llenor yw’r bardd, llenor hyd at flaenau’i fysedd.”  Ymesyd yr un pryd ar “gastiau’r beirddiach ac ni cheir un ansoddair o flaen enw na dim ymchwyddo”.  Dyna roi pryddest Dilys Cadwaladr yn ei lle, mae’n debyg.

Cychwynna’r gerdd mewn tafodiaith y byddai Dyfnallt Morgan yn gyfarwydd iawn â hi, a thafodiaith sydd ar drengi bellach.  Mae cytseiniaid yn caledu ar ganol geiriau, a’r newidiadau llafarog yn amlwg:

“Ia, echdo cas a’i gladdu,

Yn fynwant y Twyna’!

Ma sywr o fod pum mlynadd ar ician

O war claddu hi:

Welas i ddim o’r garrag

Wath o’dd y pridd

I gyd weti c’el i dwlu ar i ben a.

Fues i ’na? Wel do, w,

Achos o’n i’n dicwdd bod lawr co’n aros gyta ffrindia

O nos Wenar ’yd ’eddi;

Wyt ti’n gwpod fel wi’n lico

Mynd ’nôl i’r ’en le ’nawr ac yn y man!’

Ceir awgrym o’r newid agweddau, a ddaw’n fwy amlwg yn nes ymlaen, yn yr ail bennill, pan ddywedir bod rhaid i’r angladd ddigwydd cyn deuddeg, ond ‘Union’, sylwer a ddefnyddir, nid ‘Undeb’, a oedd wrth reswm yn air digon cyffredin yn anterth y diwydiannu, a hyn yn   awgrym o’r dafodiaith yn colli grym,

“Wath ma’r torrwrs bedda i gyd yn yr Union ’nawr

A wna nw ddim ar d’wetydd Satwrn.”

ac yna yn y pennill nesa, wedi nodi bod yr angladd yn breifat, ceir cyfeirio at y dirywiad crefyddol a fu,

“O’n nhw ddim yn napod y gweinitog chwaith:

O’s dim gweinitog weti bod ’ta’i gapal e’

Os blynydda,

A goffod nw yrfyn wetyn ar ’wn, ’twel.”

Nid yw’r llefarydd yn gyfarwydd ag iaith y gweinidog am ei fod yn dod o’r gogledd, a hyn eto’n arwydd fod ffurfiau safonol y Gymraeg wedi mynd yn estron,

“Ges i grap itha da arno fa, sachni, o beth wetws a

Ar i weddi ar lan y bedd : diolch

Wnas a am gartrefi cryfyddol mywn o’s ‘ddreng’

(Na’r gair wetws a, wi’n cretu, ta beth yw a).

Erbyn hyn y mae’r llefarydd, heb yn wybod iddo’i hun, yn dod yn sumbol o’r dirywiad y mae’n gresynu ato, a hyn i’w weld yn ei syniadau, yn y modd y disgrifia’r oes newydd, ac yn ei ddefnydd o iaith.  Sonnir am y newidiadau cymdeithasol ac economaidd, ac effaith priodasau cymysg ar iaith

“A meddwl!

’Na le’r o’dd Glatys a Susie,

A’u gwrwod gwrddon’ nw yn yr A.T.S. –

A reini weti c’el gwaith ar y Tradin’ Estate ’nawr;

A Isaac a’i wraig –

Merch o Ireland a fe weti troi’n Gathlic gyda ’i…

A dim un o’onyn’ nhw’n diall Cwmr’eg.

Ond wi’n cammol nw am g’el anglodd Cwmr’eg iddo fa…,”

Mae ystadegau tro’r ganrif yn nodi’n glir sut y methodd aelodau Cymraeg priodasau cymysg â throsglwyddo’r iaith i’w plant.  Dengys Mari Williams bod 60% o blant teuluoedd o’r fath yn uniaith Saesneg yn Nowlais, tra bo parau Cymraeg yn llwyddo bron heb fethiant i drosglwyddo’r iaith i’w plant.[29]  Yna ceir llinell sy’n feirniadaeth lem o’r modd y mae’r newid iaith wedi peri gwahanu diwylliannol a rhyngbersonol, a hynny yn gyfrifol am rwygo agosatrwydd teuluol,

“Dim ond ta’cu o’dd a iddyn’ nw, a peth arall,

O’dd a m’es o’u byd nw’n deg.

Wyt titha a finna’n gwpod rwpath am ’yn,

Wath dyw’n plant ni ddim yn wilia’r ’en iaith, otyn’ nhw?”

Mae sawl rhan o’r gerdd yn ymdrin ag effaith colli crefydd yn sgil colli iaith.  Ar y naill law mae coelgrefydda wedi ennill tir wrth i Gristnogaeth gilio,

“Wath ma Glatys a Susie’n regilar yn y ‘Spooks’ bob wsnoth

Ac yn c’el rwy brofiata ryfeddol, o’n i’n clywad.”

tra ar y llall, mae colli cryfder yr uned deuluol, a’r uned honno’n sail i gymdeithas wâr, yn cyfrannu at dranc crefydd.  Mae’r llefarydd yn ymweld â’i hen gapel, ac yn clywed diacon yn wylo wrth ofidio am dranc crefydd a diflaniad teuluoedd,

“Ac yn gweud bod ’i’n ’with gweld teulu’n marw m’es.

Ia, wetas i wrth ym ’unan, inni’n retag lawr

Crefydd y Paddies – ond

Smo teuluo’dd yn marw m’es gyta nw!”

Cyfeirir, heb i’r llefarydd wneud y peth yn bregeth, at golli iaith, a’r eironi yw bod y llefarydd ei hun yn methu â gweld yn llwyr yr ergyd sy’n amlwg i’r darllenydd,

“All’san i feddwl

Bydda fa’n well iddyn’ nhw droi’n Sisnag,

Wath ’na iaith yr Ysgol Sul os blynydda…”

Mae’r diwylliant cerddorol a oedd yn rhan ganolog o fywyd y cymoedd hefyd wedi edwino, nes bod yr organydd hyd yn oed wedi colli’r grefft a oedd yn gymaint rhan o fywyd cartref a chapel y bardd. Cofier bod Dyfnallt Morgan ei hun yn feistr ar ganu’r organ, ac yntau wedi ei hyfforddi gan ei dad. Trodd hen grefft yn ddynwarediad truenus,

“Yn schiclo’i sgwdda fel ta rityll yn i law a

Ac yn ysgus wara â’i dr’ed

Wrth drio gwneud Voluntary m’es o dôn plant bach-

A finna’n gwpod ma’r Bass Coupler o’dd m’es ’ta fa.”

Sonia’r llefarydd wedyn am yr aelodau a gollwyd o’r capel, yr ymdrech i gadw’r lle,  a’r cyfan yn peri chwalfa gymdeithasol, ac yntau ei hun yn rhan ohoni,

“Goffod i bopol fel ti a fi

Ddod i Loegar i wilo am waith…”

Er bod y rhyfel wedi dod â swyddi, ac ychydig o lewyrch, a dod â rhai yn ôl i’r capel, y buasai cywilydd arnynt fynd yno yn eu carpiau, ni ddaeth â bywyd newydd i’r diwylliant. Nod y capel yn awr yw cael gweinidog i “gatw ml’en yr ’en draddodiata”, a’r aelodau wedi cael digon “o’r students ’ma / Amser ryfal, a’r polis yn dod i wrando arnyn’ nw”. Mae’n fantais ei fod yn ddi-briod, gan nad oes mans ar ei gyfer, ac efallai y caiff le mewn “rooms to let gyta un o’r ladidas ’na”.  Mae’r elfen fywiol yn y gymdeithas wedi diflannu, a’r ymdrech i barhau etifeddiaeth y gorffennol wedi colli ei hegni creadigol.

            Tua diwedd y gerdd mae’r llefarydd yn gweld ei fod er ei waetha’n teimlo bod ei gyfnod wedi dod i ben.  Wrth ystyried y dirywio a fu ar waith yn araf ar hyd y blynyddoedd, teimla fod llen yn cau ar y bywyd yr oedd yn ei adnabod.

“Wyt ti’n gwpod

Fel ma cyrtens yr ’Ippodrome yn cau… yn ddistaw bach…

Ar ddiwadd y perfformans?

Wel falna mae ’co!

Wi’n gweld llai o’r ’en scenery bob tro…

A wi’n c’el y teimlad

Bo fi’n c’el yng ngwascu m’es gyta’r crowd.”

Mae arwyddocâd mai yn yr Hippodrome y mae sumbol allweddol y gerdd.  “Adfeilion sinemâu’ oedd sumbol y dirywiad yng ngherdd Saunders Lewis, a’r sinemâu eu hunain yn arwydd o’r dirywiad diwylliannol.  Efallai nad yr un Hippodrome sydd ganddo â Kitchener Davies, pan sonia yntau am yr “Empire a’r Hippodrome tan eu sang ar nos Sul”[30] ond yr un yw’r sumbol o ddirywiad diwylliannol. Flynyddoedd yn ddiweddarach mae Rhydwen Williams yn sôn eto am yr Hippodrome fel rhan o fywyd lliwgar y cymoedd.[31] (Ai’r Hippodrome felly yw’r theatr/sinema fwyaf adnabyddus yn ein llenyddiaeth?) O hyn ymlaen mae’r llefarydd ei hun wedi ei lwyr ddieithrio o’r gymdeithas y bu’n rhan ohoni. Ei hen gyfaill oedd yr olaf o’i genhedlaeth, a hwnnw’n un a feddai gyfoeth y gorffennol,

“A ’nawr, ma’r ’en stager dwytha’ weti mynd;

Licswn i fod weti i weld a cyn y diwadd,

Wath o’dd a’n llawn gwybotath o’r ’en betha.”

Cyn iddo yntau farw roedd y rhwydwaith cymdeithasol a diwylliannol wedi diflannu a’i fywyd yntau yn sgil hynny eisoes wedi colli ei ystyr,

“O’dd a’n gweld isha cyfarfotydd y Cymrigiddion yn ofnatw

Pan gwplws reini …

Ia, echdo gladdwd a,

On’ ma ’ta fi rwy feddwl

Bod a weti marw … fisho’dd yn ôl.”

Pa ddyfodol sydd i’r llefarydd, a hwnnw’n gweld diwedd ei gymdeithas?  Rhyw obaith ffug a welir ganddo, gobaith mewn man draw.  Edrycha i gyfeiriad comiwnyddiaeth, gan led gredu “bod pethach yn goleuo sha Rwsia ‘’na!”, ac adlewyrchu yn hyn o beth y gobaith gan nifer y byddai Rwsia’n rhoi arweiniad i weddill y byd, heb fod rhaid iddynt hwythau eu hunain gyfrannu at yr ymdrech. O ran ei fyd ei hun, mae’n dychwelyd i’w ddyletswyddau beunyddiol, ac at bleserau nad ydynt ond yn cynnig adloniant y funud, heb allu cymryd lle’r cyfan a gollwyd,

“Ia wel! Back to the grind ’fory…

Hei, gewn ni gwrdd yn y matsh dy’ Satwrn…

…Os byddwn ni byw.”

Roedd J.M. Edwards yn iawn, wrth gwrs, fod yma stori, ond nid stori’r dychwelyd i angladd hen gyfaill yw craidd y gerdd.  Fframwaith yw’r stori ar gyfer cerdd ddeifiol a dychanol sy’n cofnodi diwedd y gymdeithas Gymraeg ddiwydiannol.  Mae’r gerdd yn cynnig portread o ddirywiad personol a chymdeithasol, o chwalfa’r uned deuluol a chrefydd, yn sgil newidiadau economaidd ac ieithyddol, nes cyrraedd man lle y gwêl y llefarydd ei fod wedi ei alltudio o’i wlad ei hun, yn gorfforol, yn ysbrydol, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, ac felly wedi ei ddieithrio o’i wreiddiau. Mae diffyg pwrpas bywyd wedyn yn amlwg. Mae’r ing wedi ei guddio’n gyfrwys y tu ôl i natur ffwrdd-â-hi yr ymadroddi, ond does dim rhaid twrio’n hir i weld arwyddocâd y neges na chwaith i ddeall bod y gerdd wedi ei saernïo’n fedrus a’r iaith wedi ei dethol a’i chofnodi’n ofalus.  Mae’r gerdd, yn ôl E.G.Millward, yn “cau’r bennod a agorwyd gan ‘Gwerin Cymru’” Crwys yn 1911.[32]

            Mae’r gerdd erbyn hyn yn aros yn un o’r ychydig ymdrechion difrifol i gofnodi ac i farwnadu diflaniad rhan o’n hetifeddiaeth gyfoethog.  Aeth T. Gwynn Jones i’r cynfyd Celtaidd i fynegi ei ddicter am y modd yr oedd y to newydd yn arfer “bregliach bach yn lle iaith urddasol”, a’r bardd yn diflannu i’r gwyll “Yn flin ei wedd ac fel un a wyddai / Ei waradwyddo’n lle’i anrhydeddu”. [33] 

            Mae rhannau o ‘Ffynhonnau’  Rhydwen Williams ar thema debyg.  Ar ganol y gerdd noda’r dirywiad cymdeithasol a diwylliannol yn sgil ymfudo,

            “- Ma’ Megan wedi cael headship yn Stoke.

  • ’Roedd hi’n dda gyta’r plant yn Saron.
  • Ma’ Percy yn giwrat yn Stepney…

Pwy fydd ar ôl ar y mynyddoedd hyn

I rydu gyda’r gêr a’r olwynion a’r rheiliau,

A heneiddio gyda’r Achos a’r Cymmrodorion a’r Iaith

Fel hen ieir yn crafu eu bywoliaeth yn rwbel y blynyddoedd?”[34]

Mae cerdd Rhydwen Williams, serch hynny,  yn diweddu ar nodyn lled obeithiol, wrth weld yr ysgolion Cymraeg yn dwyn ffrwyth.  Doedd dim modd i Dyfnallt Morgan fod wedi gorffen yn yr un modd.  Yn un peth mae ei gerdd yn ymgorfforiad o’r hyn a fynega.  Nid yw’r bardd yn ymyrryd yn y traethu.  Ar y llaw arall, roedd Dyfnallt Morgan ei hun wedi bod yn dyst i’r diwedd, ac wedi penderfynu canlyn ei Gymreictod y tu allan i’w fro enedigol.  Yn hyn o beth roedd yn adlewyrchu’r ymdeimlad o ddiwreiddio a welodd ymysg ffoaduriaid ledled y byd. Yr oedd yn ddigon agos at y bobl i werthfawrogi cyfoeth ei gymdogaeth – yn wahanol i Saunders Lewis na lwyddodd i gynhesu at gynulleidfaoedd o weithwyr.  Ar y llaw arall, llwyddodd Rhydwen Williams i fynd yn ôl i’r cymoedd i fyw, yn y lle cyntaf yn weinidog, ac wedyn yn ystod ei flynyddoedd olaf, a gwerthfawrogi heb ball gynhesrwydd y gymdeithas ddiwydiannol.

            Wedi dychwelyd o’r dwyrain pell ddechrau’r pumdegau, parhaodd Dyfnallt Morgan i farddoni, gan ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni, 1957, gyda ‘Rhwng Dau’, drama fydryddol yn ymwneud â meddyg o Gymru a chymeriadau o Singapore a Tsieina, wedi ei lleoli mewn ysbyty yn Hong Kong.  Ceir trafodaeth rhyngddynt ar natur cenedl a gwahaniaethau cenhedlig sy’n rhoi gwreiddiau o bobl. Wrth i’r meddyg o Gymro esbonio pwy ydyw, cawn gip ar y cwlwm a ystyriai Dyfnallt Morgan yn un annatod rhwng iaith a hunaniaeth, ac ar y modd y mae Cymru wedi simsanu wrth golli iaith,

            “Nid oes gennyf fi

            Ddim tylwyth, yn yr ystyr yna, Mei.

            Nid wyf yn Sais, nid wyf yn Gymro chwaith.

Mei:     Na, prin y gellwch fod yn Gymro iawn

            Heb fedru’r iaith.  Rhaid felly eich bod yn Sais.”

Meddai’r Cymro wedyn,

            “Ni ddaw’r Gymraeg yn iaith swyddogol fyth

            Yng Nghymru.  Y mae’r bobol wedi gweld

            Na thâl hi ddim.  Mae mwy na’u hanner nhw

            Heb fedru gair, a heb ddymuno gwneud.

            Mae’r gweddill fel y merched yng Hongkong

            Sy’n eistedd ar gadeiriau’r neuadd ddawns

            Yn disgwyl am wahoddiad gan ddau fyd.”[35]

A Dyfnallt Morgan yn teimlo’r dieithrwch i’r byw, treuliodd ei oes yn gweithio i gynnal y gwerthoedd yr oedd yn eu harddel mor danbaid. Wedi cyfnod yn Aberystwyth bu am ddeng mlynedd yn gynhyrchydd gyda’r BBC, yn Abertawe am flwyddyn cyn mynd i Fangor, ac yno wedyn cafodd swydd darlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol.  Cyfrannodd yn wâr a deallus trwy sgyrsiau radio ac yn ei ysgrifau a’i lyfrau at werthfawrogiad Cymry o’u hawduron.  Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, golygodd ac ysgrifennodd sawl cyfrol o feirniadaeth lenyddol, a chyfieithodd lu o weithiau cerddorol i’r Gymraeg. 

Bellach, wrth gwrs, mae ysgolion Cymraeg y cymoedd diwydiannol yn gorlifo, ac ysgolion uwchradd Cymraeg Rhydfelen, Rhydywaun, Llanhari, y Cymer, Gwynllyw a Chwm Rhymni’n dyst i awydd y gymdeithas a amddifadwyd o’i hiaith i’w hadennill.  Mae’r frwydr yn parhau, a’r llen o bosib yn dechrau ailagor.

Heini Gruffudd


[1] Gweler W.T.R Pryce, ‘Parthau Iaith, Newidiadau Demograffig a’r Ardal Ddiwylliant Gymraeg 1800-1911’ yn Geraint H. Jenkins (gol.), Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 35-77.

[2] ‘Dowlais (Sir Forgannwg)’, Williams, Mari A., yn Parry, G. a Williams, Mari A. (gol.) Miliwn o Gymry Cymraeg!, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1999, t. 174.

[3] Dyfnallt Morgan, ‘Gwyn Alf a fi’, Y Faner, Ebrill 5/12, 1985, t. 4.

[4] Idem.

[5] Dyfnallt Morgan, ‘Tair Cenhedlaeth’, Y Llen a Myfyrdodau Eraill, Gwasg Gee, Dinbych, d.d. (1967?), t. 75.

[6] Gweler Dyfnallt Morgan, ‘Atgofion’, Y Tyst, Mehefin 2, 1983, t. 1.

[7] Glanmor Williams, ‘Eira Ddoe: Cofio Dowlais’, Taliesin, 69, Mawrth 1990, 12. Gweler hefyd Glanmor Williams, ‘Bachgen bach o Ddowlais’ yn Merthyr Historian, VI, Merthyr Tydfil Historical Society, 1992, tt. 31-42.

[8] Dyfnallt Morgan, ‘… Deigryn am a fu’, Taliesin, 71, Medi 1990, t. 42.

[9] op. cit., t. 46.

[10] op. cit., t. 12.

[11] Ibid, t. 16.

[12] gw. nodyn 5, t.77.

[13] op. cit., t. 4.

[14] Gweler Gwyn Alf Williams, When was Wales?, Penguin Books, Llundain, 1985, tt. 252-260.

[15] op. cit., t. 47.

[16] Gweler ‘Dau le’, Y Faner, Mai 9, 1986, tt.12-13.

[17] ‘Welsh – a Language in Retreat?’, Yr Einion, 4, Gorffennaf 1952, t. 65.

[18] Dent, 1938.

[19] The Collected Poems of Idris Davies, gol. Islwyn Jenkins, Gwasg Gomer, Llandysul, 1980, 164.

[20] ‘Y Dilyw’, Cerddi Saunders Lewis, gol. R. Geraint Gruffydd, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1992, tt. 10-12.

[21] ‘Saunders Lewis – Arwr Cenedlaethol’, cyflwynwyd gan Gwyn Alf Williams, Cwmni Teledu Teliesyn, ar gyfer S4C, 1992.

[22] Annwyl Kate, Annwyl Saunders, gol. Dafydd Ifans, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1992, t. 15-16.

[23] Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, gol. D.M. Ellis, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl 1953, Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 73

[24] Dyfnallt Morgan, Y Llen, Gwasg Aberystwyth, 1953.

[25] Gweler e.e. Carol Myers-Scotton, ‘Code-switching’ yn Florian Coulmas (gol.) The handbook of Sociolinguistics, Blackwell, Rhydychen, 1998, tt. 217-237.

[26] Gweler Dafydd Owen, Elfed a’i Waith, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Abertawe, 1963, t. 131.

[27] D. Tecwyn Lloyd, ‘Barddoniaeth Dyfnallt Morgan’, Taliesin 24, Gorffennaf 1972, t. 81.

[28] Saunders Lewis, ‘Barn Saunders Lewis am y Bryddest “Y Llen” ‘, Y Faner, Rhagfyr 23, t.6.

[29] Mari Williams, ‘Dowlais(Sir Forgannwg)’, t.181-182.

[30] ‘Sðn y Gwynt sy’n Chwythu’, yn Mair I. Davies (gol.), Gwaith Kitchener Davies, Gwasg Gomer, Llandysul, 1980, t. 20.

[31] Rhydwen Williams, ‘Ffynhonnau’, yn E. Lewis Evans (gol.), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, 1964, t. 60.

[32] E.G.Millward (gol.) Pryddestau Eisteddfodol Detholedig 1911-1953, Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1973, t.23.

[33] ‘Argoed’, T. Gwynn Jones, Caniadau, Hughes a’i fab, Wrecsam, t. 110-11.

[34] op. cit., t. 59.

[35] Dyfnallt Morgan, ‘Rhwng Dau’, Y Llen a Myfyrdodau Eraill, t.34-5.