Gwesty Vendome, Strasbourg

I fan hyn

mae’r dyn siwtiog yn dod

gyda’i ges du-clic-clic

sy’n cau ac agor mor effeithiol.

Ynddo mae swp papurau –

fe ges gipolwg syn –

Roedd ffolder â band lastig amdano

ac ar y clawr uchaf

ac ar sawl man arall mae’n siŵr

mae cylch o sêr.

Addas wedyn cael sêr o Lebkuchen i frecwast

gyda choffi cryf,

croissant a jam efallai

ac yna mae ganddo’r ‘Au ’voir’

ac egni digonol i gamu’n chwim

i ddal y bws rhif chwech,

a chlic-clic ei sgidiau’n atseinio ar y pafin

sy’n llawn plant a myfyrwyr,

rhai’n smygu, rhai’n darllen,

a hithau’n dal yn dywyll

a deugain baner yn cyhwfan o’u blaen.

Fe aiff e i un o ugain o bwyllgorau’r diwrnod

yn y Conseil d’Europe,

gyda channoedd tebyg iddo, dringa’r grisiau llydan

ac ar ddiwedd y prynhawn

aiff i newid ei siec wyth can Ewro

– am dreuliau dilys wrth reswm –

Yn y banc fer y fynedfa.

Mae’n cau ei waled.

Clic.