Bezos, dyn cyfoethoca’r byd

Ydy Bezos yn hel mwyar?

Ydy Bezos yn ei ardd?

Ydy e’n rhannu plwms ag adar,

Ydy e’n ceisio bod yn fardd?

—

Mae ei fryd ar fynd i’r gofod,

Ac am byth mae e am fyw,

Tybed, a dyw hyn ddim syndod,

Ydy e eisiau bod yn dduw?

—

Wel ‘rhen Bezos, os doi heibio,

Cei di blatied lawn o ffa

Sydd rhwng blodau’r ardd yn dringo,

A chei brofi tarten dda.

—

Dan y palmwydd cei orffwyso’n

Gynnes dan yr awyr las,

Teimlo’r awel yn dy fwytho,

Yma cei o’r ‘byth’ beth flas.