File it

Baled ar gychwyn ail ysgol ddwyieithog Gorllewin Morgannwg

Saith mlynedd nôl, ryw bnawn o Sul,

Yn sobor, o nas gwelsit,

Sgrifennodd Glanville at John Beale,

Ond meddai’r mul ‘I’ll file it’.

Fe alwyd cwrdd rhieni brwd,

A wir, fe ddwedaf wrthyt,

Anfonwyd memo at y cwd,

Ond meddai eto, ‘File it’.

I mewn i’r Guildhall aeth dros fil

A llanw pob un exit.

Ond beth ddywedodd Mr Beale?

‘Ry’ch chi’n elît, so file it.’

Ond cynnig Sandfields wnaeth yn wir,

Heb wybod hefyd rywsut

Na wnâi rhieni doeth y sir

Roi croeso, ond dweud ‘file it’.

‘Ni chewch chi well’, medd G’noro Jones

Ond dilyn geiriau Tebbit

A wnaeth rhieni, ‘Gwlych dy drôns,

Dos ar dy feic, a ‘file it’.

A John a Randolph wrth y llyw,

A Gareth fel rhyw farcut,

Ni roddwyd diolch am gael byw

Gan wŷr y sir a’u ‘file it’.

Nes yn y diwedd nid oedd dim

I’w wneud ond rywsut-rywsut

Roi ail ysgol i ni’n chwim,

Heb siw na miw am ‘file it’.

1984

Mae’r oll yn awr yn eu bedd:

Glanville:  y bargyfreithiwr Glanville Jones, nad oedd bob tro’n sobor

John Beale: y cyfarwyddwr addysg gwrth-Gymraeg

Gwynoro Jones: gwleidydd gwamal

Tebbit: y Tori a ddywedodd wrth y di-waith i fynd ar eu beic

John: Dr John Davies, ysgrifennydd ymgyrch y rhieni

Randolph: Randolph Jenkins, un o brif ymgyrchwyr y rhieni

Gareth: y Parch Gareth Thomas, un o arweinwyr yr ymgyrch