Llyfrau’n agor hen glwyfau

Cyhoeddwyd yn O’r Pedwar Gwynt

Yr Erlid, Y Lolfa, 2012.

Haven from Hitler, Y Lolfa, 2014.

Paul Bosse, Seine Klinik in Wittenberg, Unerwünschte Wahrheitssuche, Detlev und Ute Stummeyer, Projekte-Verlag, Cornelius, 2014.

Heilen und Unheil, zur Geschichte des Paul-Gerhardt-Stifts zwischen 1918 und 1945,  Helmut Bräutigam, Paul Gerhardt Stiftung, Wittenberg, 2017.

Verleumdet, verfolgt, vertrieben, Der Wittenberger Arzt Paul Bosse und seine Familie 1900-1949, Hans-Jürgen Grabbe, Mitteldeutscher Verlag, 2019.

Mae’r daith rhwng cyhoeddi Yr Erlid yn 2012 a chyhoeddi addasiad Almaeneg ohono ym mis Ebrill eleni wedi bod yn un o ryfeddu ac o ddysgu.  Mae’n debyg mai’r syndod cyntaf i mi oedd ymateb darllenwyr Cymraeg, a arweiniodd at yr angen am drydydd argraffiad erbyn 2015.  Mewn ymateb i’r diddordeb, fe’i cyfieithais i’r Saesneg yn 2014, fel Haven from Hitler,  ac yn ystod y blynyddoedd ers 2012 ces gais gan ryw gant o gymdeithasau i annerch.

Daeth y glir bod diddordeb y gymdeithas Gymraeg gyfoes – neu o leia’r rhai y cyfarfûm â nhw – yn  hanes yr Iddewon yn un o chwilfrydedd iachus.  Diflannodd rhagfarn O.M. Edwards yn eu herbyn, ac ymagweddu anffodus Saunders Lewis, a’r ddau rhyngddynt yn dilyn Luther a Dostoieffsgi, gyda’u triawd o gyhuddiadau: i. mai’r Iddewon laddodd Iesu; ii. bod angen eu hachub; iii. bod gan yr Iddewon afael anfoesol ar fasnach. Fodd bynnag, mae’n siom bellach bod tystiolaeth bod gwrth-Iddewiaeth ar gynnydd yng Nghymru, fel yn Lloegr, efallai yn sgil yr hiliaeth sydd wedi’i chorddi gan gnafon Bregsit.

Wedi cyhoeddi’r fersiwn Saesneg, des yn ymwybodol o gymhlethdod hunanamddiffynnol ymhlith Iddewon. Cysylltodd un o gynulleidfa’r synagog yn Abertawe (sy bellach wedi cau) â mi. Ro’n i’n tybio imi ddisgrifio fy ymweliad â’r synagog mewn ysbryd o werthfawrogiad agored, a gyda pheth hiwmor, yn  unol â’r croeso cynnes a’r hiwmor beiddgar a brofais yno.  Ond na, roeddwn i fel pe bawn, wrth ddatgelu rhai pethau, wedi dangos yr hyn a gredai oedd yn wrth-Iddewiaeth gynhenid ynof.  Allai dim fod yn bellach o’r gwir, wrth gwrs. Fy nghamwedd oedd dyfynnu cyfaill i mi, sydd bellach wedi marw druan, a ddywedodd wrthyf ei fod yn cadw’r traddodiad o fynd i’r synagog yn ddi-ffael, er nad oedd yn sicr ei gred yn Nuw. Holodd yr Iddew cyhuddgar fi pwy oedd hwn, fel pe bawn wedi’i ddyfeisio.  Wnes i ddim digon i’w blesio.

Diddordeb arall y gynulleidfa Gymraeg oedd ymateb poblogaeth yr Almaen yn ystod blynyddoedd y trychineb. Roedd yr ymateb yn amrywio, wrth gwrs, ond roedd ufuddhau i’r drefn a cheisio goroesi’n flaenoriaeth, fel sy’n wir am y rhan fwyaf o drigolion y gwladwriaethau mawr. Doedd yr Almaenwr cyffredin ddim yn fwy anfoesol na phobl unrhyw wlad arall yn Ewrop.  Mae hiliaeth a gwrth-estroniaeth pobl Cymru a Lloegr, fel y gwelwn yn sgil trychineb Bregsit, wedi dangos nad ydyn ni’n bobl wych iawn, o gofio mai’r Almaen, o bobl gwlad Ewropeaidd, sydd wedi arwain y croeso i geiswyr lloches, tra’n bod ni’n dilyn o hirbell iawn.  Mae cymaint yn dibynnu ar bwy sydd mewn grym ac ar bolisïau hunanol gwledydd.

Y syndod nesaf oedd bod Yr Erlid wedi cael ymateb yn Wittenberg, tref enedigol fy mam.  Yma y bu Luther yn taranu ei wrth-Iddewiaeth, gan gymryd cerflun gwrth-Iddewig sy’n uchel ar fur eglwys y dref, sy’n dangos Iddewon yn sugno hwch (yr Judensau) yn destun i un o’i ddau lyfr yn erbyn Iddewon.

CANFOD A CHUDDIO HANES

Dechreuodd criw bach o drigolion y dref, rhai a fagwyd yn yr hen DDR, ailddarganfod hanes rhai o dras Iddewig a fu’n byw yn y dref. Buon nhw wrthi’n gosod sgwariau bach metel (Stolpersteine) ar y palmant o flaen cartrefi rhai a laddwyd gan y system, gan gynnwys un o flaen hen gartref ein teulu.

Roedd y rhain yn dilyn arweiniad Ronny Kabus, awdur llyfr ar Iddewon Wittenberg (Juden der Lutherstadt Wittenberg im III. Reich) a gyhoeddwyd yn 2003 i gyd-fynd ag arddangosfa o dystiolaeth wrth-Iddewig.  Credai rhai bod awdurdodau Wittenberg wedi rhoi cyn lleied o gyhoeddusrwydd ag yr oedd yn bosibl i’r arddangosfa hon, am nad oedd ar gael i’w gweld wedyn am flynyddoedd.

Roedd cryn anniddigrwydd ymysg rhai fod yn Wittenberg o hyd rai a fu’n rhan o’r system Natsïaidd, neu rai’n perthyn i deuluoedd a fu’n Natsïaidd, nad oeddynt am gydnabod sut aeth y dref ati i yrru’r Iddewon allan ohoni.

 Un o’r rhai gafodd ei feirniadu gan y grŵp hwn oedd yr Athro Wolfgang Böhmer, a oedd am gyfnod yn wleidydd gyda phlaid y CDU ac am ddeng mlynedd yn Llywydd (Miniterpräsident) talaith Sachsen-Anahlt.  Cyn hyn roedd yn brif feddyg Ysbyty Paul-Gerhardt-Stift yn Wittenberg.  Dyna’r swydd oedd gan Paul Bosse, fy nhad-cu, swydd y cafodd ei daflu ohoni am fod ei wraig o dras Iddewig. Bu Böhmer yn ysgrifennu’n weddol helaeth ar iechyd yn y dalaith ac yn Wittenberg, gan gelu sut y bu Natsïaid mor ganolog yng ngweinyddiaeth yr ysbyty yno. 

LLYFR YN DIFLANNU

Cychwynnodd fy nghyfnither, Ute Stummeyer, ddadl ffyrnig ag ef, a chrynhodd ei dadleuon mewn llyfr o’i heiddo hi a’i gŵr (Paul Bosse, Seine Klinik in Wittenberg, Unerwünschte Wahrheitssuche).  Cwynodd fod Böhmer wedi camgyflwyno ffeithiau, wedi celu bod ein tad-cu wedi arwain yr ysbyty, a hefyd wedi methu dangos cymhelliad yr ysbyty dros ei ddiswyddo. Mewn cyhoeddiadau cynharach roedd yr ysbyty ei hun wedi anwybyddu cyfraniad ein tad-cu, a hyn am mai Natsi, dyn o’r enw Fritz Korth, aelod o’r NSDAP a ddaeth wedyn yn Untersturmführer gyda’r SS, a gafodd ei swydd, a hwn wedyn yn gyfrifol am erlid y teulu weddill y rhyfel, nes eu carcharu a lladd fy mam-gu.

Bu peth anghydweld teuluol am lyfr fy nghyfnither.  Credai rhai ohonom nad oedd llawer i’w ennill o dderbyn deunydd Böhmer yn faes trafod, a bod yma gyfle i gyflwyno hanes Paul Bosse a’i deulu heb orfod ennill dadleuon.  Fodd bynnag, mynnodd fy nghyfnither ddilyn ei thrywydd, fel bod cofnod o anwireddau ar glawr.

Er syndod i lawer, diflannodd y llyfr hwn o’r siopau yn sydyn.  Nid am ei fod wedi cael ei brynu gan gannoedd, ond yn hytrach am i un person fynd â’r holl gopïau o’r wasg. Roedd enw da Böhmer o dan fygythiad, a’r gred yw fod rhywun wedi ceisio gwarchod ei enw trwy ddileu’r llyfr. Bellach mae dau gopi o’r llyfr yma ar gael trwy Amazon ac mae’n bosibl cael fersiwn arall ar alw.

ADDASU’R ERLID

Beth bynnag am hyn, roedd copi o’r Erlid (yn Gymraeg) ac yna’r cyfieithiad Saesneg, Haven from Hitler, wedi cyrraedd y dref a daeth yn glir o’r cychwyn bod nifer o’r trigolion am i’r hanes ddod i’r golwg.  Ar y naill law roedd cyn drigolion y DDR yn amlwg yn awyddus na fyddai’r rhai â chysylltiadau Natsiaidd yn cael y gair olaf, ac ar y llall roedd teimlad cyffredinol bod angen i’r dre roi yn ôl ei enw da i Paul Bosse.   Roedd rhai am gyfieithu’r llyfr fel yr oedd, ond yna gafaelwyd yn y stori gan yr Athro Hans-Jürgen Grabbe, a fu’n Athro astudiaethau eingl-americanaidd gan weithio, ymysg mannau eraill, ym mhrifysgol Halle-Wittenberg.

Cafodd yntau ac eraill eu cyfareddu gan yr hanes, a phan fûm yn ymweld â Wittenberg ar wahanol achlysuron, byddai’r wasg leol yn hael ei sylw i hanes y teulu.  Efallai bod yma elfen o deulu alltud yn dychwelyd yn y sefyllfa. Bu cyfnod o ddwy flynedd wedyn o gyswllt gyda’r Athro Grabbe.  Daeth i Abertawe i weld yr archif teuluol sydd yma, a llwyddais i wneud llungopi iddo o rai cannoedd o ddogfennau. Dilynwyd hyn gan gwestiynau dyddiol pellach ganddo, a mynd ar ôl dogfennau yn yr archif na wnes i ddefnydd ohonyn nhw.

Wrth iddo fwrw ymlaen gyda’r gwaith, cynyddodd ei ddiddordeb yn y modd y bu i bobl Wittenberg drin y teulu, ar lefel gwaith ac yn y gymdeithas.  Tyrchodd ymhellach i archifau’r eglwys a’r wlad i ganfod sut y bu i’r erlid ddigwydd.  Nid diddordeb hanesyddol yn unig oedd hyn iddo ef ac eraill erbyn hyn.

CYDNABOD HANES

Y cam cyntaf iddo oedd dwyn perswâd ar awdurdodau’r dref i gydnabod yr erlid ar y teulu, a chafwyd sawl trafodaeth a phleidlais yng nghyngor y dref a ddylid ailenwi’r stryd lle bu’r teulu’n byw. Yn y pen draw llwyddwyd ar gyfaddawd.  Roedd y teulu’n byw yn Heubnerstrasse, wedi’i henwi ar ôl Heinrich Leonhard Heubner (1780-1853) , diwinydd a fu’n athro prifysgol ac a fu’n ddewr o deyrngar i Wittenberg pan ymosododd y Ffrancod a meddiannu’r eglwys. Roedd rhaid i’r dref ddal i gydnabod Heubner.  Penderfynwyd felly rannu’r stryd yn ddau hanner, a’r hanner lle y bu’r teulu byw bellach yn Bossestrasse, gyda phlac wrth yr enw’n nodi’r erlid. 

Doedd fy nghyfnither, fodd bynnag, ddim yn fodlon ar hyn.  Doedd y plac ddim yn cydnabod Paul Bosse fel arweinydd yr ysbyty lleol, ond yn hytrach fel sefydlydd ei glinig ei hun, a oedd yn Heubnerstrasse. Meddai hi ar ei gwefan ‘Mae’r eglwys a’r dref o hyd yn bell o gyflwyno hanes yn gywir’.  Serch hynny, roedd rhyw hanner cant o aelodau’r teulu a chyfeillion yn bresennol ddiwedd 2016 pan ddadorchuddiwyd y plac.

Beth am yr ysbyty?  Mae angen cofio bod ysbyty’r dref, fel llawer o ysbytai’r Almaen, yn nwylo’r eglwys i raddau.  Bu’r ysbyty’n dawel am ei rhan yn niswyddiad Paul Bosse, a rhan Fritz Korth yn hynny. Dyma’r hanes tywyll, yr hanes nad oedd nifer am ei ddatgelu, ac wrth wneud hynny, byddent yn fodlon camliwio’r cyfan.

Sut byddai’r ysbyty ei hun yn ymateb i’r angen am unioni hanes? Fe gomisiynodd awdurdodau’r sefydliad astudiaeth gan Helmut Bräutigam, arweinydd archif eglwysig yn Berlin, ar hanes yr ysbyty rhwng 1918 ac 1945, cyfnod a gydnabyddir gan Dr Werner Weinholt, llywydd yr ysbyty, yn gyfnod tywyll, pan oedd rhai o dueddiadau Natsïaidd yn arwain y sefydliad. Mae’r modd y cafodd Paul Bosse ei ddiswyddo gan yr ysbyty’n ganolog i’r astudiaeth. O’r diwedd, dyma’r ysbyty’n cydnabod rhan arweiniol Paul Bosse yn natblygiad yr ysbyty, a hefyd eu rhan hwy yn ei ddiswyddiad am fod ei wraig o dras Iddewig. Cyhoeddwyd y llyfr yn 2017, a chynhaliwyd seremoni gosod plac yng nghyntedd yr ysbyty er cof am Paul Bosse.

Roedd yn ddigwyddiad arbennig, ac i lawer ohonom, roedd hyn yn gau pennod anodd yn hanes y teulu a Wittenberg.  Un o’r pethau syn oedd cwrdd ag ŵyr Fritz Korth, a oedd eisoes wedi ysgrifennu at y teulu i ymddiheuro am yr hyn a wnaeth ei dad-cu.  Dyma’r adeg am gymod, ond nid felly y bu i bawb ohonom.  Ysgrifennodd fy nghyfnither lythyr condemniol i’r papur lleol.  Daeth yn wybyddus i ni’n fuan wedyn ei bod hi wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr ysbyty a’r awdur am bethau y teimlai hi o hyd a oedd yn anghymwys yn y dehongliad a gaed yno.

ANGHYSUR YN PARHAU

Rywle yn y cyflwr yma o fodlonrwydd ac anghysur rydyn ni o hyd. Yn ystod y cyfnod hwn ces i gais gan Joach Freimann, a ganolfan astudiaethau Iddewig, i gefnogi ei ymdrech i dynnu cerflun y Judensau i lawr o eglwys y dref.  Fy ymateb cyntaf oedd y byddai amgueddfa Iddewig Berlin yn lle da iddo. Yn adroddiadau yn y Mitteldeutche Zeitung, ceir hanes bod Michael Düllmann, gŵr 74 oed o Bonn, sy’n aelod o gymuned Iddewig Berlin, wedi dwyn achos yn erbyn eglwys y plwyf, Wittenberg, am fod y cerflun yn ei dramgwyddo’n bersonol.  Fel arfer, nid oes modd i unigolyn ddod ag achos am weithred dramgwyddol yn erbyn grŵp.  Ond wedi’r cyfnod Natsïaidd, gall Iddew wneud hyn. A ddylid tynnu’r cerflun i lawr?  A yw cywirdeb gwleidyddol heddiw yn gallu arwain at anghofrwydd? Y perygl yw dileu hanes, ac anghofio’r hyn y dylid ei ddysgu ganddo.  Mae arwyddion trais ac anghyfiawnder yn gallu bod yn bethau grymus i gofio. Ar Fai 24ain gwrthododd Llys Rhanbarthol Dessau ei gais, ond mae Herr Düllmann am apelio yn y pen draw i’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd.

Ac mae pethau anghysurus eraill ar waith.  Yn Ravensbrück, lle cafodd fy mam-gu ei lladd, mae cofio blynyddol yn digwydd. Yn ddiweddar mae Pwyliaid wedi dod yn eu cannoedd yno, gan glochdar mai Almaenwyr oedd yn gyfrifol am y lladd, a bod Pwyliaid wedi dioddef yno. Medd Insa Eschebach, arweinydd sefydliad coffa Ravensbrück, fod y pwyslais moesol wrth ddysgu am yr holocost yn llai derbyniol heddiw, a bod hanes yn llai pwysig mewn ysgolion (FAZ, Feuilleton, 25 Ionawr 2019). Ei siom hi oedd bod Pwyliaid yn dod yn awr i Ravensbrück yn gwisgo arwydd NSZ (Narodowe Sily Zbrojne), carfan o genedlaetholwyr asgell dde a thanddaearol, a wrthwynebai’r Sofietiaid a’r Natsïaid, ond a laddodd lawer o Iddewon adeg y rhyfel.  A derbyn bod rhai o’u sefydliad wedi’u carcharu yn Ravensbrück, a oes lle i sefydliadau gwrth-Iddewig fynd yno i gofio’u meirw? hola Insa Eschebach.

PEN Y DAITH I’R LLYFR

Gyda hyn yn gefndir, bu tri ohonom o Gymru, ac ychydig mwy o’r teulu yn yr Almaen, yn Wittenberg ar y 5ed o Ebrill ar gyfer lansio llyfr yr Athro Grabbe ar hanes Paul Bosse a’i deulu. Traddodwyd anerchiad yn Almaeneg ar ein rhan gan Greta Evans, fy wyres. Ai hwn yw’r llyfr fydd yn rhoi tawelwch meddwl wedi hanes y blynyddoedd tywyll yn Wittenberg?  Mae’r hanes, i’r Athro Grabbe, yn enghraifft ysgytwol o sut y bu i’r wladwriaeth Natsïaidd geisio gael gwared â dinasyddion anghymeradwy. Heb i ni fwriadu hyn, mae hanesyddiaeth, neu hanes cofnodi’r hanes, wedi magu ei hanes ei hun, gydag awydd i liwio, celu neu ddatgelu’r hyn ddigwyddodd yn gymhelliad gwahanol awduron.  Mae un peth yn sicr: mae clwyfau’r rhyfel yn parhau am sawl cenhedlaeth.