Awdurdod Iaith i Gymru

Cyfnod newydd neu gyfnos?

               

[Er i hyn gael ei ysgrifennu yn 1999, rwy’n dal bod llawer yn dal yn berthnasol yn 2021.]

Mae persbectif gwleidyddiaeth Cymru wedi newid ers canlyniad y refferendwm yn 1997, wrth i bleidiau gwleidyddol, cyrff gwirfoddol, undebau a busnesau ddechrau deall y gall ennill mesur o annibyniaeth esgor ar fanteision penodol.

                Nid ym maes cynllunio iaith y mae’r diddordeb lleiaf.  Mae Cymdeithas yr Iaith, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac unigolion, yn gymdeithasegwyr iaith ac eraill, eisoes yn llunio eu rhaglen ar gyfer llywio’r Cynulliad i gyfeiriad a fydd yn ateb gofynion y Gymraeg.   Cafodd yr egwyddor o ddefnyddio’r Gymraeg yn gydradd â’r Saesneg yn holl weithgareddau’r Cynulliad sylw mawr eisoes.  Trafodwyd hefyd roi sylw arbennig i’r ardaloedd y mae rhyw fodd o hyd i’w hadnabod yn fröydd Cymraeg.  Ochr yn ochr â’r galwadau hyn mae cais unwaith eto am addysg brifysgol Gymraeg, ac eraill yn poeni am gyfrwng iaith addysg gynradd ac uwchradd.

                Mae’r sosban iaith yn ffrwtian yn fywiog, ond mae sawl sosban fawr a thegell a phadell arall ar y tân.  Wrth ochr y rhain, yn undebau llafur a ffermwyr, yn wþr busnes ac yn bysgod Llafur sy’n ceisio bowlen fwy, yn gyrff cyhoeddus sydd wedi byw’n fain am gyfnod hir, efallai mai sosban fach iawn yw sosban yr iaith.

Mae’r cymdeithasegydd iaith  Colin Williams wedi nodi’r peryglon y gall yr iaith eu hwynebu wrth i Gymreictod Cymru gael ei ailddiffinio yn nhermau sefydliadau cenedlaethol.  Gwelodd Johsua Fishman y gall iaith droi’n ymylol ac yn ddewisol os nad yw’n symbol ac yn sail cenedligrwydd.  Wrth i fywyd Cymru aildrefnu, ac wrth i wleidyddiaeth newydd Cymru ddechrau ymffurfio, rydyn ni’n gweld cychwyn cyfnod newydd – daro, fe deipiais i hwnna gynta fel ‘cyfnos’.  Pwy a ŵyr?

Deddf Cyfieithwyr 1993

                Bu Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn foddion gwaredigaeth i gyfieithwyr tlawd.  Caiff cyfansoddiadau elusennau, cynlluniau strategaethol cyrff cyhoeddus, cofnodion pwyllgorau, polisïau cyfle cyfartal a datganiadau eraill di-rif o bob math eu cyfieithu gan fyddin gynyddol o gyfieithwyr sydd wedi chwimwth godi eu tâl cyfieithu o £25 pitw y fil o eiriau i £70 y fil yn achos yn cwmni a £70 y dudalen yn achos ambell asiantaeth, sy’n cyfateb i £150 y fil.  Pwy sy’n talu am y cyfan?  Cyrff cyhoeddus sy’n credu’n gydwybodol eu bod yn gwneud tro da â’r iaith trwy gydymffurfio â chyfarwyddiadau’r Ddeddf i drin y Gymraeg yn gydradd â’r Saesneg.

                Fel aelod selog o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, nid wyf am fychanu rôl cyfieithwyr, ond mae angen holi o ddifri ai hyn oedd bwriad y rhai a ymgyrchodd dros Ddeddf Iaith?  I ba ddiben mae Gwasanaeth Brigâd Dan Gorllewin Cymru’n cynhyrchu ei gyfrifon blynyddol yn Gymraeg, tra nad yw ei weithwyr mewn ambell ardal yn gallu siarad yn Gymraeg â Mrs Jones Heol y Mwg?  Rwyf newydd weld copi o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol am 1998, sy’n gyhoeddiad 50 tudalen lliwgar.  Pan fo angen pennu blaenoriaethau iaith o fewn y gwasanaeth deintyddol, tipyn mwy synhwyrol fyddai gwario’r arian ar wersi Cymraeg fel y gall deintyddion ddelio â chleifion yn eu hiaith eu hunain.

Neges hyn oll yw ein bod ni wedi gweld yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac yn llawer o’r gweithredu a gafwyd yn ei sgil, ben eithaf rhesymegol galwadau Cymdeithas yr Iaith (ac rwy’n aelod o honno hefyd) am statws i’r Gymraeg.  Mae hi’n bryd i rywun, yn rhywle, ddechrau meddwl am flaenoriaethau cynllunio iaith.  Os yw adnoddau’n brin, a’r gweithwyr yn brinnach, mae angen defnyddio egni’n ddoeth.  Os oes cant o gyfieithwyr wrthi’n creu papur ailgylchu, oni fyddai’n gallach eu cyflogi i gynnal papur newydd Cymraeg, neu gylchgronau i bobl ifanc neu i ferched?  Mater o flaenoriaeth yw hyn.

                Yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 rhoddwyd blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau iaith gan gyrff cyhoeddus, gyda’r canlyniad bod canolbwyntio wedi digwydd ym maes statws cyhoeddus a gweledol yr iaith.  Mae hyn wrth reswm yn bwysig, ac yn dileu canrifoedd o feddwl am y Gymraeg fel iaith isradd, ac yn sgil hyn yn cyfrannu at ddileu’r gwrthdaro ieithyddol sy’n digwydd wrth i lywodraeth roi blaenoriaeth i’r iaith fwyafrifol.  Gall hyn yn anuniongyrchol godi hyder siaradwyr Cymraeg, ac yn fwy uniongyrchol hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.    Mae swyddi’n cael eu creu ledled y wlad i ddiogelu’r iaith mewn gweinyddiaethau cyhoeddus, ac wrth i deleffonyddion a chyfarwyddwyr addysg ddefnyddio’r iaith mae agweddau’n newid.  Dyna’r ochr gadarnhaol.  Ond nid yw’r gweithredu hyn, gwaetha’r modd, yn agosáu o hirbell at ddatrys gwendid brawychus y Gymraeg, sef nad oes ond 6.3% o’n plant 5-11 oed yn siarad y Gymraeg gartref.

                Adfer yr iaith yn y cartref ddylai fod wrth wraidd pob rhaglen o gynllunio iaith, fel bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall yn ddifeddwl.  Mae tad cymdeithaseg iaith, Joshua Fishman, wedi pwysleisio hyn dro ar ôl tro.  Dylai pob cynllun a phrosiect amcanu rywsut at y nod hwnnw.  Mae hyn yn faes digon dyrys, wrth reswm.  Mae’n ymwneud ag agweddau at iaith, â seicoleg iaith, ac â pherthynas dwy iaith o fewn un gymuned ac â lle dwy iaith ym mywyd yr unigolyn.  Yn y maes hwn mae’n rhaid ymdrin â’r peuoedd sydd ar gael i iaith yn y gymdeithas, ac ag ymddygiad ieithyddol-gymysglyd unigolion afresymegol yn y peuoedd hynny.  Dadleuwyd yn rymus gan John Edwards fod iaith mewn perygl enbyd pan fo unigolion mewn cymuned wedi dod yn ddwyieithog, a’u hiaith frodorol wedi colli ei theyrnasiad yn y rhan fwyaf o beuoedd.  Mewn sefyllfa o’r fath, dadleua, cam at golli iaith yw dwyieithrwydd.

Mae modd dadlau nad yw cynllunio iaith ar ei orau yn gallu gwrthweithio tueddiadau grymus sosio-economaidd a dylanwadau diwylliannol byd-eang sy’n rhoi’r flaenoriaeth i’r iaith ormesol.  Mae Nick Gardner o Wlad y Basgiaid yn rhybuddio nad yw cynllunio iaith, ar y gorau, yn gallu gwneud mwy na hwyluso a meithrin tueddiadau sydd eisoes yn bod, ac y mae ar ei fwyaf effeithiol, fel y mynegodd Fishman, pan fo’n cydredeg â dymuniad am adfer hunaniaeth genedlaethol, gyda’r iaith yn arwydd o’r gwahanrwydd cenhedlig. 

Cam cyntaf, serch hynny, yw wynebu’r broblem a chwilio atebion, gan wneud hynny gyda chymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl.  Nid oes llawer o dystiolaeth bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi ei llunio gyda hyn mewn golwg.  Bodloni bloedd posteri ‘Statws i’r Iaith’ a wnaeth y ddeddf yn bennaf.  Bydd hi’n werth bwrw golwg yn y man ar ddeddfau iaith gwledydd eraill, ac ar gamau a gymerwyd mewn ambell fan,  i gael gweld rhai  posibiliadau.

Ad hoc

                Mae cynllunio iaith yng Nghymru wedi bod yn fater ad hoc ers hanner canrif, ac rydyn ni heddiw’n talu’r pris am hynny.  Nid ar chwarae bach y cychwynnwyd ysgolion meithrin, ysgolion Cymraeg, sianel deledu, papurau bro, dosbarthiadau Cymraeg i oedolion, Radio Cymru, siopau Cymraeg, gweisg llyfrau, cwmnïau recordiau, canolfannau iaith, clybiau Cymraeg, Merched y Wawr, cymdeithasau a mudiadau eraill ledled y wlad.  Ymdrech wirfoddol fu’n gyfrifol yn y lle cyntaf am lawer iawn o’r datblygiadau hyn – unigolion mewn gwahanol fannau’n gweld angen, yn sefydlu prosiectau ac yn ymgyrchu.  Arwain o’r tu ôl, ar y cyfan, y bu’r awdurdodau, ac ymateb yn hwyr, ac yn aml yn hwyrfrydig, i alwadau llawr gwlad.

                Yn sgil natur ddamweiniol datblygiadau iaith yng Nghymru, gwelir yn gyffredinol:

  • anghydbwysedd o ran dosbarthiad arian i brosiectau Cymraeg

e.e. mae ein sianel deledu’n derbyn nawdd sydd tua 50 gwaith yn fwy na’n holl weisg cyhoeddi gyda’i gilydd, ac mae un rhaglen o Bobol y Cwm yn llyncu mwy mewn ugain munud nag ag a gaiff  un Fenter Iaith mewn blwyddyn; ni chaiff recordiau yr un ddimai;

  • bylchau amlwg yn y ddarpariaeth

e.e. dim papur dyddiol Cymraeg, dim cylchgrawn poblogaidd i ferched ifanc; prinder adnoddau ym maes cyfrifiaduron; diffyg amlwg ym maes addysg uwch Gymraeg;

  • arafwch wrth ddatblygu

e.e. mae’r cynnydd mewn ysgolion Cymraeg wedi arafu yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ac er gwaethaf hanner canrif o ymgyrchu, nid ydynt yn darparu ond ar gyfer tua 20% o’n plant;

  • diffyg cyd-drefnu

e.e. ym maes hollbwysig Cymraeg i oedolion, maes sy’n ganolog i unrhyw gynllunio ieithyddol, mae’r ddarpariaeth yn gymysglyd.  Caiff arian tuag at Gymraeg i oedolion ei roi gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach, trefnwyd yr arholiadau tan yn ddiweddar gan y Cyd-bwyllgor addysg, cydlynwyd y drefn gan gonsortia sirol, mae’r Bwrdd Iaith wedi mabwysiadu iddo’i hun rôl strategol, ac yn awr mae ACCAC yn ceisio uno’r arholiad i oedolion â’r un i ddisgyblion;

  • cefnogaeth fympwyol

e.e. ni lwyddodd rhai canolfannau iaith i gael yr un ddimai goch gan ffynonellau fel Bwrdd yr Iaith Gymraeg, tra suddwyd hanner miliwn ar ddibyn Nant Gwrtheyrn.

  • diffyg dilyniant

e.e. mae bylchau amlwg o ran dilyniant iaith rhwng addysg gynradd ac addysg uwchradd, a rhwng addysg uwchradd ac addysg bellach ac uwch.

  • diffyg cydnabod y patrwm cyfan

a derbyn bod arferion iaith o bosib yn dibynnu fwy ar yr iechyd economaidd nag ar unrhyw bolisi iaith, ni chafodd y Gymraeg eto’i hystyried wrth lunio a gweithredu polisïau economaidd.

Mewn unrhyw ymdrech sy’n ymwneud â chynllunio iaith, mae’n rhaid gofalu ar y naill law bod cydnabyddiaeth yn cael ei roi i waith gwirfoddolwyr, a bod cyfraniad gwirfoddolwyr yn cael ei hybu a’i gefnogi.  Ar y llaw arall dylai unrhyw gynllunio geisio sianelu’r egnïon fel bod amgylchiadau’n cael eu creu sy’n rhoi’r cyfle ehangaf i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn oddefol, yn weithredol ac yn greadigol.

Bwrdd Coffi’r Iaith

                Nid wyf am fychanu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.  Mae ei gyfraniad wedi bod yn ddigon sylweddol, ac mae ei weithgareddau wedi rhoi cychwyn am y tro cyntaf erioed yng Nghymru ar gynllunio iaith cydlynol.  Ond ar hyn o bryd mae ei adnoddau, ei gyllid a’i swyddogion yn ddigonol i baratoi cwpaneidiau coffi i’r iaith, tra bo ar yr iaith angen prydau da o fwyd.

                Ni chafwyd llawer o ddogfennau mwy cadarnhaol o safbwynt cynllunio iaith yng Nghymru na’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg Strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg.  Mae’r ddogfen hon yn gynhwysfawr ac yn graff. Ceir sôn ynddi am ddatblygu strategaeth addysg, o ddosbarthiadau meithrin hyd at addysg brifysgol.  Rhoir sylw i’r Gymraeg yn y gymuned, y Gymraeg a phobl ifanc, a’r angen am farchnata’r iaith a’i defnyddio ym maes technoleg gwybodaeth, masnach a hyfforddiant proffesiynol.  Cyfeirir at y Gymraeg a chyrff cyhoeddus, ac efallai’n bwysicach at y Gymraeg yn y byd darlledu a chyhoeddi.  Pwysleisir cydweithredu ag asiantaethau a phartneriaid.  Prin y gellir anghytuno â’r amcanion sylfaenol o gynyddu nifer siaradwyr, darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, newid arferion ieithyddol ac atgyfnerthu’r iaith yn y gymuned.

Yn sgil y strategaeth gyffredinol cafwyd papur adran addysg y Bwrdd, ‘Parhad mewn addysg Gymraeg’, lle mae gwendid y Gymraeg mewn gwahanol sectorau’n cael ei ddarlunio’n frawychus o glir, a hefyd Y Cynllun Ymchwil Cymunedol gan Brifysgol Cymru Caerdydd ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sy’n cynnwys 30 o argymhellion ar ddatblygu’r Gymraeg yn y gymuned.  Cafwyd hefyd yn 1997 bapurau trafod ar farchnata’r Gymraeg,  trosglwyddiad iaith a Strategaeth Genedlaethol Cymraeg i Oedolion.

Ar lefel fwy rhanbarthol cafwyd strategaeth gan Fenter Cwm Gwendraeth yn 1991 a gynhwysai’n arloesol ddatblygu economaidd a thai, ac yn 1995 cafwyd dogfen werthfawr gan Fforwm Dwyieithrwydd Gwynedd, Tuag at strategaeth iaith i ogledd-orllewin Cymru, sy’n gosod targedau ar gyfer addysg a’r sectorau preifat a chyhoeddus. 

Mae’r dogfennau hyn oll o ran ymagweddiad yn dilyn adroddiad Cyngor yr Iaith Gymraeg, Dyfodol i’r iaith Gymraeg, 1978, a nodai, ymhlith pethau eraill, bwysigrwydd yr iaith yn y cartref, yr angen am roi cymorth ariannol i lywodraeth leol weithredu polisïau addysg ddwyieithog, yr angen am sianel deledu Gymraeg, ac yn bennaf y nod o ddatblygu Cymru’n “genedl hollol ddwyieithog” gyda dwyieithrwydd yn cael ei arfer yn effeithiol ym myd gwaith, gweinyddu cyhoeddus, busnes a masnach.  Rhybuddir, ‘nid yw amser o’n plaid’.

Mae yma ryseitiau am brydau da o fwyd.  Mae cryn wahaniaeth, serch hynny, rhwng y rysáit sydd gan y cogydd a’r cynhwysion a’r offer sydd yn ei feddiant.  Nid yw’r Strategaeth, er enghraifft, yn pennu’r union gamau a gymerir i gyflawni’r nodau clodwiw.  Nid yw’n crybwyll yr arian sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith, nid yw’n cynnig y fframwaith angenrheidiol o ran staff a chydweithredu y mae ei angen, ac nid yw chwaith yn nodi’r camau monitro cwbl sylfaenol i strategaeth o’r fath.  Erbyn hyn, a thair blynedd wedi mynd ers ei chyhoeddi, mae angen gofyn a gafodd y strategaeth ei hadolygu, pa nodau ynddi a wireddwyd, a pha flaenoriaeth y dylid eu dilyn o hyn ymlaen.

                Nid hyfdra’n unig sy’n fy nghymell i nodi rhai o ddiffygion y Bwrdd:

  • Diffyg gallu o dan y Ddeddf Iaith

Mae’r Ddeddf yn sôn am gyrff cyhoeddus yn unig.  Nid oes rheidrwydd ar gyrff masnachol i gydymffurfio.  Ni all y Bwrdd felly fynnu bod cyrff masnachol yn defnyddio’r iaith.  A nifer cynyddol o wasanaethau yn awr yng ngafael cyrff masnachol, mae’r Gymraeg yn dibynnu fwyfwy ar ewyllys da.  Pe ceid hynny gan un cwmni – fel a gafwyd ugain mlynedd yn ôl gan archfarchnad Batemans a werthai siwgr Cymraeg cyn bodolaeth y Bwrdd – gallai’r cwmni hwnnw gael ei brynu gan un Seisnig neu Americanaidd a dyna ddiwedd ar y siop a’i phecyn Cymraeg.

                Hyd yn oed yn achos cyrff cyhoeddus, mae lle i amau pa mor effeithiol y gall y Ddeddf gael ei gweithredu o fewn y cyfyngiadau ariannol a staffio presennol.  Cymerer, er enghraifft, ddinas Abertawe, lle nad oes ond 2% o’r staff yn siarad Cymraeg a hwythau’n gwasanaethu ardal lle mae 13% yn medru’r iaith.  Canlyniad anochel hyn, mae’n debyg, yw bod 65% o’r llythyrau a anfonais atynt yn y Gymraeg eleni naill ai heb eu hateb neu wedi eu hateb yn hwyr. Wrth ffonio’r Cyngor fe gewch ateb cychwynnol dwyieithog, ond methiant cyffredinol i fynd ymhellach na hynny.

                Nid yw’r holl ymdrech wedi bod yn ofer, serch hynny.  Mae agweddau swyddogion cyhoeddus, ar y cyfan, yn llawer mwy cefnogol i’r iaith nag ugain mlynedd yn ôl, pan na fyddai llythyrau Cymraeg yn cael eu cydnabod.  Ac mae nifer o gyhoeddiadau dwyieithog ar gael i’r cyhoedd.  Ond pan nad yw’r Cyngor yn darparu’n deg, beth yn ymarferol y gall y Bwrdd ei wneud?

Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd os yw rhieni ardal arbennig yn galw am ysgol Gymraeg, neu am droi ffrwd Gymraeg yn ysgol.  Beth wna rhieni os nad yw eu Sir yn darparu addysg 16+ trwy’r Gymraeg?  Ar hyn o bryd ceir proses hir o ymgyrchu ac o lythyra, o bwyso ar y cynghorau ac ar y Swyddfa Gymreig, a’r naill a’r llall yn beio’i gilydd am ddiffyg cyllid, a’r iaith yn bêl bing-pong.  Nid oes gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yr awdurdod i ymyrryd mewn sefyllfa o’r fath.

                Ym maes hollbwysig datblygu economaidd, a oes unrhyw un yn ymgynghori â’r Bwrdd Iaith ynglþn â goblygiadau ieithyddol sefydlu neu gau ffatri?  Byddai’n ddiddorol gwybod yr ateb.  A yw’r Bwrdd Croeso yn ymgynghori â’r Bwrdd ar effaith twristiaeth?  Heb sôn am broblem tai haf.

  • Diffyg arian

Mae diffyg arian i hyrwyddo ac i gefnogi’n ddiffyg sylfaenol ac amlwg.  Mae gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg incwm o ryw £6 miliwn y flwyddyn, ond mae tua £1 filiwn yn diflannu ar gyflogau a chostau gweinyddol staff ac aelodau’r Bwrdd.  Ychydig dros ddwy filiwn y flwyddyn sydd gan Adran Grantiau’r Bwrdd i’w dosbarthu i lu o gyrff teilwng (sy’n cynnwys grantiau’r Eisteddfod, y Cyngor Llyfrau, Mudiad Ysgolion Meithrin a’r Urdd).  Clustnodir £2 filiwn arall i hyrwyddo’r Gymraeg mewn ysgolion, arian a drosglwyddwyd o’r Swyddfa Gymreig.   Gellid gwario hyd at hanner miliwn ar un prosiect cymunedol i’w wneud yn ystyrlon.  Mae rhoi £1,000 i bob papur bro’n dderbyniol, ond yn wyneb costau cynyddol heddiw, mae hyn yn mynd yn fwyfwy amherthnasol. 

Yn rhaglen gymunedol y Bwrdd caiff cyllid ei glustnodi i gynnal Mentrau Iaith mewn gwahanol rannau o’r wlad.  Mae’r arian sydd ar gael i’r rhain yn prysur sychu, ac mewn dyddiau o brinder arian mewn llywodraeth leol, nid oes modd dibynnu ar gynghorau lleol i wneud iawn am y diffyg.

Mae llu o gynlluniau posibl yn aros yn freuddwyd am nad oes arian ar gael.  Beth am bapur dyddiol Cymraeg?  Mae’n amhosibl dychmygu’r peth oherwydd diffyg arian.  Noddi recordiau Cymraeg?  Arian pwy fyddai’n cael ei drosglwyddo i wneud hyn?  A phwy sydd i roi arian tuag at ehangu addysg Gymraeg?  Mae angen clustnodi swm o arian wrth  bob nod strategol ac ni wnaed hyn eto.  Nid oes modd, oherwydd diffyg arian, i  roi cefnogaeth i nifer o brosiectau a ddylai fod yn flaenoriaeth.   Sut mae cefnogi diwylliant pobl ifanc, a chreu isddiwylliant Cymraeg llwyddiannus?  Sut mae hybu canolfannau iaith a chlybiau Cymraeg os nad oes cyllid ar gael? 

Mae cwestiynau cwbl sylfaenol sy’n glwm wrth gynllunio iaith yn aros heb eu hateb oherwydd diffyg cyllid.  Mae diffyg cyllid yn golygu na all rhai o amcanion sylfaenol strategaeth y bwrdd gael eu cyflawni.

  • Diffyg staff

Yn sgil diffyg cyllid, ceir prinder staff.  Nid oed modd i’r Bwrdd ymwneud yn effeithiol â’i briod feysydd heb sôn am ehangu ei weithgareddau oherwydd prinder staff.  Ni all, er enghraifft,  arolygu datblygiadau a gwaith a gyd-drefnir gydag asiantaethau eraill.  Os yw’r Bwrdd yn galw am ddilyniant ieithyddol yn y system addysg, gall godi ymwybyddiaeth o’r angen am hynny, ond nid oes ganddo gyllid i benodi staff i fonitro’r sefyllfa ei hun, nac i sicrhau bod awdurdodau addysg ac ysgolion unigol yn cydymffurfio â’r weledigaeth. Oherwydd diffyg staff, mae rhaglen gyflwyno polisïau iaith yr awdurdodau addysg yn un araf a thrwsgl.  Gall y Bwrdd geisio ennyn ewyllys da cyfarwyddwyr addysg,  ond bu gennym yng Nghymru fwy na’n cyfran deg o daeogion yn y maes hwn.   Er bod gan y Bwrdd rôl o gynllunio ieithyddol cyffredinol yn y byd addysg, nid oes ganddo’r staff i wireddu’r cynlluniau.

                Mae angen staff, wrth reswm, i gynnal perthynas glos ag awdurdodau lleol, cwmnïau masnachol, cyrff cyhoeddus ac ati… mae’r rhestr yn ddi-ben-draw. Cymerer wedyn faes dysgu’r Gymraeg i oedolion.  Gan fod y Bwrdd bellach wedi derbyn rôl cydlynu’r maes hwn, o gofio’r diffyg trefn sy’n bod, a fydd ganddo staff digonol i sicrhau bod y maes yn datblygu’n effeithiol?

                Mae diffyg staff o fath arall yn bod hefyd, ac efallai na ddiwellir y diffyg hwn nes y bydd adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru’n penderfynu bod angen rhoi lle teilwng i gynllunio iaith ar eu meysydd llafur.  Mae angen staff sy’n ymwybodol o ddatblygiadau ym myd cynllunio iaith, sy’n gyfarwydd â symudiadau yn y maes ledled y byd, ac sy’n arbenigo mewn rhannau penodol o’r maes.  Nid gweision sifil dof y mae eu hangen.  Fe ddywedodd un o brif swyddog cynllunio iaith Catalwnia wrthom un tro y byddai raid iddo ef bacio’i fagiau a ffoi o Gatalwnia pe bai Sbaen ganolog yn adennill grym.  A oes yn y Bwrdd swyddogion sy’n teimlo’n rhy ddiogel yn eu swyddi i weithredu mewn modd eofn a heriol tebyg?

  • Diffyg dylanwad

Diolch bod Glengettie wedi mabwysiadu pecynnau dwyieithog cyn i Gareth Kiff siarad â nhw.  O leia cafodd y Bwrdd y clod am hyn.  Ond beth am y mil a mwy o gwmnïau eraill?  Os trwy ddylanwad pwyllog ac araf y newidir iaith busnes yng Nghymru, bydd angen adfywio Job. 

                Ble wedyn roedd y Bwrdd yn ystod helynt y defnydd o recordiau Saesneg ar Radio Cymru?  A wnaeth y Bwrdd ochri â’r dysgedigion sy wedi gwrando’n ddigwyn am flynyddoedd ar ganeuon Saesneg, os Paul Robeson neu Maria Callas oedd yn canu, ond sy’n dioddef o gur calon wrth glywed Catatonia’n datgan yn eofn eu bod yn falch o’u Cymreictod? Neu a ochrodd y Bwrdd â’r ieuenctid sy’n falch cael clywed yr is-ddiwylliant byd eang yn cael ei gyflwyno yn ei iaith ei hun?  Mae tonfeddi’r Bwrdd yn dal yn dawel.

                Byth a beunydd cwyd achosion sy’n galw am arweiniad.  Ydy’r Bwrdd wedi cefnogi Prifysgol Gymraeg, er enghraifft?  Ydy’r Bwrdd wedi astudio’r hyn sy’n yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnia?  Os ydyw, pam mae’r Bwrdd yn enbyd o dawel ar y pwnc hwn?

Chwilio model

                Mae cynllunio iaith wedi dod yn ffasiwn yn ddiweddar, diolch i’r drefn, ac yn y byd ffasiwn hwn, un o’r pleserau yw dod o hyd i fodel neu fodelau.  A siaradwyr ieithoedd bach ledled Ewrop yn adennill balchder yn eu hiaith, gan gynnwys gwledydd y Baltig yn y dwyrain, Cashiwbiaid Gwlad Pŵyl, Sorbiaid a Ffrisiaid yr Almaen, Ffrisiaid yr Iseldiroedd, a Basgiaid a Chatalwniaid gwladwriaethau Sbaen a Ffrainc, mae mwy nag un model yn cael ei ddatblygu. 

                Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf  gwelwyd symudiadau arwyddocaol yn llawer o’r gwledydd hyn, ac mae nifer ohonynt yn edrych ar Gymru fel model.  Digon esgyrnog yw ein model ni, serch hynny, a phrin yw’r dillad arno, o’i gymharu â modelau Gwlad y Basgiaid a Chatalwnia, er enghraifft.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas wrthyf un tro nad oes gennym ddim i’w ddysgu gan Gatalwnia.  Mae’n wir fod y gwahaniaethau rhwng Cymru a Chatalwnia’n fawr.  Mae hyd at 9 miliwn o bobl yn siarad Catalaneg, a llywodraeth Catalwnia (nad yw’n cynnwys yr ynysoedd Balearig a Valencia sy’n rhan o’r genedl Gatalanaidd) yn hawlio lle i’r iaith yn un o brif ieithoedd Ewrop.  Mae’r Gatalaneg hefyd yn ddigon tebyg i Sbaeneg i’r mwyafrif di-Gatalaneg allu ei deall.   Serch hynny, o wybod sut y datblygodd y wlad honno’r Gatalaneg ar sianelau teledu, yn y system addysg, mewn papurau newyddion, mewn busnesau a phrifysgolion, ac yn gymunedol yn y chwarter canrif ers marw Franco, mae gwersi amlwg i’w dysgu.

Mae llawer yn edrych wedyn at Wlad y Basgiaid am fodel.  Dyma wlad arall sydd wedi cymryd camau breision ers diwedd y cyfnod o erlid o dan Franco, ac mae’r gymhariaeth â hon efallai dipyn yn fwy perthnasol.  Gan fod y wlad wedi ei rhannu’n ddwy dalaith yn Sbaen (Cymuned ymreolus y Basgiaid, sy’n cynnwys ardaloedd Bizkaia, Araba a Gipuzkoa; a Navarroa) ac un yn Ffrainc (Talaith Pyreneau’r Atlantig) mae ganddi broblemau tipyn mwy na Chymru o ran creu undod cenedlaethol.  Mae ganddi fel Cymru rhyw 3,000,000 o boblogaeth a nifer tebyg o  siaradwyr yr iaith frodorol.  Yn bennaf o dan arweiniad y Gymuned ymreolus, gwelwyd datblygiadau aruthrol yn y wlad hon o ran y defnydd o’r Fasgeg yn y system addysg, ar y cyfryngau ac yn gymunedol.  Fe daflwn gipolwg ar y ddwy wlad hyn.

Deddfau Iaith

                Mae sylfaen gweithredu’r ddwy wlad ym maes adfer iaith i’w gweld yn glir yn eu deddfau iaith.  Lluniwyd y deddfau hyn ym mlynyddoedd cyntaf llywodraethau newydd y ddwy wlad, ac mae hawl y gwledydd i lunio eu deddfau eu hunain yn amod sylfaenol datblygu.  Mantais i’r ddwy wlad yw bod eu pleidiau cenedlaethol (ac mae mwy nag un gan y naill a’r llall) yn fwyafrif, er nad yn fwyafrif llethol.  (Pan bleidleisiodd Gwlad y Basgiaid o blaid eu cynlluniau datganoli hwy, ni phleidleisiodd 57% o boblogaeth Gipuzkoa, er enghraifft, ac o gyfanswm yr etholwyr, nid oedd ond 27% o blaid a 12% yn erbyn.) Derbyniodd y ddwy wlad yr egwyddor sylfaenol o ‘normaleiddio’’r defnydd o’r iaith frodorol, a chymryd persbectif hanesyddol o’r hyn a ddigwyddodd i’w hieithoedd.  Ystyrir dylanwad andwyol llywodraeth Franco, a dylanwadau sosio-ecomaidd a diwylliannol y Gastileg, yn ymyrraeth annaturiol.   Er bod cynyddu statws iaith yn rhan o’r nod, mae’r pwyslais ar allu defnyddio’r iaith yn normal yn y gymuned. Mae’n bosibl iawn canfod arlliw o gynllwynio cadarnhaol yn yr ymadrodd ‘normaleiddio’, wrth gwrs; efallai ei bod yn llai ymfflamychol nag ‘ail-orseddu’ neu hyd yn oed ‘adfer’.

                Mae Deddf Gwlad y Basgiaid yn nodi mai’r Fasgeg yw iaith naturiol y wlad,  bod y Fasgeg yn iaith swyddogol a bod ganddi hi a Chastileg rôl yn nhreftadaeth ddiwylliannol y wlad.  Mae’r ddeddf yn nodi hawliau pobl i dderbyn deunydd yn eu priod iaith, ac mae’n rhoi sylw penodol i’r iaith yn y byd addysg, mewn ysgolion ac yn benodol ym maes addysg oedolion.  Nodir bod angen sicrhau bod gan ddisgyblion wybodaeth weithredol o’r Fasgeg wrth adael y system addysg, ac y dylai’r llywodraeth weithredu cynllun o Fasgeiddio athrawon.  Rhyw 5% o athrawon y wlad oedd yn fedrus yn yr iaith pan basiwyd y ddeddf.  Mae’r ddeddf wedyn yn nodi’r angen am ddefnyddio’r Fasgeg yn y cyfryngau cyhoeddus, gan gynnwys y teledu, y radio, y wasg, y sinema a dulliau cyfathrebu modern eraill. 

                Yn neddf Catalwnia, gwneir darpariaethau tebyg.  Nodir mai Catalaneg yw iaith y wlad, a’i bod gyda Chastileg yn iaith swyddogol. Mae’r ddeddf yn nodi y caiff yr unigolyn ohebiaeth yn ei iaith ei hun, a chaiff ddefnyddio’i iaith ei hun yn system y gyfraith, ac yn gyhoeddus.  Mae adran helaeth yn y ddeddf ar addysg, a nodir bod dysgu Catalaneg yn orfodol. Mae hawl gan ddarlithwyr a myfyrwyr prifysgol i ddefnyddio Catalaneg, a cheir rheidrwydd i ddarparu cyrsiau Catalaneg i staff. Ceir pwyslais hefyd ar ddysgu Catalaneg i oedolion.  Mae adran benodol ar hybu’r iaith yn y cyfryngau torfol ac o fewn sefydliadau. 

                Wrth weithredu’r ddeddf yng Ngwlad y Basgiaid rhoddwyd blaenoriaeth i addysg, y cyfryngau torfol a gweinyddiaeth gyhoeddus, ac mae Nick Gardner o’r farn fod cael cefnogaeth gyfreithiol i’r gweithredu hwn yn angenrheidiol, er nad yw hyn yn y pen draw yn gwarantu llwyddiant y mesurau. Amod cychwynnol unrhyw newidiadau ym mholisïau’r Bwrdd Iaith yng Nghymru fydd llunio Deddf Iaith newydd a fydd wedi ei seilio ar weledigaeth eang o rôl llywodraeth ym maes cynllunio iaith.

Trefn newydd

                Ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd ceir nifer o isadrannau, gan gynnwys adran yn ymwneud â pholisïau iaith cyhoeddus, y sector preifat, adran grantiau ac adran addysg.  Nid oes ond llond llaw yn gweithio i’r adrannau hyn, a phan ystyrir maint y gwaith sy’n eu hwynebu, ac o gofio’r nifer helaeth o feysydd perthnasol nad ymdrinnir â hwy, gwelir yn fuan nad yw trefn Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dod yn agos at allu dwyn cynlluniau digon clodwiw i ben. 

Yng Ngwlad y Basgiaid mae’r ddarpariaeth datblygu iaith wedi ei gosod yng ngofal  Adran Ddiwylliant y llywodraeth.  Mae sawl adran yn perthyn i hon:

                                         Adran ddiwylliant

                                                    HABE: dysgu’r iaith i oedolion

Is-adran Diwylliant, ieuenctid a                   Is-adran Polisi Iaith

chwaraeon

Adran astudiaethau            Adran hybu                 Adran   

a gwybodaeth Basgeg normaleiddio iaith yn

gwasanaethau cyhoeddus

                Mae ein Bwrdd Iaith fel pe bai’n cyfateb i’r olaf, ond heb rym honno.  Fe welir yn y drefn hon nifer o swyddogaethau.  Mae’r adran astudiaethau’n gyfrifol am ymchwilio i gymdeithaseg iaith ac am gyhoeddiadau a gwybodaeth am yr iaith.  Yn 1997, er enghraifft, cwblhawyd ail ymchwil sosio-ieithyddol.  Nod yr ymchwil yw ceisio mesur y cynnydd ieithyddol a gafwyd trwy weithredu polisïau iaith.  (Nodir bod 22% o’r boblogaeth yn ddwyieithog.  O blith y rhain mae 38% yn defnyddio Castileg yn bennaf, 32% yn gyfartal eu defnydd o’r ddwy iaith, a 30% yn defnyddio’r Fasgeg yn bennaf.  Nodir bod 14.5% arall o’r boblogaeth yn ‘oddefol’ eu dwyieithrwydd, ffactor nad astudiwyd digon arno yng Nghymru.)  Yr agosaf a gafwyd yng Nghymru at yr ymchwil hon oedd Arolwg Cymdeithasol 1992.  Adran Hybu’r Fasgeg sy’n gyfrifol am annog defnyddio’r iaith ym mhob agwedd o fywyd cymdeithasol.  Mae Habe’n gorff annibynnol sydd ag adnoddau sylweddol i ddysgu’r iaith ymysg oedolion.

                Yng Nghatalwnia mae Gweinyddiaeth Gyffredinol Polisi Iaith yn rhan o’r Cyngor Diwylliant, ac mae ganddo nifer o unedau sy’n gyfrifol am wahanol agweddau ar gynllunio iaith:

Gweinyddiaeth Gyffredinol Polisi Iaith

– Is-weinyddiaeth gyffredinol polisi iaith

— Adran gweithgaredd gweinyddol

— Uned Cynllunio a Chydlynu

– Gwasanaeth iaith ymgynghorol

— Biwro dysgu

— Adran werthuso

— Adran iaith arbenigol ac ymgynghorol

– Gwasanaeth normaleiddio iaith

— Adran normaleiddio’r sector gweinyddol

— Adran normaleiddio’r sectorau cymdeithasol

— Adran defnydd swyddogol o’r Gatalaneg

– Sefydliad cymdeithaseg iaith

— Adran astudiaethau cymdeithaseg iaith

                Priodolir i’r gwahanol adrannau hyn feysydd penodol i’w datblygu mewn rhaglenni arbennig.  Wedi i’r cynllunio strategol gael ei gyflawni gan y brif weinyddiaeth, eir ati i ddatblygu camau tymor byr a thymor hir y gellir eu gweithredu.  Nodir dulliau ymarferol o ymyrraeth ieithyddol a fydd yn debyg o ddwyn y ffrwyth mwyaf yn ieithyddol, a gwneir hyn mewn cydweithrediad â chyrff a mudiadau eraill, boed yn undebau llafur, yn gymdeithasau o wþr busnes ac ati.  Pennir cyllideb ac adnoddau i roi’r rhaglenni hyn ar waith, ac ar ddiwedd y rhaglen gwneir ymdrech i asesu canlyniadau’r cyfan. 

Caiff sylw ei roi yn y Cynllun Normaleiddio Iaith Cyffredinol i saith o brif feysydd, sydd yn eu tro wedi eu rhannu’n 31 o is-feysydd, a chanddynt 104 o dargedau penodol.   Mae’r meysydd yn cynnwys defnydd swyddogol o’r iaith; addysg, ymchwil a phobl ifanc; y cyfryngau torfol a’r wasg; meysydd sosio-economaidd, yn gwmnïau preifat a chyhoeddus; sefydliadau iechyd a chymdeithasol, gan gynnwys crefydd a gweithgareddau hamdden; cyd-drefnu â rhanbarthau eraill sy’n siarad Catalaneg a chysylltiadau rhyngwladol; llunio safonau iaith a therminoleg ac ymchwil i gymdeithaseg iaith.

Fesul blwyddyn trefnir ymgyrchoedd cwbl benodol, gan gynnwys, er enghraifft, newid iaith cyfrifiaduron, hybu dysgu gyrru trwy’r Gatalaneg, dybio ffilmiau, Catalaneiddio chwaraeon.

                Mae’n amlwg bod ar Gymru angen ei threfn arbennig ei hun, ac y gallai hi fod o fudd i’r drefn honno gynnwys nifer o sefydliadau lled annibynnol a fyddai’n canolbwyntio ar brosiectau arbennig, ond yn rhai a fyddai’n rhan o strategaeth gyflawn.  Deddf iaith newydd yn gyntaf, felly, yna drefn newydd.

Arian ac adnoddau

                Mae Miquel Reniu yn nodi bod Gweinyddiaeth Gyffredinol Polisi Iaith Catalwnia’n cyflogi rhyw 110 o bobl, a’r rhan fwyaf ohonynt yn arbenigwyr mewn cynllunio iaith.  Maen nhw’n cydweithio â’r Comisiwn Normaleiddio Iaith sy’n cynnwys ysgrifenyddion cyffredinol y llywodraeth, lle y mae cant arall o arbenigwyr cynllunio iaith yn gweithio.  Yn ychwanegol at y rhain ceir y Consortiwm Normaleiddio Iaith sy’n gwasanaethu holl diriogaeth Catalwnia, gyda 400 o weithwyr ym maes cynllunio iaith, a chyllideb o ryw 13 miliwn o bunnoedd. 

                Cafwyd buddsoddiad ariannol sylweddol tebyg yng Ngwlad y Basgiaid.  Mae Habe, y corff sy’n gyfrifol am ddysgu’r iaith i oedolion, yn rheoli cyllideb o ryw £12 miliwn y flwyddyn.  Mae 1,400 o athrawon amser llawn yn dysgu’r iaith i oedolion, a chaiff 200 o ganolfannau iaith eu cynnal. 

                Effaith y gwario helaeth hwn yw bod modd i Wlad y Basgiaid ddatblygu cyfleusterau defnyddio’r iaith ac adnoddau Basgeg ar raddfa fawr.  Lle mae rhaid i rieni yng Nghymru frwydro i sefydlu ysgol Gymraeg, mae ysgolion yng Ngwlad y Basgiaid wedi gweddnewid.  Dim ond 4% o blant Cymuned ymreolus y Basgiaid oedd mewn ysgolion Basgeg neu ddwyieithog yn 1979.  Erbyn 1996/7 roedd 68.1% o blant cynradd mewn ysgolion Basgeg neu ddwyieithog, ac yn 1997/8 cynyddodd hyn i 70.5%.

                Yn 1975 prin y ceid dim Basgeg ar y radio a’r teledu.  Yn 1986 sefydlwyd

sianel radio a theledu, gan ddechrau gyda 10 awr y dydd yn yr iaith Fasgeg ar y teledu.  Datblygodd yn fuan yn wasanaeth trwy’r dydd.

                Cafwyd dau bapur dyddiol i gynnwys 20% yn yr iaith Fasgeg erbyn 1980, yna cychwynnwyd papur dyddiol Basgeg. Caiff comics bywiog i oedolion eu cynhyrchu.

                Yn 1994 roedd 7,000  o weision sifil yn dysgu’r iaith,  ond y gwaith pwysicaf oedd rhoi secondiad i athrawon ysgol ddysgu’r iaith.  Dim ond 5% ohonynt oedd yn siarad yr iaith yn 1976.  Hyfforddwyd 700 ar y tro, a 3,000 mewn cyrsiau haf bob blwyddyn, ar gyrsiau dros ddwy flynedd.  Trefnwyd hefyd raglen dair a phedair blynedd i oedolion ddysgu’r iaith.  Cododd nifer o’r oedolion a’i dysgai o 18,000 yn 1982 i 47,000 yn 1990, ac roedd 43,763 wrthi yn 1996/7.   Bernir bod angen 400 o oriau i gael gafael ar yr iaith, a 1,500 o oriau dosbarth i ddod yn gwbl rugl  – tipyn mwy na’r 100 neu 200 o oriau a gynigia’n cyrsiau Wlpan ni, a nod sy’n dipyn mwy realistig ac sy’n llai tebyg o esgor ar fethiant.

                Prin oedd cyhoeddi llyfrau cyn 1975.  Yn 1996 cyhoeddwyd 1,097 o deitlau,  785 ohonynt yn llyfrau newydd, a 653 yn rhai gwreiddiol.  Roedd 312 ohonynt yn llyfrau i blant ac ieuenctid, a 412 yn rhai addysg.  Ers 1980 dechreuwyd cyhoeddi llyfrau prifysgol yn y Fasgeg, a chynigir chwarter y cyrsiau yn yr iaith honno.  Ceir rhaglen gynhwysfawr i gyhoeddi tapiau fideo Basgeg, ac mae’r diwydiant recordiau poblogaidd i ieuenctid yn blodeuo.  Bu peth trafodaeth yng Nghymru’n ddiweddar ar yr anawsterau a gafodd y llywodraeth Fasgaidd i gyfieithu popeth i’r Fasgeg.  Mae hyn bron yn amherthnasol yn ymyl y camau breision a gymerwyd ganddynt mewn meysydd llawer pwysicach.

                Cafwyd datblygiadau tebyg yng Nghatalwnia, ar raddfa fwy, wrth reswm.  Mae yno ddwy sianel deledu Gatalaneg, a defnyddir yr iaith ar rai o’r sianelau eraill.  Yn 1990, cyhoeddwyd 4,447 o lyfrau yn y Gatalaneg. Yn 1989-90 roedd 90% o’r disgyblion cynradd yn mynychu ysgolion Catalaneg neu ddwyieithog, a’r canran yn yr ysgolion Catalaneg wedi codi mewn tair blynedd o 42% i 56%.  Defnyddiwyd ysgolion trochi’n helaeth i ddisgyblion Castileg.  Araf ar y cychwyn oedd addysg uwch i newid iaith, ond cafwyd datblygiadau yn Barcelona a Girona, lle mae gwybodaeth o’r Gatalaneg yn angenrheidiol i’r holl ddarlithwyr. 

Ymddangosodd Avui, y papur newyddion Catalaneg cyntaf ers 40 mlynedd, yn 1975, a dilynwyd hwn gan eraill, er nad ydynt eto’n llwyddo i ddenu llawer mwy na 15% o’r darllenwyr.  Mae Avui’n gwerthu 36,000 o gopïau yn ddyddiol, ac El Punt, yn Girona, sydd â 200 o weithwyr, yn gwerthu 16,000 o gopïau.

                Trwy arian ac adnoddau a staffio digonol, mae modd gwireddu breuddwydion. 

Y tri hyn

                Deddf, trefn ac adnoddau: dyna anghenion sylfaenol cynllunio iaith.

                Er gwaetha’r holl weithgaredd yma yn y ddwy wlad, ceir tystiolaeth mai yn araf y bydd pobl yn newid eu hiaith gyfathrebu.  Mewn un gwaith ymchwil a wnaed gan Emili Boix Fuster yn Barcelona, un o gadarnleoedd y Gastileg yng Nghatalwnia,  gwelwyd bod pobl ifanc yn gyndyn i siarad iaith wahanol i’w rhieni, er bod cynnydd yn y nifer a fyddai’n derbyn eu bod yn ddwyieithog.  Nid y nod pennaf yn y gwaith hwn oedd mesur gallu ieithyddol ond gweld yn hytrach a oedd unrhyw newid yn digwydd o ran defnyddio Catalaneg yn brif iaith.  Ni welwyd fawr newid yng Ngwlad y Basgiaid chwaith yn nifer y rhai a siaradai Fasgeg yn famiaith.  Roedd 434, 717 yn gwneud hyn yn 1986, a 431,806 yn 1996.  Wedi dweud hynny, cynyddodd y nifer o siaradwyr Basgeg o 513,824 yn 1981 i 636,617 yn 1996, a’r nifer o rai â gwybodaeth oddefol o 364,116 yn 1981 i 406,810 yn 1996.

                Ni ellir rhagweld newid cyflym, felly, hyd yn oed pan geir ymdeimlad cymharol gryf o genedligrwydd a gweithredu ar raddfa fawr o blaid yr iaith.  Ochr arall y geiniog yw parhau â’r math o weithredu ad hoc, araf a chymharol ddi-adnodd a welwyd yng Nghymru.  Rydym yn gweld gobaith, yn naturiol, yn y nifer sy’n gallu siarad y Gymraeg, fel y dengys y cyfrifiad, ond mae cyflwr yr iaith fel iaith weithredol, fyw dipyn yn fwy cymhleth.  Mae sawl astudiaeth wedi awgrymu bod gan y Gymraeg nifer tipyn mwy na ffigurau’r cyfrifiad o ran rhai sydd â gallu cymedrol, neu ychydig allu, a mwy eto sy’n deall rhyw gymaint ohoni, ond mae’r nifer sy’n ei siarad yn famiaith neu’n iaith gyntaf dipyn yn is. Er bod y nifer sy’n gallu siarad y Gymraeg fel pe bai’n cynyddu, mae’r nifer o gartrefi Cymraeg yn crebachu.

                Beth yw’r gwersi, felly?  Yn y lle cyntaf mae’n drueni o’r mwyaf nad oes gan y Cynulliad hawl i greu deddfau.  Er gwaethaf y grym a fydd gan y cynulliad i lunio deddfwriaeth eilaidd, gyfyngedig fydd hyn yng nghyswllt addasu’r Ddeddf Iaith bresennol.   Gall y cynulliad, gan gymryd pwerau’r ysgrifennydd gwladol, enwi cwmnïau y dylid eu cynnwys o fewn cwmpas y ddeddf, ond ni fydd ganddo rym i amrywio’r ddeddf a’i gwneud yn fwy cynhwysfawr.  Mae angen deddf sy’n mynnu gweithredu pendant ym myd adloniant ysgafn, addysg ar bob lefel, y cyfryngau torfol ac yn y blaen.  Bydd yr angen am Ddeddf Iaith newydd yn parhau, a gall hi fod yn anos dylanwadu ar San Steffan yn yr amgylchiadau newydd.

Am y tro cyntaf, serch hynny, bydd gennym yng Nghymru gyfle i greu ein trefniadaeth iaith ein hunain ar draws yr holl adrannau llywodraeth a fydd yn rheoli bywyd Cymru o ddydd i ddydd.  Bydd cyfle heb ei ail i roi cychwyn ar gynllunio ieithyddol creadigol. Er gwaethaf rhybuddion Colin Williams rhag gadael materion iaith ar drugaredd yr Aelodau Cynulliad eu hunain, mae cael cefnogaeth gyffredinol y Cynulliad i gynllunio ieithyddol eang yn angenrheidiol, a hyn fydd yn dod â’r mân gecru i ben.  Mae’n iawn i Gymdeithas yr Iaith fod yn dywod yn y peiriant, ond mae angen peiriant nerthol i lywio dyfodol y Gymraeg.  Mae angen Awdurdod Iaith sydd ar wahân i wleidyddiaeth bob dydd, ond a fydd yn atebol i’r Cynulliad ac yn rhan annatod ohono. 

Dyma un o’r gwahaniaethau mawr, o bosib, a ddylai fod rhwng y drefn newydd a’r hen drefn.  Cwango anatebol i bobl Cymru yw Bwrdd yr Iaith ar hyn o bryd.  Pan ddaw’n atebol yn ddemocrataidd bydd arno ddyletswydd moesol i wasanaethu cymdeithas ddwyieithog Cymru, ac i sicrhau nad yw un rhan o’r gymdeithas honno’n cael cam.

Wedi sefydlu awdurdod democrataidd y Bwrdd, bydd angen ehangu ei ddylanwad a’i droi’n Weinyddiaeth neu’n Awdurdod â hawl i gynllunio a chydlynu gweithgareddau normaleiddio iaith.  Mae gan normaleiddio iaith oblygiadau llawer mwy eang na’r materion y mae’r Bwrdd yn ymhél â hwy ar hyn o bryd.  Golyga greu rhaglen fanwl o weithgareddau ac o gydweithio, gan fesur yn ofalus ffactorau megis

  1. yr effaith a gaiff pob gweithred ar ledu’r defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol;
  2. yr effaith a gaiff gweithgareddau ar ehangu’r defnydd o’r iaith mewn meysydd penodol sy’n debyg o fod yn gynhyrchiol a chreadigol;
  3. pa feysydd yw’r rhai sy’n galw am sylw brys;
  4. pa feysydd sy’n rhai canolog yn y broses o gynnal ac adfer iaith;
  5. pa anghenion ieithyddol na chânt eu diwallu ar hyn o bryd;
  6. pa mor effeithiol y gellir gweithredu yn y maes o dan sylw;
  7. faint o gydweithredu y mae modd ei ddisgwyl yn hwylus yn y maes hwnnw;
  8. pa mor berthnasol yw’r gweithredu yng nghyd-destun trosglwyddo iaith;
  9. a yw gwariant ar weithgareddau’n cael ei gyfiawnhau o fewn fframwaith blaenoriaethau iaith.

Wrth lunio rhaglen o’r fath bydd angen pennu blaenoriaethau sy’n wahanol iawn i rai’r Ddeddf Iaith a Bwrdd yr Iaith.  I wneud hyn bydd hi’n angenrheidiol rhoi i’r Awdurdod newydd staff digonol sy’n hyddysg ym maes cynllunio iaith, a chyllid i roi cynlluniau uchelgeisiol ar waith.  Mae rhyw gymaint o dwyll yn y £6 miliwn sydd gan y Bwrdd i’w wario ar hyn o bryd, gan fod cyfran sylweddol o hyn wedi ei glustnodi eisoes at gyrff a phrosiectau ‘traddodiadol’.  Bydd angen hefyd i adrannau eraill llywodraeth Cymru, ar lefel genedlaethol a lleol, glustnodi arian ar gyfer ehangu’r defnydd o’r Gymraeg.

Rhan o’r broses gynllunio yw pennu is-adrannau gweithredol i ddelio â gwahanol agweddau ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru, fel bod yr adrannau hyn yn magu arbenigedd ar y naill law ac yn sicrhau cydlyniant effeithiol ar y llall.  Mae addysg yn ganolog i unrhyw drefn, ac mae’n hen bryd trefnu addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol, boed yn addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg bellach ac uwch.  Mae’r modd y mae colegau prifysgol Cymru, er enghraifft, yn llwyddo i osgoi darparu’n gyflawn yn y Gymraeg ar hyn o bryd yn warth. Gellid meddwl wedyn y byddai gan isadran addysg le canolog yn y cynllunio.  Yng Ngwlad y Basgiaid mae’r ddarpariaeth i oedolion wedi mynnu adran iddi ei hun, a gellid cyfiawnhau hyn yng Nghymru hefyd. 

Mae gan y cyfryngau torfol rôl arbennig o bwysig wrth i’r byd cyfan gael ei americaneiddio.  Ar hyn o bryd mae S4C, y BBC ac HTV, a’r cwmnïau annibynnol i gyd â rhyw weledigaeth o’u rôl ym myd cyfryngau torfol, ac eto nid ydynt wedi llwyddo i roi sianel Gymraeg trwy’r dydd ar deledu daearol – cawn weld sut siâp fydd ar y ddarpariaeth ddigidol ymhen rhai blynyddoedd – ac nid ydynt chwaith wedi llwyddo i ddod yn agos at ddarparu sianel Gymreig i’r di-Gymraeg, fel y llwyddodd Gwlad y Basgiaid yn achos siaradwyr Sbaeneg. O fewn cynllun datblygu byddai ail sianel radio Gymraeg yn bosibilrwydd synhwyrol.

Mae meysydd eraill amlwg yn gofyn am is-adrannau penodol.  Gwelwyd datblygiadau ym myd chwaraeon yn y de’n arbennig, gyda chlybiau rygbi’n arddel tipyn o Gymraeg. Mae angen ehangu hyn i bêl-droed ac i ganolfannau chwaraeon a nofio, gan fod y mannau hyn yn bwysig ym mywyd pobl ifanc.  Gallai isadran chwaraeon a hamdden gyfrannu’n helaeth at gydlynu datblygiadau.

Ni wynebwyd eto’n llawn gysylltiad annatod yr iaith â’r economi.  Mae gwanhad yr iaith yn aml yn gysylltiedig â dirywiad economaidd, fel y gwelwyd yn nyffryn Aman a chwm Tawe.  Mae angen cynllunio’r economi gyda golwg ar gynnal cymunedau ieithyddol.  Gallai isadran busnes a’r economi gynnig, trwy gydweithio ag adrannau eraill y llywodraeth, strategaeth economaidd-ieithyddol i Gymru.

Mae’r gwasanaethau gofal yn gofyn am sylw arbennig gan eu bod yn ymdrin yn aml â’r henoed, â phlant ac â gweiniaid cymdeithas.  Mae hen ddigon o dystiolaeth nad yw’r rhain wedi cael eu trin â dyledus barch ieithyddol yn y gorffennol, ac roedd ebychiad ceryddol anffodus yr Arglwydd Elis-Thomas yn ddiweddar yn arwydd o’r diffyg ymwybyddiaeth sydd ym Mwrdd yr Iaith ar hyn o bryd o bwysigrwydd pobl.

Y maes cymunedol yw un o’r mwyaf anodd, ac mae’n sicr yn galw am gynllunio strategol.  Gwelwyd mewn arolwg mai byd y dafarn a’r disgo yw’r pwysicaf o bell ffordd i bobl ifanc, ac mae’r mannau hyn yn aruthrol bwysig yn ieithyddol gan fod cyfeillgarwch a chysylltiadau rhwng llanciau a llancesau’n cychwyn yno.  Iaith y mannau hyn fydd iaith cartrefi’r dyfodol, ac ar hyn o bryd mae’r Gymraeg yn colli’n frwydr yn rhacs.  Sut mae dod â’r Gymraeg yn iaith fyw i dafarnau Cymru? Gall rhan o’r ateb ddibynnu ar ddiwylliant ieuenctid Cymraeg poblogaidd.   Byddai isadran gymunedol yn gallu creu strategaeth gynhwysfawr mewn cydweithrediad ­â bragdai a mannau adloniant.

Wedi creu is-adrannau pwrpasol, mae angen sicrhau bod holl weinyddiaethau’r cynulliad yn cymryd rhan yn y broses.  Byddai’n bosibl gwneud hyn trwy gael pwyllgor iaith yn y Cynulliad a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r holl weinyddiaethau.  Mae hyn yn fater cwbl wahanol i’r pwyllgor iaith mewnol a fydd yn rheoli’r defnydd o ieithoedd o fewn y Cynulliad ei hun. Byddai’r pwyllgor hwn yn ddolen gyswllt a fydd yn cyson atgoffa’r gwahanol weinyddiaethau o oblygiadau unrhyw weithredu. 

Ni all yr Awdurdod Iaith weithredu’n effeithiol heb gydweithrediad awdurdodau lleol, a dylid felly sefydlu adrannau cynllunio iaith ar lefel llywodraeth leol gydag adran o’r Awdurdod iaith i’w cydlynu. Nid diben yr adrannau hyn fydd sicrhau bod rhyw ffanatig iaith yn cael atebion yn y Gymraeg o fewn pythefnos, ond yn hytrach fod yn gyfrifol am ehangu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn meysydd penodol.  Gellid ar y cyd sefydlu cyfres o ganolfannau iaith lleol a fydd yn gyfrifol am weithgareddau lleol ac am ddysgu’r iaith i oedolion.

Yn olaf, mae angen sicrhau bod y broses o normaleiddio iaith yn un gynhwysol, a defnyddio jargon Llafur Cymru, ac yn manteisio ar yr ewyllys da sy’n bod ledled Cymru i’r iaith, ymhlith y siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg.  Bydd yr holl broses o normaleiddio iaith yn y pen draw yn dibynnu ar ewyllys da’r Cymry eu hunain, ac nid ar unrhyw beirianwaith.

Llyfryddiaeth

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Marchnata’r iaith Gymraeg, 1997.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Parhad mewn Addysg Gymraeg, 1998.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, 1996.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Strategaeth genedlaethol Cymraeg i oedolion, 1997.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Trosglwyddiad iaith, 1997.

Campbell, Cefin, Strategaeth Menter Cwm Gwendraeth, 1991.

Cyngor yr Iaith Gymraeg, Dyfodol i’r iaith Gymraeg, Y Swyddfa Gymreig, 1978.

Direcció General de Política Lingüística, Law 7/1983 of april 18 of Linguistic Normalisation in Catalonia, Generalitat de Catalunya.

Direcció General de Política Lingüística, Presentation dossier for the General Directorate for language policy, Barcelona, 1994.

Edwards, John, Language, society and identity, Blackwell, Oxford, 1985.

Euskararen Berripapera, 58, Marzo de 1998.

Euskararen Berripapera, 74, Julio de 1998.

Fishman, Joshua, Reversing language shift, Multilingual Matters, Clevedon, 1991.

Fishman, Joshua, ‘Language and ethnicity: the view from within’, yn Coulmas, F., (gol.) The handbook of sociolinguistics, Blackwell, Oxford, 1998, 327-343.

Foster, Emili Boix, Triar no es triar, Barcelona, 1993.

Fforwm Dwyieithrwydd Gwynedd, Tuag ar strategaeth iaith i ogledd-orllewin Cymru, Medi 1995.

Gardner, Nick, Ewyllys da, cynlluniau ieithyddol a pholisïau iaith, Cydweithgor dwyieithrwydd yn Nyfed, Gasteiz, d.d. (1991?).

Generalitat de Catalunya, General language normalisation plan, Barcelona, 1995.

Gruffudd, Heini, Y Gymraeg a phobl ifanc, Prifysgol Cymru Abertawe, 1996.

Leprêtre, Marc, The Catalan language today, Departament de Cultura, Generalitat de Catalunya, Barcelona, 1992.

Nelde, Peter Hans, ‘Language Conflict’, yn Coulmas, F., (gol.) The handbook of sociolinguistics, Blackwell, Oxford, 1998, 285-300.

Reniu, Miquel, Planificació lingüística: estructures i legislació, Generalitat de Catalunya, Barcelona, 1994.

Sectretaria General de Política Lingüística, Basic Law number 10 of November 24th, 1982 on the standardisation of the use of the Basque Language (Euskara), Vitoria-Gasteiz, 1982.

Sierra, Josu ac Olaziregi, Ibon, Influence of factors on the learning of Basque, Central publications service of the Basque government, Gasteiz, 1991.

Williams, Colin ac Evas, Jeremy, Y Cynllun Ymchwil Cymunedol, Prifysgol Cymru Caerdydd 1997.

Williams,Colin, ‘Operating through two languages’ yn Osmond, John (gol.) The national assembly agenda, IWA, Caerdydd, 1998.

Y Swyddfa Gymreig, Arolwg Cymdeithasol Cymru 1992: Adroddiad ar yr Iaith Gymraeg.

Y we:     www.eustat.es

                www.netwales.co.uk/byig

Heini Gruffudd

Abertawe, gwanwyn 1999