Cefndir Wythnos yng Nghymru Fydd

Mae rhai wedi dweud, efallai’n ddilornus,  bod Wythnos yng Nghymru Fydd yn nofel bropaganda.  Mae’r nofel yn disgrifio dwy sefyllfa: Cymru ar ôl ennill ei rhyddid, a Chymru gaeth. Yn y naill mae’r iaith yn prysur ennill ei lle, ein diwylliant yn fyw a’n heconomi’n llewyrchus ac yn fodern.  Yn y llall, mae Cymru wedi troi’n Lloegr Orllewinol. Mae’r de diwydiannol wedi’i orboblogi, mae dwy filiwn o erwau o goedwigoedd, ac mae’r wlad bellach yn ‘feysydd awyr a gwersylloedd milwrol, cronfeydd dŵr, parciau cenedlaethol a sonau (zones) amaethyddol’.  Mae enwau Cymraeg wedi troi’n Saesneg.

Propaganda? Mae’r sgwrs â’r hen wraig yng nghefn siop tships yn y Bala, sy’n cofnodi marwolaeth yr iaith, wedi dod yn gymaint rhan o’n hetifeddiaeth lenyddol ag araith Emrys yn Buchedd Garmon.

Does dim rhaid chwilio’n bell am yr angen am bropaganda.  Cyhoeddwyd y nofel yn 1957. Yn yr 1950au roedd dinasoedd Lloegr yn chwilio am fannau yng Nghymru i’w boddi. Yn 1955 y cychwynnodd Lerpwl ei cynlluniau i foddi Tryweryn. Maes o law boddwyd Clywedog.  (Yn y nofel boddwyd Tryweryn, Dyffryn Ceiriog, Dolanog ac eraill.)

Roedd y Swyddfa Ryfel yn 1939s wedi dwyn rhan helaeth o Fynydd Epynt – yn agos at 40,000 o erwau,  yn ddeuddeg milltir o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain.  Gyrrwyd pedwar cant o bobl oedd yn rhan o gymunedau Cymraeg o’u ffermydd a’u tai, gan wthio’r ffin rhwng y Gymraeg a’r Saesneg gymaint â hynny tua’r gorllewin. Roedd hyn yn dipyn mwy o chwalfa ieithyddol na boddi Tryweryn.

Yn 1938 meddiannodd y Swyddfa Ryfel dir Castell Martin yn Sir Benfro, gan yrru 53 o ‘gymunedau ffermio’ o’u tir. Er i’r tir fynd yn ôl at amaethu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn sgil Rhyfel Korea, adfeddiannodd y Swyddfa Ryfel y tir, ac felly mae tan heddiw.  Mae yma tua 6,000 o erwau yn faes ymarfer rhyfel.

Llwyddodd trigolion lleol i warchod mynyddoedd y Preseli rhag y Swyddfa Ryfel. Ar ôl yr ail Ryfel Byd roedd y weinyddiaeth amddiffyn am droi 16,000 erw o dir y Preseli’n faes ymarfer i filwyr.  Byddai hyn wedi effeithio ar 150 o ffermydd, a dwsin o gapeli. Diolch i frwydr y bobl leol, rhoddwyd y gorau i hyn yn 1948.  Dyma gefndir cerdd fawr Waldo Williams, Preseli.

Wedi’r Ail Ryfel Byd protestiodd Plaid Cymru yn erbyn cynlluniau’r fyddin yn Nhrawsfynydd ac  er i’r gwersyll yno gau yn 1977-8, daeth 800 o weithwyr dieithr yno i adeiladu atomfa Trawsfynydd.

Yna daeth y Parciau Cenedlaethol, lle nad oes rhyddid i gymunedau lleol ddatblygu’r economi. Mae Parc Bannau Brycheiniog yn 520 milltir sgwâr, ac Eryri’n 800 milltir sgwâr. Sefydlwyd Eryri yn 1951, Bannau Brycheiniog yn 1957 ac Arfordir Penfro yn 1952.

Cychwynnodd y Comisiwn Coedwigaeth wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, o dan gyfarwyddyd Lloyd George, er mwyn cwrdd ag anghenion Prydain am bren yn ystod rhyfel. Plannwyd fforestydd trwy’r cyfnod at yr Ail Ryfel Byd a chyflymodd y plannu yn ystod yr 1950.  Mae cerdd Gwenallt, Rhydcymerau, yn nodi’r dinistr a achosodd hyn i’r Gymraeg yno.

Yn wyneb y bygythiadau hyn i dir Cymru, gan y fyddin, dinasoedd Lloegr a’u chwant am ddŵr, y comisiwn coedwigo’n difetha tir amaethu, a’r ymgais i droi gwlad ffyniannus yn barciau i estroniaid, roedd yn hen bryd cael nofel o bropaganda i ychwanegu at neges Saunders Lewis, Waldo Williams a Gwenallt.  Rhoddodd Islwyn Ffowc Elis i ni un o weithiau mwyaf pwerus yr ugeinfed ganrif, gwaith sy’n dal i bryfocio ac ysbrydoli.

A Chymru heddiw?  Efallai ryw hanner ffordd rhwng y caeth a’r rhydd.