Marw Kate Bosse-Griffiths

            “Cer di i America,” meddai hi wrthyf, “Dwy ddim yn teimlo ‘mod i’n mynd i farw’n fuan.”  Roedd hi wedi mwynhau’r daith i’r ysbyty yn yr ambiwlans, yn ddigon rhyfedd.  Wedi mwynhau gweld prysurdeb y strydoedd, a hithau wedi bod ers rhyw dair wythnos yn ddigon llesg ac yn eitha caeth i’r ty. Trwy ffenestri’r ambiwlans a ffenestri’r ysbyty mwynhaodd weld y coed yn blaguro. 

            “Ac fe gei di amser i orffen dy nofel,” meddai wrth Rob, ac yntau, ar ôl clywed iddo dderbyn ychydig o grant (digon i sgriptio pennod o Bobl y Cwm) oddi wrth Gyngor y Celfyddydau i ysgrifennu ei drydedd nofel, wedi meddwl treulio ychydig amser yn Abertawe gyda ‘nhad.  Ffarwelion ni â hi mor hwyliog ag y gallem, ond bu farw’n ddisymwth y prynhawn hwnnw.  Diolch am atgof olaf melys.

            Go brin y galla i fel mab iddi ysgrifennu’n wrthrychol amdani.  Mae’n drueni bod dau o’i chyfeillion yng Nghylch Cadwgan, Rhydwen a Pennar, wedi marw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: bydden nhw wedi gallu rhoi darlun ohoni yn ei hanterth.  Gall beirniaid llenyddol ifainc bwyso a mesur ei chyfraniad i’n llenyddiaeth, a dechreuodd rhai wneud hynny.  Adrodd rhyw gymaint ar ei stori a wnaf i yma.

            Cafodd Käthe Julia Gertrud Bosse ei geni yn Wittenberg, tref Luther, yn yr Almaen ar yr 16eg o Orffennaf 1910, rai drysau i ffwrdd o Westy’r Adler, ger prif sgwâr y dref.  Roedd Wittenberg yn dref fach ddigon llewyrchus, yn meddu ar brifysgol, lle y bu Luther yn treulio blynyddoedd lawer yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac ar ddwy eglwys Brotestannaidd.  Yn y naill, eglwys y dref, byddai Luther yn pregethu fwyaf, ac mae lluniau o Luther, wedi eu peintio gan Lukas Cranach, yn ffurfio cefluniau’r allor.  Y llall, eglwys y castell, yw’r enwocaf.  Ar ddrws yr eglwys honno yr hoeliodd Luther ei ddatganiadau yn erbyn gorchymynion y Pab.  Mae datganiadau Luther bellach wedi eu gosod ar y drws, a bedd Luther, a Melanchthon ei gyfaill, y tu mewn.

            Mae neuadd dref sylweddol yn bwrw golwg ar yr unig sgwâr o bwys yn y dref. Bu Napoleon yn trefnu ei filwyr yma, ac mae coed poplys a blannodd ar ei daith i Rwsia i’w gweld o hyd y tu allan i’r dref.  Un brif stryd sydd i’r dref. Mae eglwys y castell ar y naill ben iddi, y sgwâr tua’r canol, a derwen ar y pen arall sy’n nodi’r man y llosgodd Luther orchmynion y Pab, mewn protest gyhoeddus.

            Tref brotest, felly, a’r brotest honno wedi cyrraedd Cymru gyda’r Diwygiad Protestannaidd a chyda cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.  Mae’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Wittenberg yn hen, ond prin oedd y cysylltiadau personol, mae’n siãr, nes i ormes Hitler orfodi un ferch ifanc i ffoi oddi yno, a chael lloches yn yr Alban, yn Lloegr, ac yna yng Nghymru.

            Roedd rhieni fy mam yn ddigon adnabyddus yn y dref.  Roedd ei thad, Paul Bosse, yn llawfeddyg – daeth yn brif lawfeddyg ysbyty’r dref, Paul Gerhard Stift, nes cael ei ddiswyddo gan y Natsïaid cyn yr Ail Ryfel Byd.  Roedd ei dad yntau’n gynghorydd lleol, ac yn cadw siop gwrw yn y dref: Schnapps Bosse fyddai’r llysenw a roddid arno.

            Priododd Paul Bosse â merch o deulu Iddewig.  Roedd Käthe Levien yn ferch i Max Levien, cyfreithiwr a hanai o deulu o Frankfurt an der Oder, tref sydd heddiw’n ffinio â Gwlad Pãyl (yno y gwelwyd y llifogydd difrifol ryw dri mis yn ôl) ac roedd ei wraig yntau, Luise, yn hanu o deulu Alexander o Berlin.  Mae’n bosibl bod un elfen Iddewig yn y teulu’n perthyn i linach Ledin a fyddai wedi dod i’r Almaen o Sbaen, ond mae’r manylion am hyn yn annelwig.

            Beth bynnag, magwraeth ddigon Almaenig a gafodd fy mam.  Roedd y teulu eisoes wedi mabwysiadu’r grefydd Lutheraidd.  Ganwyd pedwar o blant i Kaethe a Paul Bosse: Dorothea, neu Tante Doli, yr hynaf, a ymgartrefodd yn ddiweddarach yn Baden-Baden, ac  a fu farw bum mlynedd yn ôl; fy mam; Günther, a ymgartrefodd yn Sweden; a Fritz, a fu fyw yn Lübecke ar ôl yr Ail Ryfel, ac a fu farw yn ei chwedegau ryw ugain mlynedd yn ôl.

            Cafodd fy mam ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Melanchthon, a’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod i ben erbyn hynny.  Heblaw am ei diddordebau academaidd, dysgodd ganu’r ffidil a’r piano, a dangos diddordeb mewn arlunio, diddordeb a gafodd gan ei mam.  Cadwodd ar gof trwy gydol ei hoes gyfoeth o rigymau ac o benillion, a llu o ddyfyniadau o waith Goethe.  Aeth yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgolion Berlin, Bonn a München, a chael gradd doethuriaeth yn 1935 yn München mewn Clasuron ac Eifftoleg gyda thesis ar ffigurau dynol mewn cerfluniau yng Nghyfnod Diweddar yr Hen Aifft.  Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn 1936, a’r flwyddyn honno, cafodd swydd yn yr Amgueddfeydd Gwladol yn Berlin, sy’n llawn o drysorau o’r hen fyd. 

            Yn ystod y cyfnod hwn, gwelodd yr Almaen newidiadau gwleidyddol ac economaidd ysgytwol.  Hyd at 1928 cafwyd cyfnod gweddol sefydlog o dan Weriniaeth Weimar, yr ymgais gyntaf ar ddemocratiaeth seneddol a gafwyd yn yr Almaen.  Yn sgil methiannau economaidd cafwyd dirwasgiad a chwyddiant mawr, ond llwyddodd teulu fy mam i oresgyn y cyfan yn ddigon da.  Codasai diweithdra o 1.3 miliwn yn 1929 i fwy na 6 miliwn erbyn dechrau 1933.  Go brin y byddai neb wedi rhagweld y byddai Hitler wedi dod yn Ganghellor y flwyddyn honno, na chwaith wedi gwybod beth fyddai effaith enbyd hynny ar filiynau o Almaenwyr, er i’r gwersyll-garchar cyntaf i wrthwynebwyr gwleidyddol agor yn Dachau, ger München ym mis Mawrth 1933. 

            Ym mis Mai 1933 cychwynnwyd llosgi llyfrau Iddewon a sosialwyr, a chychwynnwyd cyfnod yr awduron alltud: rhai ohonynt yn alltudion yn llythrennol, eraill yn awduron alltud wrth iddynt beidio â chyhoeddi.  Daeth fy mam yn un o’r awduron alltud hyn yn 1936 pan gollodd ei swydd yn yr Amgueddfa am fod ynddi waed Iddewig. 

            Bu anawsterau hefyd i aelodau eraill y teulu wrth i’r rhyfel agosáu ac wrth i’r erlid ar Iddewon ddwysáu. Roedd Eva Ledien, chwaer ei mam, yn briod â  Willibald Borowietz, swyddog yn y fyddin Almaenig, ‘Major im Kommando der Panzertruppenschule’.  Fe’i lladdodd ei hun ar y 26ain o Hydref 1938 am fod ei gãr wedi cael rhybudd y byddai’n colli ei swydd ar Ionawr y 1af pe byddent yn dal gyda’i gilydd.  Roedd eraill o gydnabod y teulu y pryd hwnnw hefyd wedi penderfynu eu lladd eu hunain, naill ai trwy nwy, neu trwy gymryd moddion cysgu.  (Cipiwyd Willibald yn ddiweddarach yn ystod y rhyfel a’i garcharu yn America. Cafodd ei ladd yno, naill ai ar ddamwain, neu trwy ei ddwylo ei hun neu gan gyd-garcharorion.)

            Roedd y teulu ei hun yn mynd yn fwyfwy pryderus.  Dyma ysgrifennodd Günther, o Sweden, at fy mam ar y 27ain o Ragfyr 1938: “Mae gwylltineb y bobl (drwgweithredoedd trefnedig y gãyr arweinwyr yr SS amdanynt) wedi peri mwy na rhai cannoedd o filiynau [o farciau] o ddifrod.  Bu’r ddau ddiwrnod diwethaf yn enbyd.  Roedd pistol wedi ei lwytho ar ddesg Tad-cu trwy’r amser.  Bu pethau ar waith yn Wittenberg: Yn fuan caiff Hans a llawer o Iddewon eraill eu harestio.  Daeth yr heddlu i hawlio yr holl arfau.  Yna diffoddodd y gwaith nwy y nwy a’r goleuadau, ac yna cafwyd “gwylltineb y bobl”.  Gan weithio mewn dau grãp, torrwyd i mewn i fflatiau, siopau a swyddfeydd yr Iddewon cyfoethog.  Cafwyd chwalfa na fyddai unrhyw fomiau wedi gallu achosi ei gwaeth.  Gorfodwyd Erika [gwraig Hans] i edrych ar y cyfan (ac eto, fe adawon nhw bethau’n gymharol gyfan gyda hi): Pedair basged olchi gyda phorslen.  Yn nhai pobl eraill chwalon nhw’r celfi i gyd…  Ond y canlyniadau: yn ymarferol, mae pwy bynnag sy’n perthyn i Iddewon o dan ddrwgdybiaeth lem, ac eisoes ag un goes yn y gwersyll-garchar.  Dyw’r Iddew ddim yn berson bellach, does ganddo fe ddim hawliau, ac mae gadael y wlad yn mynd yn anos.”  Gorchmynnodd Günther i’m mam ddinistrio’r llythyr ar unwaith.  Mae’r llythyr gennym heddiw.

            Galwodd heddlu ar Hans, ewythr i’m mam, a holi a oedd e am adael y wlad.  Ni wnaeth hyn ar unwaith.  Wedi’r chwalfa yn y tñ cafodd ei arestio a bu bump wythnos mewn gwersyll-garchar.  Yno roedd 25,000 o bobl, a 10,000 ohonyn nhw yn Iddewon.   Cafodd ei ryddhau, ond dywedwyd wrtho y câi ei saethu pe bai’n dweud wrth neb sut roedd yr Iddewon yn cael eu trin.  Rhoddwyd mis iddo adael y wlad, neu byddai raid iddo ddychwelyd i’r gwersyll-garchar, heb obaith o ddod oddi yno’n fyw.        Ffoes Onkel Hans i Shang-hai.  Pwy all honni’n onest nad oedd gwleidyddion Lloegr a’r byd yn gwybod am y gwersylloedd crynhoi hyn tan ddiwedd y rhyfel?   

            Cafodd gobeithion y teulu agos am gael goroesi’r rhyfel hwb, serch hynny.   Sefydlodd fy nhad-cu ei glinig ei hun ar ôl colli ei swydd.  Mae’r Klinik Bosse yn ysbyty bychan heddiw, yn Heubnerstraße, Wittenberg, yn gofalu’n bennaf am henoed a rhai â phroblemau niwrolegol. Ar y cychwyn, clinig i famau ydoedd, a chyn pen dim yr oedd yn gofalu am o gwmpas 700 o enedigaethau y flwyddyn.  Felly y parhaodd am hanner can mlynedd, ac ennill gwobr yn Nwyrain yr Almaen Gomiwnyddol am fod yn un o’r clinigau geni gorau yn y wlad.

            Damwain a roes fod i’r gobeithion.  Lladdwyd 50, anafwyd 73 yn ddifrifol ac anafwyd 300 arall mewn damwain mewn ffatri ffrwydron yn Rheindsdorf, dair milltir o Wittenberg, ar y 14eg o Fehefin, 1935.  Dygwyd llawer o’r cleifion i glinig fy nhad-cu, a dangosodd unwaith yn rhagor ei fedr fel llawfeddyg, gan gynnwys ei allu i drin y gyllell â’r llaw chwith a’r llaw dde gystal â’i gilydd. 

            Cafodd glod gan yr awdurdodau lleol am ei fedr, a chlod hefyd gan y Natsïaid am ei waith.  Trefnwyd i neb llai na’r Führer, Hitler, ymweld â’r clinig, a pharatowyd croeso brwd iddo gan fy nhad-cu, trwy osod baneri Swastica ar hyd y muriau.  Mae lluniau ar gael o hyd yn cofnodi’r amgylchiad, a Hitler a’m tad-cu ochr yn ochr.

            Sicrhawyd y teulu y gallai’r clinig ddal i weithredu, ond gosodwyd amod na châi fy mam-gu, a hithau’n Iddewes, weithio yno.  Câi hi fyw mewn tñ arall, a gofalai fod  cyflenwad digonol o fwyd ffres o dir y teulu.  A all unrhywun ddannod i’m teulu iddynt geisio goroesi trwy Ymalmaenigo fel hyn? 

            Daeth taw ar y tawelwch.  Wedi ymgais ar fywyd Hitler yn 1944, ymosododd Natsïaid lleol ar y clinig.  Chwalwyd y dodrefn, dygwyd dillad ac offer.  Arestiwyd y teulu a oedd yno ar y pryd: fy nhad-cu, fy mam-gu, a’m dau ewythr, Günther a Fritz.  Ffoes fy modryb, Tante Doli, gyda’r plant bach wedi eu cuddio o dan lwyth o ddillad ac offer mewn pram.

            Dyna’r tro olaf y gwelwyd fy mam-gu.  Cludwyd hi i wersyll-garchar Ravensbrück, yr ymwelais ag ef ryw ddeng mlynedd yn ôl.  Roedd hwn yn un o’r prif wersylloedd i wragedd a phlant.  Heddiw mae yno amgueddfa, a chadwyd rhai o’r cabanau, a’r poptai llosgi.  Gerllaw mae llyn llwyd lle y teflid y cyrff.  Cyn pen pythefnos daeth y newyddion ei bod wedi marw. 

            Cafodd Onkel Günther ac Onkel Fritz eu rhyddhau o’r carchar wedi i’r Americaniaid gyrraedd.  Roedd y naill a’r llall wedi goroesi am fod gwerth i’w profiad wrth drin achosion meddygol pobl ac anifeiliaid. Roedd Doli, chwaer fy mam, wedi ymgartrefu yn Bad Wimpfen, cyn symud i Baden-Baden  Bu farw fy nhad-cu’n fuan, o dorcalon, debyg iawn.  Fy mam, ohonynt oll, ddihangodd yn fwyaf dianaf, er na all neb fesur anaf i enaid.  O hynny ymlaen mesurai anawsterau bywyd yn ôl graddfa Ravensbrück, a bach iawn oedd ei phwys ar foethau materol.

            Cyn hyn oll, yn 1936, wedi ychydig drefnu y tu ôl i’r llenni rhwng ei mam hithau ac eraill, cafodd waith yn fuan gyda Syr D’Arcy Thompson, biolegydd a chlasurwr o’r Alban, a oedd yn falch cael ysgrifenyddes a fedrai Roeg a Lladin.  Yn dilyn hyn cafodd swydd yn Amgueddfa Petrie yng Ngholeg y Brifysgol Llundain, cyn symud i’r Ashmolean yn Rhydychen.  Dyma’r newid a droes gyfeiriad ei bywyd, am iddi gwrdd yno â ‘nhad, Gwyn Griffiths, a oedd wedi arbenigo yn y Clasuron ac Eifftoleg yng Nghaerdydd, Lerpwl a Rhydychen.  Yn Rhydychen daeth i nabod Pennar, cyfaill fy nhad o’i ddyddiau coleg, ac un o’i chyfraniadau cadarnhaol cyntaf i fywyd Cymru oedd cyflwyno Rosemarie Wolf, a oedd hefyd yn ffoadur o’r Almaen, i Pennar.

            Fe ymgartrefon nhw yn y Pentre, Rhondda, lle y sefydlon nhw Gylch Cadwgan rhwng 1939 ac 1943, gan roi cychwyn i yrfa lenyddol fy rhieni yn ogystal ag un Pennar a Rhydwen a Gareth Alban Davies.  Byddai gan y cylch hwn ddiddordeb yn llenyddiaethau Ewrop a’r byd clasurol.  Hawlient fod lle i wleidyddiaeth, propaganda a syniadau mewn barddoniaeth ac roedd eu bryd ar ddathlu pob agwedd ar fywyd, ar adeg rhyfel, gan dderbyn yn llawen genedlaetholdeb, heddychiaeth a Christnogaeth.

            Roedd fy mam yn heddychwraig o argyhoeddiad, ac o ystyried cymhlethdod y berthynas rhwng Cymru, Lloegr a’r Almaen y pryd hwnnw, gweithred o ddewrder o’i rhan hi oedd cyhoeddi pamffled ar fudiadau heddwch yr Almaen yn 1943.  Ynddo dangosodd sut y datblygodd heddychiaeth yn yr Almaen yn bennaf y tu allan i gyfundrefn crefydd, ar sail rheswm yn anad dim arall.  Synnwyr cyffredin oedd sail heddychiaeth yn ôl H.H. Fried,  sylfaenydd Der Deutsche Friedensbund. Dadleuodd Kant fod heddwch yn sylfaenol ar gyfer cynnal cyfraith, a bod mewn dyn gyfraith foesol y dylai ei dilyn.  Ysgrifennodd Stefan Zweig un o’r dramâu modern cyntaf sy’n condemnio rhyfel, Jeremiah.

            Yn ystod y blynyddoedd nesaf, rhoddodd fy mam gynnig ar ysgrifennu storïau byrion a nofeligau.  Mae’n dipyn o ryfeddod ei bod wedi teimlo’n ddigon hyderus yn y Gymraeg, ei phedwaredd neu ei phumed iaith, i lenydda ynddi. Yn eu hiaith wreiddiol yr ysgrifennodd y rhan fwyaf o lenorion alltud yr Almaen, a dal i fod yn llenorion Almaenig er byw yn America neu wledydd eraill.  Mae’r weithred o ysgrifennu yn y Gymraeg yn nodi mai perthyn i Gymru oedd ei dymuniad bellach, gan dderbyn yn sgil hynny gymdeithas wahanol iawn i’w chymdeithas frodorol. Ymhen amser byddai’n ymdaflu yn frwd i wahanol ymgyrchoedd cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys rhai’r Blaid, yr ysgolion Cymraeg a Chymdeithas yr iaith.

            Ni olygai hyn, serch hynny, iddi fabwysiadu arferion Cymreig o ysgrifennu.  Enillodd ei nofelig gyntaf, Anesmwyth Hoen (1941) y wobr gyntaf yng ngornest Llyfrau’r Dryw, gyda Tegla yn feirniad, ac enillodd un o’r storïau a gynhwysodd yn Fy Chwaer Efa a Storïau Eraill (1944) y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Kate Roberts yn beirniadu.  Yn nifer o’r storïau hyn daeth i’r Gymraeg â math o lenyddiaeth a oedd eisoes yn boblogaidd yn yr Almaen, sef llenyddiaeth syniadau.  Lle byddai Cymru erbyn hyn wedi cael arlwy helaeth o storïau a fyddai’n dibynnu ar wrthdaro rhwng pobl, ar ddarlunio cymeriadau ac ar wead stori, mentrodd  fy mam roi lle blaenllaw i syniadau, a gweld sut roedd modd dehongli ymddygiad pobl yn ôl canllawiau syniadol.  Yn ‘Fy Chwaer Efa’, er enghraifft, ceir dadlau dros y Fam Dduw, a chyflwynir syniadau blaengar o ffeministaidd.  Yr ail newyddbeth oedd ei bod yn canolbwyntio ar natur cariad a serch a pherthynas cariadon â’i gilydd.  Dyma lle y mae’n bur wahanol i’r Kate arall.

            Bu cyfnod byr wedyn yn y Bala, lle y daeth i adnabod Euros Bowen adeg eira 1947, a’i troes yn fardd, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, ac yn fardd anuniongred yn ôl honiad fy mam (gw. Taliesin 63, 1988).  Gydag ef a Pennar cychwynnwyd cylchgrawn llenyddol Y Fflam.  Yna symudodd gyda ‘nhad i Abertawe.  Daliodd ati i lenydda a chyhoeddwyd ei phrif nofel, Mae’r Galon wrth y Llyw, yn 1957.  Hanes dyrys cariad a godineb a geir yma, ac mae amryw yn y teulu wedi honni iddi seilio hyn ar fywyd ei chwaer yn yr Almaen a gafodd brofiadau digon cymysglyd, gan gynnwys colli plentyn bach trwy ddamwain, a chael plant gan ãr a chariad.  Cofiaf sgwrs pan ddigiai ei chwaer wrthi am na allai ddeall cynnwys y llyfr a’i ddehongliadau. Unwaith eto, ceisiai fy mam osod profiadau mewn fframwaith syniadol.  Cyhoeddwyd casgliad olaf o storïau byrion fy mam yn 1995, sef Cariadau.

            Daliodd at ei diddordeb yn yr Almaen, a dod yn ymwybodol iawn o ddioddef ei chyfeillion yno wedi i’r wlad ddod o dan reolaeth y Comiwnyddion.  Arferai anfon dillad a bwyd i’r Almaen.  Penderfynodd fynd yno yn 1950, a hynny heb ganiatâd yr awdurdodau.  Cyhoeddwyd ei phrofiadau yn Bwlch yn y Llen Haearn  (1951).  Aeth ar daith fwy swyddogol yn 1960, a chyhoeddi Trem ar Rwsia a Berlin yn 1962.  Llyfr taith arall o’i heiddo oedd Tywysennau o’r Aifft (1970) a gyhoeddodd ar ôl treulio blwyddyn yn yr Aifft pan oedd fy nhad yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Cairo.  Trwy gydol y cyfnod hwn cyhoeddai erthyglau o bryd i’w gilydd ar faterion llenyddol a hanesyddol, mewn cylchgronau ac yn y papur lleol.

            Yn ystod ei chyfnod yn Abertawe gweithiai’n ddiflino dros y Blaid, yn trefnu ffeiriau codi arian, yn croesawu canfaswyr i gael bwyd ar ôl noson o waith, yn ysgrifennu labeli adeg etholiad ac yn y blaen.  Byddai hefyd wrth ei bodd yn croesawu cenedlaetholwyr i’r aelwyd ar nosweithiau Sul, a llenorion ac academyddion bryd arall, a byddai bob amser yn ddigon parod i ganmol, procio a dwrdio yn ôl yr angen.  Byddai hi’n gefnogwraig frwd i ieuenctid Cymdeithas yr Iaith, a bu hi ei hun yn y llys yn 1966 am wrthod talu dirwy parcio, am fod y dogfennau i gyd yn Saesneg.  Edmygai wrthwynebwyr trefn ormesol.

            Un trueni i mi a’m brawd oedd iddi ddysgu’r Gymraeg mor fuan.  Aelwyd Gymraeg a gawsom ni, ac er iddi hi  a’m tad geisio rhoi rhai gwersi Almaeneg inni, ni chawsom ein trwytho yn yr  iaith.  Gorfu i ni ymlafnio i’w dysgu trwy’r system addysg.        

            Roedd ganddi fywyd arall, wrth gwrs.  Er na ddaliodd swyddi amser llawn ers dod i Gymru, parhaodd â’i diddordebau yn yr hen fyd ac mewn archaeoleg.  Cafodd gyfrifoldeb Curadur yn Amgueddfa Abertawe, gan ofalu am yr adran archaeoleg, a oedd hefyd yn cynnwys peth deunydd Eifftaidd.  Roedd y Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol, a oedd yn gofalu am yr amgueddfa hon, yn un digon Saesneg, felly mawr oedd ei balchder pan lwyddodd i gael yr Amgueddfa i gyhoeddi llyfryn dwyieithog o’i heiddo ar y gwrthrychau archaeolegol â’r teitl Ugain mil o flynyddoedd o hanes lleol (1967).  Ei diddordeb mewn hanes lleol a chrefydd a choelion a’i harweinodd wedyn at astudio arferion hud yng Nghymru, gan gyhoeddi Byd y Dyn Hysbys (1977), a mynnu olrhain eu gwreiddiau yn yr hen fyd.

            Dechreuodd gwaith mawr ei bywyd yn y maes hwn yn 1971, pan roddwyd cyfrifoldeb iddi am drefnu casgliad helaeth o wrthrychau o’r Hen Aifft a ddaeth i Goleg Abertawe drwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Wellcome, yr enw a gysylltir fel arfer â thabledi a moddion a fyddai ar y cyfan yn gas gan fy mam eu cymryd.  Cafodd ei phenodi yn Guradur Anrhydeddus Amgueddfa Wellcome yn y Coleg; roedd ei phrofiad blaenorol gyda gwaith tebyg yn Berlin a Llundain a Rhydychen yn fantais fawr, wrth reswm.  Aeth ati’n frwd a dyfan i wneud catalog manwl o bum mil o eitemau archaeolegol,  a gwneud hynny dros gyfnod o ryw bum mlynedd ar hugain.  O bryd i’w gilydd byddai angen trwsio ambell gawg, a rhoddai dipyn mwy o ofal i’r rhain nag i’r llestri Meissen a etifeddodd hi ei hun.  Roedd y gwrthrychau’n cynnwys mygydau, cerfluniau, darnau o gelfi, cawgiau a phlatiau, crochenwaith, gemau a gleiniau ac arch mwmi ymysg pethau eraill. 

            Cyhoeddodd ffrwyth yr ymchwil hon mewn erthyglau a llyfrynnau, a’u trafod mewn cynadleddau ledled y byd, gan gynnwys Copenhagen, Moscow, Cairo, Valcamonica, Paris, Grenoble, Rhufain, Toronto ac Uppsala.  Roedd hyn hefyd wrth gwrs yn bodloni ei hysfa i deithio, ac un o’r teithiau mwyaf pleserus oedd yr un y bu arni gyda ’nhad, ar ôl derbyn gwahoddiad i archwilio’r arysgrifau niferus sydd ar greigiau yn Ynysoedd Hawaii, yr honnwyd eu bod o darddiad Eifftaidd.  Cawsant  wythnos gyda Chymdeithas Epigraffig San Diego, a wedyn mis ar yr ynysoedd.

            Llawenydd iddi yn y pen draw oedd bod yr Athro Alan Lloyd, o Adran y Clasuron, Abertawe, wedi llwyddo i ddenu arian gan y Loteri Cenedlaethol ac o ffynonellau Ewropeaidd i godi adeilad newydd yn y Coleg yn Abertawe a fydd yn gartref i’r casgliad.  Cafodd mynychwyr angladd fy mam ymweld â’r casgliad ar ôl y lluniaeth amser cinio, ac er na chafodd fy mam fyw i weld yr agoriad swyddogol ym mis Awst eleni, bydd Canolfan Eifftaidd Abertawe yn gofeb iddi.

Abertawe

1998