I Efa’n hanner cant
O’i geni, gwawr ei gwenau – anwesol
gynhesai’n boreau;
yn awr mwynhawn brynhawnau
heulwen glir sy’n hir barhau.
—
Gwenllian ar daith
Ein lleiaf oedd Gwenllian; – i ba wlad,
I ble aeth ein baban?
I’w haf â, yn rhy fuan:
Ei hawl hi yw tyfu lan!
—
I Gwydion a Camilla
Hudol fu’th fywyd, Gwydion; – a heddiw
o’th freuddwyd, yn fodlon
fe ddeffraist, pan hoffaist hon:
i’w gilydd daeth dwy galon.
Yn ddiamau, hawdd yma – yw addo
i ddeuddyn eu gwynfa.
Mae hwyl, ac mae Camilla
yn wên, mae’n heulwen, mae’n ha.
Boed eich dyddiau’n hafau hir – a nosau
heb eisiau na dolur;
ond o ddyfod cyfnod cur,
eich cusan fydd eich cysur.
Y mae rhamant yn antur – i rannu
o riniau difesur,
o’ch ôl y bo pob dolur,
a deil eich cariad fel dur.
—
Nadolig cyntaf Euriana
Antur fydd dyfod Santa – yn fuan
Â’i fyrdd o bresenta
A gobeithiau dyddiau da
I riniog drws Euriana.
—
Nadolig cyntaf Elinor
O’i geni bu ei gwenau’n oleuni
A lanwodd galonnau:
Ei llon wên sy’n llawenhau
Hen fyd sy’n llawn gofidiau.
—
I Linda’n hanner cant
Un landeg ydyw Linda – ei gwenau
Fel gwanwyn ar gopa;
Tra Linda a’n diddana
Ni fydd traul ar haul ein ha’.
—
Yr haf yng Nghymru
Twrists! Ymhobman tyrrau – ar y lôn,
Ar lannau milynnau
Yn heidio, ac am hydau
Poen a chur yw’r bur hoff bau.
—
Dwyieithrwydd
Nid oedd yng Nghymru ond iaith – y Brython
Yn bur, hithau, unwaith;
Ond hyn sydd: rhai plant dan saith
Yn unig nawr sy’n uniaith.