1944-2010
Pan oedd egin feirdd y 70au wedi ymfodloni ar ysgrifennu uniongyrchol, poblogaidd, ymgyrchol, a chyfres y Beirdd Answyddogol wedi rhoi modd i bawb fod yn fardd, dewisodd Meirion lwybr llenyddol tra gwahanol. Ymwrthododd ag arddull ei gerddi cynnar – ei ‘juvenilia’, er bod y rhain yn gallu bod yn heriol, gan adleisio cerddi ceryddol Gwenallt,
“Cloc ein biswail a’n hysgarthion yw’n Deg Gorchymyn
A’n Canaan Laethog yw’r chwys yn ein tyllau mân.”
Bryd arall mae’n gellweirus-gableddus, wrth ddatgan fod ei nwyd ef a’i gariad yn fwy na’r mesuradwy,
“A Duw’r Tad, fe wenai, gan daeru:
“Fel angerdd fy Mab yn ei wae,
Ni nodir byth helynt eich trachwant-
Ar lechen y gwactod y mae.”
Er bod trywydd ei ganu diweddarach yn adlewyrchu diddordebau llenyddol, diwylliannol a chrefyddol eang ei dad, Pennar Davies, honnai iddo gael ieuenctid ‘anllenyddol’. Y Meirion diofid hwn roeddwn i’n ei adnabod gyntaf. Gwyliau yng Nglan-llyn yn rhoi wythnos o atyniadau Cymraeg i ddisgyblion ysgolion Saesneg, gemau tennis bwrdd yn seler y Coleg Coffa, ac ymgyrchu dros y Blaid.
Cafodd fagwraeth wahanol i’r rhelyw, gan ddilyn taith ei dad o Fangor i’r Coleg Coffa yn Aberhonddu ac yna Abertawe. Roedd ei fam, Rosemarie, fel fy mam innau, yn ffoadur o’r Almaen. Fel fy rhieni i, cyfarfu Pennar a Rosemarie yn Rhydychen, cyn ymgartrefu yng Nghymru, a magu teulu o Gymry ymroddedig. Meirion oedd yr hynaf o bump: mae Rhiannon yn byw ychydig filltiroedd dros Glawdd Offa yng Nghroesoswallt, Geraint yn Abertawe, a Hywel ac Owain yng Nghaerdydd. Roedd Pennar a ’nhad yn gyfeillion oes, ac er bod blynyddoedd ac amgylchiadau’n gwahanu, mae cwlwm agosrwydd y ddau deulu’n parhau.
Ond dewis barddoni? Dw i ddim yn credu mai hynny wnaeth. Gorfu iddo farddoni. Yn ei deimladau gonest, yn ei weledigaeth anfaterol, ac yn ei ddaliadau ysol, roedd Meirion yn perthyn i genhedlaeth y Gymru newydd, rydd. Ac nid un i fod yn hanner bardd oedd e.
Pan ddarganfu argraffiadwyr a swrealwyr cynnar yr ugeinfed ganrif, yn yr Almaen a Ffrainc, meddwodd ar eu gwaith, a gweld ymdrech onest i geisio ffurf i fynegi rhai o ddeuoliaethau amhosibl byw. Ymdrwythodd yr un pryd yn y Mabinogi ac yn chwedlau Groeg a Rhufain. Dilynodd Meirion yr argraffiadwyr hyn gan ymwrthod â ffurfiau artiffisial barddoniaeth a dewis cerddi di-batrwm, di-atalnod i roi llais i’w feddyliau a’i deimladau yn ddilyffethair. Ei nod oedd creu cerddi sydd “fel gwe.. o’m bol fy hun”.
Ceisio dygymod â’r hyn yw dyn yw testun ei gerdd ‘Ecce Homo’:
“myfi yw cloddiwr fy medd
creais fy natod
â’m dwylo prysur fy hun
Mae f’awen fy nghrefft
bob eiliad yn gnoc i’r graig
y’m naddwyd ohoni
llwch i’r llwch
lludw i’r lludw
ab adda
wyt ddyn
wele’r llwch yn dy law
dy fawredd eiddil di”
Angerdd cariad, rhyw a thragwyddoldeb, a’r cyflwr dynol yw rhai o destunau ei ddychymyg astrus, a’r rhain wedi’u cyfuno â gwybodaeth eang o chwedloniaeth Geltaidd a’r hen fyd. Fel cerddi ei dad, gyda’u rhychwant eang a’u rhyfeddod at fywyd, mae angen myfyrio hir arnynt.
Ar ôl graddio yn Abertawe, cafodd radd PhD yn Rhydychen ar astudiaeth o ferched yn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol (1975). Bu’n gweithio am gyfnod gyda’r Cyngor Ysgolion cyn mynd yn ddarlithydd yn Iwerddon, lle y cyfarfu â Carmel, a ddaeth yn wraig iddo. Ceir cerddi braf iawn o’r cyfnod hwnnw. Cafodd yrfa wedyn ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr-Pont-Steffan am 19 mlynedd tan 1994. Ganwyd iddynt fab, Gwri, sydd yn awr yn Llundain.
Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, Syndod y Sêr (1971), ac Y Pair Dadeni (1977), dwy gerdd hir, Saga (1972) ac Y Gadwyn (1976) a bu ei gyfieithiadau o hen lenyddiaeth Gymraeg yn boblogaidd, gyda chyhoeddi The Poems of Taliesin (1989), The Black Book of Carmarthen (1989) a Peredur (1991). Bu’n weithgar yn wleidyddol gan sefyll dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Abertawe yn etholiadau anodd 1983. Ysgrifennai’n gyson i’r Ddraig Goch, a chymerodd ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
Hoffai bobl a chymdeithas, ac roedd yn gwmni rhadlon, ffraeth a gwreiddiol, a’i lach yn anarchaidd a llym yn erbyn gelynion Cymru a gwleidyddion rhyfelgar a chyfalafol. Ond ni fyddai’n iawn dweud na fu Meirion heb anawsterau personol. Roedd ei natur hydeiml wedi’i gwneud hi’n anodd iddo ddelio ag anawsterau personol a gyrfa, ac mae’n golled na chafwyd mwy o gynnyrch ganddo o ganol y nawdegau. Fodd bynnag, pan ddychwelodd i Abertawe, bu ei ofal am ei fam a’i frawd Geraint yn hir a thyner. Dioddefodd o afiechyd yn ystod ei flwyddyn olaf a gorfod cael llawdriniaeth; ôl-effaith hon a’i dygodd oddi arnom yn annhymig.
“fel yr heuwr
yr heuais innau
gusanau
yn llawn ffydd
heb fod yn wybod imi
na diwedd
na dechrau”
Heini Gruffudd