Yr adeg yma o’r flwyddyn, mae fy meddyliau i’n troi at Kristallnacht, y noson rhwng y 9fed a’r 10fed o Dachwedd, 1938. Dyma’r noson yr ymosodd gwehilion cymdeithas ar dai a busnesau Iddewon, ac ar eu synagogau. Eleni rydyn ni’n coffáu 75 mlwyddiant y noson hon o chwalu gwydr, yn union 75 mlynedd yn ôl i heddiw.
Yn nhref Wittenberg roedd fy nheulu’n byw. Mae Wittenberg wedi’i henwogi gan Martin Luther, a fu’n byw, yn darlithio ac yn pregethu fanna, gan roi cychwyn i’r diwygiad Protestannaidd. Yn anffodus, fe roddod o lais i’r syniadau gwrth-Iddewig oedd ar led ar y pryd fanna, ledled Ewrop ac ar ein hynys ni. Fe alwodd Luther yr Iddewon yn ‘bobl fas, buteingar, ac nid yn bobl dduw’, a dweud yr un pryd eu bod ‘llawn o garthion y diafol y maen nhw’n ymdrybaeddu ynddo fel moch’.
Roedd ‘da fe gynllun saith pwynt yn erbyn yr Iddewon, gan gynnwys llosgi eu synagogau a’u hysgolion, dinistrio eu llyfrau gweddi, llosgi eu tai a chymryd eu heiddo a’u harian. Yr unig fedydd addas i Iddew oedd ei ollwng i afon Elbe gyda charreg am ei wddf.
Pa ryfedd i’r Natsiaid roi lle o fri i Luther.
Yn nhref Wittenberg, ar Kristallnacht, cafodd dau grŵp o labystiaid eu trefnu i falu eiddo Iddewon. Aethon nhw i gartef Hans, brawd fy mam-gu, a dinistrio’r hyn fedren nhw. Cafodd Hans wedyn ei gymryd i wersyll garchar Buchenwald, yn un o 30,000 o Iddewon a garcharwyd yn dilyn hyn. Ar noson Kristallnacht, cafodd dyheadau Luther eu gwireddu.
Ar ôl mis, cafodd Hans ei ryddhau a’i rybuddio i adael y wlad. Llwyddodd i gael lle ar long i Shanghai a threulio’r rhyfel yno.
Ond nid Hans oedd y cyntaf o’r teulu i dalu’n hallt am bwy ydoedd. Roedd ei chwaer Eva, chwaer fy mam-gu, yn briod â chadfridog yn y fyddin. Cafodd e, Willibald, ei orchymyn i’w hysgaru, neu golli ei swydd. O’i hysgaru, byddai eu plant yn cael eu derbyn yn Ariaid. Un diwrnod, dychwelodd eu merch, Eva-Monika, o’r ysgol i’w chartref, a chael ei mam wedi’i chrogi’i hun. Wrth wneud hyn fe achubodd Eva yrfa ei gŵr, a chafodd eu plant eu derbyn yn Ariaid.
Dim ond y llynedd gwnaeth Ute, fy nghyfnither, ddod o hyd i lythyr yn archifau’r fyddin. Roedd y llythyr wedi’i ysgrifennu gan Willibald yr un diwrnod ag y lladdodd Eva’i hun. Llythyr oedd yn cynnig ei ymddiswyddiad. Cafodd ei ymddiswyddiad ei dderbyn. Ond roedd hyn, mae’n amlwg, rai oriau’n rhy hwyr.
Cafodd eu mab Joachim ei ladd yn ystod wythnosau cynta’r rhyfel, a bu farw Willibald mewn amgylchiadau amheus mewn carchar yn America, ar ôl ildio, gyda Rommel yn Affrica, i’r Americaniaid.
Daeth rhyferthwy’r rhyfel. Arwr y teulu yw Curt Ledien, cefnder fy mam-gu. Roedd e’n byw yn Hamburg, ac yn rhan o grŵp oedd yn gwrthwynebu’r Natsiaid. Ym mis Ebrill 1943 dosbarthodd e ag eraill daflenni yn beirniadu’r drefn. Ym mis Medi’r flwyddyn honno, cafodd ei gymryd i wersyll gwaith ac wedyn i wersyll garchar, a chafodd ei grogi ar y 23ydd o Ebrill 1944.
Tua diwedd y rhyfel, ar ôl i Staufenberg geisio lladd Hitler ar Orffennaf yr 20fed, 1944, cafodd y teulu i gyd eu harestio. Ar ôl cyfnod gyda’r heddlu yn Wittenberg, cafodd Kaethe fy mam-gu ei chymryd i’r carchar yn Halle. Yn ôl un oedd gyda hi yno, roedd arni ddychryn yn ei chalon y byddai’n cael ei chymryd i Auschwitz. Ddigwyddodd hynny ddim.
Cafodd hi fynd i Ravensbrück, y gwersyll-garchar i fenywod a phlant. Dyn ni ni ddim yn gwybod sut bu hi farw fanna, ar yr 16eg o Ragfyr, 1944, chwech wythnos ar ôl mynd i’r gwersyll, a hithau’n holliach yn mynd yno. Roedd hi’n aeaf rhynllyd, roedd y gwersryll wedi’i orlenwi, a’r un pryd yn union daeth 4,000 o fenywod i’r gwersyll a’u rhoi mewn un babell fawr heb ddŵr na chyfleusterau at anghenion y corff. Yr un pryd hefyd codwyd yno gyfleusterau lladd trwy nwy.
Fe ddwedodd un wraig fu yno wrth fy nhad-cu, ‘peidiwch â rhoi i chi’ch hun y boen o feddwl sut buon ni fyw a marw yn Ravensbrück’. Roedd mynd i’r gwersyll yn gyfystyr â dedfryd marwolaeth.
Cofio wnaf i felly Eva, Willibald, Joachim, Curt, a Kaethe fy mam-gu ac eraill o’r teulu ehangach.
Rwy’n eu cofio heb angen rhwysg seremoni, heb angen i fod yn rhan o seremoni wedi’i threfnu’n rhyfygus a rhagrithiol gan lywodraeth sy’n gwneud arian mawr ar ryfela ac sy’n gwario’n ddi-ben-draw ar arfau.
Mae Llywodraeth y DU yn ennill £12.3 biliwn o werthu arfau i wledydd sy’n amheus iawn o ran hawliau dynol. Mae’r llywodraeth wedi caniatáu 3,000 o drwyddedau i hybu’r gwerthu yma. Ymysg y gwledydd rydyn ni’n allforio arfau iddyn nhw mae Libya, yr Aifft, Israel, Iran, Afghanistan, Pakistan. Fe werthon ni i Syria gemegion i greu nwy gwenwynig.
Yn gyfan mae Prydain yn yn gwerthu gwerth £17 biliwn o arfau’r flwyddyn, yr ail fwyaf yn y byd, ar ôl Unol Daleithiau America. Gwerthon ni offer i Irac i gynhyrchu arfau allai daro Israel. Yn ddiweddar mae Cameron wedi bod i India, yr Aifft, Kuwait, Saudi Arabia, Indonesia, Japan, Burma, Malaysia, Singapor, Brazil a Dubai yn hyrwyddo gwerthu arfau.
Oes syndod yn y byd wedyn bod y gwledydd hyn yn defnyddio’u harfau? Ni sy’n creu’r rhyfeloedd trwy werthu arfau. Ni hefyd sydd wedi ymosod ar Irac, Affganistan a Libya, gan beri anhrefn, a chreu dinistr a chwalu bywydau.
Os oes cofio rhai a ddioddefodd trwy ryfel i fod, gadewch i ni gofio yn enw Crist, a’n dysgodd bod ffordd arall, ffordd well na rhyfel. Does dim gwerth i’r cofio oni bai ein bod yr un pryd yn ymwrthod â rhyfel.
Fe gofiaf i heddiw hefyd, ar noson a diwrnod Kristallnacht, mai Iddew a gafodd ei erlid oedd Iesu.