SUT DYLEN NI GOFIO’R SHOAH?
Cyhoeddwyd yn Golwg360, 27 Ionawr 2022
Llofruddiodd yr Almaen chwe mil o Iddewon, a miliynau eraill, gan greu uffern ar y ddaear, dim ond ryw dair cenhedlaeth yn ôl.
Wrth gwrs, i’r Prydeiniwr hunangyfiawn, y nhw wnaeth hyn, yr Almaenwyr atgas. Ond os crafwch y Prydeiniwr, a welwch wrth-Iddewiaeth yn agos at y croen? Crafwch y Cristion, a welwch yr un modd? I ni sy’n canu’n soniarus mewn gwasanaethau Plygain, cyn cael ein swper, fe ganwn mai’r Iddew laddodd Crist. Dyna’n gosod yn yr un man â’r Natsïaid, a Martin Luther hefyd, a ddywedodd mai’r bedydd gorau i’r Iddew oedd un yn afon Elbe â charreg am ei wddf.
PROFIADAU’R TEULU
I’r rhai ohonom o dras rhannol Iddewig, mae’r cofio ar lefel bersonol. Bu farw Käthe fy mam-gu yng ngwersyll Ravensbrück, i’r gogledd o Berlin, ryw gant ag ugain milltir o Wittenberg, lle y bu’r teulu, a Luther, yn byw. Bernir bod hyd at 90,000 o fenywod a phlant wedi marw yno, yn y gwersyll a gychwynnwyd gan Heinrich Himmler, ac yr elwodd Siemens o waith ei garcharorion.
Bues i yno ryw dair neu bedair gwaith, a thorcalon yw’r unig adwaith posib. Mae’r cabanau gwaith yn dal yno, a rhai tryciau trên a fyddai’n dod â’r Iddewon ac eraill i Ravensbrück. Ar un felly, mae’n siŵr, y cludwyd fy mam-gu o Leipzig ar y 1af o Dachwedd 1944. Bu farw yno ar yr 16eg o Ragfyr.
Meddwl wedyn am fy mam yn dygymod â gwladwriaeth a laddodd ei mam hithau. Y system yn lladd ei phobl ei hun, yn chwalu teuluoedd ac yn difa bywyd gwâr. Ar y pryd roedd dau frawd fy mam, Günther a Fritz, hefyd mewn gwersyll, yn Zöschen, a’u chwaer Dorothee wedi’i rhyddhau, trwy drugaredd, a hefyd fy nhad-cu, Paul.
FFOI I GYMRU
Trwy golli ei gwaith yn amgueddfa Eifftaidd Berlin, achubwyd fy mam, Kate, wrth iddi orfod ffoi. Llwyddodd i gael lloches yn yr Alban, cyn symud i Brighton, Llundain, Rhydychen ac yna Gymru. Ychydig iawn y soniodd hi wrthon ni blant am y chwalfa yn ei byd; prin y siaradodd am greulondeb y rhyfel, fwy nag y gallai Iddewon y gwersylloedd siarad am eu profiadau, am ryw hanner can mlynedd.
Ffawd fy mam oedd cwrdd â ’nhad yn Rhydychen, priodi’n sydyn ar gychwyn y rhyfel a symud i’r Rhondda, lle y cafodd groeso Cymreig y cwm a’r capel, a dysgu’r Gymraeg. Ymdaflodd i’r gymdeithas, ac agorodd ei haelwyd i deulu clos fy nhad, Gwyn, a’i gyfeillion mynwesol e, Pennar Davies a Rhydwen Williams, a chael modd i fyw o’r newydd.
DYSGU AM Y GORFFENNOL
Dim ond wrth i ni dyfu y daethon ni’n fwyfwy ymwybodol o fanylion ein cefndir. Erbyn hynny roedd dau frawd fy mam wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus. Daeth Günther yn feddyg yn ne Sweden, a Fritz yn ddyfeisiwr peiriannau amaethyddol yn ngogledd yr Almaen, ar ôl ffoi o ddwyrain y wlad.
Tynhaodd eu profiadau gwlwm y teulu, ond daeth trobwynt i’m gwybodaeth pan gefais gais gan Günther, brawd fy mam, i fynd ato yn Sweden. Treuliodd sawl noson yn sôn am ei brofiadau e a Fritz, digwyddiadau’r rhyfel ac amgylchiadau ei deulu. Kristallnacht, pan ymosodwyd ar gartref ei ewythr, Hans, a’i garcharu ef yn Buchenwald, cyn iddo yntau ffoi a threulio cyfnod y rhyfel yn Shanghai. Tristwch ei chwaer yntau, Eva, a’i lladdodd ei hun, a hithau’n briod â chadfridog, Willibald Borowietz (Googlwch e), er mwyn arbed ei phlant rhag y Natsïaid.
Rhoddodd Günther imi lu o lythyrau’r teulu, a dogfennau’n cofnodi profiadau’r cyfnod, a daeth y rhain yn sail i’r llyfr Yr Erlid. Daeth yn ddyletswydd cofnodi hanes y teulu, hanes yr erlid ar y naill law, ac yna sut roedd gan y goroeswyr yr ewyllys i fyw ar ôl trychinebau. Yn ddigon rhyfeddol, daeth fy mam yn nofelydd Cymraeg ac yn sylfaenydd amgueddfa Eifftaidd yn Abertawe.
Mae cofio’r Shoah i ni fel teulu’n gofio personol. Ond sut dylai rhai heb gefndir tebyg gofio?
GWLAD YN TROI’N ANWAR
Mae un peth yn amlwg: mae angen i bawb yn Ewrop gofio hil-laddiad yr Iddewon, a sut y llofruddiwyd y gwan, y Sipsiwn, Comiwnyddion a lleiafrifoedd eraill. Mae angen gwybod a chofio hyn er mwyn deall pa mor hawdd y mae gwlad wâr yn gallu troi’n gwbl anwar. Does dim un wlad yn Ewrop yn fwy cyfoethog na’r Almaen o ran cerddoriaeth, llenyddiaeth, athroniaeth a dyfeisgarwch. Ond tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd efelychu arferion imperialaidd gwledydd pwerus Ewrop. Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, rhyfel rhwng y gwledydd imperialaidd a theuluoedd brenhinol Ewrop, cafodd yr Almaen ei chosbi’n llym yn economaidd, a daeth chwyddiant, tlodi a diweithdra’n dir ffrwythlon i wleidyddiaeth boblogaidd ac eithafol. Buan y daeth Hitler yn bennaeth trwy gynnig gwaith, a thrwy gasineb hiliol.
EIN MASNACH ARFAU
Beth amdanon ni yng ngwledydd Prydain heddiw? Ydyn ni mor rhydd â hynny o gasineb hiliol? Ydy’n gwleidyddion wedi ceisio poblogrwydd trwy ddulliau rhyfel? Beth oedd ein rhan yn rhyfel Irác, pan laddwyd rhyw 100,000 o ddinasyddion, wedi i Blair ddilyn celwyddau’r Americaniaid? Yna Libya? Ac Affganistán? Bernir bod rhyw 150,000 o ddinasyddion wedi marw yno.
Yn y deng mlynedd diwetha mae Prydain wedi gwerthu gwerth tua £17 biliwn o arfau i wledydd sy’n torri hawliau dynol sylfaenol, gan gynnwys Bahrain, Qatar, Saudi Arabia a Thwrci. Mae arfau Prydain wedi’u defnyddio gan Saudi Arabia yn Yemen.
Prydain yw’r allforwr arfau ail fwyaf yn y byd. Ers 2010 enillodd Prydain werth £100 biliwn o gontractau arfau, a’r llywodraeth yn brolio ein bod wedi ennill y blaen ar Rwsia a Ffrainc fel gwerthwyr arfau.
EIN HYMATEB NI
Oes unrhyw un ohonon ni’n codi bys bach yn erbyn hyn, fwy nag y gwnaeth y rhan fwyaf o boblogaeth yr Almaen yn erbyn y Natsïaid? Cau ein llygaid, a byw’n gysurus, dyna wnawn ni.
Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ein beirniadu ni’n hallt am adael i hyn ddigwydd, am adael i’n heconomi flodeuo trwy fasnach lofruddio, yn union fel yr ydyn ni’n awr yn beirniadu’r rhai a ymgyfoethogodd trwy’r fasnach gaethweision. Pa ddiben dymchwel cerfluniau cyfoethogion y fasnach honno, os ydyn ni’n fud am y fasnach arfau uffernol?
Beth yw effaith y rhyfeloedd sy’n cael eu hymladd gyda’n harfau ni? Nid lladd yn unig, ond creu miliynau’n ddigartref, a pheri bod miliynau ar ffo. A dyma ni wedyn yn rhan o wladwriaeth sydd am ddefnyddio llongau arfog i gadw trueiniaid o ffoaduriaid mewn cychod rwber bregus i ffwrdd o’n glannau. Gwae ni.
Rydyn ni i gyd yn awr yn rhan o gyfundrefn sy’n creu uffern ar y ddaear. Ond onid ar y ddaear mae creu teyrnas nefoedd? Gallwn gychwyn creu honno trwy gofio’r Shoah, cofio sut roedd gwlad wedi troi ei phobl yn llofruddion, dod wyneb yn wyneb â dioddefaint, deall gwersi caled, a deffro yr un pryd i’r gyfundrefn rydyn ni’n rhan ohoni.
Heini Gruffudd
27 Ionawr 2022, diwrnod cofio’r Shoah