Roedd sŵn dy galon yn atseinio trwy’r ward
– Strapen fonitro ar fola dy fam –
Dyna’r cyfathrebu taer cynta:
Rwy’n barod, rwy’n dod.
Fel astronot yn ei long ofod yn barod am y daith
Ond bod dy daith di’n fwy anturus a dewr,
Yn daith i’r byd, nid ohono.
A’th guriad cryf yn cadarnhau
Bod y cread yn atseinio o fywyd
Bod pob symud a phob anadl
Pob mentro a phob dyheu
Pob blas a phob blysu
I’w glywed yn dy guriad.
Pan ddoist,
I ni, beth bynnag,
Doedd dim tawelach,
Bodlondeb gafael mewn bys.
Ond eto o dan esmwythdra’th gnawd,
Yn dal i guro’n ffyrnig, mae’n siŵr
Mae curiad y cread.
Ti dy hun yw’r cread,
A’r cread wyt ti.