Cymunedau hyfyw: parhad y Gymraeg

Diolch yn fawr iawn am y fraint o gael annerch eich Cymdeithas ddysgedig.  Alla i ddim meddwl am enw eich Cymdeithas heb gofio llinellau R.Williams Parry:

Hoff wlad, os gelli hepgor dysg

Y dysgedicaf yn ein mysg,

Mae’n rhaid dy fod o bob rhyw wlad

Y fwyaf dedwydd ei hystâd.

Rwy’n ymwybodol bod gan lawer ohonon ni ein syniadau am y Gymraeg a sut i’w gwarchod a’i bywiogi, a’m byrdwn yn yr anerchiad hwn yw ein bod ni yn yr hanner can mlynedd ers darlith Saunders Lewis wedi cadw o bosib yn rhy agos at her y ‘dysgedicaf yn ein mysg’.

‘We’re speaking a foreign language aren’t we?’ Ddwedes i mo hynny – fe ddigwyddodd pan gyfarchais i’r gofalwr mewn Coleg yn Abertawe â ‘bore da’.  Atebodd fy nghyfarchiad gyda ‘bore da’ nerthol, wedi’i ynganu’n berffaith, ond aeth yn ei flaen i ddweud ei bod yn flin ganddo nad oedd e’n gallu siarad Cymraeg. ‘We’re speaking a foreign language aren’t we?’  meddai fe, a dweud y byddai wrth ei fodd o gael cyfle i ddysgu Cymraeg. Mae ei agwedd yn nodweddiadol o nifer fawr o bobl ac am ennyd teimlais i ryw dristwch wrth feddwl sut ry’n ni’n eu hamddifadu nhw o’u genedigaeth fraint.

Y pwyslais ar statws

Yn 2011, dim ond yn 49 o’r 1,909 o’r ardaloedd etholiadol roedd mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.[1]  Yn 1961, y flwyddyn cyn darlith fawr Saunders Lewis, Tynged yr Iaith[2],  roedd gan siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, Meirionydd, Caernarfon a Môn o gwmpas 70% o siaradwyr Cymraeg neu ragor.

Galwad am statws i’r iaith oedd prif alwad darlith Saunders Lewis, a dadleuodd y dylai’r Gymraeg gael ei defnyddio gan lywodraeth leol a chenedlaethol yn ardaloedd Cymraeg Cymru. Roedd mawr angen am statws i’r iaith yn y blynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd, pan nad oedd fawr ddim o’r iaith i’w weld yn gyhoeddus.  

Erbyn hyn mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n helaeth gan bob un o awdurdodau lleol Cymru, gan bob corff cyhoeddus a gan ein Cynulliad Cenedlaethol, ac mae i’w gweld ym mhob rhan o Gymru.  Digwyddodd hyn yn bennaf wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, y mudiad myfyrwyr, ymateb i alwad Saunders Lewis am ddefnyddio ‘dulliau chwyldro’ i ddiogelu’r Gymraeg.

Bu Cymru’n ffodus bod Cymdeithas yr Iaith wedi dewis llwybr di-drais.  Llwyddodd Cymru i osgoi’r terfysgoedd a welwyd ym Mharis, Warsaw a Rhufain.  Roedd y llwybr di-drais yn golygu gweithredu uniongyrchol a hunanaberth a daeth hyn ag ymateb cymharol gyflym gan yr awdurdodau.  Caniatawyd arwyddion dwyieithog yn 1965, pasiwyd Deddf Iaith 1967, argymhellodd Pwyllgor Bowen bod arwyddion dwyieithog yn cael eu derbyn yn gyffredinol yn 1972, sefydlwyd Radio Cymru yn 1977 ac S4C yn 1982.  Roedd y rhain yn gerrig milltir o bwys.  Caiff y cyflawniadau hyn, sy’n rhai gweledol yn bennaf, eu cydnabod gan sosioieithyddion fel John Edwards yn dirwedd ieithyddol, yn ‘barth angenrheidiol’ ar gyfer parhad iaith,[3] sydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar sut mae pobl yn ystyried eu hiaith. Dyna pam mae angen canmol y penderfyniad diweddar i roi blaenoriaeth i’r Gymraeg ar arwyddion ffyrdd a pham dylai’r holl fusnesau sy’n gweithredu yn y fro Gymraeg ddangos arwyddion Cymraeg neu ddwyieithog.

Fy nadl, serch hynny, yw bod llawer o’r camau sydd wedi’u cymryd o ran y Gymraeg, dros yr hanner can mlynedd diwethaf, wedi ein harwain i fyny llwybr at gors sy’n debygol o suddo gobeithion am adfywio iaith.  Mae statws a hawliau iaith wedi ein dallu, ac mae hyn yn cynnwys y buddugoliaethau y mae’r sosioieithydd amlwg, yr Athro Joshua Fishman, wedi barnu eu bod yn rhai hawdd.  Yn sgil hyn rydyn ni wedi cael ein tywys i ffwrdd o brif feysydd cynnal ac adfywio iaith.

Rydyn ni wedi cael ein rhybuddio bod buddugoliaethau o’r fath yn gallu bod yn gyfyngedig eu dylanwad.  Pwysleisiodd Joshua Fishman,

“heb drosglwyddo mamiaith rhwng cenedlaethau… dyw hi ddim yn bosibl cynnal iaith.  Does dim modd cynnal yr hyn sy ddim yn cael ei drosglwyddo.”[4] 

Wnaeth mudiad y chwedegau ddim dadlau o blaid trosglwyddo mamiaith yn y cartref, a dyna un o achosion anawsterau’r iaith heddiw.

Yng nghyd-destun y ddemocratiaeth newydd yng Nghymru, mae Cymru wedi’i gweld ar draws Ewrop fel gwlad sy’n cymryd camau cadarnhaol i warchod ei hiaith frodorol.  O’i chymharu â sut mae Ffrainc yn trin y Llydaweg a’r Fasgeg, mae Cymru, a’r Deyrnas Unedig, yn gallu ymfalchïo.  Fodd bynnag dydyn ni ddim wedi symud o’r syniad bod deddfwriaeth yn gallu datrys y rhan fwyaf o’n pryderon. Dydyn ni ddim wedi cymryd camau blaengar, o’n cymharu â’n chwaer lywodraethau yng Nghatalwnia a Chymuned Ymreolus y Basgiaid, ac rydyn ni wedi parhau i roi ein ffydd mewn statws iaith a deddfwriaeth yn hytrach na mynd i’r afael â’r dasg lawer mwy anodd o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, annog mwy o gartrefi Cymraeg ac ehangu’r meysydd lle gall y Gymraeg gael ei defnyddio.

Mae Joshua Fishman yn dadlau na all unrhyw nifer o enillion mewn statws iaith wneud iawn am ddiffygion yr iaith yn y cartref, yn y teulu, y gymdogaeth a’r gymuned.  

 “[Mae ymdrech i adfywio iaith] trwy ymdrechion ffasiynol i reoli iaith addysg, y gweithle, y cyfryngau torfol a gwasanaethau’r llywodraeth, heb fod wedi diogelu’n ddigonol [trosglwyddo iaith rhwng cenedlaethol] fel chwythu awyr yn barhaus i deiar sydd â thwll ynddo.”[5]

Medd Fishman ymhellach, am y math o gynnal iaith ar sail ysgolion, fel sydd gyda ni yng Nghymru, fod perygl fod gennym  

“gylch o redeg yn galetach ac yn galetach er mwyn cyrraedd, yn y pen draw, ar y gorau, yr un man, neu’n agos at yr un man, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth.”[6]

Byddwn i’n dadlau bod ehangu addysg Gymraeg yn rhan hanfodol o wrthdroi shift ieithyddol yng Nghymru, ond i’r rhai ohonon ni sy’n ymwneud ag addysg, mae hyn yn rhybudd amserol.  Mae’r neges, fodd bynnag, yn un y mae’n rhaid i’r rhai y tu allan i’r byd addysg hefyd roi sylw iddi, am na ddylid disgwyl i ysgolion gynnig ateb i golled parthau cymdeithasol, fwy nag y gallan nhw ddatrys problemau cymdeithasol.

Yn olaf, mae Fishman yn gwbl ddilornus o’r math o enillion a gafwyd wrth ddilyn agenda’r 1960au, sydd wedi rhoi lle i’r Gymraeg yn y byd swyddogol, yn aml trwy ymgyrchoedd a gafodd sylw eang:

 “Mae hi’n bendant yn fwy cyffrous ac yn fwy o destun newyddion i weithio ar yr ochr fwy modern a ‘llachar’…, ar yr ochr sy’n delio’n bennaf â’r iaith ffurfiol, ysgrifenedig a gyda rhyngweithiadau sy’n pwysleisio statws… mae’r rhain yn fuddugoliaethau gwag ac mae’n rhaid iddyn nhw chwalu oni bai eu bod yn gorwedd ar sail gadarn o iaith lafar, bersonol, anffurfiol mewn rhyngweithiadau dyddiol o fewn y teulu, y gymdogaeth a’r gymuned.”[7]

Beth ydyn ni felly wedi’i gyflawni yn yr hanner can mlynedd diwethaf o ymgyrchu dros y Gymraeg.  Ydyn ni wedi rhedeg ein gorau glas i gors?

Parthau’r Gymraeg heddiw

Pan edrychwn ni ar wahanol barthau’r Gymraeg heddiw, mae’n ymddangos bod y Gymraeg wedi gwneud cynnydd ym mhob un ond yn y rhai mwyaf hanfodol.

Mae’r Gymraeg wedi rhagori mewn dau faes.  Yn gyntaf, o ran corpws neu lythrennedd iaith, mae modd defnyddio’r Gymraeg trwy’r system addysg a llywodraeth, i’r lefel uchaf.  Mae hi wedi datblygu corff o lenyddiaeth, yn ogystal â geirfa fyw a hyblyg.  Yn ail, mae statws yr iaith wedi cael hwb sylweddol yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.  Does dim modd honni nad oes heriau’n weddill, ond mae’r Gymraeg wedi’i derbyn ym myd gweinyddiaeth gyhoeddus ac yn y gyfraith i raddau mwy nag ers dyddiau Hywel Dda.  Yn y meysydd hyn mae ymdrechion academyddion a gwleidyddion Cymru, yn ogystal â’r rhai fu’n glwm wrth gynllunio statws, yn hynod lwyddiannus.

Yn y graffiau canlynol, rwy’n defnyddio cylchoedd i gynrychioli’r parthau ac mae’r rhain wedi’u rhoi mewn sgwariau i adlewyrchu ymdrech a’r llwyddiant.

Graff 1: Corpws a Statws Iaith: amcangyfrif o ymdrech a chyflawniad

Cafwyd ymdrechion sylweddol hefyd yn y cyfryngau.  Roedd sefydlu Radio Cymru ac S4C yn uchafbwyntiau.  Mae ymdrechion dyfeisgar ar y gweill ym myd y cyfryngu electronig, y mae’n rhaid i’r Gymraeg addasu iddo. Ar yr ochr negyddol mae diffyg papur dyddiol Cymraeg, diffyg cylchgronau lliwgar a phoblogaidd, a phrinder Cymraeg ar y we.

Graff 2: Cyfryngau Cymraeg: amcangyfrif o ymdrech a chyflawniad

Rydyn ni wedi rhoi pwyslais angenrheidiol ar y system addysg i gynyddu nifer y siarad Cymraeg. Mae 22.4% o ddisgyblion ysgol Cymru’n awr yn derbyn addysg Gymraeg ac mae’r ganran yn cynyddu.  Mae tua 8000 o oedolion yn dechrau dysgu’r Gymraeg bob blwyddyn ac mae tua 500 yn cyrraedd y lefel uchaf o gyrsiau oedolion.  Ond er bod twf cadarnhaol wedi bod mewn addysg, o addysg feithrin i addysg uwch, mae’r ddarpariaeth o hyd yn un leiafrifol.

Graff 3: Addysg Gymraeg: amcangyfrif o ymdrech a chyflawniad

O ran amrywiol agweddau demograffeg y Gymraeg, fodd bynnag, mae’r darlun yn un o ddarnio parhaus.  Mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi syrthio i hanner miliwn, o boblogaeth o 3 miliwn. Mae hanner miliwn o rai a anwyd yng Nghymru’n awr yn byw yn Lloegr, ychydig o dan 20% o bawb a anwyd yng Nghymru. Amcangyfrifir bod Cymru’n colli rhwng 1,200 a 2,200 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn trwy allfudo.[8]

Mae 27% o boblogaeth Cymru wedi’u geni y tu allan i’r wlad.[9] Gan siroedd Powys, Fflint,  Conwy a Dinbych mae’r ganran uchaf o bobl wedi’u geni yn Lloegr, o gwmpas 40%.[10]  Mae gan siroedd y fro Gymraeg draddodiadol hefyd ryw 30% o’u poblogaeth wedi’u geni yn Lloegr.[11]

Mae symudiadau poblogaeth o fewn Cymru hefyd yn tarfu ar sefydlogrwydd ieithyddol cymunedau.  Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n hynod anodd i iaith leiafrifol oroesi fel iaith gymdeithasol arferol neu ddiofyn.

Dim ond 7% o gartrefi Cymru sy’n trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant.[12]  Mae parthau ieithyddol hanfodol y cartref a’r gymuned wedi lleihau ac wedi gwanhau er gwaethaf hanner can mlynedd o weithredu ieithyddol.  Mae’n amlwg ei bod yn bryd ystyried yn greadigol sut i newid cwrs mewn cynllunio iaith, a newid y pwyslais o lwybrau statws a hawliau unigol sydd wedi dwyn y sylw o’r man lle y mae angen gweithredu.  

Graff 4: Demograffeg y Gymraeg: amcangyfrif o ymdrech a chyflawniad

Rhybuddion

Rywsut mae ein cynllunio ieithyddol wedi anwybyddu’n fwriadus oblygiadau marwolaeth iaith sy’n realiti mewn cynifer o’n cymunedau. Mae rhybuddion digonol i’r Gymraeg ledled y byd.  Mae ffenomen marwolaeth iaith wedi bod yn destun trafod helaeth gan sosioieithyddion.  Dyma’r disgrifiad ohono gan Jean Aitchison:

“Pan fydd iaith yn marw, dydy hyn ddim yn digwydd am fod cymuned wedi anghofio sut i siarad, ond am fod iaith arall wedi cymryd lle’r hen un yn raddol fel y brif iaith, am resymau gwleidyddol a chymdeithasol.  Yn nodweddiadol, bydd cenhedlaeth iau’n dysgu ‘hen’ iaith gan eu rhieni fel mamiaith, ond byddant yn agored o oed ifanc i iaith arall fwy ffasiynol a mwy defnyddiol yn gymdeithasol yn yr ysgol.”[13]

Mae Suzanne Romaine wedi disgrifio’r dwyieithrwydd ansicr sydd yng Nghymru:

“Yn nodweddiadol mae cymuned a fu ar un adeg yn uniaith yn dod yn ddwyieithog o ganlyniad i gyswllt â grŵp un arall (sydd fel arfer yn fwy pwerus) ac yn dod yn ddwyieithog dros dro yn yr iaith newydd nes rhoi’r gorau i’w hiaith ei hun yn llwyr.”[14]

Er bod gennym yn awr ymreolaeth wleidyddol sydd wedi rhoi tipyn o reolaeth i ni ym meysydd addysg, cynllunio, yr economi, iechyd a materion eraill, dydyn ni ddim wedi dechrau proses o wrthdroi goruchafiaeth ieithyddol y Saesneg yn y rhan fwyaf o barthau, a dydyn ni ddim wedi datblygu strategaethau sydd wedi llwyddo i gryfhau parthau sy’n bod neu i sefydlu rhai newydd neu gymunedau iaith newydd i siaradwyr Cymraeg.

Cyfrifiad 2011 a daearyddiaeth iaith

Ychydig o gysur sydd i’w gael yng nghanlyniadau’r cyfrifiad. Rydyn ni’n dyst i brosesau graddol sydd wedi’u mapio a’u rhagweld gan genhedlaeth o ddaearyddwyr iaith.  Ond cyn trafod ymhellach mae angen barnu ffigurau diweddaraf y cyfrifiad yn onest a gyda synnwyr cyffredin.

Mae anghywirdeb ystadegol bod 582,368, neu 20.8% yn siarad Cymraeg yng Nghymru. Dyma’r ganran os yw dyn yn cynnwys tua 100,000 o ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion Saesneg y mae eu rhieni’n honni eu bod yn siarad Cymraeg.[15]

Mae ffigurau’r cyfrifiad yn dangos bod 42% o bobl ifanc 10-14 oed yn siarad Cymraeg, ond os ydyn ni’n anwybyddu gallu ieithyddol honedig disgyblion sy’n mynychu ysgolion Saesneg – ac mae Estyn wedi cydnabod mai ychydig iawn o’r rhain sy’n dod yn siaradwyr Cymraeg rhugl [16]  – yna’r rhai sy’n weddill yw’r rhai sy’n mynychu ysgolion Cymraeg.

Roedd 7227 (21.9%) o ddisgyblion oed 7 mewn addysg Gymraeg yn 2012,[17] y rhif uchaf erioed, ac mae’r ganran wedi codi bellach i 22.4%.  Mae modd rhagweld y bydd y ganran o rai 20-24 oed sy’n siarad Cymraeg yn cynyddu i ryw 21% erbyn cyfrifiad 2021.[18]

Os caiff nifer y rhai 5-19 sy’n siarad Cymraeg ei addasu i 20%, sy’n fwy realistig, mae nifer y siaradwyr yn y grŵp hwn yn syrthio gan ryw 100,000.  Mae cyfanswm y siaradwyr Cymraeg yn syrthio i tua 480,000 a’r ganran yn syrthio o 20.8% i tua 17%.  Dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd.  Ddylen ni ddim gobeithio’n ddi-sail nac anobeithio’n ofer yn sgil ystadegau’r cyfrifiad.

Cymunedau’r fro Gymraeg

Does dim dwywaith nad yw cymunedau’r fro Gymraeg wedi bod yn dirywio ers degawdau.  Rhybuddiodd Aitchison a Carter yn 1993 bod y fro Gymraeg “wedi diflannu bron yn llwyr”[19] ac nad oedd modd cynnal cymuned Gymraeg “mewn unrhyw fodd ystyrlon” os nad yw hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith.[20]

Y mae’r ddau ers sawl degawd wedi mapio dwy brif duedd ddaearyddol: mae’r naill yn ymwneud â symudiad y ffin ieithyddol tua’r gorllewin; mae’r llall yn ymwneud â chrebachiad y cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith.[21] 

Dim ond gan 157 (18%) o ranbarthau etholiadol mae mwy na 50% yn siarad Cymraeg.  Mae hyn yn lleihad o 192 (22%) yn 2001.[22]  Mae pob un ond un o’r 49 rhanbarth etholiadol lle mae mwy na 70% yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd neu Ynys Môn. Mae Sir Gâr wedi colli pob un o’r 5 rhanbarth lle roedd mwy na 70% yn siarad yr iaith, y tro cyntaf erioed i lai na 50% o boblogaeth y sir siarad yr iaith.  Mae niferoedd siaradwyr Sir Gâr wedi  syrthio o 89,000 yn 1991 i 78,000 yn 2011. Y realiti yn Sir Gâr, os ydyn ni’n diystyru’r chwydd o rai 5-15 sy’n siarad yr iaith, yw bod y ganran bellach o gwmpas 40%.[23]  

Yn y canolbarth, bu newid tebyg yng Ngheredigion, lle lleihaodd nifer y siaradwyr Cymraeg o 38,000 yn 2001 i 35,000 yn 2011, cwymp o 52% i 47.3%, neu 4.7 pwynt canran. Mae’r ffin ieithyddol wedi cyrraedd Cantre’r Gwaelod.

Mae gweithredu Llywodraeth Cymru, neu ei diffyg gweithredu, er gwaethaf pob ewyllys da, heb gael fawr effaith gadarnhaol ar ddemograffeg y cymunedau hyn.  Does dim modd newid tueddiadau ieithyddol trwy ddulliau’r gorffennol o hyrwyddo iaith: mae angen creu cymunedau cynaliadwy trwy ddatblygiad economaidd a pholisïau tai a chynllunio.  Mae gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg gyfrifoldeb am arolygu strategaeth y Llywodraeth am yr iaith, fel y’i nodwyd yn wreiddiol yn Betterwales.com, A Plan for Wales (2001), yna Dyfodol Dwyieithog (2002)  ac yn ddiweddarach yn Iaith Pawb (2003). Roedd amcanion y Llywodraeth yn glodwiw: cynnydd o 5 pwynt canran yn nifer y siaradwyr erbyn 2011; atal lleihad nifer y cymunedau lle caiff y Gymraeg ei siarad gan fwy na 70%, ymysg eraill.  Roedd bwriad i briflifo’r Gymraeg i feysydd datblygiad economaidd, gofal cymdeithasol a gofal iechyd o dan ofal Uned yr Iaith Gymraeg fel y byddai pob un o Weinidogion y Llywodraeth yn rhannu cyfrifoldeb.  Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd y corff cynllunio a oedd i weithredu Cynllun Gweithredu’r Llywodraeth.  Ar y pryd roedd Awdurdod Datblygu Cymru’n ymwneud â datblygu economaidd a’r Bwrdd Croeso’n gweithredu’n gadarnhaol mewn llawer o ardaloedd Cymraeg.  Roedd yna Strategaeth Datblygu Economaidd, Winning Wales a hefyd Cymunedau’n Gyntaf yn ogystal â chynlluniau eraill.

Roedd llawer i’w gymeradwyo yn hyn.  Ond methwyd â chyrraedd unrhyw darged.  Mae cwestiynau felly’n codi: sut mae modd esbonio methiant y Llywodraeth i gael effaith gadarnhaol yn unrhyw ran o Gymru ac eithrio Gwynedd? A fyddai’r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth heb strategaethau’r Llywodraeth?  A gafodd y strategaethau eu gweithredu’n effeithiol?  A gafodd y cyflawniadau eu monitro ai peidio, ac os do, pam na chafwyd newid strategaeth?

Methodd unrhyw strategaeth i raddau yn sgil penderfyniad y Llywodraeth i ddileu tri o’r cyrff a oedd yn fwyaf perthnasol i’r iaith: yr Awdurdod Datblygu, y Bwrdd Croeso a Bwrdd yr Iaith.  Dod i ben hefyd oedd hanes prosiect defnyddio Llwybro, a anogai pobl ifanc i ddychwelyd i Gymru wledig.  Bu diffyg ffocws, ynghyd ag aneffeithlonrwydd ym maes cynllunio economaidd a thai.

Mae Llywodraeth Cymru fel pe bai’n ddi-rym yn wyneb rhai o’r heriau mwyaf amlwg.  Mae’r cynllun adfywio iaith diweddaraf yn uchel o ran uchelgais, ond mae’n brin o dargedau ac o awgrymiadau gweithredu sy’n cyfateb i ddirywiad cyflym cymunedau’r fro Gymraeg.

Mae datblygu tai’n fater amlwg.  Mae’r Llywodraeth wedi derbyn bod rhaid i awdurdodau lleol adeiladu tai ar sail tueddiadau poblogaeth y gorffennol, hyd at 2007.  Mae poblogaeth Caerfyrddin am gynnyddu gan ryw 25,000, Gwynedd gan 15,000 a Cheredigion gan 6,000. Mae’r ffigurau hyn yn tybio y bydd mewnlifo sylweddol.  Yn wyneb protestiadau gan grwpiau iaith mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi TAN20 newydd, sy’n rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ystyried yr iaith wrth lunio eu cynlluniau datblygu lleol, ond nid yw’n gallu dylanwadu ar gynlluniau tai unigol.  Nid oes chwaith unrhyw offeryn asesu effaith ieithyddol wedi’i greu.  Mae cymunedau Cymraeg ar drugaredd cynlluniau tai o’r fath.  Mae pentref Penybanc yn Sir Gâr ar fin dyblu ei faint, heb fod apêl ieithyddol yn bosibl i’r Llywodraeth.  Mae tai, dŵr, yr amgylchedd, colli gardd, colli preifatrwydd ac effaith weledol i gyd yn gallu bod yn destun apêl, ond nid effaith ieithyddol.  Mae hyn yn amlwg yn fethiant cyfreithiol, ac mae’n rhaid i’r Bil Cynllunio sydd ar ddod ei gwneud hi’n bosibl i geisiadau cynllunio unigol, mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, fod yn destun asesiad ac apêl ar sail iaith.

Ychydig o lwyddiant a gafodd cynlluniau adfywio’r fro Gymraeg, pan fo’r canolrif cyflog ym Meirionnydd o dan £15,000, yr isaf yn y Deyrnas Unedig, a Sir Gâr, Ceredigion a Môn o dan £20,000, o’i gymharu â chanolrif y Deyrnas Unedig o £26,000.

Sut gall y Llywodraeth fynd ati i gryfhau’r economi a’r iaith yn y fro Gymraeg?  Mae posibiliadau y mae angen eu hystyried yn cynnwys newidiadau ym mholisïau llywodraeth leol a chanol, y mae llawer ohonyn nhw ar hyn o bryd yn tarfu ar y we sy’n cynnal bywyd lleol cynaliadwy. 

  • Mae angen i bobl leol gael blaenoriaeth wrth neilltuo tai cymdeithasol;
  • dylai fod cap ar berchenogaeth ail dai;
  • mae angen i drefnau caffael awdurdodau lleol a rhai cenedlaethol ganfod ffordd gyfreithiol o roi blaenoriaeth i gwmnïau lleol;
  • mae angen cydnabod y Gymraeg yn sgìl wrth weithio mewn awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus a ddylai gwrdd â thargedau am weithio’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Bydd hyn yn cynnwys awdit o sgiliau ieithyddol y gweithlu ac o anghenion ieithyddol. 
  • Dylai cyrff cyhoeddus sy’n gweithio i raddau helaeth trwy gyfrwng y Gymraeg adleoli i’r fro Gymraeg i atal y gwaedlif o siaradwyr Cymraeg i Gaerdydd. 
  • Yn olaf, ac yn bwysicaf, mae angen cynllun economaidd fydd yn canolbwyntio ar bwyntiau twf, gan gefnogi cwmnïau preifat, a fydd yn rhoi i’r fro Gymraeg ganolfannau creadigol deniadol fydd yn cynnig rhwydweithiau cymdeithasol cyfoethog.

Statws iaith a chynllunio ieithyddol

Tra bo cymunedau’r fro Gymraeg wedi bod yn dadfeilio, bu prif bwyslais y Llywodraeth ar sicrhau statws a hawliau iaith.

Mewn trafodaeth sosioieithyddol, mae angen i iaith gael ei defnyddio’n rhwydd mewn nifer digonol o barthau er mwyn i siaradwyr allu ei defnyddio’n ystyrlon. Mae’r parthau hyn, neu gylchoedd bywyd, yn gallu cynnwys rhyngweithio ieithyddol Isel ei fri ar lefel gymunedol, yn y teulu, mewn rhwydweithiau cymdeithasu neu yn y gwaith a hefyd ddibenion Uchel eu bri, e.e. ym myd addysg, crefydd, y cyfryngau a llywodraeth.

Bodolaeth parthau iaith ar wahân neu ddigonol sy’n gallu rhoi i gymdeithas neu i wlad gyflwr o ddwylosia sefydlog sy’n caniatáu’r defnydd o ddwy iaith. Gall hyn fod yn gymysgedd di-ben-draw o barthau Uchel neu Uchel eu bri, ond mae ar bob iaith angen bod yn brif iaith y naill neu’r llall neu’r ddau.  Dim ond hyn sy’n gallu rhoi i siaradwyr y rhyddid i ddefnyddio’u dewis iaith.  Mae dewis unigolyn o iaith yn dibynnu bron yn llwyr ar rwyddineb defnydd, ac ar ba iaith yw’r brif un neu’r un arferol mewn unrhyw barth.

Rydyn ni wedi gweld lleihad cyffredinol yn y parthau sydd ar gael i’r Gymraeg.  Mae parth y cartref wedi lleihau’n sylweddol.[24]  Yn gyffredinol rydyn ni’n gweld diflaniad parthau sy’n gysylltiedig â diwylliant traddodiadol Cymru, wrth i’r capeli Cymraeg brofi cwymp difrifol o ran niferoedd a dylanwad.  Er bod mwy o ddisgyblion yn awr yn mynychu ysgolion Cymraeg, does dim ymdrechion cydlynus wedi’u gwneud i ddarparu parthau newydd yn y gymuned sy’n angenrheidiol ar gyfer rhyngweithio ieithyddol lwyddiannus. 

Os edrychwn yn ôl ar yr hanner can mlynedd diwethaf, mae’n glir bod y flaenoriaeth wedi cael ei rhoi i barthau lefel Uchel, ar draul y parthau lefel Isel.

Yn dilyn y Deddfau Iaith, cafodd miloedd o ffurflenni eu cynhyrchu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.  Cyhoeddodd banciau sieciau dwyieithog, rhoddodd yr heddlu wysiau dwyieithog a chynhyrchodd y DVLA drwyddedau cerbyd dwyieithog, camp dechnegol yr honnwyd un tro ei bod y tu hwnt i’w allu.  Yna gwnaeth swyddfeydd awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus yn siŵr bod ganddyn nhw rywun a allai ddweud ‘bore da’ ar y ffôn.  Byddai gwasanaeth ffôn Cymraeg a drefnwyd gan rai asiantaethau’n cynnig gwasanaeth mwy cyfyngedig na’r un Saesneg cyfatebol.  Dechreuodd rhai siopau ddefnyddio arwyddion Cymraeg a dwyieithog er na allai staff cownter ddweud gair yn Gymraeg.

Beth oedd diben hyn i gyd?  Mae lleiafrif yn ymfalchïo eu bod yn gallu defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg hyn.  Ond er mwyn defnyddio’r rhain, mae’n help arbenigo mewn Cymraeg swyddoglyd, bod yn hyderus yn eich hawliau ac mae’n help bod yn ystyfnig ac yn benderfynol.

Niferoedd digon truenus sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg ac mae hyn yn annhebyg o gynyddu.  Gallai dyn fod wedi proffwydo hyn, wrth gwrs, ac mae’n hawdd ei egluro.  Saesneg fu’r iaith lefel Uchel arferol, felly mae newid i’r Gymraeg yn brofiad digalon i bawb ond graddedigion sy’n hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg. Anhawster arall yw bod y derminoleg sy’n cael ei defnyddio yn aml yn annealladwy.  Methais â deall ffurflen bensiwn, ar wahân i’r penderfyniad bod £0 yn ddyledus i mi. Trydydd anhawster yw lefel yr iaith sy’n cael ei defnyddio.[25]

Pan fo’r iaith yn anodd, y derminoleg yn anghyfarwydd, neu pan nad oes gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael, does dim syndod nad yw ffurflenni a gwasanaethau Cymraeg yn cael eu defnyddio.  Ac wrth gwrs, prin fod llenwi ffurflen wedi peri bod unrhyw unigolyn yn defnyddio’r Gymraeg yn hytrach na’r Saesneg fel iaith sgwrs.  Ni fydd cael ffurflenni a gwasanaethau Cymraeg yn gyfraniad cadarnhaol i gynllunio ieithyddol nes y byddan nhw ar gael fel dewis diofyn, os byddan nhw’n defnyddio Cymraeg dealladwy ac os byddan nhw’n cynnig gwasanaeth sydd o leiaf cystal ac mor llawn â’r gwasanaeth Saesneg.

Beth yw’r sefyllfa heddiw felly?  Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a phob un o bleidiau gwleidyddol Cymru i’r iaith wedi bod yn hanfodol. Mae lle i ddiolch bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi’r cyrff a’r mudiadau Cymraeg niferus sy’n rhoi sail i weithgareddau Cymraeg.  Ond pan gafodd Bwrdd yr Iaith ei ddiddymu aeth hanner ei staff i weithio y tu allan i’r llywodraeth.  Er gwaethaf ei wendidau a’i ddiffyg cyllid a grym, roedd Bwrdd yr Iaith yn gallu rhoi sylw penodol i hyrwyddo iaith, a rhoi cychwyn ar gynlluniau arloesol, er enghraifft y defnydd o’r iaith gan rieni, neu waith y Mentrau Iaith amrywiol.  Gyda diflaniad y Bwrdd, peidiodd llawer o brosiectau cymunedol, yn eu mysg y Cynlluniau Gweithredu Iaith a’r holl staff oedd yn rhan o’r prosiect hwnnw.  Does dim prosiect yn awr yn targedu dilyniant iaith yn y system addysg, ac mae’r gwaith cysylltiedig â chymathu mewnfudwyr wedi dod i ben.  Mae prosiect TWF, sy’n targedu defnyddio’r iaith yn y cartref, wedi ei symud o’r tîm sy’n gyfrifol am y gymuned i’r tîm addysg, fel pe bai hyn yn fater i ddisgyblion yn hytrach na rhieni.  Mae’n glir bod angen mawr am strwythur o fewn y llywodraeth sy’n gallu cwmpasu a blaenoriaethu ymgyrchoedd hyrwyddo iaith.  Mae’r trefniant presennol wedi gadael bwlch sy’n cael ei lenwi’n gyflym gan reoleiddio a deddfwriaeth.

Nid yw Comisiynydd y Gymraeg, er iddi gael ei phenodi gan Weinidog Llywodraeth Cymru, yn rhan o’r llywodraeth, ac eto mae’n gyfrifol iddi.  Nodir ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, am y Comisiynydd

“Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol yn ei dyb ef- (a) er mwyn hybu defnyddio’r Gymraeg, (b) er mwyn hwyluso defnyddio’r Gymraeg, neu (c) er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.”

Mae’r Comisiynydd wedi’i chyfyngu gan y cyllid a roddwyd i’w Swyddfa ac mae’n brin o’r pŵer sydd gan adrannau’r Llywodraeth.  Mae’n ymddangos bod prif nod y Comisiynydd o hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg wedi’i anghofio i raddau helaeth.  Yn y parthau sydd bwysicaf i gynllunio iaith, cynghori yw’r gorau y gall wneud, fel corff hyd braich.

A’r Comisiynydd Iaith wedi bod yn ymwneud â llu o ymgynghoriadau ar filiau, strategaethau a datblygiadau polisi – bu 70 o ymgynghoriadau o’r fath – dyw hanfodion cynllunio iaith ddim wedi bod yn rhan o’r drafodaeth.  Tra bod angen gwneud yn siŵr bod deddfau newydd yn  rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg, mae rôl y Comisiynydd wedi bod yn fwy tebyg i gorff lobio ymylol na bod yn rhan annatod o broses y Llywodraeth. Mae’r Comisiynydd wedi nodi mai prif nod Cynllun Strategol y Comisiynydd am 2013-15 yw dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth.  Mae hyn oherwydd ffolineb Mesur y Gymraeg: dylai’r rôl hon gael ei gwneud cyn ymgynghori, yn rhan annatod o ffurfio polisi, ac nid yn gyngor ôl-feddwl.  Dyw hi ddim yn ymddangos bod gan y llywodraeth drefn gydlynus sy’n cysylltu adrannau i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud trwy gydweithio ac sy’n gosod cyfrifoldeb ar bob adran i ystyried materion iaith.

Ar wahân i hyrwyddo’r iaith, rôl arall y Comisiynydd yw rheoleiddio’r defnydd o’r Gymraeg.  Er y byddwn ymhen amser yn debygol o weld hyn yn ddefnyddiol, mae anhrefn wedi bod yn yr ymdrech i lunio’r Safonau Iaith y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu rheoleiddio.  Cafodd yr arlwy cyntaf ei wrthod gan y Gweinidog â chyfrifoldeb am yr iaith. Mae ail arlwy wedi ymddangos yn awr, gyda 134 o Safonau sydd i ddod i rym ym mis Tachwedd 2014, dwy flynedd a hanner cyntaf ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf gan y Comisiynydd Iaith.

Sut rai yw’r Safonau a sut oedd y Broses Ymgynghori?  Bu dryswch llwyr.  Mae’r Comisiynydd wedi honni bod hyn wedi digwydd oherwydd ‘y gwahanol ofynion ymgynghori sydd ar y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg.’[26]  Y Llywodraeth luniodd y Safonau, y Comisiynydd oedd i fod i ymgynghori ar briodoldeb y safonau i wahanol gyrff cyhoeddus, ond doedd y Safonau ddim ar wefan y Comisiynydd.  Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn amhriodol, mae’n debyg, am eu bod yn gwneud sylwadau ar y Safonau yn hytrach nag ar a oedden nhw’n briodol i wahanol gyrff cyhoeddus.  Mae’r holl drefn wedi troi’n ffars fiwrocrataidd.

Gwaetha’r modd, mae’r 134 o Safonau’n ymwneud bron yn llwyr â dogfennau, ffurflenni a hawliau unigolion.  Does dim drwg yn hyn. Ond unwaith eto, ychydig iawn fyddan nhw’n ei wneud i hyrwyddo sgwrsio yn y Gymraeg. Yn lle canolbwyntio ar ffurflenni, e.e. cytundebau cyflogaeth neu drefnau cwyno o fewn awdurdodau lleol, dylai’r Safonau fod wedi gosod targedau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn iaith gwaith yn ddyddiol gan weithwyr awdurdodau lleol.

Mae Gwynedd wedi rhoi arweiniad i awdurdodau lleol trwy weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Byddai’n dda pe bai Safonau Llywodraeth yn gosod targedau i awdurdodau lleol eraill ac i gyrff cyhoeddus wneud yr un modd, efallai yn ôl canran siaradwyr Cymraeg yn eu hardaloedd.  Byddai hyn yn rhoi gwerth cyfartal â’r Saesneg ar y Gymraeg fel iaith gwaith.  Mae’r Safonau presennol yn delio ag wyneb cyhoeddus cyrff cyhoeddus: mae’r blodau yn y ffenest yn Gymraeg, ond Saesneg sydd ar y desgiau gwaith.

Yn yr un modd, dyw’r Safonau ddim yn rhoi fawr o bwyslais ar awdurdodau lleol i ddarparu gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ddefnydd llafar o’r Gymraeg i bobl ifanc.  Efallai y daw hyn yn ddiweddarach, ond dylai hyn fod yn flaenoriaeth.

Mae cynllunio ieithyddol ar lefel Llywodraeth felly wedi mynd yn ddarniog.  Mae rôl hyrwyddo’r iaith fel pe bai wedi’i rhannu rhwng y Comisiynydd Iaith a’r Llywodraeth, lle mae cyn-staff Bwrdd yr Iaith wedi’u rhannu ymysg gwahanol adrannau.  Does dim llawer o dystiolaeth o gynllunio holistig.  Un enghraifft yw’r penderfyniad diweddar i dorri’r cyllid sydd ar gael i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion, o £3 miliwn.  Pe bai’r ddarpariaeth hon wedi’i gweld yn elfen hanfodol wrth adnewyddu’r iaith mewn cymunedau, ac yn hanfodol wrth greu gweithlu Cymru, a hefyd yn ganolog i hybu teuluoedd Cymraeg newydd, byddai’r penderfyniad wedi bod yn dra gwahanol. Byddai hyn wedi golygu y byddai’r Gweinidogion â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Addysg, yr Economi a Datblygu Cymunedol ac Awdurdodau Addysg Lleol wedi dod ynghyd i drafod posibiliadau cyllido, ond mae’n amlwg na ddigwyddodd hyn.

Pan wnaeth y Llywodraeth ystyried yr ychydig gefnogaeth ychwanegol a roddwyd i’r Mentrau Iaith, dylai’r un Gweinidogion fod wedi dod ynghyd. Mater arall yw dysgu’r Gymraeg yn ail iaith.  Mae angen penderfyniad am rôl hyn mewn datblygu sgiliau ieithyddol y gweithlu, a byddai penderfyniad cywir yn gosod pwysau mawr ychwanegol ar ddysgu’r Gymraeg yn effeithiol mewn ysgolion Saesneg ac ar y rhaglen Cymraeg i Oedolion sydd wedi’i chwtogi mewn modd mor ddi-weld.

Mae’r sefyllfa bresennol yn awgrymu bod Mesur y Gymraeg, er gwaethaf y bwriadau da, yn fethiant o ran trefniadaeth llywodraeth, ond mae o leiaf wedi dangos bod angen dull gwahanol iawn o gynllunio ieithyddol yng Nghymru.

Cymunedau iaith i siaradwyr newydd

Dyw hyfywedd iaith ddim yn dibynnu ar ganrannau’n unig.  Mae’n dibynnu ar lu o ffactorau.  Mae bywiogrwydd y Gymraeg i’w briodoli i raddau helaeth iawn i ymdrech enfawr gwirfoddolwyr a rhai sy’n bleidiol i’r iaith, sydd yn cynnal gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol di-rif. Mae’r rhain yn digwydd ym mhob rhan o Gymru a dyma sail y bywyd Cymraeg rydyn ni’n gwybod amdano.

Mae sawl astudiaeth wedi dangos bod iaith y cartref yn gallu rhoi cystal sail dros ddefnyddio’r Gymraeg yn iaith gyntaf ag iaith y gymuned.  Mae parthau eraill sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddefnyddio iaith leiafrifol yn cynnwys rhai sy’n cynnig cyfleoedd sgwrs digonol a digon bywiog, boed yn rhwydweithiau cymdeithasol, amgylchedd gwaith, gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon, a chanolfannau cymdeithasu ac ati, ac wrth gwrs, y cyfryngau torfol a’r cyfryngau electronig.

Mae’n rhaid i ddarparu cymunedau iaith cynaliadwy yn y bröydd Cymraeg traddodiadol fod yn flaenoriaeth, ond byddem yn gwneud tro sâl â siaradwyr Cymraeg mewn rhannau eraill o Gymru pe baen ni’n cyfyngu ein sylw i’r fro Gymraeg.

O blith y rhai 7 oed sy’n siarad Cymraeg, mae llai na hanner yn byw yn y fro Gymraeg, a rhyw draean yn byw mewn cartref Cymraeg.  I wneud cyfiawnder â’r grŵp newydd hwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n rhaid i ni ehangu’n ddirfawr ein pwyslais o gymunedau’r fro Gymraeg i gynnwys siaradwyr newydd y Gymraeg, yn ddisgyblion ac yn oedolion.

Dyw newid defnydd rhyngbersonol o iaith ddim yn gallu cael ei ddatrys trwy ddeddfwriaeth.  Dylai rheoleiddio hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ond mae defnydd rhyngbersonol o iaith yn fater o ddewis unigol.  Mae hyrwyddo ar raddfa fawr yn rhan angenrheidiol o weithredu llywodraeth, yn ogystal â darparu amgylchedd sy’n cynnig amodau cadarnhaol i’r iaith leiafrifol.  Cychwynnwyd ymgyrchoedd hyrwyddo yng Nghatalwnia yn 1981, cyn mynd ati i basio’r Ddeddf Iaith Gatalaneg gyntaf.[27] Yng Nghymru rydyn ni wedi rhoi’r drol o flaen y ceffyl.

Mae’r dasg fwyaf anodd ym maes cymunedau iaith yn digwydd lle mae’r rhain wedi ymddatod oherwydd rhwydweithiau annigonol.  Sut ydyn ni’n gallu mynd ati i ail-greu rhwydweithiau iaith i oedolion sy’n dysgu, ac i siaradwyr Cymraeg, yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru?  Mae angen i gynllun iaith cenedlaethol ar gyfer ardaloedd llai Cymraeg Cymru dros y deng mlynedd nesaf ganolbwyntio ar dri phrif grŵp o bobl: rhieni, pobl ifanc ac oedolion sy’n dysgu.

Rhieni

Mae ar rieni angen cefnogaeth ac anogaeth sylweddol.  Cafwyd mai dim ond 82% o gartrefi lle mae dau oedolyn yn siarad Cymraeg sy’n trosglwyddo’r iaith i’w plant.  Lle mae un rhiant yn siarad yr iaith, 45% yw’r gyfradd drosglwyddo, a gyda rhieni sengl, 53% yw’r gyfradd.  Yn y cyfamser, mae cyfran y cartrefi Cymraeg wedi lleihau o 11.1% yn 2001 i 9.4% yn 2011.[28]

Bydd annog rhieni i siarad Cymraeg, a rhoi iddyn nhw’r hyder i wneud hynny, yn rhoi hwb llawer mwy i’r iaith na sicrhau bod ffurflen gwyno ar gael yn Gymraeg.  Mae angen arbenigedd a meddwl creadigol i wneud hyn. Mae llawer o bosibiliadau, e.e. darparu pecynnau cyn-geni a phecynnau croeso i rieni plant newydd-anedig, darparu gwersi cyn geni Cymraeg a dosbarthiadau mam a baban Cymraeg, cyngor iaith gan weithwyr iechyd, darparu cyrsiau Cymraeg dwys i ddysgwyr sydd am ddechrau defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, a chyrsiau hybu hyder i rai y mae eu Cymraeg yn rhydlyd.  Mae peth gwaith ardderchog yn digwydd eisoes yn y maes hwn, ac mae angen i hyn ddigwydd ar draws Cymru.

Pobl ifanc

Mae’r enillion niferus a gafwyd trwy’r ysgolion Cymraeg yn rhan hanfodol o gynllunio iaith. Eto rydyn ni wedi gweld y Llywodraeth yn methu targedau twf ar draws Cymru.  Mae galw rhieni am addysg Gymraeg yn gyson wedi bod ddwy neu dair gwaith y ddarpariaeth yn holl awdurdodau lleol ardaloedd llai Cymraeg Cymru.[29]   Mae ad-drefnu adeiladau ysgolion mewn ardal yn un posibilrwydd, heb fawr gost, fel bod modd ateb dymuniad rhieni am addysg Gymraeg i’w plant.  Er bod adran addysg y Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu cynlluniau datblygu addysg Gymraeg, mae’r rhain yn druenus o annigonol, a’u cynlluniau pendant am dwf yn brin, a’r twf yn llawer rhy araf.

Nod y Llywodraeth oedd bod 25% o blant 7 oed Cymru’n derbyn addysg Gymraeg erbyn 2014-15 a 30% erbyn 2020-21.[30]  Methwyd y nod cyntaf.  I gyrraedd yr ail nod, mae angen sefydlu 67 ffrwd addysg Gymraeg ychwanegol, naill ai mewn ysgolion sydd eisoes yn bod neu mewn rhai newydd[31] ond dyw cynlluniau strategol addysg Gymraeg awdurdodau lleol ond yn cynnig rhwng 5 i 6 ffrwd newydd rhyngddyn nhw.

Mae ehangu’r ddarpariaeth bitw bresennol o addysg Gymraeg mewn addysg uwch a phellach yn anghenraid arall, fel sydd wedi’i arloesi’n wych gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae hyn yn hanfodol i gael gweithlu â sgiliau dwyieithog llawn, a dylid rhoi blaenoriaeth i’r bobl ifanc sy’n fwyaf tebygol o aros yn eu cymuned.  Mae peth cyllido parod ar gael os gwnawn ni gael gwared ar y polisi anghynaliadwy o gyllido ein myfyrwyr i astudio’r tu allan i Gymru.

Her arall yw sut gallwn ni roi i bobl ifanc barthau digonol y tu allan i addysg lle gallan nhw ddefnyddio eu hiaith, boed hynny ym myd chwaraeon a hamdden, mewn tafarndai neu ganolfannau cymdeithasu ac adloniant yn ogystal â’r cyfryngau electronig a chymdeithasol.  Mae cydnabod y Gymraeg yn sgìl yn y gweithle yn y sector cyhoeddus a phreifat yn hanfodol yn hyn o beth ac mae modd cryfhau hyn trwy wahanol ddyfeisiau symbylu a allai gynnwys gwobrwyo, cyflog uwch, rhoi bonws a rhoi cyfleoedd galwedigaethol.  Mae angen cynllunio macro a micro i drawsnewid y sefyllfa bresennol.  Yr hyn sy’n amlwg yw bod yn rhaid i ddarpariaeth i bobl ifanc gael ei wneud mewn ffyrdd sydd y tu hwnt i gyrraedd deddfwriaeth.

Oedolion

Un o siomedigaethau’r llynedd oedd y diffyg gweledigaeth am sut y gallai Cymraeg i Oedolion drawsffurfio rhagolygon yr iaith.  Rydyn ni’n disgwyl i oedolion feistroli’r iaith mewn rhyw 200 o oriau dros dair neu bedair blynedd.  Mae angen 1,200 o oriau cyswllt ar y Saesneg fel ail iaith ac mae angen 1,500 o oriau i feistroli’r Fasgeg.[32]  Dyw hi ddim yn syn, wedyn, ein bod yn colli tua 80% o’r holl oedolion sy’n dysgu’r iaith, trwy godi gobeithion ar sail nifer annigonol o oriau.

Ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o oedolion yn dysgu Cymraeg am resymau hunaniaeth.[33]  Mae angen meithrin y synnwyr hwn o hunaniaeth, ac mae modd i Gymraeg i Oedolion gael ei chysylltu’n annatod â darpariaeth addysg Gymraeg a hefyd â gweithleoedd cyhoeddus gan gyplysu lefelau cyrhaeddiad â sgiliau iaith y mae eu hangen mewn gwahanol alwedigaethau.  Mae secondiad o’r gwaith eisoes wedi dod â llwyddiant, ac mae hyn yn allweddol, gan nad oes llwybrau tarw wrth ddysgu iaith.

Ar ôl ei dysgu, mae angen ymarfer yr iaith.  Rydyn ni wedi gweld rhwydweithiau Cymraeg yn ymddatod yn yr ardaloedd llai Cymraeg.  Un ateb creadigol a chynhyrchiol sydd wedi  ymddangos mewn blynyddoedd diweddar yw sefydlu Canolfannau iaith a diwylliant – Canolfannau Cymraeg – a allai roi llety, er enghraifft, i Gymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith a’r Urdd ac a allai fod yn fan cynnal digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol.[34]  Mae Canolfannau, sy’n cyfoethogi rhwydweithiau cymdeithasol, eisoes yn bod yn Abertawe, Merthyr, Pontypridd a Wrecsam ac mae canolfannau dysgu yn Ninbych, Fflint a rhai mannau eraill.  Mae tua 200 o ganolfannau o’r fath yng Ngwlad y Basgiaid ac mae angen i ni efelychu’r arfer da hwn.  Mae angen cynllunio hyn eto ar lefel genedlaethol a lleol, o dan nawdd y Ganolfan Cymraeg i Oedolion sydd yn yr arfaeth, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol ac awdurdodau lleol.

Awdurdod Iaith i Gymru

Mae toreth o faterion yn galw am sylw canolog mewn cynllunio iaith dros y deng mlynedd nesaf.  Ymysg y rhain mae gwrthdroi dirywiad demograffeg y fro Gymraeg trwy economi cynaliadwy a chynllunio tai sy’n cryfhau’r gymuned, hyrwyddo’r iaith ymysg rhieni a theuluoedd, ehangu addysg Gymraeg a pharthau defnyddio’r iaith ymysg pobl ifanc, ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith ac mewn parthau cymdeithasu, a darparu rhwydweithiau cymdeithasol newydd i oedolion sy’n dysgu’r iaith, wedi’u seilio ar raglen Cymraeg i Oedolion fydd wedi’i chwyldroi.

Mae cyflawni hyn yn mynd i olygu arbrofi dychmygus gan adrannau’r llywodraeth ar lefel leol a chenedlaethol.  Mae’r Athro Colin Williams wedi dweud mai dyma’r brif her y mae angen ei hwynebu’r ganrif hon.[35]  Yr hyn sy’n glir i bawb yw bod y trefniadau presennol o ran darparu ar gyfer yr iaith yn gwbl annigonol i gwrdd â heriau amrywiol dylanwadu ar ymddygiad ieithyddol a’i newid.

Mae rhai enghreifftiau i’w hefelychu i’w cael yng Nghatalwnia ac yng Ngwlad y Basgiaid.  Yn y gwledydd hyn, mae strwythurau sy’n rhoi blaenoriaetih i gynllunio iaith yn ganolog i drefn y llywodraeth.

Nid yw hyn yn fater i wahanol adrannau ac nid yw chwaith yn fater y mae modd ei adael i drafodaeth rhwng adrannau.  I gydlynu cynllunio ar lefel facro, mae angen uned bwerus yng nghanol y llywodraeth, wedi’i staffio gan arbenigwyr mewn cynllunio iaith, boed hynny mewn addysg a diwylliant, datblygu economaidd, tai, y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Gallai uned o’r fath  roi hwb creadigol yn ogystal â chynnal perthynas gydlynus rhwng holl adrannau’r llywodraeth.

Gadewch i ni alw’r uned hon yn Awdurdod Iaith i Gymru.  Bydd yn rhoi arweiniad ar y cam cynllunio strategol, yn hytrach na fel ôl-feddwl mewn ymgynghoriad.  Bydd ganddo rôl cwmpasog ar draws gweinyddiaethau a bydd yn cynghori ac yn ffurfio polisïau’r llywodraeth mewn modd holisig. Ei flaenoriaeth fydd sicrhau bod y Gymraeg yn gallu blodeuo mewn cymunedau a pharthau iaith hyfyw, naill ai yn y fro Gymraeg neu yn rhannau llai Cymraeg Cymru.  Mae’n rhaid i reoleiddio a deddfwriaeth, mor hanfodol ag ydyn nhw, yn awr gymryd ail le i raglen arloesol o hyrwyddo a defnyddio iaith, sy’n anelu at ehangu a chyfoethogi’r parthau a’r rhwydweithiau gwaith a chymdeithasol sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg.

Gallai’r corff hwn fod yn fwy costeffeithiol na’r drefn bresennol.  Mae yma gyfle i arbenigwyr cynllunio iaith yn swyddfa’r Comisiynydd Iaith ddod i mewn i fod yn rhan o’r Awdurdod Iaith creadigol ac arloesol hwn.

Mae yma rôl heriol hefyd i’n Prifysgolion.  Er bod Cymru’n cynnig labordy ymchwil ddelfrydol i astudio patrymau iaith, ac i roi’r egwyddorion diweddaraf ar waith, dydyn ni ddim wedi sefydlu’n hunain fel arweinwyr byd mewn cynllunio iaith.  Mae gwaith ardderchog mewn gwahanol agweddau ar ymchwil iaith wedi’i wneud gan lawer o’n prifysgolion.  Dylai ein prifysgolion, mewn cydweithrediad, gymryd y cyfle i ddatblygu canolfan fyd mewn cynllunio iaith, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a allai wedyn roi damcaniaethau ar waith.

Er mwyn sefydlu Awdurdod Iaith yn rhan o’r Llywodraeth, mae angen gofyn a oes angen diddymu Mesur 2011, neu ddisodli rhannau ohono gyda darpariaeth am Awdurdod Iaith.  Mae hyn yn fater i arbenigwyr cyfraith, ond mae gwneud y Gymraeg yn brif fater holl adrannau’r Llywodraeth, ac nid yn unig y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, yn angenrheidiol i gychwyn y daith tuag at sicrhau llewyrch yr iaith.  Mae cynsail o fath ym Mesur Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sydd â’r pwrpas o sicrhau bod pob Gweinidog yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth lunio pob polisi.

O ran nifer presennol y siaradwyr Cymraeg, ac ymrwymiad cynifer ohonynt i’r iaith, ac awydd cynifer o’r di-Gymraeg a mewnfudwyr i’w meistroli, mae’r nod o ddiogelu’r iaith ar gyfer y dyfodol yn un cwbl gyraeddadwy.

Mae hi’n werth cofio bod Saunders Lewis wedi proffwydo marwolaeth y Gymraeg erbyn blynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif oni bai ei bod yn dod yn iaith swyddogol yn yr ardaloedd Cymraeg.  Mae’r Gymraeg yn ddigon byw o hyd,  nid yn gymaint am ei bod yn iaith swyddogol, ond am ei bod yn ddewis cyntaf o hyd i ddigon o bobl a chartrefi ac am fod ganddi ddiwylliant swyddogol ac answyddogol bywiog.

Wrth gwrs, does dim yn aros yr un fath. Does dim byd yn dragwyddol.  Yn union fel y mae unigolion yn byw ac yn marw, does dim iaith yn y byd heddiw fydd yn aros yn ddigyfnewid dros ganrifoedd. Mae’r Gymraeg yn esblygu’n gyson, o ran geirfa, tafodiaith a gramadeg, yn union fel y mae pob iaith yn newid.  Ond os ydym yn barod i gydnabod y grymoedd allanol sydd wedi dod â’r Gymraeg i’w sefyllfa bresennol o berygl, dylem allu gwrthdroi llawer o’r prosesau negyddol, i sicrhau bod y Gymraeg yn gallu llewyrchu’n fwy helaeth, yn ôl dymuniad pobl Cymru eu hunain.  Yr un yw diogelu’r Gymraeg â sicrhau hunaniaeth Cymru fel gwlad a hunaniaeth unigol pob un o’i dinasyddion.  Hyn yn ei dro yw ein cyfraniad at ddiogelu cyfoeth diwylliant a dinasyddiaeth Ewrop.

Ac rwy’n siŵr y byddai Saunders Lewis wedi cytuno â hynny.

HG

LLYFRYDDIAETH

CYHOEDDIADAU

Aitchison, Jean,  Language change: progress or decay?, Cambridge University Press, 1998.

Aitchison, John and Carter, Harold, ‘The Welsh Language in 1991 – a Broken Heartland and a New Beginning’, Planet, Chwefror/Mawrth 1993.

Aitchson, John a Carter, Harold, A Geography of the Welsh Language, 1961-1991, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994.

Aitchson, John a Carter, Harold, Spreading the Word, The Welsh Language 2001, Y Lolfa, Talybont, 2004.

Boix-Fuster, Emili et al, ‘Policies Promoting the Use of Catalan in Oral Communications and to Improve Attitudes towards the Language’ yn Stubell, Miquel a Dr Boix-Fuster, Emili (gol.), Democratic Policies for Language Revitalisation, Palgrave Macmillan, 2011, 155-6.

Edwards, J., Minority Languages and Group Identity, Impact: Studies in Language and Society, 27, John Benjamins, Amsterdam, 2010.

Fishman, Joshua, Reversing Language Shift, Multilingual Matters, Clevedon, 1991.

Gathercole, Virginia C. M (gol.), Trosglwyddo Iaith mewn Teuluoedd Dwyieithog yng Nghymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2007.

Golwg, May 15, 2014.

Gorter, Durk, Marten, Heiko F. a van Mensel, Luk, Minority Languages in the Linguistic Landscape, Palgrave Macmillan, 2012.

Gruffudd, H.  and Morris, S., Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu Cymru, Prifysgol Abertawe, 2012.

Gruffudd, H., Pwy sy’n darllen?, anerchiad i Gynhadledd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, 2013.

Jones, Hywel, Darlun Ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2012.

Jones, Michael, Twf Addysg Gymraeg yng Nghymru 2012-2020, Rhag, 2012.

Lewis,Saunders, Tynged yr Iaith, BBC, 1962.

Morris, S.D., Cymhellion a Llwyddiant Oedolion sy’n dysgu Cymraeg, M.Phil, Prifysgol Abertawe, 2005.

Reynolds, C., Dysgwyr Cymraeg i Oedolion, Cymhelliant ac Agwedd, M.Phil, Prifysgol Abertawe, 2004.

Romaine, Susanne, Language in Society, Oxford University Press, 2000.

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adroddiad Blynyddol 2011-2012, Llywodraeth Cymru, 2012.

Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adroddiad Blynyddol 2012-13, Llywodraeth Cymru.

Williams, Colin H., ‘Community Empowerment through Language Planning Intervention’, yn Williams, Colin H. (gol.), Language Revitalization, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2000, 221-246.

YSTADEGAU

2011 Census: Country of birth, local authorities in England and Wales, Swyddfa Ystadegau Gwladol, Tabl KS204EW, 2012.

Cyfrifiad 2011: Data Iaith Gymraeg ar Gyfer Ardaloedd Bach, SB5/2013 Bwletin Ystadegol, 30 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru.

Tabl 7.5 Disgyblion ysgol cynradd a gynhelir, 5 oed a throsodd, yn ôl eu gallu i siarad Cymraeg, asesiad prifathrawon, Ystadegau Llywodraeth Cymru, 2011.

Statistical Bulletin Bwletin Ystadegol, Ystadegau Gwladol, SB 118/2012,  Rhagfyr 2012

Siaradwyr Cymraeg yn ôl awdurdod lleol, rhyw a grwpiau oedran manwl, 2011, StatsCymru, Llywodraeth Cymru.

GWEFANNAU

ESTYN: http://www.estyn.gov.uk/english/docViewer/172563.3/an-evaluation-of-the-gcse-welsh-second-language-short-course-october-2007/?navmap=30,163.

RHAG: http://www.rhag.net/amdanoms.php.


[1] Cyfrifiad 2011: Data Iaith Gymraeg ar gyfer Ardaloedd Bach, SB5/2013 Llywodraeth Cymru.

[2] Saunders Lewis, Tynged yr iaith, BBC, 1962.

[3] J. Edwards, Minority Languages and Group Identity, Impact: Studies in Language and Society, 27, John Benjamins, Amsterdam, 2010.  Gweler hefyd Durk Gorter, Heiko F. Marten a Luk van Mensel, Minority Languages in the Linguistic Landscape, Palgrave Macmillan, 2012.

[4] Joshua Fishman, Reversing Language Shift, Multilingual Matters, Clevedon, 1991, 113.

[5] Ibid, xii.

[6] Ibid, 369.

[7] Ibid, 110.

[8] Gweler trafodaeth yn Hywel Jones, Darlun ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2012.

[9] Tabl KS204EW, 2011 Census: Country of birth, local authorities in England and Wales, Office for National Statistics, 2012.

[10] 44.7%, 44.3%, 36.3% and 39.7%.

[11] Gwynedd 27.4%, Ynys Môn 28.8% a Cheredigion 37.3%. 

[12] Tabl 7.5 Disgyblion ysgol cynradd a gynhelir, 5 oed a throsodd, yn ôl eu gallu i siarad Cymraeg, asesiad prifathrawon, Ystadegau Llywodraeth Cymru, 2011.

[13] Jean Aitchison, Language change: progress or decay?, Cambridge University Press, 1998, 198.

[14] Susanne Romaine, Language in Society, Oxford University Press, 2000, 51.

[15] Yn ôl y cyfrifiad, mae 38% o blant 5-9 oed yn siarad Cymraeg, a 42% o rai 10-14 oed, a 29% o bobl ifanc rhwng 15-19, gyda chwymp wedyn i 18% ymysg rhai 20-24 oed.   Os oes cred yn hyn, mae ennill mawr yn cael ei ddilyn gan anghofrwydd ieithyddol anesboniadwy. Er bod colled ieithyddol yn ffenomen sy’n cael ei hastudio gan ieithyddion, mae 50% o golled o fewn deng mlynedd y tu hwnt i ddisgwyliad rhesymol.  Yn 2002, roedd 18.8% o blant 7 oed mewn ysgolion Cymraeg. Y golled ieithyddol dros y deng mlynedd 2002-2011 am y garfon hon felly yw o 18.8% i 18%, sy’n llawer nes ati’n ystadegol.

[16] http://www.estyn.gov.uk/english/docViewer/172563.3/an-evaluation-of-the-gcse-welsh-second-language-short-course-october-2007/?navmap=30,163.

[17] Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adroddiad Blynyddol 2012-13, Llywodraeth Cymru, 28.

[18] Ibid, 28-9.

[19] John Aitchison a Harold Carter, ‘The Welsh Language in 1991 – a Broken Heartland and a New Beginning’, Planet, February/March 1993, 5.

[20] John Aitchson a Harold Carter, A geography of the Welsh Language, 1961-1991, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994, 113.

[21] Ibid, a gweler and Spreading the Word, The Welsh Language 2001, Y Lolfa, Talybont, 2004.

[22] Cyfrifiad 2011: Data Iaith Gymraeg ar Gyfer Ardaloedd Bach, SB5/2013 Bwletin Ystadegol, 30 Ionawr 2013, Llywodraeth Cymru.

[23] Canran wedi’i seilio ar ystadegau yn Siaradwyr Cymraeg yn ôl awdurdod lleol, rhyw a grwpiau oedran manwl, 2011, StatsCymru, Llywodraeth Cymru.

[24] Virginia C. M Gathercole (gol.) Trosglwyddo Iaith mewn Teuluoedd Dwyieithog yng Nghymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2007.

[25] Cafwyd bod mesuriad o oed iaith gwahanol ddogfennau cyhoeddus yn rhoi oed darllen o 18.  Roedd hyn yn gyffredin i’r holl gyhoeddiadau Cymraeg: roedd gan dudalen flaen Y Cymro oed darllen cyfartalog o 21, roedd erthyglau yn Golwg yn amrywio rhwng 16 ac 17, ac roedd gwahanol erthyglau yn Barn rhwng 18 ac 19.  Mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, mae Siarter Cwsmeriaid y Gwasanaethau Pensiwn yn 18, fel y mae gwefan y Comisiynydd Iaith.  Mae’r Gymraeg yn llawer rhy anodd i’r siaradwr Cymraeg cyffredin.  Mae dogfennau a chyhoeddiadau Saesneg ar y cyfan yn anelu am oed darllen 11-14. Heini Gruffudd, Pwy sy’n darllen?, anerchiad i Gynhadledd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, 2013.

[26] Golwg, Mai 15, 2014, 4.

[27] Emili Boix-Fuster et al, ‘Policies Promoting the Use of Catalan in Oral Communications and to Improve Attitudes towards the Language’ yn Miquel Stubell a Dr Emili Boix-Fuster (gol.), Democratic Policies for Language Revitalisation, Palgrave Macmillan, 2011, 155-6.

[28] Hywel Jones, Darlun Ystadegol o sefyllfa’r Gymraeg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 2012, 59.

[29] Gweler http://www.rhag.net/amdanoms.php.

[30] Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg: Adroddiad Blynyddol 2011-2012, Llywodraeth Cymru, 2012.

[31] Michael Jones, Twf Addysg Gymraeg yng nghymru 2012-2020, Rhag, 2012, 4.

[32] Gweler H. Gruffudd ac S. Morris, Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolon sy’n Dysgu Cymraeg, Prifysgol Abertawe, 2012, 21.

[33] Gweler S.D. Morris, Cymhellion a Llwyddiant Oedolion sy’n dysgu Cymraeg, M.Phil, Prifysgol Abertawe, 2005 a C. Reynolds, Dysgwyr Cymraeg i Oedolion, Cymhelliant ac Agwedd, M.Phil, Prifysgol Abertawe, 2004.

[34] H. Gruffudd ac S. Morris, gw. nodyn 32.

[35] Colin H. Williams, ‘Community Empowerment throught Language Planning Intervention’, yn Colin H. Williams (gol.), Language Revitalization, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2000, 221-246.