Doedd neb yn deall
‘Pryd wi’n siarad â’r plant eraill,
dy’n nhw ddim yn fy neall i.’
Rhannu gair â hwn a hon ar y buarth,
eisiau chwarae â phêl,
neu holi enw,
sylw am wisg,
rhannu diod falle,
cynnig creision,
pwy wyr beth oeddit am ei ddweud,
ond doedd neb yn dy ddeall
yr awr ginio gyntaf.
‘Does dim Saesneg gen i, oes e mam?’
‘Dim gair, ’nghariad i.’
A dyna tithau’r eilddydd
wedi gwybod
pam na ddeallaist ddim
y diwrnod cyntaf hwnnw yn yr ysgol Gymraeg.
Dyna pam yr wylaist
A hefyd dy fam.
Rwy’n cyflwyno’r egin yna o gerdd i gychwyn, cerdd i’m hwyres ar ei diwrnod cyntaf mewn ysgol Gymraeg, yn annisgwyl efallai, er nad oes neb wedi bod yn fwy brwd na mi wrth annog sefydlu ysgolion Cymraeg. Rwyf wedi dadlau, er enghraifft, ag Eifion Lloyd Jones, sydd am weld prawf iaith neu brawf ymrwymiad yn cael ei osod i rieni sydd am roi addysg Gymraeg i’w plant. Ond daeth yn bryd i ni wynebu un o’r argyfyngau sy’n wynebu’r Gymraeg ac Addysg Gymraeg.
Diolch, cofiwch, ein bod ni wedi symud o’r cyfnod pan fyddai prawf ieithyddol yn cael ei roi ar rieni a oedd am anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Byddai hyn yn digwydd yn Abertawe. Rwy’n cofio’n glir, ddechrau’r pum degau, a minnau newydd gychwyn yn Ysgol Gymraeg Lôn-las, i un o’r disgyblion cyntaf orfod gadael yr ysgol am nad oedd ei ddau riant yn siarad Cymraeg. Am flynyddoedd wedyn byddai rhieni’n cael eu holi am iaith eu cartref, a phlant yn cael eu gwrthod.
Mae ysgolion Cymraeg wedi symud o’r fan yna, ond nid yw’r ddilema sylfaenol wedi newid. Mae’n debyg y bydd rhai’n synnu fy nghlywed yn dweud na chaiff y Gymraeg ei harbed gan ysgolion Cymraeg. Mae Joshua Fishman, tad gwyddor cymdeithaseg iaith, wedi rhybuddio’n glir nad yw ysgolion ieithoedd lleiafrifol ond yn gallu cyflwyno gwybodaeth o iaith. Os na fydd iaith cartrefi a chymunedau’n newid yn sgil yr ennill ieithyddol sy’n digwydd yn yr ysgolion, bydd athrawon yn cychwyn flwyddyn ar ôl blwyddyn o’r union un man cychwyn, ac yn gorfod cyflwyno’r iaith o’r newydd i genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant, yn hytrach na datblygu ar sylfaen sy’n cyson dyfu. Darlun Fishman am hyn yw bod athrawon yn pedlo’n wyllt er mwyn aros yn yr unfan.
Yn y pen draw, mae angen i bob twf mewn addysg Gymraeg gydredeg â thwf cyfatebol yn nifer yr aelwydydd sy’n troi at y Gymraeg fel iaith gyntaf. Heb hyn, mae modd rhag-weld colli momentwm, colli’r grym arloesol cychwynnol a cholli’r weledigaeth sydd wedi rhoi’r posibilrwydd i ni o weld y Gymraeg yn cael ei hachub ledled Cymru trwy sefydlu ysgolion Cymraeg ym mhob rhan o’r wlad yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.
Mae arwyddion eisoes bod y brwdfrydedd cynnar yn cael ei golli. Mae dyn yn clywed am athrawon mewn ysgolion Cymraeg yn siarad Saesneg â’i gilydd, yn siarad Saesneg â’u plant, a hyd yn oed yn anfon eu plant i ysgolion Saesneg. Wrth i addysg Gymraeg ehangu, mae’n dra phosib ei bod hi hefyd yn rhwym fod gweledigaeth yr arloeswyr yn cael ei glastwreiddio. Nid yw’r stor o athrawon medrus eu Cymraeg yn yr amryfal bynciau’n ddihysbydd, ac ni chafwyd hyd yma raglen ddigonol o hyfforddiant iaith i gynyddu’r sylweddol y nifer o athrawon cymwys.
Rydyn ni i gyd yn gwybod am anawsterau ieithyddol ar fuarth ysgolion, a’r Gymraeg yn diflannu wrth i blant symud o’r dosbarth i’r awyr iach. Er bod rhai ysgolion yn llwyddo trwy ymdrechion gwiw i gael disgyblion i ddymuno siarad Cymraeg â’i gilydd, mae’r broblem yn y bôn yn un llawer dyfnach. Mae’r broblem yn ymwneud â natur ieithyddol cartrefi, cymunedau, ac amgylchedd ieithyddol y drefn wleidyddol-fasnachol ehangach. Rhan o hyn yw’r byd adloniant hollbresennol, sydd trwy’r teledu, y dyfeisiau electronig, cylchgronau, disgos a chlybiau, yn targedu pobl ifanc fel gwrthrychau masnach, ac yn eu denu a’u meddiannu.
Ni ddylid meddwl y gall ysgolion wrthweithio’r dylanwadau ieithyddol hyn ar eu pen eu hunain. Mewn sefyllfa o wrthdaro ieithyddol o’r math hwn, mae’r arfau mwyaf deniadol o bell ffordd yn eiddo i’r byd Eingl-Americanaidd. Arian sy’n hawlio cân y pibydd, a dawnsia’r plant gan ddilyn y pibydd brith.
Yr hyn y bydda i’n ei bwysleisio heno yw’r angen i drawsnewid pedwar maes addysg yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd nesaf, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng gwacter iaith, o aralleirio J.R.Jones. Mae angen cynyddu niferoedd siaradwyr i’r fath raddau nes y gall defnyddio’r Gymraeg ddod yn brofiad torfol yn hytrach nag unigol a hunanddewisol, ond yn sail i hyn mae angen i’r Gymraeg adennill ei lle mewn cartrefi. Dyma’r pedwar maes sylfaenol:
- Wynebu her dysgu’r Gymraeg i oedolion mewn cyswllt ag anghenion y system addysg
- Cynyddu niferoedd ysgolion Cymraeg o dan gynllun cenedlaethol
- Trawsnewid lle’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg
- Sicrhau dilyniant iaith mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg
Cymraeg i oedolion
Cyn dechrau sôn am rôl ysgolion, mae angen cydnabod mai prif angen ieithyddol Cymru heddiw yw cyfundrefn gadarn o ddysgu’r Gymraeg i oedolion. Mae’r gyfundrefn sydd gennym wedi ei haildrefnu sawl gwaith yn ddiweddar, gyda’r Cyd-Bwyllgor Addysg, Bwrdd yr Iaith, ac yn awr Elwa yn ceisio chwarae rôl arweiniol, heb fod gan neb ohonynt yr arbenigedd, na’r staff na’r cyllid i greu cyfundrefn a allai drawsnewid y sefyllfa ieithyddol ymysg oedolion.
I’r rhai yn ein mysg sy’n gyfarwydd â phatrwm Gwlad y Basgiaid, mae’r camau y mae angen eu cymryd yn glir. Yno mae canran y siaradwyr Basgeg yn debyg i ganran y siaradwyr Cymraeg. Mae’r iaith mor wahanol i’r Sbaeneg ag yw’r Gymraeg i’r Saesneg.
Mae’r tebygrwydd o ran addysg oedolion yn gorffen yno. Yng Ngwlad y Basgiaid mae dau fudiad yn rhedeg cyrsiau, y naill yn un preifat a’r llall yn un a redir gan y Llywodraeth. Mae AEK, Alfabetatze Euskalduntze Koordinakundea, y mudiad preifat, yn gyfrifol am 15,000 o ddysgwyr, ac mae ganddo ryw 800 o athrawon. Mae HABE, y corff a redir gan y llywodraeth, yn gyfrifol am wario rhyw 30 miliwn ewro y flwyddyn. Mae’n cyflogi rhyw 60 o staff parhaol, ond mae’n cyfrannu at gynnal cyrsiau a chanolfannau iaith. Mae rhyw 150 o ganolfannau iaith yng Ngwlad y Basgiaid, rhyw hanner ohonynt yn cael eu rhedeg gan gyrff cyhoeddus.
Mae gwahaniaeth enfawr yn y modd y mae’r Basgiaid yn wynebi realiti dysgu iaith: mae cyrsiau dysgu iaith yn cynnig hyd at 1,500 o oriau cyn i ddysgwyr gyrraedd y lefel uchaf. Yma rydym yn bodloni yn gyffredinol ar gyrsiau Wlpan 100 o oriau, a chyrsiau dilynol sy’n cynnig rhyw hanner cant o oriau’r flwyddyn. Mae rhai cyrsiau helaethach, wrth gwrs, ond nid ydym wedi dechrau cydnabod yr angen am fuddsoddi’n helaeth mewn addysg oedolion fel y gwneir yng Ngwlad y Basgiaid, ac fel y nodir gan y cyn-Weinidog dros ddiwylliant, Jenny Randerson, ar ôl iddi ymweld â’r wlad honno. Nododd hi sut y cynyddodd nifer yr athrawon a allai ddysgu trwy gyfrwng y Fasgeg o 4% i 64% dros gyfnod o ugain mlynedd.
Mae cynigion diweddaraf ELWa i ddatblygu’r maes yn cynnig sefydlu chwe chanolfan iaith, ond mae cryn ansicrwydd ai canolfannau wedi’u lleoli mewn prifysgolion fydd y rhain, yn hytrach na chanolfannau cymunedol fel a geir yng Ngwlad y Basgiaid. Nid oes modd gwybod a roddir rhagor o arian i’r maes, ac yn sicr mae cryn amheuaeth a fydd ELWa, cyn iddo ddiflannu’n rhan o’r llywodraeth, yn gosod y canllawiau angenrheidiol yn eu lle i drawsnewid maes dysgu Cymraeg i oedolion.
Er bod y mudiad Cyd yn ceisio creu pontydd rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, arian bach iawn a gânt, rhyw £100,000 y flwyddyn, a chyfran fach iawn o’r 20,000 sy’n dysgu’r Gymraeg sy’n mynychu ei ganghennau a’i ddigwyddiadau.
Fy awgrym yw bod angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru neilltuo £25 miliwn y flwyddyn at addysg oedolion, gan gynnal nifer ddigonol o swyddi amser llawn, a chychwyn sefydlu 150 o ganolfannau iaith ledled y wlad.
Mae angen llunio rhaglen a fydd yn blaenoriaethu’r swyddi a’r bobl allweddol mewn cynllun adfer iaith. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu’r Gymraeg i athrawon i gychwyn, i sicrhau bod yng Nghymru athrawon a all ddysgu’r iaith yn effeithiol mewn nifer cynyddol o ysgolion. Fe sonnir yn nes ymlaen am y math o swyddi dysgu hyn. Yna mae angen blaenoriaethu rhieni disgyblion mewn ysgolion Cymraeg. Yna, mewn rhaglen gynyddol, mae angen blaenoriaethu swyddi penodol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat ar gyfer cyflwyno’r iaith i’w deiliaid.
Mae modelau eisoes ar gael yng Nghymru ar gyfer y gwaith o sefydlu canolfannau iaith. Gellir edrych ar Popeth Cymraeg yn un enghraifft (codwyd y canlynol o wefan y ganolfan):
1988 | Lawnsio’r syniad o sefydlu Canolfan Iaith Clwyd. |
1989 | Ffurfio Ymddiriedolaeth a pherswadio Cyngor Sir Clwyd i drosglwyddo adeilad swmpus yng nghanol tref Dinbych i gartrefu’r ganolfan. |
1990 | Codi £105,000 i adnewyddu’r adeilad |
1991 | Sicrhau grant blynyddol o du’r Swyddfa Gymreig o £20,000. (Cyflogi 1.5 person.) Agor y Ganolfan yn swyddogol |
1994 | Ennill gwobr arbennig Addysg Oedolion NIACE (5 allan o 95 o grwpiau trwy Brydain) |
1996 | Arwyddo cytundeb ffranseis gyda thri Choleg Addysg Bellach lleol – Llandrillo, Glannau Dyfrdwy a Chelyn i redeg dosbarthiadau Cymraeg yn y gymuned ar eu rhan – o Saltney ar y ffin draw i Benmaenmawr |
1997 | Ennill grant o £187,000 o law’r Loteri Genedlaethol i adeiladu estyniad i’r Ganolfan a chyflogi mwy o staff |
1998 | Sefydlu Menter Dinbych-Conwy gyda chyllid o du Bwrdd Yr Iaith, Cyngor Colwyn a chynllun Cadwyn. Cyflogi dau swyddog newydd |
1999 | Cyfanswm o 8 swyddog parhaol + 28 tiwtor rhan amser. |
Mae model arall ar gael yng Nghanolfan Iaith TÅ· Tawe, Abertawe:
1982: Cychwyn ymgyrch i sefydlu canolfan Gymraeg
1987: Prynu adeilad, ei ailwampio a chychwyn y ganolfan. Gwnaed hyn yn bennaf trwy gyllid preifat (cyfraniadau aelodau), cyfraniad o £15,000 gan TAC, benthyciad o £10,000 gan Gyngor Abertawe, a benthyciad gan Fanc Cymru.
1987: Sefydlu TÅ· Tawe yn elusen a chynnig cyfleusterau:
- dosbarthiadau Cymraeg i oedolion trwy barnteriaeth a phrifysgol Cymru Abertawe
- man cyfarfod i Cyd
- lleoli swyddog dysgu Cymraeg i oedolion yn y ganolfan
- siop llyfrau Cymraeg
- neuadd adloniant
- bar cymdeithasu
1999 Sicrhau arian Ewrop i ailwampio’r adeilad
2002 Cynnal Menter Iaith Abertawe, a chyflogi wyth swyddog trwy arian Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Amcan Un Cronfeydd Ewrop, y WDA, a SCSA Abertawe
2005 Sicrhau £200,000 o gyllid Amcan Un, arian gan Ddinas a Sir Abertawe ac arian y Gymdeithas i ehangu’r adeilad
Trwy sefydlu canolfannau cymunedol byw ym mhob tref o faint cymedrol yng Nghymru bydd modd dechrau rhoi sylw i ddifri i’r miloedd o oedolion a rhieni sydd am ddysgu’r iaith. Mae weledigaeth ar gael, mae brwdfrydedd lleol ar gael, ond mae angen arweiniad a chyllid canolog.
Iaith Pawb
Cyn troi sylw at y system addysg mae angen dwyn sylw at ddwy ddogfen, sef Iaith Pawb a Chyfrifiad 2001.
Mae Iaith Pawb yn gosod targed anrhydeddus o gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg gan 20%, sef o ryw 21% i ryw 26%, erbyn blwyddyn y cyfrifiad nesaf, sef 2011.
Dyma’r tro cyntaf hyd y gwn i i unrhyw bolisi llywodraeth ddatgan yn eglur bod angen cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, er bod rhai adroddiadau, e.e. Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd, wedi bod yn dra blaengar yn eu cyfnod. Mae’r targed yma’n arwydd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru am gymryd rhan yn y symudiad ledled Ewrop dros arbed hunaniaeth cenhedloedd bach. Mae’r gwynt fu’n chwythu ar draws dwyrain Ewrop, gan chwalu muriau Comiwnyddiaeth, i’w deimlo yng Nghatalwnia, Gwlad y Basgiaid, Cymru a gwledydd eraill yng ngorllewin Ewrop. Y nod ym mhob gwlad yw cryfhau hunaniaeth gwledydd bach, ac mae adfer iaith yn rhan o’r broses honno.
Bydd rhai’n dadlau bod hyn yn digwydd fel adwaith i’r globaleiddio Eingl-Americanaidd, tra bydd eraill yn gweld hyn fel arwydd o’r patrwm oesol o weld ymerodraethau’n chwalu. Yng ngorllewin Ewrop, y cenedl-wladwriaethau bondigrybwyll, nad ydyn nhw mor hen â hynny, sy’n ymddatod. Bydd hi’n ddiddorol i bawb yng Nghymru, er enghraifft, fwrw golwg ar Gatalwnia, lle mae ymdrech ar hyn o bryd i ailwampio cyfansoddiad y wlad honno.
Yn sgil y targed a osodwyd yn Iaith Pawb, mae sawl her, wrth gwrs, ond y sefyllfa waelodol bellach yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n derbyn bod cynllunio ieithyddol, a elwir hefyd yn arbed iaith, neu’n normaleiddio iaith, yn rhan o’r agenda wleidyddol yng Nghymru.
Yr hyn sy’n absennol o Iaith Pawb, fel y gwelwn yn nes ymlaen, yw unrhyw fath o gynllun datblygu addysg Gymraeg a fydd yn dod yn agos at gyrraedd yr amcanion gwiw a nodir yn y ddogfen.
Mae angen gofal hefyd wrth drafod niferoedd siaradwyr Cymraeg. Nid yw ffigurau’r Cyfrifiad yn gwahaniaethu rhwng gallu siaradwyr Cymraeg: hunanasiad a geir, neu asesiad rhieni o allu eu plant. Pan welwch chi felly, bod 70% o’r siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd o dan 15 oed, 68% o rai Blaenau Gwent, 70% o rai Torfaen, a 66% o rai Mynwy, arwydd yw hyn bod y system o ddysgu’r Gymraeg yn ail iaith mewn ysgolion yn y de-ddwyrain wedi dod â’r Gymraeg i afael pob disgybl. Mae gallu ieithyddol y bobl ifanc hyn yn debyg o fod yn dra diffygiol, ond mae’r canrannau uchel yn arwydd o bosib o hyder neu falchder mewn gwybodaeth o’r Gymraeg. Yn sicr ni ddylai’r canrannau uchel ein twyllo bod nifer y siaradwyr Cymraeg ar gynnydd syfrdanol ledled y wlad:
Canrannau yn gallu siarad Cymraeg, fesul awdurdod lleol, yn ôl oed
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001. Tabl CAS146 Hawlfraint y Goron
Ardal | Pawb 3 a throsodd | 3-4 | 5-9 | 10-14 | 15 | 16-19 | 20-24 | 25-39 | 40-49 | 50-59 | 60-64 | 65-74 |
Sir Ynys Mon | 60.1 | 54.5 | 74.3 | 80.7 | 80.0 | 76.8 | 69.8 | 59.0 | 55.6 | 51.4 | 52.8 | 54.6 |
Gwynedd | 69.0 | 70.9 | 91.1 | 92.8 | 90.2 | 75.8 | 60.1 | 71.2 | 65.4 | 59.4 | 60.4 | 62.8 |
Conwy | 29.4 | 24.1 | 46.1 | 52.2 | 51.2 | 43.9 | 31.9 | 26.3 | 23.2 | 23.8 | 25.2 | 25.6 |
Sir Ddinbych | 26.4 | 19.6 | 39.4 | 46.3 | 45.5 | 34.0 | 24.8 | 22.4 | 21.1 | 21.5 | 22.8 | 24.7 |
Sir y Fflint | 14.4 | 10.3 | 32.7 | 42.4 | 41.6 | 23.5 | 13.8 | 9.8 | 7.8 | 7.6 | 8.3 | 9.4 |
Wrecsam | 14.6 | 11.3 | 30.5 | 33.9 | 30.9 | 18.9 | 11.9 | 8.7 | 9.1 | 10.7 | 11.6 | 14.7 |
Powys | 21.1 | 16.9 | 40.1 | 48.8 | 46.4 | 32.2 | 18.4 | 14.8 | 14.1 | 14.5 | 16.5 | 18.0 |
Sir Ceredigion | 52.0 | 55.9 | 79.5 | 81.2 | 81.9 | 52.7 | 30.3 | 50.3 | 47.5 | 45.9 | 47.6 | 51.7 |
Sir Benfro | 21.8 | 18.8 | 42.8 | 48.6 | 46.4 | 29.0 | 17.1 | 15.3 | 15.3 | 16.3 | 17.5 | 18.1 |
Sir Gaerfyrddin | 50.3 | 42.1 | 61.1 | 61.7 | 61.0 | 53.5 | 42.5 | 42.1 | 43.3 | 47.0 | 50.7 | 55.9 |
Abertawe | 13.4 | 10.5 | 21.9 | 28.0 | 26.3 | 14.6 | 8.1 | 7.6 | 8.7 | 11.2 | 13.7 | 14.9 |
Castell-nedd Port Talbot | 18.0 | 16.9 | 28.3 | 34.5 | 36.6 | 21.6 | 12.5 | 11.9 | 11.7 | 14.8 | 16.1 | 18.4 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 10.8 | 10.6 | 22.7 | 30.5 | 34.8 | 20.1 | 10.2 | 6.8 | 5.8 | 5.3 | 5.9 | 7.2 |
Bro Morgannwg | 11.3 | 11.6 | 27.0 | 36.7 | 37.2 | 19.1 | 9.6 | 7.3 | 5.9 | 5.4 | 5.5 | 4.8 |
Rhondda; Cynon; Taf | 12.5 | 16.7 | 27.4 | 34.2 | 37.2 | 24.4 | 14.3 | 8.2 | 5.9 | 5.3 | 5.0 | 5.8 |
Merthyr Tudful | 10.2 | 11.3 | 21.5 | 31.0 | 28.5 | 18.7 | 10.4 | 6.0 | 4.7 | 4.5 | 4.5 | 5.2 |
Caerffili | 11.2 | 13.0 | 31.9 | 39.8 | 41.0 | 22.5 | 11.4 | 6.6 | 4.0 | 3.5 | 2.9 | 2.6 |
Blaenau Gwent | 9.5 | 8.9 | 33.5 | 44.1 | 37.4 | 18.6 | 6.1 | 2.8 | 2.8 | 2.1 | 1.8 | 2.2 |
Tor-faen | 11.1 | 11.3 | 43.0 | 49.9 | 47.4 | 21.3 | 5.4 | 3.5 | 2.9 | 2.3 | 2.3 | 2.4 |
Sir Fynwy | 9.3 | 7.3 | 37.6 | 44.5 | 34.6 | 11.7 | 3.2 | 3.2 | 3.5 | 3.1 | 3.1 | 3.3 |
Casnewydd | 10.0 | 9.2 | 36.3 | 46.1 | 40.8 | 15.7 | 3.8 | 2.9 | 2.7 | 2.7 | 2.1 | 2.6 |
Caerdydd | 11.0 | 11.1 | 24.3 | 31.0 | 30.6 | 15.7 | 9.9 | 9.4 | 6.4 | 6.1 | 5.0 | 4.7 |
Cymru | 20.8 | 18.8 | 37.4 | 43.7 | 42.8 | 27.6 | 17.4 | 15.3 | 14.7 | 15.5 | 16.7 | 18.1 |
Pa arwyddocad, meddech chi, sydd i’r ffaith fod 43% o bobl ifanc Cymru rhwng 10 a 15 yn siarad Cymraeg yn ol cyfrifiad 2001? Mae 50% o bobl ifanc Tor-faen yn siarad yr iaith, 49% o rai Powys, 46% o rai Casnewydd a 44% o rai Sir Fynwy.
Nid yw’r canrannau hyn mewn unrhyw fodd yn adlewyrchu’r niferoedd sy’n mynychu ysgolion Cymraeg. Mae’n rhaid derbyn, mewn cymunedau cwbl Saesneg, lle nad oes gan bobl amgyffred o’r Gymraeg, fod y ffigurau hyn yn nodi ymateb cadarnhaol rhieni i’r gwersi Cymraeg a gaiff eu plant. Mae hyn yn ei dro’n debyg o fod yn arwydd gobeithiol am y modd y mae nifer uchel o rieni’n debyg o groesawu cynnydd mewn addysg Gymraeg.
Mae gwir nifer y siaradwyr Cymraeg ymysg pobl ifanc, felly, yn debygol o fod yn llawer is na’r hyn a nodir yn y cyfrifiad. Eithriadau prin ar y cyfan yw siaradwyr Cymraeg rhugl – a phwy sydd i ddiffinio hyn – ymysg pobl ifanc nad ydyn nhw’n mynychu ysgolion Cymraeg. Hyd yn oed o fewn ysgolion Cymraeg, pan ofynnir barn penaethiaid ysgolion am ruglder eu disgyblion, gwelir yn aml bod meithrin rhuglder yn sgil a ddatblygir yn araf, ac mae’r niferoedd a nodir yn rhugl gan benaethiaid yn aml iawn yn is na nifer y disgyblion yn eu hysgolion.
Am y tro, serch hynny, gellir derbyn yn fras bod nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn cyfateb i nifer y disgyblion sydd mewn ysgolion Cymraeg.
Mae ystadegau addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi darlun mwy manwl o natur ieithyddol pobl ifanc Cymru.
- Dros bymtheng mlynedd yn fras (1990/91 – 2003/04) mae canran disgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n siarad y Gymraeg gartref wedi disgyn o 6.9% i 6.2%, a’r niferoedd wedi disgyn o 14,827 i 13,595.
- Yn ystod yr un cyfnod cafwyd cynnydd o 7% i 10.5% ymysg disgyblion sy’n siarad y Gymraeg yn rhugl ond heb ei siarad gartref, cynnydd o 15,181 i 22,948.
- Yn ystod yr un cyfnod cafwyd cynnydd sylweddol yng nghanran disgyblion y dywedir eu bod yn siarad Cymraeg, ond nid yn rhugl, sef o 30,753 (14.1%) i 67,969 (31.28%)
O’r ffigurau uchod mae modd nodi dau ffactor a ddylai effeithio ar y modd yr awn ati i gynllunio addysg Gymraeg:
- mae nifer o’r rhai nad ystyrir eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl yn mynychu ysgolion Cymraeg, gan fod y niferoedd sydd mewn ysgolion Cymraeg yn uwch na nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae hyn i’w ddisgwyl, yn arbennig ym mlynyddoedd cynnar yr ysgolion Cymraeg.
- Mae nifer helaeth o’r rhai nad ydynt yn rhugl yn mynychu ysgolion Saesneg, ond maent wedi eu nodi fel siaradwyr Cymraeg gan eu rhieni yng Nghyfrifiad 2001.
Ysgolion Cymraeg
Fe ystyriwn yn gyntaf yr ysgolion Cymraeg. Mae nifer y disgyblion rhugl wedi cynyddu o ryw gymaint dros 15 blynedd, gyda chynnydd o 30,0008 i 36,543. Ond yn ystod yr un cyfnod, mae niferoedd y disgyblion yn yr ysgolion Cymraeg wedi aros yn weddol statig, gyda chynnydd o 49,545 i 51,1131. Yn ystod yr un cyfnod ni welwyd ond 3 o gynnydd yn nifer yr ysgolion Cymraeg, o 445 i 448, er bod y ganran ychydig yn uwch, ac wedi cynyddu o 25.9% i 28.2%.
Dros yr un cyfnod, mae nifer y disgyblion cynradd sydd wedi astudio’r Gymraeg yn iaith gyntaf yng Nghyfnod Allweddol 2 hefyd wedi bod yn gymharol statig, gyda chynnydd o 23,214 i 25,701
Mae niferoedd yr ysgolion Cymraeg, a nifer y disgyblion ynddyn nhw, mae’n amlwg wedi cyrraedd llwyfandir cymharol ddigynnydd dros y pymtheng mlynedd diwethaf. Mae’n wir bod ambell ardal, fel Abertawe, wedi gweld cynnydd yn y cyfnod hwn, gyda sefydlu tair ysgol gynradd Gymraeg newydd ac un ysgol uwchradd, ond gwneud ychydig iawn am flynyddoedd yn yr anialwch o dan oruchwyliaeth John Beale fu’r cynnydd hwn.
Pan gyhoeddwyd Iaith Pawb, roedd un gwendid mawr yn amlwg, sef nad oedd ynddo fawr sôn am gynyddu darpariaeth ysgolion Cymraeg. Roedd sôn yn y ddogfen am y sector cyn-ysgol, sector addysg bellach ac uwch, ond fawr sôn am ddarpariaeth y sector addysg statudol. Er bod Iaith Pawb yn nodi’r angen am gynnydd yn nifer y siaradwyr, nid yw’n cynnig unrhyw strategaeth a fydd yn llwyddo i gyrraedd y nod. Pan holais y Gweinidog Addysg ar hyn, dywedodd mai mater i’r awdurdodau addysg lleol oedd datblygu’r ddarpariaeth, nid mater i’r llywodraeth ganol. Dyna olchi dwylo, felly, o greu strategaeth addysg Gymraeg i Gymru.
Rydyn ni i gyd yn gwybod am y modd y bu i’r Gweinidog wrthod cynlluniau Caerffili i gynyddu niferoedd ysgolion Cymraeg, cyn caniatáu un ysgol ychwanegol. Rydyn ni i gyd hefyd yn ymwybodol o’r llu anawsterau sy’n wynebu’r ymgyrch i sefydlu rhagor o ysgolion Cymraeg. Yn aml mae’r awdurdod addysg ei hun yn llusgo traed, a gwaith anodd yw perswadio awdurdod addysg i wneud buddsoddiad ariannol mewn datblygu un sector addysg pan fo niferoedd disgyblion yn gyffredinol yn syrthio, a phan fo cyllid yn brin.
Mae anawsterau dod o hyd i safle addas, gwrthwynebiad gan rieni ysgolion Saesneg, anawsterau cyfalaf oll yn debyg o leisteirio datblygiad addysg Gymraeg.
Mater cymhleth, wedyn, yw rôl Cynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg a fynnir o’r awdurdodau addysg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Ar un wedd, mae’r cynlluniau hyn wedi rhoi pwysau statudol ar awdrudodau i ddarparu ar gyfer y twf mewn addysg Gymraeg. Ar y llaw arall, mae’r cynlluniau’n cymryd rhai blynyddoedd i’w datblygu, ac mae hyn yn gallu estyn y cyfnod o gynllunio a datblygu yn hytrach na’i gwtogi a’i hwyluso.
Rhwng pob peth, canlyniad hyn yw bod nifer yr ysgolion Cymraeg a sefydlwyd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn ddifrifol o fach, ac wedi gostwng i ryw un neu ddwy y flwyddyn.
Yn adolygiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o’i pholisiau Iaith, ac o’r modd y mae’n cyrraedd targedau Iaith Pawb, mae sôn am bob math o nodau a thargedau, ond dim sôn o gwbl am niferoedd ysgolion Cymraeg. Mae’n amlwg nad oes neb yn deall, neu nad oes neb am ddeall.
Mae’r diffyg datblygu hwn yn golygu bod cenhedlaeth gyfan o blant yn cael eu colli i’r Gymraeg. Lle bynnag y sefydlir ysgol Gymraeg mewn ardaloedd Seisnigedig, mae’r twf yn syfrdanol. Enghraifft o hyn oedd sefydlu Ysgol Tirdeunaw yn Abertawe ddeng mlynedd yn ol gydag 20 o ddisgyblion. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ger stad o dai cyngor. Erbyn hyn mae yn yr ysgol honno dros 300 o blant.
Un bwriad yr ysgol honno oedd gostwng y pwysau ar y fam ysgol, Ysgol Lôn-las. Bu i’r pwysau ar Lôn-las leihau am gyfnod, ond bellach y mae gan yr ysgol honno ragor o ddisgyblion na deng mlynedd yn ol, yn agos at 400.
Mae hyn yn digwydd ledled yr ardaloedd Seisnigedig. Mae’r twf, felly, yn cael ei leisteirio gan ddiffyg cyfleusterau. Mae’r ddarpariaeth yn arwain y galw. Pa faint bynnag o broffwydo twf y gellir ei wneud ar sail ffigurau’r gorffennol, erys y ffaith na fydd twf y dyfodol ond yn gallu adlewyrchu’r ddarpariaeth.
Yn Abertawe y llynedd, er enghraifft, gwrthodwyd mwy nag 20 o blant i ddosbarthiadau meithrin ysgolion Cymraeg am eu bod yn llawn. Mae degau os nad ugeiniau blant yn cael eu colli yng Nghastell-nedd Port Talbot rhwng y sector meithrin a’r ysgolion cynradd. Mae hyn, debygwn i, yn cael ei ailadrodd ledled y de. Mae rhieni wedyn yn ymddwyn yn ôl eu canfyddiad fod yr ysgol Gymraeg yn llawn, ac felly ddim yn ceisio am le yno. Mae hyn yn gylch dieflig y mae’n rhaid ei dorri trwy gynyddu’r ddarpariaeth.
Bryd arall, fe geir fod awdurdodau lleol yn mynnu ceisio mesur i’r blewyn fod y pwysau am gael ysgol Gymraeg ychwanegol yn ddigonol i sefydlu un. Fel yna y bu yn Abertawe, pan oedd Ysgol Bryn-y-môr yn llawn yn 1986, ac yn gwrthod disgyblion. Ond nid oedd y sir o dan John Beale, yn cydnabod bod y galw’n ddigonol, ac ni ddiwallwyd y galw hwnnw tan sefydlu Ysgol Llwynderw yn 2002, ac rydyn ni’n dal i aros am safle parhaol i’r ysgol honno.
Mae’r un peth yn wir heddiw yn ardal Casnewydd, lle mae gorllewin y ddinas wedi’i hamddifadu o addysg Gymraeg, a’r niferoedd sy’n mynychu addysg Gymraeg o’r ardal honno’n crebachu.
Sut mae mesur a phrofi’r galw? Gellir gwneud hynny trwy ofyn i bob darpar rhiant a fyddent am i’w plant fod yn ddwyieithog. Ddeng mlynedd yn ôl dangosodd arolwg NOP fod y galw hwnnw o gwmpas 50%, sef mwy na dwywaith y nifer sydd ar hyn o bryd mewn ysgolion Cymraeg.
Gwnaeth Menter Iaith Abertawe, o dan nawdd Bwrdd yr Iaith, arolwg o famau yn ardal Treforys i fesur y galw yno. Mae’r canlyniadau’n ddadlennol:
1. Roedd cefnogaeth i’r iaith yn gryf, gydag uchafswm o ddim ond 19% yn mynegi agweddau negyddol. Roedd dros 90% yn falch o’r iaith, a mwy na 70% yn credu ei bod yn berthnasol i Gymru fodern, ac o werth i gael swydd.
2. Mae’r canrannau a oedd am siarad Cymraeg, ac am i’w plant siarad Cymraeg yn uchel iawn, o gwmpas 70%, ac yn llawer uwch na’r canrannau o blant sydd ar hyn o bryd yn cael addysg Gymraeg yn Abertawe, sef rhyw 8 – 9%. Roedd hyn gostwng i 50% wrth nodi awydd i anfon plant i ysgol Gymraeg a fyddai ar gael yn hwylus, ac i 40% wrth fynegi awydd pendant i anfon plentyn i ysgol Gymraeg pe bai un yn cael ei sefydlu’n lleol. Serch hynny, mae’r ymatebion yn rhai sy’n nodi bod cefnogaeth gyffredinol i’r Gymraeg ac i addysg Gymraeg.
3. Mae anwybodaeth gyffredinol am y math o addysg a gynigir gan ysgolion Cymraeg. Nid oedd 65% yn gwybod bod ysgolion Cymraeg yn dysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
4. Mae canran uchel o rieni yn fodlon anfon eu plant i addysg Gymraeg, pe bai’r addysg honno ar gael yn lleol ac yn hwylus. Mae hyn yn cadarnhau natur fwyfwy lleol ysgolion Cymraeg eraill yn Abertawe, ac yn arwydd o’r galw potensial enfawr am addysg Gymraeg.
Daeth yn bryd i ni hawlio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru raglen gyflawn i ddatblygu addysg Gymraeg a fydd yn rhoi blaenoriaeth i gynyddu niferoedd ysgolion Cymraeg. Mae Iaith Pawb yn cydnabod mai’r ysgolion hyn sy’n cynnig y model gorau ar gyfer cyflwyno’r ddwy iaith. Yn wir, nid oes gennym yng Nghymru unrhyw fodel arall o ysgolion sy’n dod yn agos at yr ysgolion Cymraeg o ran cyflwyno sgiliau dwyieithog cyflawn.
Er gwaetha pob ofn, mae’n bosibl y gall uno Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhan o’r Gynulliad Cymru fod yn allweddol. Mewn gwledydd bychain eraill, fel Catalwnia a Gwlad y Basgiaid, mae’r adrannau datblygu iaith a diwylliant yn rhan annatod o’r llywodraeth, ac yn llwyddo i drawsnewid polisïau a roddodd flaenoriaeth i’r iaith fwyafrifol ar hyd y blynyddoedd.
Dylai rhaglen datblygu addysg Gymraeg gynnwys y canlynol:
- anelu at ddarparu ysgolion Cymraeg i 50% o ddisgyblion mewn ardaloedd Seisnigedig.
- yn y lle cyntaf anelu at ddarparu ysgol Gymraeg o fewn dwy filltir i bob plentyn mewn ardaloedd poblog.
- llunio rhaglen wybodaeth a hyrwyddo addysg Gymraeg, fel bod rhieni’n gwybod am y manteision ieithyddol sy’n rhan annatod o’r addysg honno.
- cynllunio twf addysg Gymraeg mewn cydweithrediad ag ysgolion Saesneg, gan ffurfio clystyrau fesul ardal, gan drosi ysgolion Saesneg i fod yn rhai Cymraeg
- darparu hyfforddiant i niferoedd digonol o athrawon allu dysgu mewn ysgolion Cymraeg, yn hyfforddiant dysgu ac yn hyfforddiant iaith.
I gyrraedd taged Iaith Pawb o gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, mae angen sefydlu rhyw 100 o ysgolion cynradd Cymraeg newydd cyn 2011.
Ysgolion Saesneg
Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg yn gyson wedi anwybyddu i raddau helaeth ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg. Mae rhesymau hanesyddol cryf dros hyn, ond bellach daeth yn bryd i ni wynebu her yr ysgolion Saesneg.
Mae angen gwneud hyn am ddau reswm, y naill yn gadarnhaol a’r llall efallai’n negyddol.
Yn gadarnhaol, dyma lle y gwelwyd y twf mwyaf syfrdanol o ran cynyddu sgiliau yn y Gymraeg. Ers cyflwyno’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a’r Gymraeg yn rhan annatod ohono, naill ai fel pwnc craidd neu sylfaen, mae holl ddisgyblion Cymru bellach, gyda rhai eithraiadau’n unig, yn cael dysgu’r Gymraeg fel pwnc.
Ar yr ochr negyddol, mae dyn yn synhwyro bod tuedd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i weld y twf hwn, a datblygu ysgolion Saesneg i gynnig rhai pynciau trwy’r Gymraeg, yn ateb i addysg ddwyieithog yng Nghymru ar draul datblygu’r sector Gymraeg.
Cafwyd rhai arbrofion llwyddiannus yn y maes, yn enwedig yn Nhreorci, lle mae’r ysgol uwchradd leol yn dysgu nifer o bynciau trwy’r Gymraeg ac yn cydweithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd sy’n ei bwydo. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y Gweinidog Addysg wedi gofyn am astudiaeth o Dreorci er mwyn defnyddio’r hyn a wneir yno fel model i’w argymell i fannau eraill.
Mae hyn yn amlwg i’w groesawu, ac mae yma bosibiliadau ar gyfer cynnig model effeithiol o gryfhau dysgu’r Gymraeg yn ail iaith. Mae’n debyg o roi pwrpas i’r dysgu, trwy ddefnyddio’r Gymraeg yn hytrach na’i hastudio’n unig fel pwnc.
Ond er gwaethaf pob llwyddiant yn Ysgol Treorci, Cymraeg ail iaith y mae’r disgyblion yn ei hastudio, nid Cymraeg iaith gyntaf. Nid yw’r mwyafrif o ddisgyblion chwaith yn astudio rhai pynciau trwy’r Gymraeg, Er cymaint fy awydd i ganmol yr hyn a wneir yn Nhreorci o safbwynt ail iaith, ac mae’n rhaid canmol brwdfrydedd y pennaeth a’r athrawon i’r cymylau, nhw fyddai’r cyntaf i gydnabod nad ydyn nhw wedi bwriadu i’w gwaith fod yn f odel ar gyfer datblygu ysgol ddwyieithog.
Mae’n rhaid gofalu hefyd nad yw’r model hwn yn cael ei dderbyn ar draul addysg Gymraeg. Mae peth tystiolaeth bod Ysgol Treorci’n derbyn rhai disgyblion a astudiodd y Gymraeg yn iaith gyntaf yn y sector gynradd, ac arwain at golled ieithyddol a wna hyn yn hytrach na chynnydd.
Daeth yn bryd, fodd bynnag, i Rhag ac i eraill sy’n ymwneud ag addysg Gymraeg dderbyn bod angen trawsnewid y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion Saesneg. Ar hyn o bryd mae’r canrannau sy’n mynd ymlaen i astudio’r Gymraeg yn safon uwch a hyd yn oed ar safon TGAU yn fach iawn o’i gymharu â’r ymdrech a wneir i ddysgu’r Gymraeg i bawb. Mae’n hollbwysig ein bod yn osgoi camsyniadau Iwerddon yn hyn o beth, gyda’r iaith yn dod yn destun arholiad ac yn ychydig iawn arall.
Dyma lle y mae’n werth bwrw golwg ar brofiadau Gwlad y Basgiaid. Derbyniwyd yno’n gyffredinol fod yr hyn a elwir ganddynt yn Fodel D – sef ysgolion sy’n dysgu trwy gyfrwng y Fasgeg, yn fwy effeithiol na Model B, sef ysgolion dwyeithog, a’r rhain yn eu tro’n fwy effeithiol na Model A, sef ysgolion sy’n dysgu’r Fasgeg fel pwnc yn unig.
Y mae symudiad cyffredinol wedi digwydd yno dros yr ugain mlynedd diwethaf o symud ar draws y modelau, gydag ysgolion Model A’n trosi i Fodel B, a rhai Model B yn trosi i Fodel D, gyda’r canlyniad mai Model D, y model Basgeg, yw’r mwyaf niferus bellach. Nid yw natur ieithyddol yr ysgolion yno’n statig fel yng Nghymru: mae newid cadarnhaol yn digwydd wrth i ysgolion Sbaeneg droi’n ysgolion dwyieithog, ac wrth i ysgolion dwyieithog droi’n ysgolion Basgeg.
At hyn y dylai model Treorci arwain. Yn y lle cyntaf mae angen gweld ysgol Saesneg yn troi’n ysgol ddwyieithog, ac wedi magur hyder, yn troi’n ysgol Gymraeg. Dyma senario, o’n safbwynt ni, lle y gellir gweld rhinwedd mewn sefydlu ysgolion dwyieithog.
Rhaid i ni beidio ag ofni hyn: os bydd ysgolion Saesneg yn troi’n ysgolion dwyieithog, ac yn eu tro’n cyfrannu at dwf y Gymraeg, mae angen rhoi croeso mawr i hyn.
Ond nid ar chwarae bach y digwydd hyn. Mae angen wrth raglen gynhwysfawr o hyfforddi athrawon ysgolion Saesneg yn y Gymraeg, ac o gyflwyno technegau a dulliau dysgu iaith yn effeithiol iddynt.
O’i weithredu’n iawn gallai cyflwyno model addysg ddwyieithog gyfrannu’n helaeth yn y man at ehangu addysg Gymraeg.
Ardaloedd Cymraeg
Tra bo modd cynnig cynllun datblygu o’r math i ardaloedd Saesneg, mae ardaloedd traddodiadol Gymraeg yn gallu bod yn broblematig. Bum i a’r Dr Elin Meek a Catrin Stevens yn ddigon ffodus i gael gwneud gwaith ar ran ACCAC ar golled ieithyddol wrth drosglwyddo o’r sector cynradd i’r uwchradd ar draws Cymru. Roedd y canlyniadau’n ddadlennol.
Mae symud cyffredinol o 22% o iaith gyntaf at ail iaith trwy Gymru yn digwydd rhwng CA2 ac CA3 h.y. rhwng y sector cynradd ac uwchradd. Wrth olrhain disgyblion CA2 dros bedair blynedd (CA2 1996-1999; CA3 1999-2002)[1] cafwyd bod 24,988 o ddisgyblion wedi cael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf yn CA2, sef 17.7% o gyfanswm carfan y disgyblion, a bod 19,405 wedi mynd ymlaen i gael eu hasesu mewn Cymraeg iaith gyntaf yn CA3, sef 78% o’r rhai a aseswyd mewn Cymraeg yn CA2[2]. Cafwyd cyfanswm o 5,583 o ddisgyblion yn newid o iaith gyntaf i ail iaith dros y pedair blynedd.
Ar yr wyneb, ymddengys bod cysylltiad rhwng cyrhaeddiad yn CA2 a dilyniant ieithyddol o CA2 ac CA3.
Tabl 1: Lefelau cyrhaeddiad Cymraeg yn CA2 ac astudio Cymraeg yn CA3
Lefel Cyrhaeddiad Canran yn astudio Niferoedd sy’n symud
CA2 Cymraeg CA3 i ail iaith
6 100% 0
5 95.8% 162
4 87% 1469
3 67.3% 2142
2 44.2% 940
1 22.1% 152
Er bod hyn yn ymddangos yn batrwm cyffredinol nid yw’n datgelu’r gwahaniaethau sy’n digwydd fesul sir. Nid yw chwaith yn adlewyrchu’r effaith fawr y gall un ysgol ei chael ar ffigurau sirol, ac felly mae angen trin y duedd hon yn wyliadwrus.
Mae gan Wynedd bolisi cyffredinol o annog rhai a gyrhaeddodd lefel 3 yn CA2 i astudio’r Gymraeg yn CA3 ac mae gan rai siroedd eraill yn un polisi. Gwelir yn yr astudiaeth a baratowyd i ACCAC, fodd bynnag, mai 67.% yn unig o ddisgyblion a gyrhaeddodd y lefel hon yng Nghymru a aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg yn CA3, a symudodd cyfanswm o 2,142 o ddisgyblion dros gyfnod pedair blynedd yr astudiaeth.
Yn yr un modd nid yw’r cysylltiad honedig rhwng cyraeddiadau yn CA2 ac astudio’r Gymraeg yn CA3 yn ddangosydd diogel o gydberthyniad rhai sy’n siarad y Gymraeg gartref ag astudio’r Gymraeg yn iaith gyntaf yn CA3. Gwelir yn y man bod amrywiadau mawr yn gallu bod ar waith mewn rhai ardaloedd a hefyd mewn rhai ysgolion.
Fe welwyd nad oedd y cyffredinoliad cenedlaethol hwn yn adlewyrchu yr hyn sy’n digwydd fesul sir. Roedd gwahaniaeth mawr rhwng patrymau dilyniant ieithyddol gwahanol siroedd. Roedd y symud mwyaf at ail iaith yng Nghonwy gyda 48.5% o’r rhai a aseswyd mewn Cymraeg yn CA2 yn cael eu hasesu mewn Cymraeg ail iaith yn CA3. Roedd symud o 41.2% yng Ngheredigion ac o 33.4% yng Nghaerfyrddin.
Yn y siroedd mwy Cymraeg, wrth fynd i ysgol uwchradd dwyieithog, mae disgyblion yn wynebu dewisiadau sy’n caniatáu mwy o symud o iaith gyntaf. Ceir rhai ysgolion yn sir Gaerfyrddin ac yng Ngwynedd, lle mae’r symud hwn yn wir yn achos dros 80% o’r disgyblion. Gall y symud ddigwydd wrth i rai ysgolion mewn ardaloedd Cymraeg ddarparu addysg Saesneg yn bennaf, neu i raddau llawer mwy nag ysgolion o’u cwmpas. Gall ddigwydd hefyd wrth i ddisgyblion wynebu dewisiadau mwy amrywiol yn yr ysgolion eu hunain o ran dilyniant iaith, gyda’r dewis o berthyn i ffrwd Gymraeg neu ffrwd Saesneg, a dewisiadau pellach wrth ddewis cyfrwng pynciau eraill. Yn wyneb dewisiadau niferus o’r math hwn, nid yw’n syn bod y dilyniant ieithyddol yn llai effeithiol yn yr ardaloedd Cymraeg.
Ynghudd eto yn y patrymau sirol cyffredinol hyn mae modd gweld gwahaniaethau sylweddol iawn rhwng gwahanol fathau o ysgolion, a rhai ysgolion yn gweithredu’n groes i bolisi sirol. Mae tair ysgol mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg yn gyfrifol am fwy o symud i ail iaith nag a geir yn y 127 o ysgolion Saesneg yn ardaloedd Seisnigedig Cymru.
Mae yng Nghymru 131 o ysgolion Saesneg eu cyfrwng sy’n derbyn disgyblion a aseswyd mewn Cymraeg yn CA2 ond nad ydynt yn cynnig Cymraeg i neb ohonynt.
Mae’r mwyafrif helaeth o’r ysgolion hyn mewn ardaloedd Seisnigedig, ac yn derbyn hyd at dri neu bedwar disgybl o’r fath y flwyddyn. Ynddynt, dros 4 blynedd, symudodd 1113 o ddisgyblion at ail iaith, sef cyfartaledd o ychydig dros 2 ddisgybl yr ysgol y flwyddyn.
Serch hynny, roedd llond dwrn o ysgolion yn gyfrifol am ran sylweddol o’r disgyblion hyn:
Ysgol A 105
Ysgol B 52
Ysgol C 215
Ysgol CH 122
Cyfanswm 494
Roedd y 4 ysgol hyn mewn ardaloedd lle mae canran y siaradwyr Cymraeg o gwmpas 35% neu’n uwchcymharol Gymraeg.
Ymhlith y ffactorau sy’n gyfrifol am fethiant yr ysgolion hyn i gynnig Cymraeg mae:
- anhawster i gynnig darpariaeth arbennig i niferoedd bach am resymau staffio a chyllid
- methiant i ddilyn yr hyn sydd yn eu dogfennaeth;
- awydd i gael canlyniadau TGAU uchel.
Mae pedair ysgol Saesneg mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg – lle mae’r symud i ail iaith yn digwydd yn achos mwyafrif helaeth y disgyblion.
Symudodd 889 o iaith gyntaf i ail iaith yn pedair ysgol hyn, sef cyfartaledd o 55 disgybl yr ysgol y flwyddyn. Ar gyfartaledd symudodd 86.7 % o’r disgyblion at ail iaith.
Nid oes un o’r rhain yn dysgu pynciau eraill trwy’r Gymraeg.
Roedd 15 o ysgolion y gellir eu hystyried yn rhai dwyieithog sy’n gweithredu mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg. Mae’r ysgolion hyn fel arfer yn cynnwys ffrydiau Saesneg eu cyfrwng a ffrydiau sy’n dysgu rhyw gymaint o bynciau trwy’r Gymraeg. Mae’r rhain yn gweithredu yn bennaf yng Nghaerfyrddin, Ceredigion, a Môn ond ceir rhai hefyd yng Ngwynedd a Chonwy.
Mae’r ysgolion hyn yn amrywio’n fawr o ran eu polisi iaith a’r modd y maent yn trin disgyblion a astudiodd Gymraeg yn CA2. Mae’r canran sy’n symud at ail iaith yn amrywio rhwng 2.6% a 48.7%. O’r 5017 o ddisgyblion yn y sector hwn, symudodd 1380 at ail iaith, sef cyfartaledd o 23 disgybl y flwyddyn ym mhob ysgol.
Y ganran gymedrig am y symud i ail iaith yn yr ysgolion hyn yn Sir Gaerfyrddin yw 58.2%.
Y ganran gymedrig am symud i ail iaith mewn pedair ysgol ddwyieithog mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg yng Ngheredigion yw 42.2%. Roedd ysgol arall Penglaishefyd â niferoedd sylweddol o ddisgyblion a astudiodd Gymraeg yn CA2. Gan gynnwys hon, y ganran gymedrig am symud i ail iaith yn ysgolion Ceredigion yw 52.6%.
Mae hanner disgyblion a astudiodd Gymraeg yn CA2 yng Nghonwy’n symud i ail iaith, ac yn yr ysgolion ar wahân i’r ysgol benodedig Gymraeg, mae 75% o’r disgyblion yn symud i ail iaith. Mewn un ysgol ddwyieithog mewn ardal draddodiadol Gymraeg, mae 46% o’r disgyblion yn symud i ail iaith.
Mae ynng Nghonwy Aberconwy ddwy ysgol arall sy’n derbyn nifer sylweddol o ddisgyblion a astudiodd Gymraeg yn CA2, ond heb fod un disgybl yn eu plith yn cael ei asesu yn CA3 mewn Cymraeg.
Canran gymedrig y symud i ail iaith yn Ynys Môn yn yr ysgolion dwyieithog hyn yw 32%, ond mae’r cyffredinoliad hwn yn celu patrymau tra gwahanol yn yr ysgolion unigol. Mae dwy o’r ysgolion Llangefniyn gweithredu polisi pur effeithiol o ddilyniant ieithyddol, a dwy arall yn gweithredu’n fwy effeithiol nag ysgolion dwyieithog siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Ar y llaw arall ceir symud mawr i ail iaith mewn un ysgolNghaergybi.
Mae’r ffactorau canlynol yn gyfrifol am y symud cyffredinol i ail iaith yn y siroedd hyn (lluniwyd y rhain wedi cyfweliadau â phenaethiaid a rhieni, ac o holiaduron, yn ogystal ag o ddogfennau ysgolion ac awdurdodau addysg):
Cyswllt rhwng ysgolion
- diffyg cyswllt rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ar fater dilyniant ieithyddol;
- nid yw dilyniant ieithyddol yn ystyriaeth sy’n cael blaenoriaeth yn y broses drosglwyddo i’r sector uwchradd;
Arweiniad penaethiaid ac ysgolion
- nid yw dogfennaeth ysgolion uwchradd yn rhoi blaenoriaeth i ddilyniant ieithyddol ac nid oes gan rieni wybodaeth ddigonol ar sut mae datblygu sgiliau dwyieithog cyflawn er eu bod yn cytuno â’r nod hwn;;
- diffyg diffinio sgiliau iaith: mewn nifer o’r ysgolion hyn, rhennir disgyblion yn ‘Gymry Cymraeg a dysgwyr da’, ‘Dysgwyr sydd wedi datblygu’n foddhaol’ a ‘Dysgwyr eraill’.
- Ar y cyfan mae penaethiaid yn dueddol o farnu addasrwydd i astudio Cymraeg yn CA3 yn ôl iaith cartref yn hytrach na gallu ieithyddol; ni chaiff y categorïau hyn eu diffinio’n fanwl o ran lefelau ac ati;
- lle y mae’n bosibl i ddisgyblion ddewis rhwng ysgol uwchradd benodedig Gymraeg ac un sy’n cynnig Cymraeg ail iaith, nid yw penaethiaid ysgolion cynradd fodlon rhoi cyngor;
Awdurdod addysg
- nid yw cynghorau lleol yn monitro dilyniant ieithyddol;
- ychydig iawn o wybodaeth ar fanteision addysgol dilyniant ieithyddol a roddir i rieni gan yr awdurdodau addysg;
- Caiff rhieni ac ysgolion eu denu gan y posibilrwydd o weld disgyblion yn cael canlyniadau TGAU uchel mewn Cymraeg ail iaith. Mae gwahaniaeth mawr i’w weld wrth edrych ar ganlyniadau TGAU 2003, ar raddfeydd A* – A. Mewn Saesneg, byddai gan ysgolion yng Nghymru gyfartaledd o 9% o ddisgyblion a gafodd y graddau A* – A. Mewn Cymraeg, y ganran gyfatebol oedd 16% mewn ysgolion lle roedd o leiaf 5 disgybl wedi eu cyflwyno. Mewn Cymraeg ail iaith, y ganran gyfatebol oedd 29%. Yn 2004 y ganran gyfatebol am Ffrangeg oedd 30.2%.[3] Mae hyn yn awgrymu ei bod yn haws i ddisgyblion gael graddau uchel mewn ail iaith yn hytrach nag iaith gyntaf. Mewn nifer o ysgolion Saesneg mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg, roedd canran y rhai a gâi A neu A* yn 50% neu’n uwch.
- mae diffyg hyder ieithyddol yn gyffredin ymysg rhieni sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hyn;
- mae diffyg hyder yng ngallu ieithyddol eu disgyblion yn gyffredin ymysg rhieni yr ardaloedd hyn;
- mae rhai rhieni’n credu na allant roi cymorth i’w plant gyda gwaith cartref pe bai eu plant yn astudio Cymraeg a thrwy’r Gymraeg yn CA3;
- mae rhieni am i’w plant gael yr un math o brofiadau addysgol ag a gawsant hwy;
- mae diffyg astudio gwyddoniaeth a mathemateg trwy’r Gymraeg yn y sector cynradd, o’i gymharu ag ysgolion penodedig Gymraeg ac ysgolion Gwynedd, yn cadarnhau pwysigrwydd Saesneg fel iaith a chyfrwng;
- mae cred gyffredinol bod disgyblion wedi dysgu digon o Gymraeg yn y sector cynradd;
- mae cred bod y Saesneg yn bwysig i ddod ymlaen yn y byd;
- byddai peth tuedd i ddisgyblion ddilyn eu ffrindiau;
- roedd diffyg gwasanaeth anghenion arbennig mewn ysgol Gymraeg yn rheswm perthnasol;
- roedd diffyg darpariaeth addysg bellach ac uwch trwy’r Gymraeg yn rheswm i nifer.
Yn yr un modd, mae symud yn digwydd yng Nghymru’n gyffredinol tuag at asesu gwyddoniaeth a mathemateg trwy gyfrwng y Saesneg rhwng CA2 ac CA3.[4] Roedd 15532 disgybl yn astudio gwyddoniaeth trwy’r Gymraeg yn CA2, ond 11546 a wnâi hynny yn CA3, colled o 3986 disgybl.
Erbyn CA3, 49% o’r rhai a astudiodd Gymraeg yn CA2 sy’n cael eu hasesu mewn mathemateg trwy’r Gymraeg.
Erbyn CA3, 46% o’r rhai a astudiodd Gymraeg yn CA2 sy’n cael eu hasesu mewn gwyddoniaeth trwy’r Gymraeg.
Cafwyd amrywiadau sylweddol fesul sir wrth drosglwyddo i CA3. Yn y siroedd Seisnigedig, lle mae addysg Gymraeg yn dibynnu ar ysgolion Cymraeg, mae’r symud i’r Saesneg fel cyfrwng ar ei leiaf, er bod rhai eithriadau, a’r eithriadau hynny’n dibynnu ar bolisi iaith ysgolion yn bennaf.
Yn y siroedd traddodiadol Gymraeg roedd 50% o’r disgyblion a astudiodd Gymraeg yn astudio gwyddoniaeth a mathemateg trwy’r Gymraeg yn CA2.
Yn CA3 roedd symud cyffredinol o 25% at y Saesneg o blith y rhai a astudiodd fathemateg trwy’r Gymraeg yn CA2, symud o 33% at y Saesneg o blith y rhai a astudiodd wyddoniaeth trwy’r Gymraeg yn CA2. 33% o’r disgyblion a astudiodd Gymraeg yn CA2 sy’n astudio gwyddoniaeth trwy’r Gymraeg yn CA3, a 38% o’r disgyblion a astudiodd Gymraeg yn CA2 sy’n astudio mathemateg trwy’r Gymraeg yn CA3.
Yn yr ysgolion lle y gwelwyd tuedd i niferoedd mawr o ddisgyblion symud i ail iaith, gwelwyd nad oedd neb o’r disgyblion Cymraeg CA2 yn astudio gwyddoniaeth a mathemateg trwy’r Gymraeg yn CA3.
Mae’r symud tuag at ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn cydredeg yn gyffredinol â’r symud yn y siroedd hyn at ail iaith, gyda Cheredigion a Chaerfyrddin yn dangos tueddiadau amlwg tuag at y Saesneg.
Mae’r ffactorau sy’n gyfrifol am y duedd i astudio mathemateg a gwyddoniaeth trwy’r Saesneg yn y siroedd hyn yn cynnwys:
- diffyg darpariaeth trwy’r Gymraeg yn y sector cynradd;
- sector cynradd yn gweld diffyg darpariaeth yn y sector uwchradd;
- rhieni’n gyfarwydd ag astudio’r pynciau trwy’r Saesneg
- diffyg hyder yn codi yn sgil dewis;
- diffyg darpariaeth trwy’r Gymraeg yn y sectorau addysg bellach ac uwch.
- diffyg gallu neu barodrwydd staff i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae camau amlwg y mae’n rhaid eu cymryd i atal y llif at y Saesneg yn y siroedd traddodiadol Cymraeg, ac unwaith eto, mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru roi arweiniad, hyd yn oed os nad oes ganddi mo’r galluoedd statudol i weithredu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sicrhau bod pawb sy’n cyrraedd lefel 3 neu uwch yn trosglwyddo i iaith gyntaf
- Pennu swyddogion cyswllt rhwng ysgolion uwchradd a chynradd i hwyluso’r trosglwyddo
- Rhoi blaenoriaeth i oleuo rhieni am fanteision sgiliau dwyieithog cyflawn, a’r modd o’u caffael
- Asesu’r Gymraeg ar gontinwwm, fel nad yw gradd A* mewn TGAU ail iaith yn rhagori ar radd C, dyweder, mewn Cymraeg iaith gyntaf.
- Sicrhau bod gwyddoniaeth a mathemateg yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd.
Mae gan hyn eto oblygiadau o ran staffio, ac mae gofyn cael rhaglen hyfforddiant trwyadl i roi’r hyder a’r sgiliau iaith i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd allu gweithredu’n effeithiol.
Clo
Mae’n eironig mai ym myd addysg y mae gan Gymru’r mesur helaethaf o annibyniaeth, ond eto yn y maes hwn y cafwyd y diffyg gweledigaeth mwyaf o du Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd dyfodol y Gymraeg yn y pen draw’n dibynnu ar ddeall sut i ddatblygu’r maes addysg yng nghyd-destun cynllunio iaith, neu normaleiddio iaith.
Rydyn ni’n wynebu sefyllfa mewn addysg Gymraeg lle na allwn ni bellach ddibynnu ar yr un tactegau ymgyrchu ag yn y gorffennol. Er y gallwn ddal i rag-weld peth cynnydd yn nifer ysgolion Cymraeg yn ystod y deng mlynedd nesaf, bydd yn gynnydd araf ac annigonol os parhawn i ymgyrchu fel yn y gorffennol. Ymhen ugain mlynedd mae perygl dirfawr, wrth i nifer y cartrefi Cymraeg grebachu, y bydd bwlch gormodol yn digwydd rhwng y cenedlaethau Cymraeg a’r cof amdanynt a’r to sy’n codi.
Mae’r newidiadau yr ydym am eu gweld yn rhai nad oes modd eu eu datrys ar lefel cynllunio cenedlaethol. Y diffyg deall a’r diffyg gweld ar ran y Gweinidog Addysg a Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yw eu bod yn dal i weld addysg yng Nghymru fel rhywbeth sy’n cael ei drefnu ar lefel leol yn hytrach na chenedlaethol. Ond her genedlaethol sy’n ein hwynebu, ac mae angen rhaglen genedlaethol gynhwysfawr a all gael ei throsi wedyn ar lefel leol.
Ymysg y targedau y mae angen eu gosod am y deng mlynedd nesaf mae
- cynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg gan 100 trwy gynllunio canolog, a chlystyru ysgolion Saesneg, fel bod ysgol Gymraeg o fewn dwy filltir i bob rhiant mewn ardaloedd trefol
- cyflwyno system o drosi ysgolion Saesneg yn rhai dwyieithog
- asesu’r Gymraeg ar un continwwm i ddileu’r gwahaniaeth rhwng ail iaith ac iaith gyntaf
- dileu’r golled o iaith gyntaf i ail iaith mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg
- sefydlu rhaglen hollgynhwysfawr o ddysgu’r Gymraeg i oedolion gan flaenoriaethu athrawon, a sefydlu canolfannau Cymraeg.
Bydd angen i’r datblygiadau hyn ddigwydd o fewn cyd-destun cynllunio iaith cyffredinol.
Byddai’n dda gen i fod yma ymhen rhyw chwarter canrif. Pwy a wyr, os caniateir imi’r moeth o weld gorwyrion, y gallaf y pryd hwnnw aralleirio’r tipyn gerdd
Rhannu gair â hwn a hon ar y buarth,
eisiau chwarae â phêl,
neu holi enw,
sylw am wisg,
rhannu diod falle,
cynnig creision,
pwy wyr beth wyt am ei ddweud,
ond bydd pawb yn dy ddeall
yr awr ginio gyntaf.
A dyna pam y chwarddaist
A hefyd dy fam.
Heini Gruffudd
Abertawe
Tachwedd 2006
[1] Mae llawer o’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn cyfeirio at ddisgyblion yr oedd modd eu holrhain. Gall y gwir ffigurau amrywio ychydig.
[2] Analysis of National Curriculum Assessment Data to gather quantitative evidence on the movement of pupils between KS2 and Welsh Second language at KS3.
[3] CBAC – Canlyniadau Rhagarweiniol 2004 – TGAU Cwrs Llawn.
[4] Dogfen a gafwyd gan ACCAC, Analysis of National Curriculum Assessment Data to gather quantitative evidence on the movement of pupils between Welsh KS2 and Welsh Second language at KS3, derbyniwyd 2004.