Tra’n llongyfarch Eluned Morgan ar ei chyfrifoldebau iechyd newydd, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Brif Weinidog Cymru i sefydlu Gweinidog penodol i’r Gymraeg.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers blynyddoedd lawer wedi gweld y Gymraeg yn faes cyfrifoldeb gweinidogion sydd o dan bwysau mawr o gyfeiriadau eraill.
“Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, er tegwch iddo, wedi ysgwyddo baich y Gymraeg, ond roedd yn amhosib iddo roi blaenoriaeth i’r Gymraeg. Yna daeth Brexit ac yn awr Covid-19 a materion iechyd cysylltiedig. Dyw hi ddim yn bosib i’r holl feysydd sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg gael tegwch gan Weinidog mewn trefn fel hon.
“Cawsom addewid gan y Llywodraeth y byddai is-adran y Gymraeg yn datblygu’n gorff dylanwadol o fewn y Llywodraeth. Mae tawelwch wedi bod ers hynny.
“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw’n gyson am Awdurdod Cenedlaethol i gydlynu cynllunio ieithyddol yng Nghymru ar draws holl feysydd cyfrifoldebau’r llywodraeth. Rydyn ni am i’r Awdurdod fod yn un annibynnol heb ddibynnu fod ar fympwy llywodraeth. Mae’r sylw ymylol a gaiff y Gymraeg yn nhrefn y Llywodraeth yn profi’r angen am Awdurdod Cynllunio Ieithyddol hyd braich. Mae’n hanfodol ei fod yn cydweithio â Gweinidog fydd yn gallu rhoi ei holl sylw i’r Gymraeg.
“Mae Covid-19 wedi peri argyfwng i gymunedau Cymraeg, ac i weithgareddau diwylliannol y Gymraeg. Mae brys ychwanegol, felly i sefydlu Awdurdod Iaith Cenedlaethol fydd ag adnoddau a grym i gydlynu a sbarduno adfywiad yr iaith. Ac mae angen Gweinidog y Gymraeg fydd yn gallu rhoi ei sylw cyfan i hyn.”
Hydref 2020