Heddychiaeth a chenedlaetholdeb

Mae’n siŵr bod golygydd Barn â rhyw gymaint o’i dafod yn ei foch wrth drafod heddychiaeth a Chymru yn rhifyn Gorffennaf/Awst.

Mae modd deall ei bryder am niferoedd bychan sydd weithiau’n cymryd rhan mewn gwrthdystiadau iaith.  Er hyn mae angen iddo hefyd gydnabod y fyddin o ymgyrchwyr a gweithwyr dygn sy’n ymhel â’r Gymraeg ym mhob cwr o Gymru ar lefel gymunedol.  Nid protest gyhoeddus yn aml yw’r dull mwyaf effeithiol o ddwyn y maen i’r wal.

Mwy anodd deall ei ofid bod niferoedd helaeth yn gwrthdystio yn erbyn polisi rhyfel y llywodraeth yn Irac.  Pan fo ein hunig lywodraeth yn defnyddio ein harian ni i ymladd rhyfel sydd i’n barn ni yn anghyfiawn, a’r llywodraeth honno’n gwrthod gwrando, a phan fo’n Cynulliad Cenedlaethol heb allu i benderfynu ar faterion rhyngwladol, llythyra a phrotestio yw’r unig ffordd o wrthwynebu, oni bai bod y golygydd yn credu y dylid mynd ati’n dreisgar yn hyn o beth.  Gwlad anaeddfed a hunanol  yw gwlad nad yw’n cymryd safbwynt ar faterion byd-eang. 

Mae’n deg i’r golygydd holi am darddiad heddychiaeth Cymru. Mae’n werth nodi bod cenedlaetholwyr Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi mynd ati i feddwl am rôl Cymru yn y byd, ac yn hyn o beth am weld Cymru fel gwlad yn cyfrannu at y byd yn gyffredinol, yn hytrach na meddwl yn unig am ei dyfodol ei hun.  Rhan o’r meddwl hwn oedd yr ystyriaeth a roddwyd i heddychiaeth.

Nid oedd y meddwl yng Nghymru’n eithriad, fodd bynnag.  Roedd  cenedlaetholdeb diwylliannol a gwleidyddol wedi dod yn rhan annatod o ryddfrydiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol,  ac roedd llawer o’r cenedlaetholwyr rhyddfrydol amlwg yn heddychwyr o argyhoeddiad yn Ewrop yn gyffredinol (er y bu sawl dadrith yn ystod y gwrthryfeloedd cenedlaethol).  Perthyn i’r ysgol hon roedd Samuel Roberts ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a wrthwynebai gaethwasaeth ac imperialaeth Lloegr.   Dilynwyd yntau gan rai fel y Parchedig John Pulston Jones, y Parch John Morgan Jones a’r Prifathro Thomas Rees a ddioddefodd o erlid yn ystod y rhyfel byd cyntaf.

Er mai gweinidogion yn aml oedd yr heddychwyr digymrodedd yng Nghymru, mae cysylltiad yr eglwys â heddychiaeth yn un gymysglyd.  Gwelwyd hynny yn ystod y rhyfel byd cyntaf yng Nghymru, ond ceir hefyd syniadaethau sy’n peri bod yr eglwys yn gallu cefnogi rhyfel.  O ddilyn credo Awstin a Chalfin bod pechod dyn yn sylfaenol, mae rhyfel yn anochel.  Mae’r Eglwys Gatholig wedi bod yn fodlon arddel rhyfeloedd, a byddai Darwin wedyn yn credu bod lle i ryfel yn natblygiad dyn.

Gwelai  E.T.John, yr aelod seneddol rhyddfrydol (Dwyrain Dinbych) a drodd wedyn at y Blaid Lafur yn 1917 mai “cred reddfol y Sais ydyw nas gellir sylfaenu goruchafiaeth barhaol heddwch ond drwy nerth ‘braich a gorfodaeth’”. Gwelai fod Cymru, ym mherson Henry Richard ryw hanner can mlynedd yn gynt, wedi rhoi arweiniad heddychol i genhedloedd.  Iddo yntau roedd y Blaid Lafur yn blaid genedlaethol a oedd o blaid ymreolaeth a diarfogi. Ond credai hefyd fod angen plaid annibynnol Gymreig. Yn ystod ei yrfa wleidyddol trodd E.T.John o ffafrio trefniant ‘cyfunol’ (ffederal) i wledydd Prydain i ddadlau dros statws dominiwn i Gymru. 

Cyd-destun syniadol peth o’r trafod am rôl Cymru yn y byd oedd y syniad bod i Gymru ei lle yn nhrefn Duw, fel y dadleuodd Emrys ap Iwan.  Dilynwyd ef gan O.M. Edwards a dderbyniodd y syniad Iddewig o etholedigaeth cenedl, “trwy fod yn genedl etholedig … y medrwn wneud ein rhan i ddyrchafu dynol ryw”.  Ceir trafodaeth yn Y Geninen a chylchgronau eraill y cyfnod ar ôl y rhyfel byd cyntaf ar y math o genhadaeth y dylai Cymru ei harddel.  Roedd y genhadaeth hon yn arddel delfrydau Cristnogaeth, a dadleuai Iorwerth Peate, ymysg eraill, “mai ‘neges Cymru’… yw symud egwyddorion y Bregeth ar y mynydd o orwelion bywyd i’w ganol.”

Yn ystod y rhyfel byd cyntaf, ac wedi’r rhyfel, cafwyd y dadrithiad mawr mewn dulliau rhyfel.  Ac yntau wedi profi erchyllterau’r rhyfel, meddai’r Parchedig Lewis Valentine, “Ymdynghedais i ddal ar bob cyfle i wrthwynebu rhyfel”.   Cafwyd mynegiant i’r dadrithiad hwn yng ngherddi T.Gwynn Jones, ac un o’r mwyaf huawdl oedd D.J. Williams.  Meddai yntau “cenedl ddewraf a mwyaf arwrol y dyfodol a fydd honno a ddiosgo’i harfau gyntaf.”

Meddai’r Athro Diwinyddol D. Miall Edwards yn 1927 na ellir “ymddiried arfau milwrol i unrhyw genedl dan y nef ond i’w pherigl ei hun… cenhedloedd heb fyddinoedd, dyna’r ddelfryd” a ychwanegodd “saif y cenedlaetholdeb y dadleuwn drosto am gydweithrediad nid gwrth-drawiad, am frawdoliaeth nid gelyniaeth”

Yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd byd, daeth heddychiaeth yn ganolog i syniadaeth genedlaethol Cymru.  Meddai Ben Bowen Thomas “meddiennir … y Cymry gan y ffydd y gellir alltudio rhyfel”.  Meddai i ddelfrydau Cynghrair y Cenhedloedd gael mwy o groeso yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall. 

Roedd dylanwadau eraill ar heddychiaeth yng Nghymru. Nid y lleiaf oedd Gandhi, ac mae George M. Ll. Davies yn cydnabod ei ddylanwad ar y mudiad cenedlaethol .  Mae’n werth i olygydd Barn, wrth honni fod heddychiaeth yn gwneud “rhinwedd o’r stad o fod yn wan”, gofio mai gweithredoedd heddychol ddaeth â llywodraeth Lloegr i ben yn India, ac mai gweithredoedd heddychol yn bennaf hefyd ddaeth â diwedd i ormes yr Undeb Sofietaidd ar wledydd dwyrain Ewrop.

Sefydlwyd Cymdeithas y Cymod yn 1914,  cafwyd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn 1918. Cychwynnwyd neges heddwch y Parch Gwilym Davies (a ddadleuai o blaid rhyfel yn 1941) yn 1922, a sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn 1923. Yn 1927 ffurfiwyd Cymdeithas Heddwch yr Annibynwyr Cymraeg.

Hyd yn oed yn ystod yr ail ryfel byd, pan fyddai cytundeb cyffredinol i wrthwynebu Hitler, cyhoeddwyd tair cyfres o bamffledi (Pamffledi Heddychwyr Cymru) rhwng 1941 ac 1945.  Yn un o’r rhain meddai Pennar Davies ei fod yn ei weld ei hun yn fab i “Dywysog Bywyd… Dyna paham yr wyf yn heddychwr, a dyna paham yr wyf yn genedlaetholwr… yr un yw’r frwydr dros Gymru a’r frwydr dros heddwch a’r frwydr dros Deyrnas Dduw”.

Cryfhawyd y gred mewn heddychiaeth weithredol wedyn yn ystod y chwedegau, o dan ddylanwad Martin Luther King yn arbennig, a ddilynai ddulliau gweithredu Gandhi. 

Lleiafrif bach, serch hynny, fu heddychwyr gweithredol yng Nghymru, fel ym mhob gwlad.  Yn wyneb erchyllter treisgar Natsïaeth, neu ormes milwrol, mae’r dewis yn anodd.  Heddiw clodforir Stauffenberg yn yr Almaen am iddo roi cais ar ladd Hitler. Pan oeddwn yn Berlin fis diwethaf gydag aelodau o ddosbarthiadau llenyddiaeth Gymraeg Abertawe, gwelsom yn iard hen bencadlys y fyddin y man y cafodd yntau ei ddienyddio. Eto, ei weithred ef a arweiniodd at farwolaeth fy mam-gu  yn Ravensbrück wrth i’r dial ar Iddewon fynd rhagddo.  Mae’r pencadlys yma’n awr yn cynnwys arddangosfeydd sy’n cofnodi’r gwrthwynebiad i Hitler yn yr Almaen.   Mewn un ystafell mae sôn am fudiad y Rhosyn Gwyn – Die Weisse Rose – a oedd yn cynnwys myfyrwyr ac eraill a wnaeth ymdrech i wrthwynebu Hitler yn heddychol.  Un o’r rhain oedd Curt Ledien, cefnder i fy mam-gu.  Cafodd dreulio dwy flynedd mewn gwersyll-garchar cyn ei saethu. Ni lwyddodd na Stauffenberg na’r Weisse Rose, ond coffeir y ddau gyda’i gilydd heddiw, er mai Stauffenberg gaiff brif sylw gwleidyddion yr Almaen.

Mae daliadau heddychol Cymru yn dipyn hŷn na gwahaniaethau safbwynt rhwng Saunders Lewis a Gwynfor Evans, fel yr awgryma golygydd Barn. Mae’n wir bod Saunders Lewis yn annog defnyddio dulliau o anufudd-dod sifil yn Tynged yr Iaith. Ond nid oes yma ddim sydd yn erbyn heddychiaeth: mae ei awgrym o’i gwneud yn amhosibl i lywodraeth allu gweinyddu (yn ardaloedd Cymraeg Cymru) heb ddefnyddio’r Gymraeg yn dwyn dulliau Gandhi i gof. 

(2004)