Heriau i’r brifysgol

Y cof cyntaf sy gen i o Hywel Teifi oedd mynd i ddarlith ganddo ar y ddrama yn Abertawe. Ar y pryd ro’n i’n ddigon ifanc, wedi clywed am Hywel a’i ddarlithiau, ac roedd ystafell fawr orlawn o ryw gant o bosib yn gwrando am ddwy awr a mwy, yn gafael ar bob gair a ddôi o’i enau, yn rhyfeddu at y cof a dyfyniadau di-ri heb sgrap o bapur o’i flaen.  Dyna berfformiad yr oedd i’w ailadrodd gannoedd o weithiau ledled y wlad.

Ei thema yn ei holl ddarlithiau oedd stori Cymru, ei chofio a’i chofnodi, a’i dehongli. Yn y stori fel welai arwyr, ond fe welai hefyd genedl Saisaddolgar. Gwelodd sut roedd eu hiaith a’u hanes wedi’u dwyn oddi ar y Cymry, ac ymgyrch fawr ei waith a’i fywyd oedd rhoi’r rhain yn ôl.  Roedd ei waith ar stori Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’i lafur mawr ar ddyrchafu llenyddiaeth cymoedd de Cymru yn rhan o’i weledigaeth fawr.  Roedd y Cymro di-Gymraeg a gollodd ei etifeddiaeth o’r pwys mwyaf iddo. Roedd adfer yr etifeddiaeth honno, ac ysbrydoli ei gynulleidfa, yn allweddol iddo.

Pan ddechreues i yn fy swydd yn yr adran allanol, doedd dim modd camu i esgidiau Hywel Teifi.  Sut ar y ddaear y gallai unrhyw un ei ddilyn, hyd yn oed o hirbell?

Doedd dim modd, wrth gwrs.  Ond fe ges i sawl cyngor gwerthfawr iawn. Beth oedd llwyddiant mewn dosbarth? Ei fesur oedd hyn, “Os dysgi di fwy i’r dosbarth nag wyt ti’n ei ddysgu ganddyn nhw, byddi di’n gwybod dy fod wedi llwyddo.”

Wrth feddwl am y bobl wych sydd yn y dosbarthiadau, o Gross Hands i Frynaman, o Ystalyfera i Sgeti, rwy’n go amheus a lwyddais i.  Os oeddwn yn trafod Gwenallt, byddai Meira Read yn ei gofio wrth gwrs.  Wedyn Kate Roberts – byddai rhai’n cofio amdani, a’i chwynfan, yn Ystalyfera.  Dylwn i fod wedi cofnodi’r cyfan.

Ond roedd y dosbarthiadau wedi cael rhyddhad o un peth – os oedd rhywun yn meiddio cynnig dehongliad nad oedd yn cydweld â’i weledigaeth e, byddai Hywel yn gallu bod yn ddigon llawdrwm, a byddai’n mwynhau bychanu rhai o’i ddosbarth, yn enwedig os cyd-ddarlithydd fel Dr Gareth Evans ydoedd.

Pan adawodd Hywel ei swydd yn yr adran allanol roedd newidiadau mawr ar waith.  Roedd y naill yn ymwneud â phroblem sylfaenol ein bodolaeth fel gwlad.  Y boblogaeth Gymraeg naturiol yn heneiddio, newidiadau economaidd yn golygu bod pobl ifanc yn gadael yr ardaloedd Cymraeg, a’r diwylliant Eingl-Americanaidd yn ennill y dydd ymysg y bobl ifanc. 

Roedd y llall yn newid trwy ddwylo gwybodusion addysg, a oedd am weld diwedd ar y dosbarthiadau traddodiadol a newid addysg i gyfeiriad arholi ac asesu ac ennill credydau.

Gall fod rhyw rinwedd yn hynny, ond ryw bymtheng mlynedd yn ôl fe ysgrifennais bwt i Barn yn proffwydo diwedd y dosbarthiadau gwych a oedd wedi cael eu cynnal am fwy na hanner canrif ym mhob rhan o Gymru.  Y dosbarthiadau hyn oedd yn caniatáu i Saunders Lewis ac ysgolheigion gorau Cymru i fynd allan i’r pentrefi. Peryglu trefn y dosbarthiadau wnaeth y newid i asesu ac achredu.  Roedd y newid hwn yn dilyn ffasiwn Lloegr yn slafaidd, ac mae trefn addysg uwch yng Nghymru’n dal i ddilyn Lloegr yn slafaidd iawn o ran systemau ariannu. 

Diolch bod peth newid yn digwydd yn sgil sefydlu’r coleg ffederal Cymraeg honedig, ond nid yw’r sylfeini wedi newid. Mae’r prif gyllid yn cael ei roi yn ôl system Lloegr o fesur gwerth ymchwil a gwerth adrannau. 

Effaith hyn ar y dosbarthiadau traddodiadol oedd eu cau ym mhob rhan o Gymru.  Mae’r hyn sy’n dal i ddigwydd yn ardal Abertawe, hyd y gwn i, yn eithriad.  Yn Aberystwyth, methais ganfod yr un cwrs mewn llenyddiaeth Gymraeg. Introduction to Lesbian and Homosexual studies, iawn, ond Cymraeg? Ym Mangor dim ond 6 chwrs sy’n cael eu cynnig yn y Gymraeg heb eu hachredu, a dim un o’r rheiny’n gwrs llenyddiaeth.  Y gost am 10 wythnos yw £65.  Yn Abertawe mae cyrsiau llenyddiaeth yn dal i gael eu cynnig ar draws ardal y brifysgol, a’r gost yn £30.

Sut mae esbonio’r gwahaniaeth?  Mae’n gwbl wir bod y rhai ohonom wnaeth etifeddu dosbarthiadau Hywel Teifi wedi bod wrthi’n ddyfal yn cynnal y dosbarthiadau traddodiadol dros yr ugain mlynedd diwethaf.  Diolch i Helen Evans, y cydlynydd, am barhau i ddenu tiwtoriaid newydd i’r rhain.  Mae ysbryd Hywel yn dal yn fyw, a ffordd wedi’i chanfod i fynd o gwmpas y drefn sydd wedi lladd dosbarthiadau cyffelyb ledled Cymru..

Ond mae’r newid cyntaf yn fwy parhaol. Newid demograffig yw hwn. Does dim osgoi’r newid hwn.  Dyma’r newid sy’n bygwth einioes Cymru. Os edrychwch chi ar y gwahanol ddangosyddion o lewyrch y Gymraeg, fe welwn ni hyn:

Canran plant sy’n siarad y Gymraeg gartref – 7%

Nifer y wardiau lle mae mwy nag 80% yn siarad Cymraeg: 2%   (17 o 881)

Canran plant sydd mewn ysgolion Cymraeg – 21%

Colled ieithyddol 1991-2001 o fwy na 5%:  Ceredigion 7.3%; Caerfyrddin 4.7%

Colled ieithyddol 1991-2001 o gwmpas 9%:  Ardal Pontyberem – Rhydaman – Brynaman

                                    1991                            2001

Pontyberem                 80.5%                          73.3%

Glanaman                    77%                             67.1%

Rhydaman                   70.8%                          62.1%

Garnant                       77.5%                          69.6%

Pontyberem                 80.5%                          73.3%

Brynaman Isaf            76.6%                          67.8%

Gwaun Cae Gurwen   79.1%                          67.7%

Ystalyfera                   66.7%                          54.2%[1]

Mae’n debygol iawn bod yr ardaloedd allweddol hyn o safbwynt y Gymraeg yn nhiriogaeth Prifysgol Abertawe, gyda cholled o 9%, wedi colli canran debyg eto erbyn 2011, a gwelwn bod canran y siaradwyr wedi disgyn o 80% i 60% mewn ugain mlynedd.

Ac eithrio’r frwydr dros ysgolion Cymraeg, tra bo’r dirywiad iaith hwn yn digwydd, rydyn ni wedi rhoi’r prif sylw ers yr 1970au ar ennill statws i’r iaith, sicrhau ffurflenni Cymraeg, sieciau a biliau treth, yn lle canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

Mae’n werth gwrando ar rybudd Joshua Fishman,

“ ‘Castles in the sky’ are alluring but they do not make for safe living quarters. It is definitely more exciting and more newsworthy to work on the more modern and ‘flash’ side of the ‘continental divide’, ond the side that deals primarily with the written, formal language and with interactions that are status stressing.”[2]

Beth yw ein hymateb ni yn y rhan hon o Gymru i hyn? Mae Bwrdd yr Iaith wedi lansio Cynllun Datblygu Iaith ar gyfer yr ardal rhwng Rhydaman, Brynaman a Chwm Tawe.  Erbyn hyn mae canran siaradwyr pen uchaf Cwm Tawe wedi mynd o dan 50%, ac mae’n rhaid ymboeni am ardal Cwm Gwendraeth. Yn anffodus ni fydd Cynllun Datblygu Iaith y Bwrdd yn mynd i wneud gwahaniaeth heb fod system addysg yr ardaloedd hyn yn gweddnewid. Mae angen i glybiau chwaraeon ac ieuenctid weithredu’n Gymraeg. Ar ben hynny mae angen adnewyddiad economaidd sy’n rhoi pwys ar y Gymraeg, efallai wrth i rai o’n sefydliadau cenedlaethol adleoli o Gaerdydd i Rydaman.

Mae’r her i’r Gymraeg yn yr ardal hon yn fwy nag y gall unrhyw sefydliad ei datrys ar ei ben ei hun. Meddai Colin Williams, “Bydd yr unfed ganrif ar hugain yn dyst i’r dasg anos o fynd y tu hwnt i ddarparu cyfleoedd tameidiog a hawl gydnabyddedig i ddewis iaith.  Y mae datblygu cymdeithas ddwyieithog gwbl gyflawn yn brosiect mewn peirianneg gymdeithasol.  Bydd yn galw am fuddsoddiad a hyfforddiant, am anogaeth ac argyhoeddiad gwleidyddol.”[3]

Beth yw rôl y Brifysgol yn hyn oll?  Mae ganddi rôl mewn pedwar maes, sef adfywio cymunedol, cynllunio ieithyddol, dysgu Cymraeg i oedolion, a chyflwyno hanes, llên a diwylliant Cymru.

Adfywio Cymunedol

Dylai fod gan y Brifysgol rôl o ran rhoi arweiniad ym maes datblygiad economaidd. Dw i ddim yn arbenigwr ar hynny.  Mae’n dda bod Abertawe wedi sefydlu canolfan ddysgu yn y Banwen flynyddoedd yn ôl. Gallai’r Brifysgol arwain eto trwy sefydlu is-ganghennau mewn trefi yn ei thiriogaeth, yn hytrach nag ehangu ei theyrnas ar dir neb y twyni tywod ger y dociau. Byddai’n braf meddwl y gallai’r canolfannau hyn, mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg, arwain adfywio cymunedol mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ac mewn ardaloedd di-Gymraeg fod yn ffocws ar gyfer creu cymunedau newydd Cymraeg, fel y mae Tŷ Tawe’n ceisio’i wneud yng nghanol y ddinas. Yr her i’r brifysgol yw cyfrannu at y gwaith, mewn partneriaeth ag eraill,  o sefydlu canolfannau iaith ym mhob tref fel bod cymuned Gymraeg o fewn cyrraedd pob siaradwr Cymraeg a phob dysgwyr.

Cynllunio ieithyddol

Mae angen i’r Brifysgol gyfrannu’n helaeth at astudiaethau ar gynllunio iaith yn yr ardal, gan arwain y ddadl dros newid agweddau at iaith, yn enwedig ymysg y cynghorau lleol diweledigaeth sy’n gwasanaethu’r ardal hon. 

Dro ar ôl tro rydyn ni’n gweld cynghorau Sir Gâr ac Abertawe’n colli cyfle ar ôl cyfle i weithredu o blaid y Gymraeg.  A bron yn ddieithriad, mae’r Brifysgol yn gwbl dawedog.  O ran annog polisïau addysgol call, cynllunio tref, ymfudo ac allfudo, mae angen i’r Brifysgol roi arweiniad o ran egwyddor a meddwl, wedi’i seilio ar ymchwil gadarn.  Gall hyn fod yn her benodol i Academi Hywel Teifi.

Ac eithrio cyfraniad rhai unigolion disglair, mae prifysgolion Cymru’n gyffredinol wedi methu dangos arweiniad ar lefel genedlaethol, ac yn bendant wedi methu ar lefel leol.

Dysgu’r Gymraeg i Oedolion

Nid yw’r system sy’n cefnogi’r rhain chwarter mor effeithiol ag y byddai rhai’n honni eu bod.  Erbyn cyrraedd lefel NVQ 3 a 4, sef dosbarthiadau i’r dysgwyr mwyaf rhugl, mae hanner y dysgwyr dros 61 oed, a dim ond tua 21% o dan 40 oed, sef oed bras magu teulu.  Er bod canran dda (41%) o’r rhai sy’n cychwyn dysgu o dan 40 oed, collir y rhan fwyaf o’r rhain erbyn cyrraedd blwyddyn 3 a 4.

Dyma’r niferoedd am y gwahanol flynyddoedd dysgu am rai dan 40 oed:

Blwyddyn 1                3190

Blwyddyn 2                1590

Blwyddyn 3                560

Blwyddyn 4                260

Trefn fethiant yw’r drefn, felly, gyda 92% yn methu cyrraedd blwyddyn 4.  Mae hyn yn digwydd er gwaethaf ymroddiad ac ymrwymiad cannoedd o diwtoriaid gweithgar ledled y wlad, ac er gwaethaf darparu gweithgareddau i ddysgwyr ym mhob twll a chornel o Gymru. Nid yw’r gyfundrefn bresennol i ddysgwyr yn gwasanaethu’r nod a osodir  gan Joshua Fishman, sef bod angen rhoi’r pwys mwyaf ar drosglwyddo’r iaith leiafrifol ar yr aelwyd.  Nid bai’r tiwtoriaid yw hyn, na bai’r dysgwyr, ond y drefn sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn dysgu’r iaith.

Mae angen trawsnewid y system dysgu Cymraeg i oedolion.  Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod angen cynnig 1,500 o oriau cyswllt i ddysgwyr dros gyfnod o flwyddyn neu ddwy, yn lle’r 300 – 400 a gynigir yn awr dros bum mlynedd.[4] 

Mae angen i’r system Cymraeg i oedolion dargedu oedolion ifanc a fydd yn gallu newid iaith eu cartref. Nid ar chwarae bach y gwneir hyn.  Mae angen sefydlu corff cenedlaethol Cymraeg i Oedolion a fydd yn gyfrifol am arwain y maes ac a fydd yn gallu cynnig cyllid digonol i ryddhau dysgwyr o’u gwaith am gyfnod digonol.

Cyflwyno diwylliant

O ran dysgu’r Gymraeg, mae rôl y brifysgol yn ei chymuned yn amlwg. Ond mae rôl arall yn aros i’w chyflawni, sef cynnal diwylliant, hanes, a llenyddiaeth, sef cadw, cofnodi a dehongli ein stori genedlaethol.  Yn y maes hwn yr oedd Hywel Teifi’n frenin.  

Mae’r angen am gyflwyno diwylliant Cymru mor fawr ag erioed.  Mae dysgwyr am feddiannu eu gorffennol, mae to newydd o fyfyrwyr 16+ yn aros i’w hysbrydoli.    Mae angen i’r dosbarthiadau traddodiadol, boed yn rhai llenyddiaeth, hanes, diwylliant neu beth bynnag, fod yn ddilyniant naturiol i’r broses ddysgu Cymraeg, a bod ar gael yn apelgar i do newydd.  Mae’n wych gweld arwydd o hyn yn digwydd yn Abertawe, wrth i Robat Powel ac eraill gynnig dosbarthiadau llenyddiaeth i rai sydd wedi dysgu’r Gymraeg.

Os parheir â’r drefn bresennol heb newid dyma a ddigwydd: bydd y dosbarthiadau traddodiadol yn diflannu, fel y maent wedi gwneud yn y rhan helaethaf o Gymraeg.  Bydd dosbarthiadau dysgwyr yn dal i rygnu ymlaen gan gyfiawnhau rhoi gwobr i ddysgwr y flwyddyn am fod llwyddo yn gamp mor eithriadol.

Mae’r maes hwn, sef trawsnewid profiad y dysgwr Cymraeg, a chyfuno hyn â chyfoeth y dosbarth traddodiadol, ar agor i’w datblygu.  Trwy ymdrechion yr ugain mlynedd diwethaf, fe honnwn i fod Abertawe mewn gwell sefyllfa nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru i ymgymryd â’r trawsnewid hwn.  Byddai’n briodol iawn pe bai Academi Hywel Teifi i’w gweld yn arwain Cymru, gyda’r un weledigaeth a’r un nerth ag yr arweiniodd ef.

2011


[1] J. Aitchison a H. Carter, A Geography of the Welsh Language 1961-1991, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994, t. 120-125; J. Aitchison a H. Carter, Spreading the Word, Y Lolfa, Talybont, 2004, t. 149-160.

[2] J. Fishman, Reversing Language Shift, Multilingual Matters, Clevedon, 1991, t. 110.

[3] Colin H. Williams, ‘Adfer yr Iaith’, yn Geraint J. Jenkins a Mari A. Williams (gol.), ‘Eu Hiaith a Gadwant’?, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2000, t. 664.

[4] H. Gruffudd ac S. Morris, Canolfannau Iaith a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-Gymraeg, Academi Hywel Teifi / APADGOS, 2011.