Rhagymadrodd i Mae’r Galon wrth y Llyw

‘Rhagymadrodd’, Kate Bosse-Griffiths, Mae’r Galon wrth y Llyw, Clasuron Honno, 2016, £10.99.

 ‘Sut y digwyddodd inni unwaith gael caniatâd i ddod i fyny o dragwyddoldeb i’r cyflwr ymwybodol..?’[i] Dyna gwestiwn merch sy’n wynebu ei difodiant yn ‘Y Bennod Olaf’, stori fer fuddugol Kate Bosse-Griffiths yn Eisteddfod Genedlaethol 1942.  Mae meddwl am fyrhoedledd bywyd yn gorfodi Mair i ymwybod ag ysfa i fyw i’r eithaf, gan werthfawrogi profiadau a dirgelwch bywyd. Gwêl yr un pryd sut mae rhai o’i chwmpas yn gwastraffu’r cyfle a gânt. Mae’r dyhead yma i hunangyflawni’n ganolog i Kate, ac yn sgil hyn mae’n ymholi i ganfod pa rwystrau yn nhrefn gonfensiynol cymdeithas sy’n peri bod merched yn methu byw yn ôl eu natur a’u doniau.

Ail nofel Kate yw Mae’r Galon wrth y Llyw (1957). Cyhoeddwyd hon bymtheng mlynedd ar ôl ei nofel gyntaf, Anesmwyth Hoen (1941). Rhwng y rhain cyhoeddodd gyfrol o storïau byrion Fy Chwaer Efa a Storïau Eraill (1944) a chyfrol yn cynnwys sgript radio a waharddwyd a rhai ysgrifau llenyddol, Bwlch yn y Llen Haearn (1951).

Mae’n glir o’i dyddiaduron nad oedd hi’n teimlo’n gwbl gysurus ym myd y nofel  Gymraeg. Meddai, ar ôl darllen  O Law i Law, T. Rowland Hughes,

Yn O Law i Law mae tipyn o ysbryd y ffilmiau Ffrengig am fywyd trefi bach, gyda phob person wedi’i symleiddio – a thipyn bach yn chwerthinllyd.

A oes gen i hawl i dorri i mewn i’r traddodiad hunanfoddhaus hwn gyda fy De omnibus dubitandum?[ii] [Mae popeth i’w amau].

Descartes (1596-1650) ddefnyddiodd yr ymadrodd, ac yn ei ysbryd ef cafodd Kate ei hun yn amau’r traddodiadau a welai ym mywyd Cymru, ac amau hefyd ei lle hi ei hun ynddo.

Mewn un sylw arall yn ei dyddiadur, teimlai Kate fod nofelau Cymraeg hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn perthyn i’r dosbarth gweithiol:

Mae gan y nofel Gymraeg draddodiad dosbarth gweithiol: ond mae barddoniaeth Gymraeg yn awtocrataidd, yn athronyddol, ac nid yn farddoniaeth gweithwyr.[iii]

Meddai Kate, fodd bynnag, iddi fwynhau darllen O Law i Law, a’i weld yn waith mwy aeddfed na Cysgod y Cryman, Islwyn Ffowc Elis. Ond gwelai eto’r gwahaniaeth rhwng ei hanian hithau a natur y nofel Gymraeg:

Yr un pryd rwy’n credu mod i wedi canfod beth sy’n gwneud i mi deimlo’n anfodlon am y nofel Gymraeg – efallai am ddiwylliant Cymru?: Maen nhw’n hynod allblyg, tra bod fy sylwadau fy hun yn rhai mewnblyg.[iv]

Ei hawydd hi, meddai, ‘am destun y nofel, mi ddywedaf gyda Siôn Cent: Ystad bardd astudio byd.’[v]

Meddai ymhellach, ‘Mae dyn yn sgrifennu (neu dylai dyn ysgrifennu) lawer mwy mewn ysbryd o wrthryfel nag er mwyn difyrru.’[vi]

Mae ganddi sylwadau byr ar dair nofel Gymraeg:

  • Mae Traed mewn Cyffion yn dangos y gwrthryfel hwn
  • Mae Monica fel bachgen sy’n ynganu’r holl eiriau sydd wedi’u gwahardd
  • Mae Rhys Lewis Daniel Owen yn llawn gwrthryfel yn erbyn anghyfiawnderau cymdeithasol[vii]

A hithau wedi bod yn ffoadur, ac wedi bod yn dyst i weithredoedd llywodraeth ysgeler, nid yw’n syn bod Kate wedi gwerthfawrogi gweithiau llenyddol sydd o leiaf yn codi drych i’r gymdeithas, ac sydd yna’n dangos ei ffaeleddau.

Ganwyd Kate (1910-1998) yn Wittenberg, tref sy’n gysylltiedig â Martin Luther, yn 1910.  Cafodd hi yrfa academaidd, a chael gradd doethur am waith ar gerfluniau’r Hen Aifft.  Yn 1936 collodd ei swydd yn yr Amgueddfa Eifftaidd yn Berlin, ar ôl i gydweithiwr roi gwybod i’r pennaeth ei bod hi o dras hanner Iddewig.[viii]

Roedd Kate wedi bod yn cadw dyddiadur o’i dyddiau cynnar, ac o’r cychwyn dangosodd ddiddordeb yn nhrefn cymdeithas a phobl.  Yn ddeuddeg oed, ysgrifennodd am sut roedd Ffrainc wedi meddiannu rhanbarth y Ruhr, gan ddial ar Almaenwyr oedd yn byw yno.  Meddai fod ‘Lloegr ac America, yr unig wledydd a allai wneud rhywbeth yn erbyn hyn, yn gwylio’n segur’.[ix]  Daeth rhai plant Almaenig amddifad o’r Ruhr i ardal Wittenberg, a gwelodd Kate hwy’n wylo.  Ysgrifennodd, ‘A phe na bai dyn wedi casáu’r Ffrancod cyn hyn, gallai dyn wneud hynny’n awr.’[x]

Yn bedair ar ddeg oed, yn dilyn gwledd deuluol ar ôl iddi hi gael ei derbyn yn aelod eglwysig, cafodd Kate gyngor gan ewythr iddi,  ‘Onkel Will’[xi]  ‘na ddylwn i fod yn ddim ond merch, yn ferch heb ymddyrchafu o gwbl ar draul bechgyn.’[xii]

Mae’n debygol iawn i’w gyngor ddeffro ynddi’r awydd i gyflawni yr hyn a allai fel merch, a’i hargyhoeddi hefyd na ddylai merched fod yn israddol.  Daeth hyn yn un o brif themâu ei gwaith.

Daliodd hi i ysgrifennu dyddiaduron tan ei dyddiau olaf.  Mae’r rhain yn cynnwys cofnodion am ddigwyddiadau personol, gyda dyfynnu mynych o’r hyn a ddywedai pobl.  Byddai’n rhoi ei sylwadau ar bethau a  welai ac yn aml iawn mae’r cofnodi’n ymwneud â syniadau, crefydd, llenyddiaeth ac athroniaeth.

Mae’n amheus, serch hynny, a fyddai Kate wedi datblygu’n llenor oni bai iddi orfod mynd yn ffoadur.  Ar ôl ei diswyddiad yn Berlin, chwiliodd am waith mewn gwahanol wledydd, cyn cael lle yn yr Alban,  Brighton, Llundain, yna Rydychen cyn dod i Gymru.

Ysgrifennodd am y newidiadau hyn yn ei bywyd, ond daliodd ar y cyfle i gofnodi ei hargraffiadau o’r mannau y cafodd ei hun yn byw ynddynt.  Nid disgrifiadau yw’r rhain yn gymaint â sylwadau ar ymddygiad cymdeithasol.

Yn 1937 ysgrifennodd ddogfen 52 tudalen, yn Almaeneg, a’i galw’n ‘This Country’.[xiii] Ynddi mae hi’n  syfrdanu mor glwm mae’r ‘Hausfrau’ yn Lloegr wrth y tŷ, ac mor anwerthfawrogol yw pobl o waith y gegin. Mae defodau swpera’n cael blaenoriaeth ac mae hi’n ei chael yn anodd cysoni ymddangosiad hardd y bwrdd a’r bobl ar y naill law a’r bwyd cyffredin ar y llall. Mater arall sy’n cael sylw yw’r gwahaniaeth mawr rhwng y cyfoethog a’r tlawd. Sylwadau iddi hi ei hun yw llawer o ddeunydd y ddogfen ac mae modd ei weld yn gychwyn i’w llenydda, ynghyd â cherddi Almaeneg o’r un cyfnod, na chafodd y mwyafrif ohonynt eu cyhoeddi hyd yma.

Dod o gymdeithas fwy eang ei meddwl i Gymru draddodiadol wnaeth Kate. Yn yr Almaen roedd hi wedi dyweddïo â Niki, mab i Gapten ym myddin Rwsia.  Cofleidiodd ei Gomiwnyddiaeth yntau, a chael ei hysgogi’r un pryd gan weithiau Friedrich Nietzsche, yr athronydd y camddefnyddiwyd ei waith gan y Natsïaid. Cyn cyrraedd Cymru, pan oedd yn Llundain, trôi ymysg cymuned Bloomsbury. Roedd syniadau Comiwnyddol a Sosialaidd yn ei denu yno, fel yn Wittenberg.  Daeth yn aelod o’r Bloomsbury Left Book Club, a bu carwriaeth â Sais o’r enw Stanley.

Y garwriaeth hon, o bosib, a orfododd Kate i edrych eto ar ei rôl hi ei hun fel merch a gwraig.   Er i’w mam obeithio y byddai Kate yn priodi Sais ac yn cael bywyd cysurus yn sgil hyn, mae nodiadau yn ei dyddiadur lle mae’n gwaredu rhag bod yn wraig ddof, ufudd, a cholli ei hannibyniaeth, yn ôl arfer y cyfnod.  Meddai ei bod

wedi bod yn ymladd y frwydr fwyaf dewr yn erbyn y mwyaf o bob duw, sydd am fy ngorfodi trwy bob modd i garu Sais, wfft i’r diafol… Beth wyt ti mewn gwirionedd am ei gael? Wyt ti wedi dod mor bell nes bod bywyd heddychlon, ‘husband’ gofalgar, sydd pan fo’n bosibl yn coginio i ti, ac sydd,  mor gwrtais, yn gallu dy fodloni …  Mae gen i’r breuddwyd o hyd, fy mod i am fod yn GYMAR i berson CYNHYRCHIOL, NID I UN GODDEFOL; fy mod yn parhau gyda gwaith fy mywyd… Ond rwy’n ofni’r diwrnod pan fydda i’n dweud wrthyf fy hun: bydd fyw yn y modd mwyaf cysurus, mae popeth mor ddibwys sub specie aeternitatis; neu’n waeth, os byddaf i’n fy mherswadio fy hun mai priodas Seisnig angylaidd o’r fath yw’r unig beth iawn i mi…[xiv]

Roedd ei mam wedi gobeithio y byddai Kate yn priodi Sais ac yn cael bywyd cysurus.  Nid felly dymuniad Kate ei hun.  Mewn cofnod arall mae hi’n mynegi’r awydd i gael gwreiddiau, ond yn cydnabod nad oes modd i hyn ddigwydd yn yr Almaen bellach. Yna mae hi’n dweud,

                Beth sy’n aros i ti felly: face reality.

  1. woman courier
  2. secretary
  3. priodi dyn y gelli di gael plant ganddo.

Ar gyfer rhif 3 mae gennyt amser o hyd.  Rwyt ti’n ofni colli dy ddelfryd.  Ond fe ddoi di o hyd eto i ‘dad i’th blant’.  Felly does dim rheswm dros gyffroi…

Er mwyn Duw, bydd yn annibynnol…

Dim ond ti dy hun all fyw dy fywyd dy hun![xv]

Gan ddilyn ysbryd Nietzsche, roedd Kate am ymwrthod â bywyd nad oedd yn cynnig cynnydd personol. Meddai Nietzsche,

Mae pob bod hyd yma wedi creu rhywbeth mwy na nhw’u hunain; ac ydych chi am fod yn drai’r llanw mawr hwn a hyd yn oed mynd yn ôl i’r bwystfilod yn hytrach na goresgyn dyn?  A beth yw’r epa i ddyn?  Testun gwawd neu gywilydd poenus. A hynny’n union fydd dyn i’r uwchddyn: testun gwawd neu gywilydd poenus.  Rydych chi wedi gwneud eich ffordd o fwydyn i ddyn, ac mae llawer ohonoch o hyd yn fwydyn.  Un tro roeddech chi’n epaod, a hyd yn oed yn awr, hefyd, mae dyn yn fwy o epa nag unrhyw epa.[xvi]

Adlewyrchu hyn mae Kate yn ei wneud mewn llythyr at Stanley, 10 Tachwedd 1938, pan mae eu perthynas yn dechrau edwino,

Dear me, what are we doing.  We follow our instincts like barbarians.  Instincts which are tyrranised by scores of conscious and unconscious prejudices.

And what could we do! Instead of fighting like schoolboys against each other.  How could we ‘exchange’ the traditions of our nations, how could we enjoy these fine and noble pleasures of music, nature, poetry, sports, handicrafts – yes I say so and I mean it – and relax from the mania which surrounds us.  We ought to remember and we must learn, even in the 12th hour, that lovemaking is an art not only of the body but of the mind.

Gan adlewyrchu ofn mawr Kate yn ei bywyd personol o golli ei hannibyniaeth ei hun wrth fynd yn wraig briod gonfensiynol, mae Megan, yn Anesmwyth Hoen, wrth ystyried priodi yn mynegi thema a drafododd Kate ymhellach yn Mae’r Galon wrth y Llyw:

Y foment honno teimlodd fin eithaf argyfwng tynghedus pob merch.  Beth bynnag a wnâi, byddai’n rhaid iddi aberthu rhan ohoni ei hun. I’w chyflawni ei hun, yr oedd angen y dyn a’i carai.  Ac eto, y dyn hwnnw oedd y perygl mwyaf i’w hannibyniaeth ysbryd.[xvii]

Ddechrau 1939 cyfarfu â’i darpar ŵr, J. Gwyn Griffiths, y myfyriwr Eifftoleg, yn Rhydychen.  Ar drothwy’r Ail Ryfel Byd, bu iddyn nhw briodi, a chychwyn eu cartref yn y Pentre, Rhondda.  Daeth eu cartref yn fuan yn fan cyfarfod cyfeillion Gwyn a’i deulu, gan gynnwys Pennar Davies, a fu yn y brifysgol yng Nghaerdydd gydag e, a Rhydwen Williams. 

A Kate bellach heb allu cysylltu â’i theulu yn yr Almaen, na gwybod beth oedd eu hynt, roedd y gymdeithas newydd hon yn y Rhondda’n rhoi modd i fyw iddi hi. Bu’n rhaid iddi ddysgu’r Gymraeg i ymdoddi i’r teulu, ond wrth wahodd y cyfeillion hyn i’w chartref, gallai ddatblygu ei diddordebau. 

Er bod modd tybio mai mynd yn ffoadur oedd y prif achos iddi fod mor barod i ymagweddu’n wrthrychol at ei sefyllfa newydd, a dadansoddi sefyllfaoedd a chymhellion pobl, mae hi ei hun yn awgrymu mai darllen Nietzsche barodd hyn yn y lle cyntaf:

Ond nid Cymru a’m rhwygodd am y tro cyntaf allan o sicrwydd fy nhraddodiad fy hun.  Efallai mai Nietzsche wnaeth hyn…

Ond hefyd amheuaeth am ddwyfoldeb y Gristionogaeth gul.[xviii]

Os oedd yn Kate yr awydd i amau pob dim, yn ôl ysbryd De omnibus dubitandum, byddai Nietzsche (1844-1900) yn cynnig ffordd wahanol o edrych ar fywyd, wrth iddo ymhyfrydu yng ngallu dyn, ac edmygu rhai a greodd werthoedd newydd yn ôl eu grym ewyllys eu hunain. Byddai’n gondemniol ar sawl agwedd ar Gristnogaeth ufudd a hunan-dosturiol, gan ryfeddu at y modd y byddai amheuaeth yn cael ei hystyried yn bechod.  Roedd ei ysgrifeniadau’n her i Gristnogion ei gyfnod, hyd at heddiw.

Yn y Rhondda, fodd bynnag, a’r capeli Cymraeg yn dal yn eu grym, bu raid i Kate ymateb i’w sefyllfa newydd. Roedd rhaid iddi geisio canfod ffordd ganol yng nghymdeithas Gymraeg y Rhondda rhwng daliadau di-ffydd a’r Gristnogaeth oedd yn ganolog i’w byd newydd. Gweinidog Capel Moreia, Pentre, oedd Robert Griffiths, tad J. Gwyn Griffiths, a daeth Kate yn aelod o’r capel.  Pan gychwynnodd Cylch Cadwgan, dôi Kate i drafod y berthynas rhwng Cristnogaeth a moesoldeb, crefyddau eraill, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a heddychiaeth.[xix]  

Maes o law daeth tri o aelodau’r cylch, Rhydwen Williams, D.R. Griffiths (brawd Gwyn) a Pennar Davies yn weinidogion, a J. Gwyn Griffiths a’i frawd Gwilym yn bregethwyr lleyg. Ymysg aelodau eraill roedd Gareth Alban Davies a John Hughes y cerddor. Roedd yma gynrychiolaeth deuluol gref, a’r aelwyd yn Cadwgan, St Stephen’s Avenue, yn groesawgar. Heb ddylanwad heriol Kate, mae’n amheus a fyddai’r Cylch hwn wedi cychwyn.

A hithau bellach yn perthyn i gymdeithas a’i mabwysiadodd, ond yn dal yn un o’r tu allan, roedd Kate yn ymgodymu â’i rôl ei hun yn ei byd newydd. Gwelai Gymru’n wlad o draddodiad ac roedd yn cydnabod ei bod yn haws iddi hi chwalu delwau traddodiad am nad oedd yn rhan ohono,

Ond os nad yw’r traddodiad yn cael ei aileni’n barhaus yn y meddwl, bydd yn dod yn faich fel celfi sydd wedi’u hetifeddu.  Fel rhywun sy’n dod i mewn i draddodiad newydd o’r tu allan, rwy’n llai clwm wrth y traddodiad ac felly mae’n haws i mi chwalu delwau… A hynny hefyd yn unig os ydw i’n uniaethu â Chymru.[xx]

Mae hunaniaeth o bwys yn hyn o beth.  Nid yw Kate yn mynd ati i amau’r traddodiad heb ei bod hi’n cydnabod bod ganddi ran ynddo.  Ond yn gyntaf bu’n rhaid iddi orfod ceisio deall pam y bu’n bosibl iddi fabwysiadu hunaniaeth Gymreig yn hytrach na Seisnig:

  1. Yr adlais uwch yn y byd llai.
  2. Hyd yn oed yr amherffeithrwydd. Ni fyddai gan fyd perffaith le i mi.
  3. Ac nid yn olaf dyfalbarhad ei hargyhoeddiadau, fel rhywbeth y mae dyn yn gallu gwthio’i hun i ffwrdd oddi wrtho i neidio’n dda. Mae’r teimlad o arwahanrwydd hefyd yn deimlad o fod yr hyn wyt, ond yr un pryd rwy’n chwalu fy nhraddodiad fy hun…

Fe brofais yn aml: anrhydedda’r hyn rwyt ti’n ei chwalu a chwala’r hyn rwyt ti wedi ei anrhydeddu.[xxi]

Ar ôl i aelodau’r cylch ymwahanu wrth ddilyn eu gwahanol yrfaoedd daeth nifer ohonynt yn awduron toreithiog. Kate, fodd bynnag, oedd y cyntaf i gael cydnabyddiaeth. Daeth  Anesmwyth Hoen yn fuddugol yng nghystadleuaeth Llyfrau’r Dryw yn 1941 ac yn 1942 roedd ei stori ‘Y Bennod Olaf’ yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda Kate Roberts yn beirniadu.

Merched yw prif gymeriadau’r ddau waith yma. Thema gyson yn ei gweithiau yw sut mae modd i ferched gael rhyddid i feddwl ac i weithredu’n annibynnol, gan lywio’u bywyd eu hunain.Mae’n bosibl bod Kate wedi’i dylanwadu gan fudiad ffeministaidd yr Almaen a oedd yn weithgar hyd at ran gyntaf yr ugeinfed ganrif, a hefyd erbyn adeg ei chyfnod addysg, roedd Cyfansoddiad Weimar 1919 wedi rhoi cydraddoldeb i ferched, gan roi arweiniad i weddill gwledydd Ewrop. Cafodd Kate, trwy ddylanwad ei thad, ganiatâd i gael ei haddysgu yn ysgol ramadeg y bechgyn yn Wittenberg, ac mae hyn yn gefndir i’r dymuniad a fynegir gan Megan yn Anesmwyth Hoen, ‘Hoffwn i ferched gael eu haddysgu yn y fath fodd a’u gwnâi’n alluog i feddwl drostynt eu hunain, fel yn amser matriarchaeth.’[xxii]

Nid yn gymaint ar gydraddoldeb a hawliau merched, serch hynny, roedd pwyslais Kate, ond yn hytrach ar yr angen i ferched feddu ar ryddid ysbryd a meddwl, ac i gydnabod eu natur eu hunain. Yn Mae’r Galon wrth y Llyw, meddir,  ‘Nid yw’r hawl i bleidleisio yn rhoi’r gallu iddynt [merched] i ddweud yr hyn a deimlant ar adegau pwysicaf eu bywyd.’

Mae gwrthdaro i’w weld yn Anesmwyth Hoen rhwng cefndir traddodiadol, Cymreig Megan a’r gymdeithas newydd a ddarganfu yn Llundain a Munich, gan gynnwys ymateb i’w dyheadau emosiynol. Mae’r nofel yn blethwaith o brofiadau Kate ei hun.

Thema arall yn stori ‘Y Bennod Olaf’, sydd i’w gweld yn sawl un o weithiau Kate, yw’r syniad o Dduw yn fam. Mae’r stori hon yn gorffen gydag anobaith Mair am fod duw mor greulon, ond cyn hyn mae Mair am i Dduw fod yn fam yn ogystal â thad, ac mae’n ei gyfarch yn ‘Dduw, Dad-a-mam’.  Byddai Kate wedi canfod y syniad o fam-dduw o grefydd yr hen Eifftiaid, fel sydd i’w weld yn ei cherdd i Hathor.[xxiii] Roedd natur wrywaidd Cristnogaeth, a oedd yn teyrnasu ar gymdeithas batriarchaidd, yn ofid i Kate. Mae hi’n datblygu’r syniad yma yn ‘Fy Chwaer Efa’.[xxiv] Yn y stori hon mae pedair chwaer ag iddynt enwau Beiblaidd, Efa, Martha, Mair a Magdalen, yn cyfarfod wedi i Efa golli plentyn (bu i Kate ei hun golli ei phlentyn cyntaf). Maent yn trafod y syniad o Dduw’n fam ac o ferch yn gwaredu merched, ar y sail na allai Iesu, ‘fel dyn dibriod, ddeall gwragedd yn iawn’.

Yn cydredeg â’r angen am roi i Dduw wedd fenywaidd, mae trafodaeth ar y gwahanol olwg ar serch sydd gan ddynion a merched, yng nghyd-destun priodas a’r hyn a welir yn foesoldeb mewn cymdeithas batriarchaidd.  

Yn ei dyddiadur mae Kate yn rhestru nodweddion sy’n haeddu eu hamau yng Nghymru, yn ei barn hi, gan gynnwys gwrywdod y dynion, caethiwed gwraig y tŷ i’w chartref, y gwyliau crefyddol gyda’u holl baraffernalia, ac ymwybyddiaeth dosbarth.  Gwna ddefnydd o hyn yn ei phrif nofel, Mae’r Galon wrth y Llyw, a ysgrifennwyd ganddi ar ôl iddi hi a’i theulu symud i Abertawe.

Yn y nofel hon mae Kate yn parhau’r drafodaeth Nietzschaidd am yr hyn yw da a drwg. Lleolwyd y nofel yn fwriadol yn y gymdeithas Gymraeg dosbarth canol, neu academaidd, gan roi cyfle i Kate i drafod dwy hoff thema iddi, serch o safbwynt merch a chyfyngiadau confensiynau cymdeithas, moesoldeb, traddodiad a chrefydd.  Efallai bod Kate yn tybio bod modd i gymeriadau dosbarth canol, gan gynnwys darlithwyr a meddygon yn yr achos hwn, drafod syniadau, neu ymateb iddynt, ond mae’n wir hefyd mai i’r dosbarth hwn roedd Kate yn perthyn, yn yr Almaen, yn Lloegr ac yng Nghymru.

Mae gwahanol gymeriadau’n cynnig safbwyntiau sy’n gwrthdaro, gan ysgogi trafodaeth ar rinwedd diogelwch o fewn moesoldeb neu ddewrder y tu allan i’w ffiniau. Teimla un cymeriad “nad oedd dim ffasiwn beth â phechod mewn gwirionedd, nad oedd yr un athronydd wedi profi bod moesoldeb yn ffaith”. Ceir awgrym bod bywydau’n cael eu hadeiladu ar sail twyll, a’i bod yn anodd gweld y gwahaniaeth rhwng crefydd ac ofergoel. Meddir am un o ferched y nofel hon,

… gwyddai ddigon am fywyd i sylweddoli nad yw moesoldeb yn fater syml o ddewis rhwng da a drwg.  Oherwydd credai hi na allai neb wneud daioni i’w gymydog heb fod yn euog o esgeuluso rhywun arall.[xxv]

Llinyn arall yn y nofel yw’r syniad o gariad meddiannol. Yn gynnar yn y nofel mae teimladau serch Siân, un o’r prif gymeriadau, yn cael eu herio.  Sut gall hi fod yn siŵr o’i chariad?  Mae hi’n credu bod rhaid iddo yntau gymryd y rhan arweiniol, ond yr awgrym yw ei bod yn fwy parod i ddioddef nag i dorri rheolau confensiwn. Mae Siân yn fodlon addoli ei chariad fel ‘fy Nuw eiddigus’, y gwrthwyneb yn union i deimladau’r awdur am yr angen i wraig beidio â cholli ei chymeriad mewn priodas. Meddir am Siân, ‘Roedd hi’n anhunanol yn ystyr gyfyngedig y gair: nid oedd ganddi hunan ar wahân i Arthur’.

Mae’r angen yma i addoli ei gŵr, a sicrhau fod ei ‘Duw’ yn ei meddiannu, a hithau yn ei thro yn ei feddiannu ef, yn arwain Siân at geisio cyflawni hunanladdiad. Mae tystiolaeth i fam Kate, a fu farw yn 1944 yn uffern gwersyll-garchar Ravensbrück,  geisio’i lladd ei hun, o bosib hyd at dair gwaith. Mae Arthur yn methu dianc rhag yr ymdrech hunanaberthol. ‘Yr oedd hi wedi ei brynu â’i hunan-aberth’, meddir gan adleisio syniad blaenllaw yn y ffydd Gristnogol. Yn y pen draw y mae’r cyfuniad rhwng awydd Siân i feddiannu ei gŵr a’i natur hunandosturiol yn arwain at droi ei gŵr yn gaethwas. Ai teimlad hunan-aberth mam yw’r teimlad sydd gan Siân? Dyna a deimla Arthur am ei chariad.  Meddir ‘Derbyniasai bopeth, serch hynny, fel y derbyniwn hunan-aberth mam, yn ddibetrus a heb ystyried.’  Does dim modd osgoi yma’r wybodaeth oedd gan Kate am hunan-aberth Eva, ei modryb, a’i lladdodd ei hun, mewn amgylchiadau tra gwahanol mae’n wir, fel bod ei phlant yn gallu cael eu derbyn yn Ariaid yn y drefn Natsïaidd.

Mae natur wahanol i’r ysfa sydd gan ddynion i feddiannu:

Pan fydd y gwŷr yn caru… maent bob amser am feddiannu… Pan fyddo’r gwŷr yn dysgu, maent yn dysgu Na wna. Ond pan fydd gwragedd yn caru, y mae caru iddynt yn gyfystyr â rhoddi… Ped addysgid gwragedd yn ôl gofynion eu gwir natur, byddai modd achub yr holl fyd.[xxvi]

Tua diwedd y nofel sonnir am y poen y gall yr ysfa i feddiannu ei achosi. Meddir, ‘Ond nid yw mor hawdd heddychu’r galon ddynol sydd am feddiannu calon arall.’

Mae’r drafodaeth ar serch yn ymestyn i gynnwys priodas a’r syniad o undod perffaith rhwng gŵr a gwraig a ddaw, wrth i’r nofel ddatblygu, yn brif thema.  Yn Anesmwyth Hoen mai Megan yn ystyried bod priodi yn ôl disgwyliadau cymdeithas yn frad. ‘Ei syniad hi oedd na ddylai neb briodi ond y Serch Mawr’. Credai y byddai, trwy ‘dynged’ yn canfod yr ‘hanner arall’. Yn yr un modd, mae Doris, yn Mae’r Galon wrth y Llyw, yn chwilio am y ‘Profiad Mawr’, heb fod yn annhebyg i awydd Emma yn Madame Bovary, Flaubert, i ganfod y garwriaeth berffaith. Wrth siarad gyda’i chwaer Gwenda, dywed Doris, yn eironig o gofio’i pherthynas ag Arthur, ond yn sicr  yn sgil hynny, ‘Rwy’n credu’n bendant mewn un gŵr yn unig.’ Dyw Gwenda  ddim yn credu mewn ‘undod perffaith’, gan fod rhaid i bawb ddatblygu’n barhaus, ac mae’n credu y gallai fod yn hapus gyda gwahanol wŷr, a chyhoeddi bod ynddi ‘straen bolygamaidd’.

Ceir gwrthbwynt i’r drafodaeth hon yn y sôn am le’r fenyw yn yr Aifft, ac ymysg Mohametaniaid.  Meddir mai cytundeb yw priodas iddynt, ac y gall y gŵr gamu o’r briodas heb ymyrraeth llys, ond nad oes gan wraig hawl i ysgaru. Sonnir am gaethiwed Eifftes sy’n cadw llen dros ei hwyneb pan fydd allan. Nodir sut mae Mohametaniaid ers mil o flynyddoedd wedi ystyried mai gwerth merch yw ‘O’,  h.y. nad oes ganddi werth heb ei gŵr.

Yn nyddiadur Kate, yn 1952, mae cofnod am berthynas cyfaill agos iddi hi a Gwyn, Abd el-Mohsen Bakir, a daw’n amlwg fod y trafod yn y nofel wedi’i seilio ar anghytuneb rhyngddo a’i wraig. Mae Kate yn ei ddyfynnu,

“ it is, in a way, a crime that a wife goes anywhere with anybody and remaining lateoutside… Of course, she can’t speak with a man on the street. People would talk – and if she did, she would have to tell me afterwards.”[xxvii]

Eir ymlaen i drafod posibilrwydd ysgariad,

“In the end she tried to enforce a divorce.  She went to the police and complained that I had beaten her – only very low women go to the police in Egypt.  The policeman came in to our house…  and the policeman gave me the advice, I ought to divorce her – that she was drawing me into shame – Mind, the husband has got the right  in Egypt to beat his wife…. It is terrible how a woman can spoil a man’s life and turn it upside down.”

Os yw Kate yn llym ei chondemniad o le’r fenyw ymysg y Mohametaniaid, nid yw’n rhoi cynnig cysur hunanfoddhad i’w chynulleidfa Gymreig. Wedi nodi bod “gan bob Moslem hawl i briodi pedair gwraig” mae Dewi, brawd Arthur, yn cynnig her i Gristnogion, “Efallai fod ein moesoldeb ni yr un mor ofergoelus yn eu golwg nhw, yr un mor chwerthinllyd.”  Geiriau gwawdlyd-eironig a roddir i’r offeiriad pan ddywed wedi marw plentyn, “cofiwch, fe alwyd y bachgen bach i’r nefoedd am fod Duw yn ei garu ef gymaint yn fwy nag y mae rhieni meidrol yn gallu caru eu plant meidrol”. Dilyn beirniadaeth Nietzsche a wneir pan gyfeirir at y modd y mae Cristnogion yn cryfhau wrth ystyried dioddef Crist, gan nodi sut cafodd “enaid Edna Davies ei gryfhau wrth ystyried doluriau Mari, fel pe bai hynny’n ffisig chwerw cryf.” Mae syniadau am dynged, ffawd a Duw’n disodli ei gilydd yn y gymdeithas gyfoes. Yn yr un ysbryd mae’r nofelydd yn ddilornus o natur arwynebol crefydd Dewi, brawd Arthur.  Fel y mae gan ddynion ‘hawl berchenogol’ ar wraig, mae moesoldeb crefyddol hefyd yn eiddo,

Yr oedd yn berchen tŷ, ac ar wahân i’r tŷ yr oedd ganddo siop a gwraig a phlentyn a moesoldeb Cristnogol.  Ond nid oedd y rhain yn agos ato ar y noson arbennig yma. Roedd y siop wedi cau.  Aethai’r wraig i’r pictiwrs.  Gorweddai’r plentyn yn y gwely, ac yr oedd ei foesoldeb Cristnogol wedi ymneilltuo i’r siwt ddu orau oherwydd nad oedd neb ond Arthur yn bresennol. (t. 15)

Fodd bynnag, ym mherson Ifor, a fu’n anffyddiwr ac sy’n dychwelyd i’w ardal yn weinidog, mae Kate yn cynnig posibilrwydd i Gristnogaeth fod yn berthnasol i’r gymdeithas. Bu i Ifor wrthod crefydd am “fod ein crefydd yn llawn o gelwydd a rhodres” ond mae’n cydnabod “fod angen mawr am grefydd yn nyfnder ein heneidiau”. Mae Ifor yn cynnig bod Duw yn fwy na chyfanswm profiadau pawb, a rhaid ei fod “yn y glöyn byw sy’n cofleidio’i gymhares â’i dentaclau” a hefyd “yn y dyn sy’n anwesu clun ei gariadferch.”[xxviii] Medd Ifor fod “cymdeithas sy’n anelu at bethau tragwyddol yn symud ymhellach na chymdeithas sy’n anelu at bethau materol yn unig” ac mai “daioni yw’r hyn sy’n eu helpu i ddod yn agos at y ffurf ddelfrydol”. Trwy ddilyn “arweiniad fy synhwyrau a’m meddwl” y daith Ifor i ddarganfod Duw. Er bod modd i bobl geisio dilyn rheolau, fel y Deg Gorchymyn, mae Ifor yn cydnabod bod angen i’r rheolau newid gydag amser. “Erbyn hyn,” medd Ifor, “mae fy meddwl wedi cynefino â’r ffordd Gristnogol, draddodiadol o fyw.”  Gall hyn gyfleu yr agosaf y daeth Kate i dderbyn y grefydd Gristnogol.

Yn ogystal â hyn, mae’n bosib iawn fod yma gyfeiriad at y modd y troes Pennar Davies, ar ôl dod yn ôl o fywyd bohemaidd Harvard, at Gristnogaeth.  Mae ei ddaliadau ef yn derbyn serch, natur a’r ysbryd yn un. Anelu at hyn mae ei emyn,

                Blodau, coed, cymylau, holl fwynderau natur,

                Meddwl, gwaith, celfyddyd a holl orchestion dyn;

                Bydded inni garu campau pob creadur,

                                Boed in addoli’r Crëwr llon ei hun.[xxix]

Yn ei hawydd i afael ar y ‘Cyfle Mawr’, ac i fynd ati i ddenu Arthur, mae Doris yn cynnig gwrthbwynt amlwg i Siân. Mae hi’n fodlon rhoi blaenoriaeth i’w greddfau, gan feiddio torri rheolau cymdeithas yr un pryd, trwy gael carwriaeth y tu allan i’w phriodas. Meddir am Doris, “Ei greddf gyntaf, naturiol oedd rhoi bywyd i blentyn arall.”  Mae’n dilyn y camau sydd o’i blaen i’w pen:  a hithau eisoes wedi cael tri o blant gan ei gŵr, mae hi’n cael dau o blant gan Arthur ac yn beichiogi eto.  Dyma her foesol fawr y nofel: a yw cariad dau yn drech na chonfensiynau a rheolau cymdeithas? Trafodwyd eisoes syniadau am serch a phriodas.  Mae hyn yn mynd gam ymhellach.

Felly y beiddiodd Doris dorri’r cwlwm a’i cysylltai â moesoldeb ei thad a’i heglwys a chymdeithas.  Gosododd ei hun y tu allan i derfynau ei chymdeithas; ond nid oedd yn ddigon cryf i gyfaddef yr hyn a wnaeth. Torrodd y tabŵ, ac ni allai ddioddef y dirmyg a’r gwawd y bydd cymdeithas yn ei gadw’n barod ar gyfer y rhai sy’n ei herio. (t. 173)

Roedd Doris eisoes wedi colli un plentyn yn dilyn damwain.  Roedd un arall yn dioddef o ddiabetes. Yng ngolygfa fwyaf dirdynnol y nofel, mewn cyfarfyddiad rhwng Doris, Arthur a’i wraig Siân,   penderfynodd roi un plentyn i Arthur i’w fagu. Mae un cam arall, Ibsenaidd, wrth i Doris ladd y plentyn yn ei chroth. Er bod Gwenda, wrth ymweld â’i chwaer a hithau’n marw, yn sylweddoli nad oedd prin “un o’r deg gorchymyn nad oedd wedi ei dorri” mae hi’n mentro dweud, “Rwyt ti’n un arbennig a rhyfedd iawn, Doris.  Cefaist dy lunio o’r un clai ag y bydd Duw yn ei gymryd i wneud Sant.”

Sut cafodd Kate hyd i sefyllfa o’r fath?  Fel gydag eraill o’r sefyllfaoedd yn y nofel, does dim rhaid chwilio yn bell.   Mae un olygfa’n nodi ofn plentyn o farwolaeth. Yn nyddiadur Kate, 1951, mae hi’n nodi sut roedd ei mab, Robert, yn wyth oed, yn ofni marwolaeth, a hithau’n sylweddoli ar ôl methiant i’w gysuro, na ddylai osod blinder oedolion ar blant.  Yn y nofel, medd Arthur, “Gall pethau sy’n iawn i’r rhieni fod yn farwol i’r plant… Mae… tipyn bach o  gelwydd yn angenrheidiol i’n cadw ni’n fyw, ni a’n plant.”

Mae hanes Doris, yn yr un modd, yn hanes teuluol. Roedd chwaer Kate, Dolly, wedi cael profiadau tebyg iddi, os nad yr olaf o’r rhain. Mae’r uchafbwynt hwn i’r nofel yn peri bod y nofel oll, er yn dilyn datblygiad syniadol Kate, hefyd yn gynnig ar ddeall ei chwaer. Meddir:

Mae hyn yn oed coleddu syniadau sy’n wahanol i’r hyn a gymeradwyir gan bobl eraill yn achos o ofn i ddyn. Ac os gweithreda, er gwaethaf hynny, yn groes i arfer ei gyd-ddynion, bydd yn eiddgar, fel rheol, i dwyllo pawb arall, a rhoi’r argraff ei fod yn cydymffurfio ym mhob dim.  Llwydda rhai i dwyllo eu hunain hefyd. (t. 164)

Sut oedd modd deall bod Dolly, ar ôl cael tri phlentyn, wedi troi at gariad i gael tri arall?  Mae’n debygol, yn achos Dolly, i’w charwriaeth â’i chariad cyntaf ddod i ben yn sgil diffyg cymeradwyaeth ei thad. Priododd Dolly ag un arall.  Cafodd un o’u plant ei ladd yn dilyn damwain â chyllell.  Roedd un arall yn dioddef o ddiabetes, fel yn y nofel. 

Meddai’r nofel am Doris, “Hwyrach iddi dderbyn ysgogiad arbennig gan y ffaith fod Rhyfel Byd arall yn cael ei fygwth. Ymddangosai yn wir fod diwedd y byd yn bosibl, neu o leiaf ddiwedd gwareiddiad.”  Mewn amgylchiadau o’r fath, ydy pobl yn meddwl am yr hyn sydd, neu a allai fod, yn bwysig iddynt i gyflawni eu hapusrwydd? Yn achos Dolly, daeth y rhyfel a’i argyfyngau personol ac emosiynol. Trodd at ei chariad cyntaf, yr ‘Hanner Arall’, a chael tri o blant, a rhoi un ohonynt, Roswitha, a fu farw’n ddiweddar, i’w chariad a’i wraig i’w magu. Mentrodd fyw yn erbyn rheolau cymdeithas, yn erbyn gorchymynion Cristnogol, er mwyn dilyn ei hysfa i afael yn y Cyfle Mawr, a phrofi’r Serch Mawr. Bu iddi fyw wedyn – hyd at ei henaint – yn rhannu tŷ gyda’i gŵr.

Mae modd gweld yng ngwaith Kate hadau ffeministiaeth[xxx]  ond nid yn yr ymdrechion i gael hawliau cyfartal y mae prif ddiddordeb Kate.  Mae ei phwyslais ar gydnabod grymoedd natur gwragedd, canfod sut y gall gwragedd fyw’n gyflawn yn unol â’u natur a’u doniau eu hunain, a deall effeithiau posibl hyn arnyn nhw’u hunain ac ar eraill. Mae gwyrdroi cymdeithas batriarchaidd a syniadau gwrywaidd am Dduw’n rhan o’r ateb.  Mae Mae’r Galon wrth y Llyw yn nofel o brofiadau personol, o ddaliadau personol, ac o awydd i godi cwestiynau heriol am serch a bywyd merched yng nghyd-destun confensiynau, traddodiadau a chrefydd y gymdeithas y cafodd y nofelydd ei hun ynddi.


[i] ‘Y Bennod Olaf’, Fy Chwaer Efa, Llyfrau Pawb, 19944, t. 60.

[ii] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate 1953/54, t. 87.

[iii] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 1953-54, t. 87.

[iv] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 1953/54, t. 83.

[v] Dyddiadur Kate, 1953/54, t. 137.

[vi] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, Dyddiadur Kate, 1953/54, t. 75.

[vii] Ibid.

[viii] Am hanes Kate a’i theulu adeg yr Ail Ryfel Byd, gweler fy llyfr, Yr Erlid, Y Lolfa, 2012. Mae gen i ysgrif amdani yn Taliesin, 102, Haf 1998, t. 100-109. Mae nodiadau pellach amdani gan J. Gwyn Griffiths yn Teithiau’r Meddwl, Y Lolfa, 2004. Mae trafodaeth ar ei gwaith a’i chefndir syniadol yn nhraethawd M.A. Dr Gwennan Higham, Dy bobl di fydd fy mhobl i, sydd wedi’i gyhoeddi yn Angermion, gol. R. Görner, Cyfrol V, Rhagfyr 2012, t. 161-190.  Mae gan Bethan Hicks draethawd M.A. ar ei gyrfa lenyddol (Astudiaeth o Yrfa Lenyddol Kate Bosse-Griffiths, Abertawe 2001). Cafwyd trafodaeth ar ei gwaith mewn darlith gan Dr. Marion Löffler, ‘Kate Bosse-Griffiths (1920-1998)’ yn 150 Jahre “Mabinogion” – Deutsch-walisische Kulturbeziehungen, gol. Maier ac eraill, Niemeyer, Tübingen, 2001. Mae gan Dr Löffler hefyd ddarlith, ‘Almaenes ynteu Gymraes?  Kate Bosse-Griffiths a Chymru’.  Ceir peth gwybodaeth am Gylch Cadwgan yn Yr Aradr, Rhifyn 7, Nadolig 1996, ‘J. Gwyn Griffiths yn ateb holiadur llenyddol Alun Jones’, t. 50-60.

[ix] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, cofnod dyddiadur 8 Mawrth 1923.

[x] Ibid.

[xi] Mae peth o hanes Willibald Borowietz, a ddaeth yn gadfridog ym myddin yr Almaen, i’w gael yn Yr Erlid, tt. 86-94.

[xii] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 1926, 31 Mawrth.

[xiii] Nid yw wedi ei chyhoeddi.

[xiv] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 31 Mawrth 1938.

[xv] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 4 Ebrill 1938.

[xvi] Cyfieithwyd o ran 3 Prolog Also Sprach Zarathustra, Friedrich Nietzsche, gol. Michael Holzinger, Berlin 2013.

[xvii] Anesmwyth Hoen, Llyfrau’r Dryw, Llandybie, 1941, t. 78.

[xviii] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 15 Mai 1954.

[xix] Ysgrifennodd Kate ysgrif, ‘Nietzsche a’r Natsïaid’, Heddiw, 11-2, 1940, t. 139-41; ‘Doethion o’r Dwyrain, II: Lao-Tse’ yn Seren Gomer, 05.1942, t. 74-7; ‘Lenin’, Seren Cymru, 18 Gorffennaf 1941. Cyhoeddwyd ei phamffled Mudiadau Heddwch yn yr Almaen yn ail gyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru, 7, Gwasg Gee, Dinbych, 1943. Yn yr un cyfnod cyhoeddodd erthyglau ar Ernst Toller, Seren Cymru 11 Hydref 1940, Henri Bergson, Seren Cymru, 16 Mai 1941, a Rilke, The Listener, 7 Ionawr 1943.

[xx] Cyfieithwyd o’r Almaeneg, dyddiadur Kate, 15 Mai 1954.

[xxi] Idem.

[xxii] Anesmwyth Hoen, t. 42.

[xxiii] ‘I Hathor: Gweddi Merch’, Fy Chwaer Efa, t. 7, sydd â’r pennill agoriadol:

Hathor, patrwm yr holl wragedd, / O erglyw, fuwch-dduwies fawr! / Llawn o faeth a llawn o gryfder, / F’unig eilun wyt yn awr.

[xxiv] ‘Fy Chwaer Efa’, Fy Chwaer Efa, tt. 9-34.

[xxv] Mae’r Galon wrth y Llyw, t. 51.

[xxvi] Ibid., t. 27.

[xxvii] Dyddiadur Kate, 27.7.1952.

[xxviii] Byddai Kate yn ymwybodol o gerddi serch Goethe yn Rhufain, y ‘Römische Elegien’, lle, yng ngherdd V, disgrifia’i hun a’i gariad,

Und belehr’ ich mich nicht, wenn ich des lieblichen Busens
                   Formen spähe, die Hand leite die Hüften hinab.

[Ac oni ddysgaf, pan wyliaf ffurf ei bronnau hardd, a’m llaw yn arwain i lawr ei chluniau]

[xxix] Emyn 123, Caneuon Ffydd, 2001.

[xxx] Gweler ysgrif Dr Gwennan Higham (nodyn viii uchod) a Katie Gramich, Twentieth Century Women’s Writing in Wales, land, gender, belonging, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2007.