Ymson Iddew o Gymro

Fy ffrind, rho i’m wellhad o’r hen gyflwr hwn

– Pam wyt ti’n gweddïo’n hunanol, ni wn?

Wel, am gael blynyddoedd o wneud mwy o waith

– Ond cest ddigon yn barod o’r ddaearol daith.

Mae cymaint o hyd gen innau i’w roi

– Ond mae eraill yn aros ac mae’r byd yn troi.

Rwy’n arwain sawl mudiad ac mae gen i waith

– Efallai na fuest mor llwyddiannus chwaith.

Wel, rho im flynyddoedd i wybod y Drefn.

– Ble buost ti, felly, gyhyd ar dy gefn?

Rwy am werthfawrogi y pethau o bwys

– A dim ond yn awr rwyt ti’n meddwl yn ddwys?

Mae gen i neges am gariad a ffydd

– Fe fuost yn wamal am hyn yn dy ddydd.

Rwy’n derbyn yn llwyr na fûm i yn sant

– Pa gof fydd amdanat ym meddwl dy blant?

Oes gennyt un cyngor i mi ar fy rhawd?

– Ymlacia ac ildia, a derbyn dy ffawd.