Yr Uplands ac Addysg Gymraeg

Sgwrs Glais  10 9 2018

Yr Uplands ac addysg Gymraeg

Diolch am y gwahoddiad atoch chi heno.  Mae pobol go enwog wedi bod yn y Glais – Niclas Glais, Twm Glais…  ond mae’r Glais wedi newid llawer ers eu dyddiau nhw.

Yn eu dyddiau nhw byddai’r capeli yma o dan eu sang, byddai’r rhan fwyaf o’r pentre’n siarad Cymraeg, ond yr hyn sydd yma heddiw yw pentre Saesneg, ysgol Saesneg, ac a oes yma gapel?

Paul A’r Glais

Tybed faint ohonoch chi, fodd bynnag, sy’n gwybod bod Paul wedi bod i’r Glais?  Mae’r stori wedi’i hadrodd gan Samlet Williams yn ei lyfr cyfoethog, Hanes a Hynafiaethau Llansamlet (1908):

Tua’r flwyddyn 56, pan oedd Caradoc a’i berthynasau wedi eu cymeryd yn garcharorion i Rufain, daeth yr Apostol Paul yno, ac enillwyd i’r ffydd Bran, Caradoc, ac ereill o’r teulu brenhinol Cymreig.  Priododd Gwladys, neu Claudia, merch Caradog, ag un o’r enw Ruffus Pudens, yr hwn a fernir oedd un o’r 70 disgyblion gawsant awdurdod gan yr Iesu i fyned i bregethu.  Dychwelodd Bran, Caradoc, a’r gweddill o’r teulu brenhinol i Gymru, gyda Ruffus Pudens, gwr Gwladys, Aristobulus, Illtyd a Cyndaf.  O’r cyfnod hwnw y brenir i Gristionogaeth Paul gael ei sefydlu ym Mhrydain, a bernir i Paul ddyfod i’r parthau hyn tua’r flwyddyn 60… Bernir mai cyfeiriad atynt sydd gan yr Apostol Paul yn 2 Timotheus iv, 21.  Barna traddoddiad fod rhai o’r teulu brenhinol hwn wedi eu daearu wrth y Gareg Bica.

A dyma’r adnod:

Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf.  Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Claudia, a’r brodyr oll, yn dy gyfarch.

Yr Uplands

Ond fe ddechreua i gydag ychydig o’m stori i.  Diolch byth, ddweda i, am Ysgol Lôn-las.  Heb yr ysgol honno, byddai fy stori i’n eitha gwahanol. 

Un o’r Uplands, Abertawe ydw i.  Go brin mod i’n gallu ymhyfrydu, fel DJ Williams, mewn milltir sgwâr. Byw mewn fflat deulawr, y llawr cyntaf a’r ail ron ni.  Un o’n hobïau ni oedd mynd ar y landin a gwrando ar y pâr oedd yn byw oddi tanon ni’n diawlo’i gilydd.

Mae’n dda, falle, nad oedd llawer o Saesneg ‘da fi. Nes mod i’n saith, dim. A hyd yn oed heddiw, dw i ddim yn effeithiol iawn wrth siarad Saesneg.  Pan siarades i’n ddiweddar ar yr un pwnc yng nghymdeithas hanes y Bont – yn Saesneg, ac yna ym Merched y Wawr y Bont – yn Gymraeg, dyma un wraig yn dod ata i ar ôl cyfarfod Merched y Wawr gan ddweud ‘ry’ch chi lawer gwell yn Gymraeg’.

Beth bynnag, a minnau tua 7 oed, dyma fy rhieni’n fy hala i siopa yn yr Uplands, i siop yr Home and Colonial oedd rownd y gornel.  Bag yn fy llaw, llyfr dognau yn y bag, a minnau wedi dysgu brawddeg o Saesneg i ofyn am wyau a menyn. Do’dd dim syniad ‘da fi mewn gwirionedd sut oedd dweud y frawddeg yn iawn, ond fe lwyddes i gyrraedd adre gyda’r nwyddau.

Llwynbrwydrau

Ond diolch am Lôn-las, oedd mewn gwirionedd yn Llwynbrwydrau. Dyma un o bentrefi coll Cymru.  Cafodd y rhan fwyaf ohono ei chwalu pan godon nhw’r M4 yn yr 80au a’r 90au ac fe fu codi ystâd o dai yn yr ardal yn gyfrifol am ei ladd yn ieithyddol.

Dyma ddisgrifiad Samlet Williams o’r pentre yn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Morgannwg (1916):

Cynhwysai yr hen bentref hwn, yn y dyddiau gynt, rhyw ddwsin o anedd-dai to gwellt, gyda un neu ddau anedd-dy to cerrig… Codwyd teuluoedd lluosog yn yr anedd-dai hyn, yn hardd eu gwedd a’u moesau.

Un o feibion mwyaf amlwg y pentref, mae’n siŵr, oedd y Dr John Lewis, fu farw’n ddiweddar.  Gwyddonydd oedd e, yn bennaeth ar adran gemeg, gwaith atomig Harwell, ger Abingdon. Ar ôl ymddeol symudodd yn ôl i’r tŷ yn Llwynbrwydrau lle cafodd ei eni, a daeth yn ysgrifennydd Ebeneser, Llwynbrwydrau, gan ddilyn ei dad a’i dad-cu.  Cafodd y tŷ cwrdd yn Llwynbrwydrau ei godi yn 1834

Mae Samlet Williams yn tybio bod brwydrau wedi digwydd yma, a hyn yn cael ei gysylltu ag enwau eraill heb fod yn bell, sef Coedsaeson, Coedffrangc, a Chefnyresgyrn.

Ond yn Lôn-las fues i, a dechrau dysgu Saesneg yn 7 oed.  Rwy’n cofio posteri mawr ar y wal, a llun ‘cat’ a ‘mat’ arnyn nhw. Er mod i’n dod o’r Uplands, a’r Saesneg yn iaith pob man,  trwy gael bywyd Cymraeg yn y teulu, a hefyd gyda rhai teuluoedd Cymraeg yn byw yn yr un stryd, ces i ffrindiau Cymraeg hefyd, ac felly roedd rhaid dysgu Saesneg o’r cychwyn.

Esgob Gore

Ymlaen wedyn i Ysgol Esgob Gore, a rhyw dri yn unig ohonon ni o Lôn-las yn canfod ein hunain ymysg rhyw gant a hanner o blant di-Gymraeg.  Roedd yno ambell athro gwâr, a’r athro Saesneg, Alun Rees, yn caniatáu imi ysgrifennu traethawd Cymraeg.

Roderick Evans

Cawson ni’n rhoi mewn dosbarth o blant mwy Cymreig na’r gweddill, bechgyn o Dreforys a Llansamlet. A’r gwersi Cymraeg – wel eistedd yn y cefn fydden ni, tra byddai’r gweddill yn cael eu gwersi elfennol yn yr iaith. Un o’r bechgyn eraill hyn oedd Roderick Evans o Dreforys, a ddaeth wedyn yn farnwr.  Er bod peth Cymraeg yn ei deulu, doedd dim llawer ganddo fe.  Fe benderfynodd, tua’r drydedd flwyddyn, ei fod wedi dod i weld na fyddai fe bydd yn dysgu siarad Cymraeg trwy’r gwersi.  A fe ofynnodd i mi beidio â siarad Saesneg ag e byth eto, a dw i ddim wedi gwneud hyd heddiw.  Mae’n debyg taw fe oedd fy nisgybl cyntaf, a minnau ond yn rhyw bedair ar ddeg oed.

Daeth Roderick yn gwbl rugl, ac mae ganddo fe a’i wraig ryw un ar ddeg o wyrion, a’r cyfan mewn ysgolion Cymraeg ac yn siarad yr iaith.  Bu dylanwad Roderick hefyd ar ei ddwy chwaer, a rhyngddyn nhw mae rhyw ddeunaw o siaradwyr Cymraeg newydd.

Dosbarth Cymreig, ond…

Yr hyn oedd yn braf yn Esgob Gore oedd bod y dosbarth Cymreig o fechgyn, yn teimlo rywsut, eu bod yn Gymry, a heb fod yn perthyn yn llwyr i Seisnigrwydd yr ysgol ramadeg, oedd yn cael ei rhedeg fel ysgol fonedd.

Roedd agwedd rhai o’r athrawon at y Gymraeg yn ddigon diflas.  Rwy’n cofio bod yn y dosbarth uchaf ar gyfer mathemateg.  Cawson ni, yn wahanol i bawb arall, gyfle i astudio mathemateg ychwanegol, dy by dx a phethau fel’na.  Efallai imi wneud y niffyg diddordeb yn rhy amlwg, “go back to the back of the class and write poetry” oedd y gorchymyn ges i. 

Ond mwy diflas eto oedd ebychiad yr athro wrth Meirion Thomas, o Glydach, oedd yn yr un dosbarth: “you little Welsh runt from the valleys” oedd un o’r sylwadau gafodd e gan hwnnw.

Deiseb

Saesneg oedd iaith popeth, wrth gwrs, y gwasanaethau, ac unrhyw berfformiadau.  Wn i ddim o ble y daeth y syniad gennym y dylai fod gwasanaeth boreol Cymraeg yn yr ysgol. Doedd yr emynau Seisnig a’r darlleniadau o’r Beibl Saesneg ddim yn apelio.  A fwy na hynny, doedd y pennaeth, Ellis Lloyd, ddim yn dangos unrhyw gydymdeimlad â’r iaith, er ei fod yn dod o deulu Cymraeg. Fe aethon ni ati, felly, i gasglu deiseb gan y disgyblion yn gofyn am wasanaeth Cymraeg. 

Rwy’n cofio mynd o flaen y pennaeth, i’w ystafell, ymysg rhes o fechgyn a fyddai wedi troseddu, ac yn aros am eu cosb.  Ron i ar adegau eraill wedi bod ymysg y troseddwyr, a derbyn cansen y pennaeth. Unwaith am gasglu concers ar dir yr ysgol.  Dro arall am wisgo beret yn lle cap coch yr ysgol.  Plygu i gyffwrdd â’ch traed a chael tair cansen ar eich pen-ôl.  Addysg?

Wel digon o addysg i fod yn wrthryfelwr, mae’n debyg.  Cyflwynais y ddeiseb i’r pennaeth a dweud bod cais gan y bechgyn am gael gwasanaeth boreol Cymraeg unwaith yr wythnos. Wel os do fe.  Ymfflamychodd hwnnw, ac ymosod arna i gyda’i ddyrnau, ar draws fy mhen yn bennaf.  Byddai fe yn y carchar heddiw am wneud hynny, mae’n debyg.

Beth bynnag am hynny, ymhen ychydig, dyma fe’n ildio.  Fe gawson ni wasanaeth Cymraeg wythnosol – bob bore Gwener, mewn darlithfa oedd yn dal rhyw gant a hanner, ar wahân i weddill yr ysgol.  Yn yr ystafell honno y cynhaliwyd y cyfarfod yn ystod eisteddfod Abertawe 1982 i sefydlu Tŷ Tawe.  A hyn oedd yn wych: roedd y ddarlithfa’n llawn bob bore Gwener.  Dim ond rhyw ugain o fechgyn trwy’r ysgol oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond byddai cant a hanner o fechgyn wrth eu bodd yn osgoi gwasanaethau’r pennaeth yn y brif neuadd.

John Morgan Williams, yr athro Cymraeg, oedd yn cynnal y gwasanaethau hyn.  Yn ystod y flwyddyn ar ôl i mi adael yr ysgol, bu farw Ellis Lloyd ar Fawrth 31.  Y bore nesaf, gwaith John Morgan Williams, is-brifathro’r ysgol, oedd cyhoeddi hyn i bawb yn y gwasanaeth boreol.  Chwarddodd pawb, a neb yn ei gredu.

Ymhen tipyn rhoddwyd gwobr i ddisgyblion er cof am Ellis Lloyd.  Rhoddid y wobr i’r bachgen oedd orau am ddarllen yn y Gymraeg yn y  ngwasanaeth boreol.

Yr Urdd

Rwy’n cofio trio manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg.  Ces i ganiatâd gan yr athro hanes, Daniel Rhydderch, i ysgrifennu traethodau Cymraeg am hanes Cymru, ac roedd modd imi felly ateb 5 o gwestiynau papur hanes Lefel O yn Gymraeg.  Ond fel arall, Saesneg oedd y cyfan.

Ers fy nyddiau yn Lôn-las, ac yn Esgob Gore, yn y môr Saesneg oedd yn amgylchu dyn, noddfa braf oedd cael mynd i wersylloedd yr Urdd yn Llangrannog, ac yna Glanllyn, lle roedd dyn yn cael bod yn normal, yn cael bod yn rhan o fywyd cymdeithasol ac adloniannol Cymraeg naturiol.  Ro’n i’n cyfri’r dyddiau cyn wythnosau’r gwersylloedd, ac yn hiraethu blwyddyn am gael mynd eto.

Aberystwyth

Mor braf felly oedd dyddiau coleg yn Aberystwyth.  Roedd cael bod yn rhan o gwmni eang o gyfeillion Cymraeg yn nirfana.  Un ohonyn nhw oedd Amlyn, mab y Parch Jacob Davies.  Ron i wedi dod i’w nabod mewn cwrs Cymraeg yn y Cilgwyn, Castell-newydd-emlyn, a ninnau’n dau’n edrych ymlaen at rannu bywyd coleg gyda’n gilydd. Roedd e’n undodwr brwd, a des i rannu ei syniadau.   Doedd e ddim yn gwybod, y pryd hwnnw, y byddai’n fuan yn dioddef o glefyd ar ei arennau, na pha mor derfynol y byddai hynny iddo.  Byddwn yn cael lifft ‘da fe o Alltyblaca i Aberystwyth yn ei gar bach, a’i dad yn gwybod, erbyn meddwl, na fyddai fe’n hir yn y coleg.  Dyna oedd fy nghyfarfyddiad poenus cyntaf ag angau.

Cryfder bywyd yn Aberystwyth oedd profi i rywun fel fei bod digon ohonon ni a bod digon i’w wneud dros Gymru a’r iaith.  Roedd rhai fel Emyr Llew yn barod wedi bod yn y carchar yn sgil codi argae Tryweryn.  Cafodd bws ei drefnu o’r coleg i fynd i agoriad y llyn yn 1965, a bues i ac ambell un arall yn ddigon ffôl i daflu ein hunain o flaen car Maer Lerpwl.  Diolch bod y gyrrwr yn deall ei frêcs.

Roedd Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi cychwyn, ac rwy’n cofio, pan ges i fenthyg car fy rhieni, imi aros wrth bob arwydd ffordd o Abertawe i Aberystwyth i beintio dros Saesneg yr arwyddion.  Wn i ddim pam gwnaeth yr heddlu fy nrwgdybio.  Daethon nhw i’r fflat i holi.  Efallai mai caredig oedden nhw – wnaethon nhw ddim edrych yn y bin i ganfod y tun paent a’r brwsh.

Yr Arwisgo A Neuadd Gymraeg

Roedd dau fater arall wedi codi yn Aberystwyth ar y pryd.  Un oedd Arwisgo 1969, a’r tywysog yn dod i Aberystwyth i gael gwersi Cymraeg.  Ro’n i’n gyfrifol am Lais y Lli, papur Cymraeg y myfyrwyr, ac fe gynhwyson ni ddarn digon dilornus am y tywysog.  Cael ein tynnu o flaen y pennaeth – Tom Parry – oedd ein ffawd, a hwnnw’n bygwth pob math o bethau.

Ces i fy nhynnu eto o flaen Tom Parry.  Y tro hwn, roedd galwad gan y myfywyr am gael neuadd Gymraeg.  Fel golygydd Llais y Lli trefnais ddeiseb, i gael myfyrwyr i ddweud eu bod am fod mewn neuadd Gymraeg, ac i ddangos bod digon o alw am y fath le.  Y tro hwn dyma Tom Parry yn edliw i ni ein bod am greu ghetto Cymraeg.  Roedd hi’n ddyddiau o ehangu sydyn ar y brifysgol, fel prifysgolion eraill Cymru, a byddai’r siaradwyr Cymraeg, a oedd wedi bod yn rhan sylweddol o’r coleg mewn dyddiau gwell, yn cael eu boddi oni bai bod neuadd Gymraeg yn rhoi cyfle i’r Gymraeg ffynnu.

Wel, mae blynyddoedd lawer ers hynny i gyd.  Mae’r frwydr am neuadd Gymraeg yn parhau yn Aberystwyth, hanner can mlynedd yn ddiweddarach.  Mae’n rhyfedd meddwl bod llawer o’r pethau roedden ni’n ymladd amdanyn nhw’r pryd hwnnw wedi cael eu gwireddu.  Mae pob arwydd ffordd yn ddwyieithog, mae Cymru wedi cael ei senedd ei hun, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg mewn addysg uwch, ac wrth gwrs, mae yng Nghymru erbyn hyn rhyw 400 a mwy o ysgolion Cymraeg.  Ond ry’n ni’n gwybod, nid ar chware bach mae’r cyfan yma wedi’i ennill.

Dechrau Lon-Las

Mae hyn yn dod â ni’n ôl at Lôn-las. Cafodd Ysgol Lôn-las ei chychwyn yn 1949, rhyw dymor ar ôl i mrawd i orfod dechrau yn yr ysgol, yn Ysgol Saesneg Brynmill.  Doedd e ddim yn deall gair o Saesneg y pryd hwnnw – a dyma fe’n bump oed yn cael ei daflu i’r ysgol lle roedd pawb ond fe’n siarad Saesneg.  Diolch am hynny, daeth ysgol Lôn-las i agor, ac fe newidiodd ei fyd.

Sut dechreuodd Ysgol Lôn-las?  Nid trwy haelioni’r Sir.  Roedd llawer wedi bod yn ymgyrchu, neb yn llai na’r Parch Trebor Lloyd Evans.  Cafodd help Ifan ab Owen Edwards, ac roedd y Cynghorydd Iorwerth Gwent  a’i frawd Gwent, Wallis Evans ac eraill yn dadlau o blaid sefydlu’r ysgol a cyn trefnu’r ymgyrch. Roedd gan eglwysi Treforys ran flaenllaw yn hyn.

Cafodd Lôn-las gychwyn fel arbrawf.  Diolch i’r drefn, fe lwyddodd. Ond nid heb lawer o wrthwynebiad gan gynghorwyr o Gymry. 

Y pryd hwnnw doedd 14 o 87 ysgol gynradd Abertawe ddim yn dysgu’r Gymraeg o gwbl.  Yn y gweddill, gwers neu ddwy yr wythnos oedd yr arlwy. O dan bwysau rhieni, a Chyngor yr Eglwysi Rhyddion yn Nhreforys, yn dilyn pasio deddf addysg 1944, dyma’r Fwrdeistref yn cynnig sefydlu ysgol Gymraeg yn Lôn-las.  Cylchlythyron nhw rieni 7000 o blant rhwng 5 ac 8 oed, a chael mai 231 o blant oedd am fynychu’r ysgol newydd. Dyma’r Fwrdeistref felly’n penderfynu rhoi’r gorau i’r syniad.

Ond dyma’r rhieni’n pwyso am sefydlu’r ysgol, yn Nhreforys, pe bai modd. Ildiodd y dref pan gynigiodd yr Urdd dalu hyd at £500 tuag at gostau cludo plant i’r ysgol ac yn y pen draw agorodd yr ysgol ym mis Medi 1949, a chyn pen dim roedd dros 70 o blant yn yr ysgol.

Cwmbwrla

Beth am weddill y dref?  Mae saga hir tu ôl i sefydlu Ysgol Cwmbwrla.  Dechreuodd rhieni gorllewin Abertawe  eu hysgol eu hunain yn y Cocyd.  Rhodd y Sir le i’r rhain wedyn yn Heol y Gors, cyn rhoi Ysgol Cwmbwrla i’r plant.  Erbyn 1951 roedd galwadau am ail ysgol, y naill gan arolygydd ysgolion, Raymond Edwards – brawd John Edwards y trefnydd angladdau, a’r llall gan Gwent Jones o Sgeti. Erbyn Rhagfyr 1953 cychwynnodd y rhieni eu hunain ysgol feithrin yn Festri Bethel, yn y Cocyd. Roedd athrawesau gwirfoddol yn helpu, gan gynnwys Mrs Julia Jones, Mrs Wynne Griffiths, Mrs Gwladwen Jones a Mrs Mari Davies. Y rhieni eu hunain oedd yn trefnu mynd â’r plant.

Bu’n rhaid i Abertawe gydnabod yr ymdrechion, a chafodd y plant le yn Ysgol y Gors ac yna Ysgol Cadle cyn symud yn 1958 i Gwmbwrla. Daeth yr ysgol yn llawn, a dyma un o benderfyniadau anffodus Abertawe.  Yn lle cadw Cwmbwrla a chael ysgol arall,  penderfynodd y dref symud yr ysgol i Ysgol Brynmill erbyn 1971.  Fel mae cynghorau’n gweithio, daeth yn 1976 erbyn i’r ysgol symud i Brynmill, a’i galw’n Ysgol Bryn-y-môr.  Dyma’r union adeilad lle cafodd fy mrawd ei brofiad cyntaf o addysg Saesneg.  Gwendid y penderfyniad yw bod ardal gymharol Gymraeg Cwmbwrla wedi’i gadael heb ysgol Gymraeg, ac mae hyn wedi bod yn destun ymgyrchu tan eleni.

Ynystawe

Mae modd sôn am ymgyrchoedd eraill.  Roedd un yn ymwneud â sefydlu dosbarth meithrin yn Ynystawe, mewn cyswllt ag Ysgol Lôn-las.  Roedd Ysgol Ynystawe wedi bod yn cynnal dosbarthiadau meithrin Cymraeg, ond byddai’r plant yn mynd ymlaen wedyn i’r dosbarthiadau Saesneg yn yr ysgol. Cafodd dosbarth ei sefydlu yn 1961.  Ond erbyn 1973 dyma agweddau’n newid, a phennaeth Ysgol Ynystawe gwneud ei gorau i gael plant i fynychu’r dosbarth Saesneg yn lle’r un Cymraeg. Byddai’n gwrthod plant os nad oedd eu rhieni’n siarad Cymraeg.  Gall Pam John, gwraig David Gwyn, adrodd am yr anawsterau gafodd hi yno. Yna dim ond am fore y cafodd y plant fynychu’r dosbarth meithrin Cymraeg.  Aeth y rhieni ati i brotestio y tu allan i’r ysgol. Ymhen ychydig cafodd y dosbarth meithrin ei symud i Ysgol Heol Nedd, ac yna erbyn 1978, ei symud i dir ger Ysgol Lôn-las.

John Beale

Sut bu i bethau ddatblygu yn Abertawe?  Roedd un newid mewn llywodraeth leol wedi achosi i ddyn feddwl y byddai pethau’n gwella.  Yn 1974 cafodd Cyngor Abertawe ei ddileu, a chafodd Cyngor Gorllewin Morgannwg ei sefydlu.  Dyma gyfle am symud cyflym, heb y rhagfarnau oedd yn Abertawe.  Ond wrth gwrs, doedden ni ddim wedi meddwl mai John Beale fyddai’r cyfarwyddwr addysg.

Roedd e’n barod wedi gwneud ei waethaf dros addysg Gymraeg ym Merthyr.  A dyma fe’n awr yn ein tiriogaeth ni. 

1977 cychwyn ymgyrch

Erbyn hyn roedd plant Abertawe’n teithio hyd at 25 milltir i gael eu haddysg uwchradd yn Ystalyfera.  Yn 1977 anfonodd Dr John Davies, a oedd yn gadeirydd rhieni Bryn-y-môr,  at Mr Beale yn nodi rhesymau dros gael ysgol gyfun Gymraeg yn Abertawe.  Cafodd gefnogaeth y Bargyfreithiwr, T. Glanville Jones, a sefydlon nhw bwyllgor ymgyrchu. Pwy fyddai’n credu bod John Beale, yn ei ymateb cyntaf wedi dweud y byddai’n gorfod ystyried cychwyn ysgol uwchradd arall yn fuan. Ond cadno oedd e.

Ffrangeg yn uwch na’r Gymraeg

Erbyn Tachwedd 1977 lluniodd adran addysg Gorllewin Morgannwg gynllun iaith a fyddai’n rhoi lle uwch i’r Ffrangeg nag i’r Gymraeg. Yn y cynllun hwn, dim ond mewn un ganolfan chweched dosbarth ac mewn dwy ysgol uwchradd y byddai’r Gymraeg yn gael ei dysgu hyd at Lefel A.

Llwyn-y-bryn yna Sandrields

Aeth John Davies, Glanville Jones a Randolph Jenkins i drafod sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe. Meddai Mr Beale wrth y rhieni ei fod yn ystyried Ysgol Llwyn-y-bryn yn yr Uplands yn ysgol Gymraeg, ond yn y Pwyllgor Addysg, 21ain o Dachwedd 1978, dyma fe’n cynnig ysgol ganol Ysgol Gyun y Sandfields, Port Talbot, lle roedd nifer y disgyblion wedi syrthio o 1900 i 1200 mewn cyfnod hyr. Oedd rhai gwaeth na John Beale, wrth gwrs. Meddai Paul Valerio, cynghorydd gyda’r Blaid Doriaidd, bod y syniad o gychwyn ail ysgol ddwyieithog yn un ffiaidd.  Yn yr un cyfarfod pasiodd y Pwyllgor Addysg y gallai’r Eglwys yng Nghymru agor ysgol 11-16 oed yn Llwyn-y-bryn.

Deallodd y rhieni bod Mr Beale yn feistr ar eiriau teg. Llanwyd Neuadd Llywelyn, y YMCA Abertawe, ym mis Ebrill 1976, gan gyfarfod i wrthwynebu cynnig y Sandfields. Erbyn mis Awst 1979 roedd y Pwyllgor Addysg wedi tynnu’r cynnig am Ysgol y Sandfields yn ôl, a gofyn i Mr Beale gychwyn yr ysgol yn Llwynybryn, yn adeilad dros dro tan fis Gorffennaf 1984.

Unedau Cymraeg

Pan ddaeth adroddiad John Beale ar y cynllun yma, dyma fe’n tynnu sgyfarnog arall o’i het. Meddai nad oedd modd cael safle parhaol i ysgol Gymraeg, felly byddai’n ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu unedau Cymraeg yn glwm wrth ysgolion Saesneg.

Ymatebodd rhieni’n chwyrn, a chafwyd gorymdaith o dros fil o Ysgol Llwyn-y-Bryn i Neuadd y Sir ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Erbyn mis Ionawr 1980 daeth cynnig arall gan Mr Beale.  Roedd ganddo bedwar cynnig y tro yma:

  1. Ehangu Ysgol Ystalyfera trwy gael cangen o’r ysgol yn Llwyn-y-bryn
  2. Sefydlu unedau Cymraeg mewn ysgolion Saesneg
  3. Sefydlu’r ysgol ar hanner safle ysgol y Sandfields
  4. Newid ysgol a oedd yn cael ei hadeiladu ym Mhontarddulais i fod yn ysgol Gymraeg.

Pontarddulais

Wrth gwrs, dyma awr dywyll yn hanes y Bont.  Cafwyd protestiadau croch gan rieni addysg Saesneg y bont.  Gorymdeithion nhw gyda sloganau gwrth-Gymraeg, a chasglu deiseb o 4,000 o enwau.

Cafwyd cyfarfodydd stormus o’r pwyllgor addysg.  Gwrthodwyd cynnig Aled Gwyn y dylid sefydlu’r ysgol Gymraeg yn Llwyn-y-bryn.  Gwrthodwyd hefyd gynnig Paul Valerio, gyda chefnogaeth Dr Danino, Treforys, yn erbyn ystyried sefydlu ail ysgol.  Pleidleisiwyd gyda mwyafrif mawr i sefydlu’r ail ysgol yn y Sandfields.

Deiseb 24,000

Roedd rhieni erbyn hyn yn benderfynol o beidio â mynd yno. Ac ystyfnigodd John Beale.  Dyma pryd nad oedd yn ateb llythyrau rhieni. Erbyn Ebrill 1980 roedd y rhieni wedi casglu deiseb gan 24,000 o bobl Gorllewin Morgannwg yn gala am ail ysgol yn llwyn-y-bryn. Ymysg y cefnogwyd roedd John Mahoney, un o chwaraewyr amlwg y Swans, oedd yn dysgu Cymraeg mewn Wlpan yn Abertawe, Clive Rowlands a Max Boyce. Daeth 500 o rieni i Neuadd y Sir y gyflwyno’r ddeiseb ond pan ddaeth yn bryd i Mr Kingdom, cadeirydd y pwyllgor addysg, ymddangos, gwrthododd. Fodd bynnag, mewn cyfarfod preifat gyda John Davies a Randolph Jenkins, fe gytunodd ailystyried safle’r Sandfiels.

Siarad Yn Unigol – Tacteg Merthyr

Daeth tacteg newydd gan y Sir.  Dyma nhw’n penderfynu bod Mr Kingdom yn mynd o gwmpas i siarad â rhieni unigol. FEL Y GWNAETH John Beale wrth geisio rhwystro addysg Gymraeg ym Merthyr.  Roedd John Beale am osgoi pwyllgor y rhieni, ond pan gynhaliwyd rhai o’r cyfarfodydd gyda rhieni unigol yn ysgolion cynradd Cymraeg y Sir, cafodd groeso mwy twymgalon na’r disgwyl, a rhoddwyd y gorau i’r Sandfields.

Glanmôr

Roedd Mr Beale a’i het hud ar waith eto.  Aeth 200 o rieni i brotestio o flaen Neuadd y Sir cyn cyfarfod y Pwyllgor Addysg ym mis Gorffennaf 1980.  Ym mis Awst cynigiodd Mr Beale bod holl blant 11-13 oed Gorllewin Morgannwg yn cael eu haddysg yn Ysgol Glanmôr, Abertawe, mewn hen adeiladau pren.  Byddai’r plant wedyn yn symud ymlaen i Ystalyfera.  Byddai hyn yn golygu bod plant Brynaman yn teithio am ddwy flynedd i Abertawe.  Ymosododd y Cynghorydd Aled Gwyn yn chwyrn ar hyn a chynnig gwelliant bod ysgol 11-16 oed yn cael ei sefydlu ym Mryn-y-môr.  Cafodd gefnogaeth 12 o gynghorwyr. Cynigiodd John Beale i’r un cyfarfod na ddylai’r sir wneud dim.  Un cynghorydd oedd o blaid hynny.

Pasiwyd cynnig yn gofyn i’r Cyfarwyddwr barhau i drafod gyda rhieni.

Cynhaliodd y rhieni gyfarfod unwaith eto yn Neuadd Llywelyn, Abertawe, a chytuno’n unfrydol ar Glanmôr yn safle ysgol gyfan. Ganol Hydref 1980 aeth rhai o’r pwyllgor i gwrdd â Mr Beale a Mr Fred Kingdom yn y gobaith y byddai modd cychwyn yr ysgol yng Nglanmôr eryn Medi 1982.

Ysgol 11-13 yng Nglanmôr

Ddaeth hi ddim felly chwaith. Ym mis Chwefror 1981, yn y Pwyllgor Addysg,  cynigiodd John Beale sefydlu ysgol 11-13 i’r holl sir yng Nglanmôr.  Gwrthwynebodd y Cynghorydd Fran Evans, a oedd yn is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Castell-nedd ar y pryd, gan ddweud bod gwario arian ar ail ysgol gyfun ddwyieithog yn wastraff llwyr.  Cafodd e gefnogaeth y Cynghorydd Sam John, Glandŵr a ddywedai fod addysg Gymraeg yn creu ghetto.

Ddaeth dim o gynllun Glanmôr yn y pen draw, wrthi’r sir werthu’r safle i adeiladwyr preifat.

Ysgol Ystumllwynarth

Yn y cyfamser, a oedd cynnig arall eto’n bosibl?  Wrth gwrs. Wrth i’r Sir fynd ati i gynllunio colegau trydyddol, dyma John Beale yn cynnig ysgol gyfun Iau Ystumllwynarth yn ysgol Gymraeg. Cafodd hyn ei basio gan y Pwyllgor Addysg ym mis Medi 1983, fel safle dros dros, cyn symud i safle mwy yn Nhre-gwyr yn 1986.

Roedd y rhieni’n ystyried bod hyn yn dipyn o fuddugoliaeth. Ond dyma’r Cynghorydd Bill Hughes, Cymro Cymraeg o Geredigion, a oedd yn berchen ar nifer o glybiau a busnesau yn y dre, yn gwrthwynebu’n ffyrnig.  Roedd e am gadw’i sedd fel Ceidwadwr dros y Mwmbwls.

Ysgrifennodd y rhieni ym mis Mawrth 1983 at Mr Nicholas Edwards, yr Ysgrifennydd Gwladol, i gael ei gefnogaeth, ond chawson nhw ddim ateb. Fodd bynnag, erbyn mis Medi 1983, dyma Nicholas Edwards yn cefnogi Bill Hughes ac yn gwrthod caniatâd i fwrw ymlaen â’r cynllun ar gyfer Ystumllwynarth.

Tre Uchaf a Gareth Thomas

Ond daeth llygedyn o obaith.  Roedd Ysgol uwchradd iau Tre Uchaf, Casllwchwr, yn dod yn wag ym mis Medi, a lle ynddi i 500 o blant.  Sut oedd cael cefnogaeth y Sir i hyn?  Un o’r rhai allweddol oedd y Parch Gareth Thomas, Clydach.  Gan sylweddoli nad oedd modd ennill calon Mr Beale, a chan wybod nad oedd cefnogaeth frwd ymysg cynghorwyr Llafur, gwnaeth apêl bersonol i John Allison, arweinydd y Cyngor, yr oedd ei wyrion mewn ysgolion Cymraeg. Y sôn yw bod Mr Allison wedi’i argyhoeddi’n llwyr gan Gareth, ac iddo ddweud wrth y cynghorwyr Llafur y byddai’n rhoi’r gorau i’r cyngor oni bai eu bod yn pleidleisio o blaid ysgol Gymraeg.

Ar y 15fed o Dachwedd, 1983, daeth 800 o rieni i Neuadd y sir, a phenderfynodd y Pwyllgor Addysg yn unfrydol agor ysgol gyfun ddwyieithog yn Nhre Uchaf ym mis Medi 1984.

Gareth Wardell

Ond doedd pethau ddim ar ben yn llwyr.  Pan ddaeth yn fater o ymgynghori, a chael caniatâd y Swyddfa Gymraeg, dyma’r Aelod Seneddol lleol, Gareth Wardell, yn gwrthwynebu a dywedodd wrth rieni Casllwchwr ei fod yn ’disappointed and angry’ gyda’r penderfyniad ac anogodd y rhieni i wrthwynebu. 

Ond roedd hyn yn rhy hwyr. Ar ôl saith mlynedd o ymgyrchu, agorodd Ysgol Gyfun Gwyr ym mis Medi 1984.

Mae llawer o hanesion eraill y mae modd eu hadrodd, a’r un math o frwydrau.  Bu’n rhaid aros i Mr Beale ymddeol cyn roedd modd cael ysgolion cynradd newydd yn Abertawe.  Ar ôl iddo fynd cafodd tair ysgol Gymraeg newydd eu hagor – Ysgol Tirdeunaw, Ysgol Gellionnen ac Ysgol Tyle’r Ynn.  Ychydig wedyn cawson ni ysgol Gymraeg yn Nhreforys – Ysgol Tan-y-lan, lle y dylai Lôn-las fod wedi’i sefydlu.

Chweched dosbarth

Ymhen rhai blynyddoedd daeth yn bryd ymgyrchu i gael addysg chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gwyr, a llwyddodd y Prifathro, Dr Neville Daniel, yn hyn o beth o dan drwynau’r Sir.

Bryn Tawe

Wedyn a Gwyr yn llawn, daeth yr angen am ail ysgol gyfun Gymraeg yn Abertawe.  Wna i ddim adrodd yr hanes yn awr, ond roedd yr esgor yn haws, a Mr John Beale, y canwyd emynau Cymraeg yn ei angladd, wedi ymadael.  Rwy’n cofio sgwrs ag arweinydd Cyngor Abertawe, Tyssul Lewis, ddweud wrtho i na fyddai unrhyw fodd i gael rhieni Cymraeg i anfon eu plant i Ben-lan.  Dyna ddigwyddodd wrth gwrs, ac Ysgol Bryn Tawe yn llwyddo y tu hwnt i bob gobaith.

Un stori rwy’n hoff ohoni. Wrth i mi fynd â David Williams, darpar brifathro Bryn Tawe, o gwmpas ysgolion cynradd, sylwodd un o’r rhieni, un o Lôn-las, fod ‘ysgol ddwyieithog Bryn Tawe’ ar ein papur pennawd.  ‘Why is this a bilingual school?’ holodd, ‘I want my child to go to a Welsh school’.  Diolch am agwedd iach rhieni Lôn-las.  Daeth Bryn Tawe yn unig ysgol uwchradd Gorllewin Morgannwg lle mae pob pwnc yn cael ei ddysgu trwy’r Gymraeg.

Ymgyrchu pellach

Mae’r ymgyrchu’n parhau.  Bydd Ysgol Tan-y-lan, gobeithio, yn cael cartref newydd gyda lle i 400 o blant yn y Clas, ger Treforys. 

Castell-nedd Port Talbot

Ond mae angen bod yn wyliadwrus o hyd.  Yn ystod ei holl fodolaeth, dyw cyngor Castell-nedd Port Talbot ddim wedi agor un ysgol Gymraeg newydd.  Mae hi’n awr yn ennill y clod am fod y sir waethaf yng Nghymru am gwymp nifer y disgyblion mewn addysg gynradd Gymraeg.  A beth yw cynllun y Sir yn awr?  Mae hi am sefydlu ysgol fawr Saesneg i 700 o blant ym Mhontardawe.  Os gwnaiff hi hyn, gallwch chi ffarwelio â’r Gymraeg yng Nghwm Tawe fel iaith fyw. Chi bobol Cwm Tawe, gwnewch yn siŵr fod y cynllun hwn yn mynd i’r gwellt.

Y gobaith

Y cwestiwn felly yw beth ry’n ni’n ei wneud i’n gwlad ein hunain?  Rydyn ni ar adegau wedi bod yn or-hoff o feio’n cymdogion dros y ffin, heb edrych digon ar yr hyn ryn ni’n ei wneud.  Gweld brycheuyn yn llygad dy frawd, heb weld trawst yn dy lygaid dy hun.

Yn 1852 roedd Matthew Arnold, arolygydd ysgolion, yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaethau rhwng Lloegr a Chymru’n diflannu.   Yn 1866 meddai’r Times mai’r Gymraeg oedd melltith Cymru. Meddai fod yr Eisteddfod yn rhwystro cynnydd gwareiddiad.

Ond heddiw does dim rhaid i ni ymladd â gelyn o’r tu allan i gael twf addysg Gymraeg.  Mae’r gelyn, os oes gelyn, ynom ni.  Diolch bod y Llywodraeth am weld twf addysg Gymraeg.  Ac eto, mae angen i’r Llywodraeth a’r siroedd ddangos eu harian, fel petai.

Yn ddigon siŵr, mewn cyfnod sy’n gweld newidiadau ieithyddol mawr, twf addysg Gymraeg sy’n rhoi’r gobaith gorau.  I ddod yn ôl at Lôn-las.  Pan o’n i yn yr ysgol, rhyw 170 o blant yn Abertawe oedd yn cael addysg Gymraeg.  Erbyn hyn mae mwy na 4000.